Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
CAN Y WLADWRAIG.
News
Cite
Share
CAN Y WLADWRAIG. Dos, Morgan, a chliria'r ystorm ar dy ael, Boost dda i mi gynt—'fyddi'n awr i mi'n wael? 'Ga'r ystorm aros yma pan edy y ne', Ac oerni y gaua'n y fron wneyd ei le ? Na, Morgan, na! mae y chwerwaf o dywydd Ynhawdd iddei ddwyn tran ei ddwyn gyda'n gilydd. Er syrthio'r defnynau drwy'r nen henilawr, A bod gwynt, lie bu drws,yn chwibanuyn awr, All y gwlaw, neu yr 6d, neu'r ystorm olchi ffwrdd Yr holladdunedauwnaemgyntpan yn cwrdd? Na, Morgan, na er holl ddig yr ystormydd, Fe'u dygwn yn rhwydd ond eu dwyn gyda'n gilydd. Pan gynt yn yr hwyr yr ymwelit a mi, A'rdydd oedd arfyn'dfel ond dechreu i ni, Ofalem ni rywbryd am wyntoedd a gwlaw, Pan rodiem drwy gaddug nos dywell heb fraw ? Na, Morgan I ymgomiem yn nghanol ystorm- ydd 11 Am yr ollfedrem ddwyn tra'n eu dwyn gyda'n gilydd. Daw'n dyddiau helbulus yn fuan i ben, A'n bronau oleuir gan lewyrch o'r nen; Na foed ein hysprydoedd, gan chwerwedd y boen, Yn farw i belydrau'r pryd hwnw a'i hoen Bron wrth fron, law-ynllaw, fe groesawu bob tywydd, Hin deg neu ystorm, awn drwy'r oil gyda'n gilydd.
BLODAU BARDDAS
News
Cite
Share
BLODAU BARDDAS BEDDARGRAPH HELIWR ESTRONOL. Dyn yw dyn, er tyf a'n llydan, Dyn yw'r dyn tylotaf allan, Dyn yw'r brenhin goreu'i gyflwr, Dyn o rywle oedd yr Heliwr. Dyn bu mam rhag ca. yn wylio, A'i braich dyner fach o dano Dyn bu'r Gwyliwr Mawr diQino Yn peri ei gysgu a'i ddihuno. Dyn o nodau da iawn ydoedd, Dyn yn medru dawn ymadrodd Dyrys bennod daer esboniai, Heb drawsneidio dros adnodau. Dyn o anian onest, eirwir, Dyn a garai fod yn gywir Er tafodi'n drwstan weithiau, Nyth aderyn byth ni dorai.
Y SAETH A'R GAN.
News
Cite
Share
Y SAETH A'R GAN. Gollyngais Saetb i wybr wynt, 1:1 A chollais olwg ar ei hynt; Can's can gyflymed 'hedai hi, Ei dilyn nis gwnai'm golwg i. Anadlais G&n i wybr wynt, A chollais olwg ar ei hynt; A phwy fedd olwg yn ei ben Eill ddilyn can i chwyrnwynt nen ? 'Mhen amser hir, mi ge's y Saeth, Mewn derwen braff, ac nid oedd gwaeth, A'r Gan, oil fel y cenais lii, Yn nghalon cyfaill gefais i.
BREUOLDER EINIOES.
News
Cite
Share
BREUOLDER EINIOES. Fel y rhed yr haul i'r hwyr, Fel y treulia canwyll gwyr, Fel y syrthia rhosyn gwyn, Fel y diffydd tarth ar lyn Felly treulia, felly rh 3d, Felly derfydd pobloedd cred, Felly diffydd bywyd dya, Felly syrthiwn bob yr in.
DARLUN GWRAIG DDA.
News
Cite
Share
DARLUN GWRAIG DDA. Mae'n Ffyddlon—fel ci sydd yn falchlSr bugeilydd; Mae'n Gywir—fel llyw sydd i'r llong yn rlieolydd Mae'n Gadarn-fel paladr y neuadd fo'n dwrog; Mae'n Felus-fel cartref i'r morwr llong- ddrylliog Mae'n Brydferth—fel plentyn i'w riaint cariadus; Mae'n Ddisglaer-fel gwawr deg 'n ol nos- waitli ystormus; Mae'n Foddias—fel ffrydiau fo'n annisgwyl- iedig A gloew gornantydd i'r teithiwr lluddedig.
BAICH 0 GWRW.
News
Cite
Share
BAICH 0 GWRW. Gwae a gario faich o gwrw Yn ei fol i fod yn feddw; Trymaf baich yw hwn o'r beichiau, A baich ydyw o bechodau. Hwn yw tad y cam a'r celwydd, Lladd a lladrad, ac anlladrwydd Gwna gryf yn wan, a gwan yn wanach, Y doeth yn ffol, a ffol yn ffolach. FR. WILLIAMS, Person Llanllyfni, 1759.
