Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

v Y TY -A'R TEULU

News
Cite
Share

v Y TY A'R TEULU A^ v Bodhyfryd, lonawr 24,1893. Y ANWYL FERCH, Gobeithio nad wyt wedi blino yn disgwyl llythyr oddi- wrth dy hen fam, ond yn wir yr wyf wedi bod yn brysur i dros ben efo trafferthion y ty a'r tipyn fferm yma—yr anifeiliaid eisieu llawer o •* :sylw a gofal ar y tywydd oer yr ydym yn gael yn awr, a neb ond dy ddau frawd a minnau i wneyd y cwbl. Rhyw auaf rhyfedd ydym wedi gael hyd yn hyn, y ffordd yma beth bynag-tywydd gwlyb, du, tarthlyd; l'haid ei fod yn afiach iawn. Y mae tywydd fel hyn yn gwneyd i mi gofio am air fy nain, wel di,—" Gaua glas, mynwent fras;" ac mae yr hen air ddigon gwir hefyd. Ddoe mi ddaeth yma rhyw hen dramp at y drws i ofyn tamaid—'doedd arno ddim eisiau gwaith, nid yw tramps fel rheol yn teimlo rhyw lawer o ddyddordeb mewn gweithio am eu tamaid-ac wrth i Richard dy frawd son am y tywydd wrtho a gofyn iddo a welodd efe y fath auaf a hwn erioed o'r blaen, dyma yr hen law yn ateb. Do, wir-yr haf diwaetha." Ond at hyn yr wyf yn cyfeirio—cymer ofal mawr ohonot dy hun a'th deulu fy ngeneth i; cofia fod yn reit hawdd cael anwyd y tywydd yma. Clywais lawer gwaith, ond wn i ddim a oes gwir yn hyny ai peidio, y bydd y Frenhines yn gadael ffenestr ei hystafell wely, a phob ystafell arall lie y bydd yn digwydd bod, yn agored o hyd, haf a gauaf, acmai hi yn hen wreigen sydd yn cadw ei hiechyd yn rhagorol er bod mewn oed mawr. 'Does dim tebyg i ddigon o awyr iach. Byddai yr hen dai y ffordd yma er's talwm yn cael eu codi efo dim ond ffenestri by chain o wydrau tri-onglog, a dim un ohonynt yn agor, ac mae rhai o'r tai hyny i'w gweled yma eto. Rhaid eu bod yn afiach iawn i fyw ynddynt-bydd arogl drwg lon'd y lie pan fydd rhywun yn myn'd i fewn -digon i daro un i lawr o ran hyny. Dim rhyfedd fod ffefars a phob math o heintiau yn magu mewn lleoedd felly. Agor ffenestri dy dy bob diwrnod braf gael i'r awyr iach ddod i fewn i yru bob tawch gwenwynllyd allan. Yr oeddet ti'n ofalus iawn pan fu'm i yna ddiweddaf rhag i'r plant gael anwyd drwy ffenestri agored. Nid oes dim perygl iddynt gael anwyd ond i ti agor y top a gofalu eu cau cyn nos rhag i awyr laith ddod i fewn i wneyd mwy o ddrwg nag o les. Wrth gwrs, rhaid i ti gofio fod drafft yn beryglus dros ben, ac ni ddylai neb eistedd wrth ffenestr fyddo wedi eihagor yn ygwaelod, yn enwedig os bydd tan yn yr ystafell, gan fod tynfa y tan yn creu drafft. Yr oeddyt yn gofyn i mi beth sydd yn dda ar gyfer llosg tan. Rhaid i ti beidio gadael i'r plant fyn'd yn rhy agos at y tan na chwareu efo tan o gwbl; mae llawer wedi cael eu llosgi felly heblaw rhoddi tai ar dan hefyd. Dylai fod genyt wrth law bob amser botelaid o sweet oil a dwfr calch wedi eu cymysgu. Os bydd y croen wedi tori dyro beth o'r stwff yma arno efo pluen, a hyny yn lied