Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Y DAEAROL DY"
News
Cite
Share
Y DAEAROL DY" YSTYKIWCH sut yr ydych yn siarad wrth blant am y marw. Fel hyn y mae George Dawson yn dyweyd:—" Yr wyf wedi adnabod rhai yn dyweyd wrth eu plant fod eu tad marw yn y pwll mawr.' Y fath drueni ofnadwy yw dysgu plentyn caruaidd fod 'ei dad yn y pwll mawr Cynted ag y mae'r plentyn yn ddigon hen, dysgwch hyn iddo; dywedwch wrtho, Mae Duw wedi rhoi les i mi ar y ty hwn sy' genyf am dri ugain mlynedd a deg, ac os cymeraf ofal da am dano, dichon ei estyn i bedwar ugain mlynedd. Ac yna, fy machgen, pan mae'r les ar ben, caf fyned i ffwrdd at Dduw, a byw mewn ty nefol newydd,' Mor hawdd dysgu plant i ddeall pethau nefol! Yr oedd Martin Luther yn ysgrifenu at ei fachgen fel hyn:—" Yr oeddwn yn pasio heibio gardd brydferth, ac edrychais trwy y pyrth, a gwelais blant yn chwareu, ac yr oeddynt oil yn ddedwydd iawn, a rhai yn marchogaeth ebolion bach. Ac meddwn i wrtho, Pa blant yw y rhai hyn ? Ac ebe fe, Dyma'r plant a gar ant eu tad, a ddywedant y gwir, oeddynt garuaidd i'w brodyr a'u chwiorydd.' Ac meddwn innau, Mae genyf finnau lane byehan gartref; a allai efe gael dyfod i'r ardd hon ? Ac ebe yntau, 1 0 gall, gall ddyfod, ond iddo fod yn fachgen da.'
BRAIN BEIDDOAR
News
Cite
Share
BRAIN BEIDDOAR YN hanes ei theithiau yn Japan, edrydd Miss Isabella Brown fod y distawrwydd yno yn cael ei dori mewn modd rhyfeddol weithiau gan seiniau miloedd o frain, y brain mwyaf craffus a beiddgar a welodd hi erioed. Dywed: Yn ngardd y tafarndy yn Mori, gwelais gi yn bwyta darn o gig yn mhresennoldeb amryw o'r adar trachwantus yma. Darfu iddynt yn amlwg ymddiddan llawer a'u gilydd ar y mater, ac yn awr ac yn y man ceisiai un neu ddau ohonynt dynu y cig oddiwrtho, yr hyn, wrth gwrs, a'i cynhyrfai. O r diwedd, daeth bran fawr, gref, a llwydd- odd dori tamaid o'r cig i ffwrdd, a dychwelodd ag ef i ben coeden gyfagos, lle'r oedd y brain ereill wedi ymgasglu. Ar ol llawer o ym- ddiddan gwresog, dyma nhw i gyd wedi am- gylchu y ci, a'r prif aderyn yn gyfrwys iawn yn gollwng y darn bychan o'r cig mewn man cyneus yn ymyl y ci. Ac yntau can ffoled a r ci yn chwedl iEsop, a ollyngodd y darn mawr oedd ganddo i ymaflyd .yn y darn byehan; ar hyny, dyna ddau o'r brain yn cymeryd meddiant o'r darn mawr, ac yn ei drosglwyddo, yn nghanol banllefau o lawenydd a chymeradwyaeth, i'r goeden, lie y cawsant wledd dan gamp. Edrychai y ci yn ddiflas ac yn wyllt am ychydig, ac wedi hyny eisteddodd wrth fon y goeden, a chyfarthodd ar y brain. "Dywedoddboneddwr wrthyf iddo weled ei yn dra thebyg yn dal darn o gig yn mhresennoldeb tair bran, y rhai a geisiasant gymeryd y cig oddiwrtho. Wedi ymgynghori d'u gilydd, ymwahanasant, ac aeth dwy mor agos ag y beiddient at y cig, ac aeth y drydedd a chymerodd afael dyn a'i dannedd ar gynffon y ci, gan beri iddo roi wawch a throi oam- gylch, ac ar hyny eymerodd y ddwy fran arall afael yn y cig, a chafodd y tair fwynhau ffrwyth eu buddugoliaeth ar ben y wal gerllaw."
NEWYDDIADURON CYNTAF CYMRU
News
Cite
Share
NEWYDDIADURON CYNTAF CYMRU TEBYG mai y Cambrian oedd y newyddiadur cyntaf i ymddangos yn Nghymru. Cyhoedd- wyd y rhifyn cyntaf ohono yn Abertawe, lonawr, 28ain, 1804, ac hysbysir ei fod wedi parhau i ddyfod allan yn ddibaid o'r pryd hwnw hyd heddyw. Dygwyd ail ar- graphiad o'r rhifyn cyntaf allan yn ddiweddar, fel math o gyweinrwydd. Papyr bychan oedd ar ei ymddangosiad cyntaf, ac yr oedd ei bris yn chwe' cheiniog. Papyr Saesneg oedd. Mawrth 3ydd, 1810, y cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r Carmarthen Journal gan John Daniel, yr hwn a fu farw lonawr lOfed, 1823, yn 68 mlwydd oed, ac a gladdwyd yn Llangynor.
