Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

PENNOD I.

News
Cite
Share

Sali'r forwyn wrthi hi'n brysur yn trin y caws. Dynes bur lan o bryd a gwedd ydyw gwraig y ffarm, ac oddeutu deugain oed, gallem feddwl. Y mae caredigrwydd yn argraphedig ar ei gwyneb gwridgoch ond y mae ynddi, hefyd, onestrwydd ac annibyn- rwydd meddwl sydd yn hawlio parch pawb. Dedwydd yw y neb sydd yn haeddol o'i chyfeillgarwch; ond gwae y neb y bydd ganddi achos deyd ei meddwl wrtho neu wrthi Wel, wir, mi allsech feddwl yn bod ni i gyd wedi marw ma, M'redydd," sylwai Mrs Prydderch—" ma nhw i gyd efo'r gwair, welwch chi. Ond, mi fydd John ma i mewn yn bur fuan, reit siwr gin i, achos hel y gwair at 'i gilydd ma nhw rwan, yn barod i'w gario y peth cynta foru, a fyddan nhw ddim yn hir cyn gorphen. Mi fu raid i mi gym'ryd Sali ma ata i heno am fod Olwen wrthi hi 'n hel cyrans duon yn 'r ardd. Ma'n od fel y bydd ffrwythydd yn addfedu 'n union pan fydd pawb ma 'n brysur efo rhwbeth arall. A wiw gyru'r plant ma i hel y cyrans, welwch chi, achos ma nhw'n siwr o roi mwy o honyn nhw yn 'u safna nag yn y fasged. A wa'th heb ddeyd wrthyn nhw am beidio. Cystal bob tamad fydda i chi yru cacwn i hel ffrwythydd, ne ddeyd Na ladrata' wrth gath ar hanner llwgu pan fydd tamad o gig ne lymad o lefrith yn ymyl." Yr osdd ar Meredydd awydd cryf dyweyd y buasai yn myned am dro i'r ardd i aros i Mr Prydderch ddychwelyd i'r ty; ond yr oedd yn rhy swil i anturio sylw o'r fath wrth wraig mor graff ei deall a llym ei thafod a Mrs Prydderch, serch ei fod yn gryn ffryndiau hefo hi. Ito'dd Mr Prydderch yn son wrtha i, dro'n ol, fod y llidiart o flaen y ty yn rhw rydlyd ar 'i hinges," ebai ef fydda'n well i mi fyn'd i gael golwg arno fo rwan, i aros i wr y ty ma ddwad yn ol ?" Na, gadewch iddo heno, M'redydd Morus, achos do's dim rhw lawer o frys am hyny," atebai hi; "a mi fydd yn well i John ma fod efo chi yn edrach be sy isio neyd i'r llidiart. Mi ddeyda i be ellwch chi neyd—mi ellwch redeg i'r ardd a deyd wrth Olwen am yru'r plant i'r ty. Ma'n siwr gin i mai 'u stwffio nhw hefo chyrans y mae Olwen. Mi fydd yn dda gin i i chi fyn'd a deyd mod i 'n peri iddyn nhw ddwad 1 mewn ar unwaith, a mod i 'n dwrdio'n arw am 'u bod nhw allan cy'd- A 'blaw hyny, mi wn y leiciech chi wel'd fel ma'r rhosus coch a gwyn wedi agor i'w llawn faint. Ond, rhoswch, miwn i y basech chi'n medru gneyd a llymad o faidd cyn myn'd. Ma pawb yn leicio maidd ond y rhai sy'n gorfod i neyd o, welwch chi." Wel, diolch i chi, Mrs Prydderch ma maidd yn rhwbeth amheuthyn iawn i mi, a ma'n well gin i o unrw ddiwrnod na glasiad o gwrw." Cym'rwch ddyferyn eto, M'redydd Morus," ebai hi, fel y dodai'r gof y fowlan ar y bwrdd. Na, diolch i chi, Mrs Prydderch mi a i cyn belled a'r ardd rwan, a mi yra'r plant i'r ty ar 'u hunion." A chyda'r gair, ymaith ag ef yn ysgafn- droed ar draws yr ydlan ac at lidiart bychan a arweiniai i'r ardd eang fu unwaith dan driniaeth ac arolygiaeth fedrus dau neu dri o arddwyr profiadol pan yr