Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

v BYDENWOG

News
Cite
Share

v BYDENWOG I.Arlywydd Newydd yr Unol Dalaethau v If R y pedwerydd o'r mis ncsaf, dechreua Arlywydd newydd deyrnasu, yn Washington, dros y mil- iynau a drigant yn ngwlad F'ewythr Sam. Teyrn- asu," meddwn, canys er mor werinol yw cyfatisoddiad gwleidyddol y Talaethau, mae gan eu harlywydd lawer mwy o allu yn ei ddwylaw nag sydd gan Benadur Prydain. Y mae ei allu i attal y gwaith o ddeddfu yn gryfach a'i hawl i benodi i swyddi yn fwy eang na'r eiddo Victoria. Yn yr ymgyrch etholiadol ddiweddar yr oedd diii brif yn-igeisydd am y swydd uchel hon, sef Mr Harrison, yr arlywydd ar y pryd (fel arwr, y Republicaniaid), a Mr Cleveland, gwr a fuasai yn arlywydd yn flaenorol, dewis-ddyn y blaid Ddemocrataidd. Y diweddaf, fel y sylwyd, a orfu. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y pleidiau hyn ? Anliawdd esbonio i fanylrwydd. Y gwir yw, mac yr lien ffiniau rhyngddynt weli ou dilcu gan law amser; a plirin gormod fyddai dyweyd mai traddodiad a myinpwy yn hytrach nag egwyddor a barn sydd yn peri fod un dyn yn ymrestru yn y naill blaid tra y byddo i gymydog yn ymuno a'r llall. Eto, er fod cryn lawer o'r lien iliniau wedi diflann, gosodir rhai newydd i lawr yn cu lie. Masnach Rydd ynte Masnach Rwym oedd y pwnc penaf yn yr etholiad diweddaf. Dadleuai y Republicaniaid dros osod trethi trymion ar bob nwyddau o wledydd tramor, gan ddadleu y gwnai hyny gofnogi pobl fig arian ganddynt i agor gweith- leydd o bob math, a'u gallaogi i dalu cyflogau uchel i'r gweithwyr. O'r tu arall, dangosai y Democratiaid mai unig effaith y trethi trymion oedd gorfodi ffermwyr a gweithwyr i dalu yn ddrud iawn am bobpeth; mai trefniant rhagorol ydoedd i'r pwrpas o gyfoethogi y meistradoedd gwaith, ond mai oürwg digymysg oedd i'r ffermwyr a pheth hollol aflesol i'r gweithwyr. Y mae trefniant y trethi trymion, er ys llawer o flynyddau, wedi cau allan lechi Arfon a Meirion o'r Unol Daleithau ac yn ddiweddar cafodd masnach alcan Myrddin a Morganwg ei llwyr ddyrysu trwy weithrediad Deddf McKinley. Gan fod y blaid Ddemocrataidd wedi gorchfygu y llall, gellir disgwyl y ca masnach ryw gymaint o ymwared. Ond, am resymau neillduol, ni wiw disgwyl cael llawer na'i gael yn fuan. Cyfreithiwr yw Mr Cleveland wrth ei alwedigaeth. O'i febyd, y mae wedi bod yn weithiwr caled. Mae gwneyd gwaith heddyw heddyw ac nid yforu, yn reddf ynddo. Gweithia am 16 awr y dydd; a dyfnder y nos yw yr adeg y ca fwyaf o hwyl arni. Ar ol bod yn sirydd yn un o ranbarthau talaeth New York, a dal amryw swyddi ereill, etholwyd Mr Cleveland, yn 1882, yn llywodraethwr y dalaeth. Gwr cymharol anadnabyddus oedd ef yr adeg hono; ond llanwodd y swydd am ddwy llynedd gyda chymaint o ddeheurwydd