GOFYNIAP ATHRONYDD
News
Cite
Share
GOFYNIAP ATHRONYDD PAN oedd Pyrrhus, brenhin Epeirus, yn gwneuthur paratoadau at ryfel yn erbyn Rhufain, gofynodd Cineas, dyn doeth a da iddo, beth oedd ei ddisgwyliadau mewn perthynas i'r ymgyrch. "Darostwng Rhufain,"meddai'r Brenhin.—"Beth wnewch chwi wed'yn? "Gorchfygu Itali."—" A pha beth wed'yn ?"—" Darostwng Carthage, a'r oil o Affrica a Groeg."—" A phan fyddoch wedi gorchfygu y rhai hyn oil a allwch orchfygu, beth wnewch chwi wed'yn?" "Beth? eisteddaf i lawr, a threuliaf fy amser mewn heddwch a chysur." —"Ah, f'arglwydd frenhin," ebai'r gwr doeth, "beth sydd yn eich rhwystroi eistedd i lawr a threulio eich amser mewn heddwch ac mewn cysur yn awr?"
LLYTHYR O'R PURDAN
News
Cite
Share
LLYTHYR O'R PURDAN ADRODDWYD hanesyn lied ddigrif wrthyf yn ddiweddar gan hen foneddiges am hen forwyn o'i heiddo o'r enw Ann Brady, yr hon oedd wedi bod yn ei gwasanaeth am lawer o flynyddoedd, ac yr oedd yn Babyddes selog. Un diwrnod, daeth Ann i mewn i'r parlwr at ei meistres dan wban a dolefain felpe byddai bron gwallgofi: "Wel, druan ohonof I Ai nid wyf yn ddynes annedwydd ? Och, beth a wnaf ?" Beth yw'r mater, yn enw dyn, Ann fach.?" gofynai ei meistres. "0 meistres anwyll" atebai Ann, "y mae y postman wrth y drws, ac y mae ganddo lythyr i mi o'r purdan, ac yr wyf yn gwybod ei fod yn dyfod oddiwrth fy mam oedranus, yr hon sydd wedi bod yno am ddeng mlyn- edd, a hyny o achos fy mod i wedi esgeuluso talu am offerenau i'w chael allan, fel ag yr oeddwn wedi addaw. Och fi! mor druenus yw arnaf." Pan aeth ei meistres allan, canfyddodd y postman mewn llewyg o chwerthin, a llythyr yn ei law wedi ei gyfeirio at Ann Brady, o'r Dead Letter Office (Swyddfa Llytliyrau Meirwon-hyny yw, llythyrau wedi methu cael gafael yn y personau at y rhai y cawsent eu hanfon). Nid oedd dim a wnai i Ann gyffwrdd a'r llytliyr o achos y gair dead (meirwon), wrth yr hwn y meddyliai hi y purdan, a bu raid i'w meistres ei agor iddi, yr hon a ganfumai llythyr ag oedd Ann ei hun wedi ysgrifenu at ei nai yn yr Iwerddon ydoedd, ond yr oedd hwnw wedi myned i'r America, ac a ganlyniad cafodd y llythyr ei ddychwelyd,
Advertising
Advertising
Cite
Share
ESTABLISHED 1874. T EDWARD NOBLE, SODA WATER MANUFACTURER, CARNARVON. SEE ANALYSIS FROM GRANVILLE H. SHARP, ESQ., London. PLEASE NOTE REGIRTEKED TRADE MAMK AND LABEL ON BOTTLE— WENHAM RHEW (ICE) STORE. ESTABLISHED 1847, 1 O. EVANS & SON, WHOLESALE & RETAIL COAL MERCHANTS AND COAL CONTRACTORS, 10, SLATE QUAY, CARNARVON. Large Quantities of Best House and Steam Coals and Nuts always kept in Stock, DEPOTS 10, SLATE QUAY, 1 CARNARVON*' 1 & 2, RAILWAY STATION, VUIN*. RAILWAY STATION, PENYGROES. WHOLESALE WIIAUP: DINAS JUNCTION. Special Agents for the Best Briquettes. PAHAM YR Y MFODDLON WCII AR WAIT11 GWAEL MEWN ARLUNIAETH. TBA Y GALL MR. JAMES LEACH, 2, DINORWIC STREET, CAERNARFÔN; trwy ddyfals newjdd, wneyd DARLUN1AU BYTH-BARHAOL ? UN PRAWF O'R DDYFAIS NEWYDD KYDD BKBFFAITII FODDLONKWYDD. Anfoner am y Prisiau. Dan Nawdd Aelodau Seneddol, Gweinidogion yr Jifejgyl, &c., &o. D S.—FFRAMIO A GOREURO YN FAN- WJFIRTHOL A CHYFANWERTHOL. PWYSIG I HYSBYSEBWYRI YR HERALT) CYMRAEG (A sofydlwyd yn 1851, ac a liolivetliwyd yn 1859,18G5, 1878, 1887, 1890, A 1892)2 YW YR IIYNAF, MWYAF, RIIATAF, GOREU o'r Wytlinosolion Cyimeig-, AC 1IEFYD > EANGAF EI G Y L C H R E DI ADJ, j 64 o GOLOPNAU HIIIION. BOB DYDD MAWBT r: CEINIOG. Yn Eisiau: Dospartliwyr a Goliobwyr 110 nad oes rhai eisoes. Cyhoeddwr—DANIEL REES, Carnarvou,