MARWOLAETH ARTHUR.
News
Cite
Share
MARWOLAETH ARTHUR. O'i gwch yn araf Arthur dd'wedai hyn :— Cyfnewid wna'rhendrefn, un newycld ddaw,, A Duw gyflawna'i waith mewn llawer modd, Rhag bod un ddefod dda yn llygru'r byd. Cysnra d' hun; pa gysur ynof fi? 'Hwyf wedi byw, a'r hyn wyf wedi wneyd Gwnaed Ef o'i fewn ei Hun ynbur! Ond ti, Os na chai wel'd fy wyneb I byth mwy, Gvveddia droswyf. Gwneir trwy weddi fwy Nag mae'r byd hwn yn feddwl. Gad i'th lais Fel ifynnoll godi droswyf ddydd a nos. Beth gwell yw'r dyn na'r Ilydd, yr oen, neu'r myn, Feithrina yn ei 'mhenydd fywyd dall, Os, heb adnabod Duw, ni ddyrcha law Mewn gweddi dros ei liunan a'i holl gar ? Mae'r holl fyd crwn, yn mliob ryw fodd, Wrth gadwen aur yn rhwym gylch traed ein Daw, Ond 'nawr, ffarwel! 'Rwy'n cychwyn ar daith bell Yn nghwmni y rhai hyn-Js myned wnaf— I ynys-ddyffryn teg Afallon draw, Lie na chwymp cenllysg,gwlaw,nac eira byth, Lie na chwyth gwynt yn uchel; ond y mae Mewn dyffryn dwfn a dedwydd, apherllanau teg, Adeildai coronedig morawl haf, Lie caf iachad im' tost a phruddaidd glwyf." Cyfieithiad o TENNYSON. Ysgrifenodd Gol. y Dyddanydd Sabbothol uwchben erthygl, y penawd Dilyn drwy gariad," ond bu bwgan y wasg wrthi yn gwneyd ei waith, ac ymddangosodd y penawd fel hyn-" Dilyn clivy gariad,"
Advertising
Advertising
Cite
Share
LLWYAU A FFYRC ARIAN- WISGEDIG. Riiydd diiwy'u POST CAN Y Gwneuthurwyr. Hanner Pris y Siopau. Patrymau "Old English" neu "Fiddle." Gwisg o Arian Pur am Arian "Nickel" dilys. 1 i11,i .I. Llwyan Te, 3s yr hanner dwsin; Llwyau Ffrwy thydd neu F f yrc, 4s 6c yr hanner dwsin; Llwyau Bwrdd neu Ffyrc, 6s yr hanner dwsin; Set gyflawn (hanner dwsin o bob math), 22s. D,S.—Gwerthir Llwyau a Ffyrc Nickel—heb ou gvvisgo ag ariall-yn arferol am lawer mwy o bris. Fol Cynnyg- Arbcnig- i ddarllenwyr y papyr hwn, rhoddir llytliyren enw, os dewisir, ar y nwyddau AM DDUI, or mai 20 y lythyren yw y pris arferol. Hysbyser pa batrwm a pha lythyren geisir, ac jim^auer Postal Order i STENNING & SEATON, 328, STANSTEAD KOAD, LONDON, S.E. CYN PRYNU EICH DODREFN, Ta')r ddymunir arnoch YMWELED A MASNACI1DY HUGH WILLIAMS, EASTGATE STREET, CAERNARFON' Lie gellir cael y Dewisiad Goreu yn Ngliymru o bob math o Ddodrofn o Wneuthuriad Cartrcf AM Y PRISIAU MWYAF RHESYMOL. FRANCIS'S NEURALGIC CURE, V sure remedy for Neuralgia, Tio, and Tooth-Ache, THE PHARMACY, CARNARVON. 1 /Iand 2/3 Bottles. AT DRIGOLION BETHESDA FAWR YN AHFON. Am y DotholilidNewydùGoreu a Rhataf o BAPYR AT BAPYRO TAI, STis gellir cael yr un Masaachdy yn Nghymru i gystadlu ag Y'stoc Fawr ae Ysplenydd T. F. WILLIAMS, Phinteu, &c., BETHESDA. CARNARVON & DENBIGH HERALD. ESTABLISHED 1831. (English.) Friday, 2d. Receives the Official Advertisements of four counties; also Government, Legal, and Auction Advertisements, &c. The Times describes this as "the lead. ng pamper in the northern half of the Principality." The Manchester Examiner also states that it is "the leading Liberal organ for North Wales." "The leading Liberal paper in Norbh Wales.Liverpool Evening Express, Publisher—DANIEL REES, Carnarvon.