Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

"--..",.-----FFENESTR I'R…

News
Cite
Share

FFENESTR I'R CYLLA' DICHON eich bod yn synu tipyn sut y mae meddygon wedi bod yn alluog i gael allan pa fodd y mae bwyd yn treulio yn yr ystumog, a pha fodd y maent yn gwybod rhifedi yr Orlau a gymer y gwahanol fwydydd i dreulio. Daethant i feddiant o lawer iawn o'r wybodaeth hon drwy ddamwain a ddigwyddodd yn America i un o drigolion Canada a elwid Alexis St. Martin. Saethwyd ef a bwlet aeth y bwlet drwy ei ystumog, a gadawodd dwll mor fawr fel ag y gallai Dr Beaumont, y meddyg enwog a weinyddai arno, weled yr oil a gymerai le yn ei ystumog am flynyddau lawer. Digwyddodd y ddamwain Mehefin y 6ed, 1832. Ni oddefai Alexis St. Martin i'r agoriad gael ei gau, gan nad oedd yn cffeithio ar ei ieclxyd. Yr oedd yn mwynhau lechyd ardderchog, a threuliai ei ymborth mor gyson a phe na buasai yr agoriad erioed wedi ei wneyd. Treuliodd rai blynyddau fel gwas gyda Dr Beaumont. Yn union ag y cymerai frandi, neu pan elai unrhyw fath o wirod i'w ystumog, elai y bilen ruddgoch dlws a orchuddia yr ystumog yn anarferol o goch. Pan fyddai wedi cymeryd gwirod am ychydig ddyddiau, ymddangosai cornwydydd dolurus. Ymddangosai hylif y cylla wedi sychu i fyny, fel nas gallasai y cig gael ei dreulio. Elai yr albumen (hylif tebyg i wyn wy) yn galed, yn debyg fel pe byddai wedi cael ei goginio mewn dwfr berwedig. Yn union ag y rhoddai St. Martin i fyny y gwirodydd, diflanai y cornwydydd, deuai y swm priodol o'r hylif cyllaol allan o'r ystumog, a deuai y treuliad yn briodol drachefn.

[No title]

YR ALMANACIWR A'R HOGYN

[No title]

Advertising

" RHWYMO NERTH Y NIAGARA"

\ HANNER AWR aVDA GWALLGOFDDYN