Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

PENNOD I.

News
Cite
Share

PENNOD I. YMWELYDD A BODEINION. ^1 kyfryd 0 |V yn cael em hunain, 1 oddeutu hanner awr TmCJJSM wedi chwech, yn SmSsSfw mhentref b ych an, WHA^SHr gwasgarog, a chysglyd yjjPjr Glynogwy, yn sir Drefaelog. c^a IrW&h y Haw dde i ni, ac W i)fl yehydig o'r neilldu, saif eglwys henafol y plwyf ffiiS gyda'i thwr ysgwar a chymhariaethol isel, o'r hwn y bydd cloch y llan yn wythnosol wahodd y trig- olion i'r gwasanaetli, foreu a vS hwyr. Y mae ei hadeilad- "J i waith ar ffurf croes, a'i hallor, wrth gwrs, yn y pen dwyreiniol iddi, tra o amgylch yr hen le addoliad yr ym- estyn myriwent go helaeth, ac Yn nghysgod erch yr ywen drom ei gwedd, Lie chwydda tyweirch o amryfal lun, Y gorwedd, bob un yn ei gyfyng fedd, Hen dadau'r plwyf, di-ddysg, mown olaf hun." Sylwasom wrth ddyfod i'r Glyn," fel y geilw'r plwyfolion y pentref, fod gan yr Ym- neillduwyr hefyd ddau dy addoliad destlus a chyfleus ddigon, er nad, ydynt yn rhyw helaeth iawn. Gerllaw y bont gerig ar hyd yr hon y rhed y ffordd dros yr afon Ogwy, gwelwn y mwyaf o'r ddau dy tafarn sydd yn y lie, sof yr Einion Arms. Hawdd ydyw casglu nad oes ynddo ond y nesaf path i ddim busnes" yn cael ei wneyd ar y mynydau hyn, canys y mae'r ffermwyr, yn nghyda'u meibion a'u gweision, wrthi hi yn brysur, rhai yn lladd a rhai yn cario'r gweiriau. Hyn, mae'n debyg, sydd yn cyfrif am y ffaith fod gwr y ty, Ebenezer Evans, neu Eben yr Einion," fel yr adwaenir ef oreu, yn dioglyd ymbwyso, yn llewis ei grys, ar un o byst y drws, gan dawel dynu cysur iddo ei hun drwy big ei bibell hir, fwaog. Ni raid i ni fyned yn mhell iawn yn mlaen cyn ein bod yn mhen arall y pentref, ac yma saif gefail got led helaeth, yr hon sydd ar y mynydau hyn wedi ei chau a'i chloi i fyny yn ofalus. Y mae'r tan allan, y fegin yn llonydd a'r eingion yn ddisbaw. Feallai fod y gofaint wedi rhoi heibio weithio, gan gredu gyda'r Salmydd-I I Dyn a a allan i'w waith ac i'w orchwyl hyd yr hwyr." Dichon fod rhyw reswm mwy neillduolam "gaucynnar" heno. Ni a gawn weled. Trwy lioli, d'euwn i ddeall mai gefail yn perthyn i "ofaint y Glyn" ydyw hon, sef Meredydd Morus ac Ifan, ei frawd. Hysbysir ni hefyd eu bod yn byw yn y ty trefnus yr olwg a saif y drws nesaf i'r efail. Dywed cymydog wrthym yn mhellach mai llancia sengI" ydyw y ddau, ac nad oes dim bechgyn glanach eu calon yn yr holl blwyf na hwy, ond fod mwy o'r crefftwr yn Meredydd a mwy o'r crefyddwr yn If an. Henwreigan "pur ddi-son-am-dani," meddir, ydyw Marged, eu mam ond am Tomos, eu tad, ei wendid ef, ychwanegai'r cymydog, ydyw ei fod yn "goblyn am ddiod." Sut bynag C, am hyny, teimlwn awydd cryf i ymgyd- nabyddu