oedd y Vaugliaii- iaid yn byw yn Modeinion. Ni cliafodd efe lawer o drafferth mewn perswadio'r brawd a'r chwaer i frysio i'r ty, canys yr oedd gair eu mam yn gyfraith iddynt, er mor ieuanc. Yna, efe a aeth mewn ymchwil am Olwen —yr eneth brydferth, a'r gwallt euraidd a'r llygaid gleision ar yr hon yr oedd y gof wedi gosod holl serch ei galon onest. Daeth o hyd iddi tua gwaelod yr ardd yn plygu, gan ddiwyd gasglu'r cyrans duon i lestr oedd ganddi yn ei llaw aswy, ac o'r hon y tywalltai hi hwynt, pan fyddai raid, i fasged helaeth oedd ychydig latheni oddiwrthi. Oherwydd swn y dail wrth iddi symud rhwng y coed, yr oedd Meredydd wedi dyfod i fyny at Olwen cyn iddi wybod fod neb ond hi ei hunan yn y llecyn. Dychrynodd gymaint pan glywodd hi lais cryf o'r tu ol iddi fel y syrthiodd y llestr o'i llaw gan chwalu'r ffrwyth yma ac acw. Yna, gan droi a gweled mai Gro'r Glyn" oedd yno, gwridodd gwyneb Olwen yn ffiamgoch-ffaith a barodd i galon Meredydd lamu o lawenydd, canys ni wridasai hi erioed o'r blaen pan yn ei gyfarfod. Ma'n bur ddrwg gin i 'ch dychrynu chi," ebai ef, gan edrych yn serchog yn myw ei llygaid a rwan gadewch i mi bigo'r cyrans ma i fyny yn 'u hola." Do's dim llawer o honyn nhw eto ar y coed ma," sylwai hi, "a mi fydda i wedi darfod yn bur fuan." Mi helpia i chi," meddai'r llanc yn lion, a chyda'r gair efe a symudodd y fasged fawr, yr hon oedd erbyn hyn bron yn llawn, ac a'i dododd i lawr yn eu hymyl; a chasglu y bu'r ddau am beth amser heb yngan gymaint a gair wrth eu gilydd, ond pob un yn brysur a'i feddyliau ei hun. Dyna ddigon," ebai Olwen, toe ma modryb isio i mi ada'l rhai ar y coed. Mi cymra i nhw i mewn rwan." Na, na, rhowch y fasged i mi," ebai ef, gan ei chymeryd dan ei fraich—" ma'r baich yn ormod i'ch breichia bychain chi. A dyma'r fraich arall i chitha, Olwen. Ma'n debyg fod breichia cryfion wedi 'u gneyd o bwrpas i freichia gweiniaid bwyso arnynt. Chymrwch chi mo mraich i ?" Rhyw hanner gwenu wnai'r eneth landeg mewn atebiad, ond hi a gymerodd ei fraich yr un pryd. Ma'n iawn i'r cry' helpio'r gwan y' mhob modd, Olwen, yn tydi rwan ?" ychwanegai Meredydd, V a ma hyny'n gneyd i mi feddwl am garedigrwydd Capten Vaughan, mab 'r hen Sgweiar. Mae o wedi cym'ryd ata i 'n rhyfedd iawn, a'r diwrnod o'r blaen ro'dd o mor ffeind a deyd y bydd iddo godi gefail newydd i mi ac If an rhw ddiwrnod, a'n helpio ni i neyd mwy o fusnes trw neyd erydr a phetha o'r fath, yn lie bod ffermwyr y cwmpaso'dd ma 'n myn'd y'mhell i mofyn rhai. Gresyn na bydda stat Bodrhian yn 'i ddwylo fo. Mi nai lawer gwell defnydd o honi hi nag y ma'r hen grintach 'i dad yn neyd." Pan ddaeth Olwen a Meredydd i'r ty, yr oedd gwr Bodeinion yn ymorphwys ar ei gadair freichiau, gan syllu ar ei briod yn taenu'r llian gwyn a glan ar y bwrdd at swper sylweddol a blasus. Ar fwrdd arall, ond llawer mwy, yr oedd darpar- iadau ar gyfer swper i'r gweision pan ddeuent i mewn ar ol noswylio, canys y rheol oedd i'r gweiiiidogion fwyta yn yr un ystafell a'r teulu, Sul, gwyl, a