Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y BARNWR DIDUEDD

News
Cite
Share

Y BARNWR DIDUEDD YR oedd gan chwegydd yn Smyrna fab, yr hwn gyda'r ychydig addysg a ellir gael yn y wlad liono a ddyrchafodd ei hun i'r swydd o Raglaw, hyny yw, dirprwywr y Barnwr, ac yn rhinwedd ei swydd a ymwelai a'r marchnadoedd, ac arolygai y pwysau a'r mesurau. Fel yr oedd efe un diwrnod yn myned yn nghylch ei orchwyl, y cymydog- ion, y rhai a wyddent drwy hir brofiad gymeriad ei dad, ei bod yn angenrheidiol iddo fod yn ofalus, a'u cynghorant ef i guddio y pwysau oedd ganddo mewn arfer- iad, a dodi rhai ereill yn eu lie, rhai a ddalient yr ymchwiliad mwyaf. Ond ni wnai y chwegydd ond gwenu ar eu cynghorion; a chan ymddiried yn ei berthynas a'r arolygydd, yr hwn y tybiai, na wnai esiampl gylioeddus ohono, a safodd yn ddifater wrth ddrws ei fasnachdy i ddisgwyl ei ddyfodiad. Yr oedd yr arolygwr, gan wybod yn dda fod lie i ddrwgdybio arferion masnachol ei dad, yn benderfynol ,o beidio ei arbed, ond i ddadlenu ei anghynawnder, a'i wneyd yn esiampl o annhegwch i'r cyhoedd. Gan liyny, arhosodd wrth y drws, a dywedodd wrtho: Dewch a'ch pwysau allan, gael i ni eu profi." Y chwegydd, yn lie ufuddhau, a ymdrech- odd ei droi ymaith gyda gwen; ond a welodd yn fuan fod ei fab o ddifrif, wrth ei glywed yn gorchymyn i'r swyddogion chwilio y masnachdy, a dwyn allan offerynau ei dwyll, y rhai, wedi eu harchwilio yn ddi- duedd, a gondemniwyd i gael eu malu yn chwilfriw. Mown dyryswch a chywilydd am ym- ddygiad mor annisgwyliadwy, safai y tad yn synedig, ond gobeithiai fod y gwaradwydd cyliooddus oedd wedi ci oddef yn ddigon i'w amddiffyn ger bron ei fab ei hun, i droi o'r neilldu bob cosp ychwanegol am y trosedd. Yr oedd yn camgymeryd gwein- yddodd ei fab y gost arno yr un fath na phe na buasai yn perthyn dafn o waed iddo, gan ei ddirwyo hyd yr eithaf, a gorchymyn iddo dderbyn y ffollodiau arferol ar wadnau ei draed. Cyfla\Miwyd y ddedfryd rhagllaw; wedi yr hyn y disgynodd y rhaglaw oddiar ei farcli ac a daflodd ei hun wrth ei draed, gan eu gwlychu a'i ddagrau, ac a'i cyfarchodd fel y canlyn: "Anwyl dad, yr wyf wedi cyflawni fy nyledswydd tuagat Dduw, fy mrenhin,fy ngwlad, a'm sefyllfa; caniatewch i mi yn awr, drwy fy mharch a'm hym- ostyngiad, dalu y ddyled sydd arnaf i'm rhiaint. Y mae cyfiawnder yn ddall, gallu Duw ar y ddaear ydyw; ac nid ydyw yn adnabod na mab na thad. Y mae Duw a hawliau cyfiawn ein cyd-ddynion uwchlaw teimladau a rhwymau mabol a thadol. Yr oeddych wedi troseddu cyfreithiau cyfiawn- der yr oeddych yn haeddu y gospedigacth lion, buasech yn ei haros yn y diwedd ar law rhywun arall. Y mae yn ddrwg genyf i chwi gael yr anffawd o'i derbyn drwof fi. Nis caniatai fy nghydwybod i nil ei hattal. Ymddygwch yn well yn y dyfodol, ac yn lie fy meio, tosturiwch wrthyf am gael fy ngorfodi i fod mor greulon." Wedi dyweyd hyn, aeth ar gefn ei farch, ac yn mlaen i'w daitli yn nghanol llon- gyfarchiadau yr holl ddinas, am weithred mor nodedig o ddiduedd. Ac ni chollodd ei wobr. Buan y clywodd yr Ymherawdwr am ei waith, ac a'i cyfododd i'r fainc farnol, ac wedi hyny i'r swydd archoffeiriadol, yn mha swydd y parhaodd i amddiffyn eu cyf- reithiau, aci gael ffafr yn ngolwg yr holl wlad.

UN DROM OFNATSAN

Y PAUN A'R HWYADEN

Advertising