a chadernid fel y dewiswyd ef yn 1884 i fod yn Arlywydd yr Unol Dalaethau. Gwr plaen, diymhongar, a didderbyn- wyneb yw yr Arlywydd newydd. Gwna bob- peth yr ymaflo ynddo yn fater cydwybod. Prif waith ei swydd aruchel yw penderfynu yn mha achosion y dylid estyn maddeuant i droseddwyr. Nid oedd Mr Cleveland, yn ol arfer rhai penaethiaid, yn taflu baich y cyfrif- oldeb aruthrol hwn ar ysgwyddau ei gynghor- wyr. Mynai lwyr chwilio pob achos a ddygid ger ei fron i'r gwaelod; a'r gred gyffredinol oedd ei fod yn ilwyddo bron bob amser i benderfynu yn iawn rhwng cyfiawnder a thrugaredd. Ar fwy nag un achlysur, darfu iddo bendant wrthod cadarnhau deddfau a gymeradwyasid gan ddau Dy'r Senedd, am y rheswm ei fod yn credu fod y mesurau yn cynnyg gwastraffu arian y wlad. Gofynai hyn ddewrder o'r radd uchaf; ond enillai hefyd, yn y pen draw, barch diffuant pawb-gwrthwynebwyr yn gystal a chefnogwyr. Gwr priod yw Mr Cleveland ac y mae ei gysylltiadau teuluaidd yn rhai ffodus a dedwydd. Y mae dyledswyddau hanner-swyddogol gwraig yr Arlywydd yn Uuosog a phwysig. Hyny yw, mae y modd y cyflawnir hwynt yn myned yn mhell i benderfynu a fydd ei phriod yn Arlywydd poblogaidd ai ni fydd. Yn ystod y rhan fwyaf o'r flwyddyn, nid oes gan yr Arlywyddes ddim amser at ei gorchwylion personol a theuluaidd ar ol canol dydd. Y mae'r ffaith fod llywodraeth y Talaethau mor werinol yn peri i'r beichiau a osodir ar ei hysgwyddau fod yn drymach o lawer na'r rhai a ddygir gan frenhinesau Ewrop. Oddigerthy dosparth pendefigaidd, swyddogion y Wladwriaeth, aphrif enwogion y dydd, ychydig iawn yw y rhai sydd yn tresmasu ar amser ac amynedd Brenhines Prydain, er enghraipht. Yn America, cyf- uwch cwd a ffetan ac y mae nifer y rhai a groesawir, fel ymwelwyr, i'r Ty Gwyn yn Washington, yn annhraethol fwy na nifer y gwahoddedigion i Gastell Windsor. Rhaid croesawu y Seneddwyr a'r cyn- nrychiolwyr, y fyddin a'r llynges, y llys- genadon a'r barnwyr, a llu aneirif o ddir- prwyaethau o bob cwr o'r wlad. Meddylier am sefyll am ryw ddwy neu dair awr bob dydd, i ysgwyd llaw a rhai cannoedd, ac ambell waith a rhai miloedd o ymwelwyr Saith mil a hanner oedd y nifer un prydnawn Sadwrn. Un ffaith hynod yn nglyn a hyn ydyw ddarfod i law ddehau Mrs Cleveland, yn ystod arlywyddiaeth gyntaf ei phriod, "dyfu" cryn lawer; a rhaid iddi yn awr wrth fenyg wedi eu gwneyd yn arbenig ar ei chyfer. Annedd eang a godidog iawn yw'r Ty Gwyn, cartref yr Arlywydd a'i deulu yn ystod tymhor ei swyddogaeth. Saif ar lecyn tra dymunol rhwng y Pennsylvania Avenue a'r afon Potomac.. Ond er mor helaeth yr annedd, rhan gymharol fechan sydd at wasanaeth preifat a theuluaidd yr arlywydd, gan mai at ddybenion cyhoeddus yn benaf y defnyddir yr ystafelloedd eangaf a gwychaf.

PENNILLION PIOOO