gwaith. Mewn gair, aelwyd lawn, drefnus, a chysurus ydoedd aelwyd Bodeinion bob amser. Wel, M'redydd," ebai Mr Prydderch yn groesawus a siriol, ma'n dda gin i 'ch gwel'd chi. Be wedi bod yn helpio Olwen i hel cyrans duon rydach chi ? Dowch, cym'rwch gader, cym'rwch gader. Ma hi agos yn dair wsnos er's pan fu chi'n cael tamad efo ni dd'weddaf. A ma gin 'y mistres ma dipyn o rwbeth go flasus i ni heno. Ma'n dda gin i 'ch bod chi wedi dwad i gael golwg arnon ni unwa'th eto." Olwen," ebai Mr Prydderch, "rhed i fyny'r grisia, neyd di, a gyr Catsan (y forwyn i-juengaf) i lawr. Rhoi Bob bach yn 'i wely mae hi; a ma arna i isio iddi dynu 'chydig o gwrw at swper, achos ma Sali'n brysur yn y llaethdy." Ar hyn, wele'r gweision yn dyfod i mewn ac yn cymeryd eu lie wrth y bwrdd oedd o'r naill du, ac yn bur fuan y mae eu swper o'u blaen, a phob un yn ymddangos fel yn ei fwynhau. Wrth y bwrdd arall eistcddai teulu'r ty-Poli wrth ochr ei mam, a lie i Olwen i eistedd cydrhwng ei hewythr a Meredydd Morus. 'N enw rheswm," ebai Mrs Prydderch, tra yn tori'r biff oar ac yn ei ddodi arblatiau y rhai a eisteddent wrth y bwrdd, "sut ma'r hogen na mor hir efo thynu'r cwrw, sgwn i ? Rhaid 'i bod hi wedi gosod y jwg dan y tap, ac wedi anghofio troi'r tap. Wn i yn y byd be haru 'genod y dyddia ma-na wn i 'n wir Mi 'sodan y tecell ar tdn yn wag ac wedyn, y'mhen 'r hanner awr, dacw nhw'n myn'd i edrach ydi'r dwr yn y tecell yn berwi I" Ar hyn, wele Catsan yn ymddangos—yn cario jwg mawr mewn un llaw a dau jwg llai yn y llaw arall; ond rywsut neu gilydd, wrth weled golwg digofus ei meistres a phrcsennol- deb ymwelydd dieithr, collodd Catsan ei hunan-feddiant, ac wrth blygu i ddodi y ddau jwg bychan ar y bwrdd, dyna ei throcd yn bachu yn ei ffedog, ac i lawr a hi ar ci hyd gyhyd a'r jwg mwyaf, llawn yn ei llaw. Chwerthin allan wnaeth Poli a'r gweision, yn fawr eu difyrweh, tra y gwaeddai Mr Prydderch, Holo I" yn bur ddifrifol yn yr olwg ar y jwg mawr yn tori a'i gynnwys yn llifo ar hyd y llawr. Dyna ti, Catsan dyna ti eto I" sylwai Mrs Prydderch yn llym, tra y ceisiai'r forwyu, druan, bigo darnau y jwg drylliedig i fyny; yn tydw i wedi deyd wrtha ti, drosodd a throsodd drachefn, am beidio bod mor drwstan a llac dy afa'l ? Dyma fis o dy gyflog di, a mwy na hyny, wedi myn'd at dalu am y jwg na sy wedi bod yn ty ma e's naw mlynedd, a deyd y lleia. Ond, ran hyny, rwyt ti wedi tori digon o lestri yn lie ma i neyd hyd yn nod i Mr Prys, y person, regi-peth siwr iawn ydi o, a'r Brenhin Mawr faddeuo i mi am ddeyd y fath beth Tasa gin ti ddwr berwedig yn syth o'r crochan, Catsan, 'run fath 'n union fasa petha, a thitha, wyrach, wedi dy scaldio a dy 'nafu am d'oes. Dwn i ddim be goblyn sy'n corddi 'genod i neyd iddyn nhw ollwng pobpeth o'u dwylo fel hyn-na wn i, fel rydw i 'n y fan mal" Yr oedd Catsan, druan, wedi troi ei ffedog yn gadach llawr at sychu y cwrw i fyny, ac yn tywallt llawer deigryn wrth wrando ar araeth bigog ei meistres. Rhaid i chi fadde i Catsan am y tro,