ami. Y mae pytaten wedi ei chrafu yn oeri ac yn gwella y llosg hefyd. Dylet ei adnewyddu yn ami hyd nes y bo y pigiadau wedi peidio, ac wed'yn dyro dipyn o fara llefrith, a phe byddai i ti daenu ar y lie dolurus ychydig oalwm wedi eilosgi a'i falu, cadwai hyny gig marw o'r llosg, Y mae y ffordd yma lawer iawn o gwyno efo gyddfau dolurus, a Ilawer yn sal o'r dolur hwnw. Mae yn debyg mai y tywydd llaith diweddar yw yr achos o hyn, ond beth bynag am hyny, gallaf ddyweyd wrthyt mai peth da iawn at wddf dolurus, yn enwedig os bydd chwarenau ynddo, yw powltis wedi ei wneyd efo pytatws. Paid a'u pilio-dyro hwy i'w berwi fel y daetbant o'r ddaear, heb gymaint a'u golchi, ac wedi eu berwi mala, hwy—drwy'r crwyn-a dyro hwy mewn hosan am y gwddf, gan ofalu cadw y sawl fyddo yndioddefyngynhes, a pheidio gadael iddo fyned allan. Clywais ddrygis yn dyweyd nà. fedr y doctoriaid goreu ddim rboi gwell cynghor na lwrn at wddf dolurus. Ond cofia fod y fath beth a chlefyd y gwddf-diphtheria-yr hwn sydd yn haint ofnadwy ac angeuol; ac os bydd y dolur gwddf yn ymddangos i ti yn un ffyrnig, gwell i ti geisio y doctor rhag blaen, rhag ofn digwydd rhywbeth gwaeth. Sut y mae John ? Cofia fi ato. Druan o John; y mae yn gweithio yn rhy galed o lawcr i hel pethau'r byd yma i'w deulu. Cymer ofal ohono; y mae yn wr da i ti. Pan oeddwn i yna ddiweddaf yr oedd yn- cwyno bob nos ar ol dod adref ei fod yn blino mwy nag yr arferai flynyddau yn ol. Dywed wrtho na fedr o ddim cael dim gwell pan wedi blino mewn corph neu feddwl na llefrith wedi ei dwymno mor boeth ag y gallo ei yfed (heb ei ferwi, cofia); mae hynyyn ychwanegu llawer at werth y llefrith. Mae rhai na fedrant yfed llefrith poeth felly heb dynu gwyneb, ond ni ddylai hyny sefyll ar y ffordd pan y ceir cymaint o faeth oddiwrtho. Y mae yn codi ysprydoedd dyn hefyd, a'i effaith yn fwy parhaol a gwell yn mhob ffordd nag eiddo diodydd meddwol. Dyro i'r plant hefyd dipyn o lefrith poeth ac wy wedi ei dori a'i guro ynddo. Y mae yn sicr o'u cryf- hau. Samson" y galwai hen wraig o Glynnog y stwff yna; yr oedd hi yn un iawn am ddoctora, ac mae Ilawer pregethwr fu yn ysgol Clynnog er's talwm yn ei chofio yn iawn, am ei bod wedi nursio Ilawer ar rai ohonynt. Yr wyf bron a meddwl fy mod wedi dy- weyd y cwbl sydd genyf y tro hwn. Anfon ataf yn fuan gael i mi wybod sut yr wyt yn dod yn mlaen. Mae genyf lawer iawn o bethau i'w dyweyd wrthyt, a chyfarwydd- iadau da at wabanol faterion, ond nid oes genyf hamdden i ysgrifenu ychwaneg heddyw. Oddiwrthdy hen fam, NANCY HUMPHREYS. Fuo just i mi anghofio dyweyd fod yn ddrwg genyf glywed fod merch y fferm agosaf atoch yn wael. Tybed fod y darfodedigaeth ynddi ? Yr oedd yn edrych i mi yn debyg iawn i hyny pan welais hi dro yn ol. Wyddost ti mai peth da i'w ryfeddu ydyw lemon i bobl a natur darfodedigaeth ynddynt -ac i bawb, ran hyny; 'does dim yn well at fywiogi'r corph a phuro y gwaed. Pe rhoddid mewn gwydr un ran o dair o sudd lemon a'r gweddill yn ddwfr, ceir y ddiod orou ac iachaf sydd mewn bodolaeth. Os yn bosibl, dylid ei yfed heb siwgr ynddo, ac wedi tro neu ddau, byddai yn boddio y chwaeth yn eithaf. Gwell prynu lemons na thalu biliau doctor. Dywed hyn wrth dy gymydoges. ————— TRWSIO HOSAN.