a'r teulu hwn, a chyda help dychymyg ni a gymerwn ein rhyddid i groesi'r rhiniog heb na churo'r drws nac ychwaith ofyn caniatad. Gyda'n bod yn y ty, gwelwn oddiwrth y cloc hen ffasiwn sydd yn ein gwynebu ei bod erbyn hyn o fewn chwarter i saith o'r gloch a'r foment nesaf wele ddyn ieuane o bryd tywyll, du ei wallt, llydan ei ysgwyddau, cadarn o gorph, er nad yn rhyw dal iawn,yn dyfod i lawr o'r llofft. Llygaid tywyll, siriol sydd iddo, hefyd; a rhaid fod dyn yn ddwl iawn i fethu canfod oddiwrth y dalcen lydan fod ei pherchen yn llanc deallus, meddylgar ac y mae yr un mor amlwg fod toriad y gwefusau yna yn arwyddo ponder- fynolrwydd tuhwnt i'r cyffredin, Wedi bod yn newid ci ddillad y mae ef, ac y mae llygad ei fam wedi buan ganfod y cyf- newidiad. "Be yn dy ddillad gore heno, M'redydd bacli?" ebai Marged. "Dwyt ti ddim yn myn'd i'r c'farfod canu yn dy got ore, do's bosibgini?" "Nag ydw, mam," ydoedd yr ateb di- gyffro; i Fodeinion rydw i'n myn'd, Ond, wyrach y galwa i yn y c'farfod canu ar ol hyny; ac felly, os digwydd i mi fod dipyn yn hwyr heno, peidiwch a synu. Mi fydd Ifan yn 'i ol 'mhen rhw awr, miwn, achos dydio ddim ond wedi myn'd cyn belled a'r Fronheulog i ofyn fedra nhw ddim dwad a'r car sy isio gneyd rhwbeth iddi hi i lawr ma foru. Raid i chi ddim bod yn hir ar ych pen ych hun, wyddoch." "Wel, wir I" ychwanega'r fam, "dwn i ddim pam y rhaid i ti roi dy ddillad gore am danat i fyn'd am dro i Fodeinion—na wn i'n siwr ddigon. Mi wranta fod teulu'r ffarm wedi dy wel'd ti ynyn nhw ddoe yn 'r eglwys. Rown i ddim pen pin am bobol os na fedra nhw dy leicio di mewn rhw siwt ond dy siwt Sul-na rown i, wir I", Da bo'ch chi, rwan, mam; fedra i ddim aros," atebai Meredydd, gan daro ei het am ei ben a myned allan. Nid cynt yr oedd efe dros y rhiniog nag y daeth i feddwl Marged y rhaid ei bod wedi digio ei mab. Y foment nesaf, yr oedd hithau, hefyd, allan, ac yn galw arno. Trodd y gwr ieuanc yn ei ol. Rhedodd ei fam i'w gyfarfod, gan gydio yn serchog yn ei fraich wrth ddyweyd, "0, M'redydd bach! do's bosib dy fod ti'll gada'l y ty wedi digio efo dy hen fam, a hitlia'n meddwl y byd o honot ti!" Na, mam, dydw i ddim wedi digio "-a dododd ei law yn dyner ar ei hysgwydd; ond mi leiciwn yn fawr,, er ych mwyn chi'ch hun wyddoch, tae chi'n boddloni i ada'l i mi neyd 'r hyn 'rydw i wedi gosod 'y meddwl ar 'i neyd. Raid i chi ddim ofni na fydda i 'n fab da i chi cy'd ag y cawn ni'n dau fyw. Run pryd, mam bach, cofiwcli hyn-ma gin ddyn yn ami rw deimlada blaw 'i serch at i dad a'i fam, wyddoch. Mi fuoch yn ifanc ych hunan er's talwm, a ma'n siwr gin i na fasech chi'r adeg liono ddim yn leicio i'ch rhieni 'ch cadw chi'n rhy gaeth. Ond dyna ddigon ar hyn, cyn belled ag na fydda i ddim yn iselhau fy hunan na chitha chwaith." "Or gore, M'redydd bach, o'r gore, machgen i," medda'r hen wraigyn gymmod- lawn achos dos neb yn y byd ma'n leicio dy wel'd ti'n daclus a pharchus yn well na, dy fam dy hun; ac o hyn allan ddeydai byth'run gair eto am i ti wisgo dy ddillad gore pryd bynag y myni di." Gwasgodd Meredydd law ei fam yn dyner, gan ar yr un pryd daflu edrychiad llawn o serch arni, ac ymaith ag ef yn frysiog er mwyn gwneyd i fyny am yr amser a gollasai. Dychwelodd yr hen wraig i'r ty yn ddedwydd ei meddwl fod ganddi yn ei Meredydd un o'r meibion mwyaf cariadus a gwrol yn yr holl wlad. Yn y cyfamser, yr oedd Meredydd yn cerdded mor frysiog fel yr oedd efe wrth Ffarm Bodeinion toe wedi saith o'r gloch, ac yno, ddarllenydd, yr awn ninnau yn gyf- lymach fyth ar ei ol. Ie, dyma Fodeinion,. cartref John Prydderch a'i briod, gyda'u dau blentyn, geneth chwech oed a bachwen pedair blwydd-a'u nith, Olwen Prydderch, merch i ddiweddar frawd gwr y ty. Hen balasdy ydyw, a llawer mwy o le ynddo nag sydd angenrheidiol i Mr a Mrs Prydderch. Bu unwaith yn gartref i deulu'r Vaughaniaid; ond y mae wedi ei droi yn amaethdy er cyn cof neb sydd yn fyw gan i hendaid y Sgweiar presennol o'r un enw ddewis adeiladu palas mwy o lawer a harddach o lawer na Bod- einion, sef Bodrhian, rhyw filldir yn mhellach draw ar derfynau'r plwyf. Am Ffarm Bodeinion oddimewn, ni raid i ni ddyweyd mwy na'i bod yn bur debyg i lawer amaethdy arall lie y byddo rheol a threfn yn ffynu, gwraig dda yn gofalu am ei le i bobpeth a phobpeth yn ei Ie. Yr oedd John Prydderch yn wr lied gefnog, y ffarm yn un o'r rhai mwyaf yn y plwyf, digon o stoc" ac offerynau oddiallan, a llawnder a chynnildeb oddimewn. Cyfeirio am y buarth yn nghefn y ty y mae Meredydd Morus ar ynoson hon, ac ni a gymerwn ein rhyddid i'w ddilyn. Y mae John Prydderch a'i weision oil yn y cae gwair ar y mynydau hyn heb neb yn edrych ar ol pethau yn y buarth oddigerth ci mawr sydd yn rhwym wrth gadwen yn ymyl yr ystabku, ac y mae hwnw bellach wedi dyfod i adnabod Go'r Glyn yn ddigon dai beidio cynhyrfu pan wna ei ymddangosiad yn y buarth. Yr oedd drws y gegin lanwaith yn llydan agored pan gerddodd Meredydd i fyny ato, heb neb i'w weled na'i glywed oddi- mewn. Er hyny, gwyddai'r gwr ienanc y rhaid fod Mrs Prydderch rywle o gwmpas, a hwyrach rhywun arall hefyd, o ran hyny. Felly, efe a gurodd y drws, gan ofyn, "Ydi Mrs Prydderch i mewn ?" "Ydis" atebai gwraig y ty oddidraw; dowch i mewn, M'redydd Morus. Mi ellwch ddwad yma i'r llaethdy, os mynweh chi, achos fedra i ddim gada'l y caws ma am dipyn." Derbyniodd y gof y gwalioddiad yn barod ddigon, ac yn y llaethdy-cafodd wraig y ty a-