—Os bydd twll mawr iawn yn yr hosan rhowch ddarn o rwyd cryf arno a thrwsiwch drwy bob mesgyn. Bydd yn gryfach wed'yn na phan yn newydd, ac edrycha yn dwtiach. YR ANWYDWST.—Rhag anwyd yn y pen aroglwch ddwr ammonia yn ami, a baddiwch yr arleisiau ag ef. Gwna ddogn o quinine attal anwyd yn fynych, pan y bo yn dechreu. GWAITH.—Os am gadw y croen yn iachus, lliwgar, meithrin tymher dda, bywiogrwydd ac iechyd, nid oes un ymarferiad gwell nag ysgubo y ty, gwneyd y gwelyau, golchi'r llestri, a gloewi arian a phres. Gwna un flwyddyn o waith fel hyn yn y ty, yn nghyda cherdded yn yr awyr-agored, fwy i gadw croen y gwyneb yn iach a lliwgar na holl gyffyriau y byd. GWASGFEUON.—Cyfyd yr afiechyd cas hwn o wahanol achosion; y mwyaf cyffredin ohonynt yw diffyg cylchrediad y gwaed yn yr ymenydd. Y ffordd oreu yw gadael i'r un fo mewn gwasgfa orwedd ar wastad ei gefn. Peth niweidl01 iawn yw gwneyd i'r claf eistedd i fyny, neu roi'r pen ar obenydd uchel. Gadawer i'r claf orwedd, fel y bo'r traed yn uwch na'r pen; dattoder y dillad oddeutu'r gwddf; cymhwyser ddwfr oer at y wyneb, a rhodder iddo ddwfr oer i'w yfed. Dyma'r cynghor goreu i'w ddilyn mewn gwasgfeuon cyffredin. SUT I GADW RHEW.- Y mae dau neu dri o bethau a gadwant rew dim ond ei cofio. Cofiwch mat cadw rhew yn gynes yw y ffordd i'w gadw yn oer. Pe dodid darn o rew mewn piser ac ysten dros hyny a gwrth- ban dros yr ysten, cadwai yn iawn. Cofiwch y cyfarwyddiadau a enwais a bydd eich an- hawsderau ar ben. Ond y peth goreu o ddim ydyw papyr newydd. Pe rhoddech bapyrau newyddion o tano ac arno, ac ar bob ocbr i'r rhew, synid chwi cyhyd o amser y gallech ei gadw. TANWYDD NEWYDD. — Yn Califfornia, llosgant gerig eirin gwlanog ar y tan yn lie glo. Yn wir, rhoddant fwy o wres a chymharu eu pwysau na glo. Cesglir y cerig o'r ffrwytbau gedwir, a gwerthir hwy yn ol 3p y dunell. HUFEN I GLEIFION.— Nid ydyw y ffaith mor hysbys ag y dylai fod, y caiff cleifion faeth rhagorol o yfed hufen. Rhagora lawer ar ymenyn. Peth da iawn ydyw i bobl a thuedd y darfodedigaeth ynddynt, i hen bobl hefyd, ac i rai fo'n dioddef gan draed oerion a threuliad gwan. Y mae.yn well o lawer na cod liver oil, ac heblaw ei fod yn rhagorol ar gyfrif ei elfenau meddyginiaethol, y mae hefyd yn fwy maethlawn. TORIADAU, &c. Y peth goreu at wella toriadau bychain, briwiau, a chwydd yw arnica tincture. Os na fydd hwn yn gyfleus, peth da iawn at gleisiau yw dwfr cynhes. O'i gymhwyso yn ami rhwystra y croen rbag colli ei liw.

[No title]