Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

Bankyfelin Notes.

CROSS HANDS.

Ar Ben y Peutan.

News
Cite
Share

Ar Ben y Peutan. [GAN DAII'R GWAS.] Dywedodd amaethwr yn ddiweddar Ma Paul yn eitha right wrth ddweyd, Canys ni wyddom ni beth a weddiom, megis y dylem-: Dyma fi, nawr. Y mae y tit pori yn llosgi gan y gwres os dim yn tyfu yn yr ardd ma'r lfrwythe yn cwmpo oddiar y coed fu dim mwy o ishe glaw eriod! Ond wi'n gobitho na ddaw dim glaw hefyd am dipyn elo, ma gyda fi ddau ga o wair a'r llawr! Dyna golled ein bod yn methu gosod ffrwyn am ben y cwmwl a'i arwyn wrth y map ar hyd y tir. Oùd dyna—byddai rhyw ond o hyd. < Y Graig Galch, Gyda'r Wawr. Anwyl Dafi,—Gob jithio y bydd Eistedd- fod Llaugendeirne yn troi allan yn llwydd- iant. Mae'r gerddoriaetli yn hawlio sylw, a'r gwniadwaith yn deilwng o gefnogaeth. Pity nas gellir cael trens rhad i'r lie ar y dydd dan sylw. Mor grand fuasai gweled cheap excursion yn pwllian trwy'r wlad o Gaerfyrddin, Llandilo, a Llanelli, ond fe ddaw y pethau hyn yu ffaith cyn y mil blynyddoedd, gobeithio. Pwy a wyr na fydd Crwbin Junction yn rhyw fath o C-rewe, a'r Mail a'r Express yn mell- tenu allan o'r orsaf i bedwar gwynt y wlad! Carwn gael gwybod gan yr ysgrifenydd beth fydd y seremoni o gadeirio y traethodwr buddugol ? Nis gellir cadeirio yn nol "Braint a Defod Beirdd Ynys Prydaiu "—felly, pa ddefod arall fydd yno ? A fydd bloeddio A oes heddweh i fod ? Ofnaf mai cred y beirdd am y pwyllgor fydd —fod y cyfryw yn syniod yn isel am werth barddoniaeth— dim end 7s 6d am bryddest ar "Gyfiwr Adda ac Efa cyn, ac wedi'r Cwymp." Buasai 7s 6d yn wobr digon anheilwng o isel am bi-yddest ar Gyflwr Adda cyn cael gwraig," ond y mae cymeryd y ddau, cyn ac wedi y cwymp, am 7s 6d yn fargen druenus o wael. Ehodder y 7s 6d i ryw hogyn i dalu am license ci, neu i briodi gwraig—(gan mai dyna y pris, ynte, Dafi ?) yn lie eanu i dad a mam yn Eden, ac yn yr auialwch am bris mor wael. Mae'r ail draethawd yn hanner coron mwy o werth na'r brif bryddest! Ond dyna, mae'r beirdd mor lluosog ac mor fan a marbles, ac fe nyddent filldir o rigwm am bislujn grot\ Er y diffyg hwn, u'r sarhad hwn, a'r dad a mam pob dyn byw, mae'r Eisteddfod yn teilyngu cefnogaeth y byd a'r Bettws, a beirdd Bankyfelin. TOBOS Tonos. Ehwng Tobos Tobos a'r pwyllgor, ond (redaf fod y pwyllgor yn deall eu gwaith, ac yn moddu syniad pur gywir am bris y "farced." 08 ydyw y pwyllgor yn synied yn isel am werth barddoniaeth, credaf—er yn dllibrofiad-fod 7s 6d yn druenus o isel am wraig dda, gan nad pa mor slac y bydd y tradu Us ydyw Tobos Tobos yn deall barddoniaeth, mae'n eglur nad ydyw yn gwybod dim am y gost o briodi nag am (ywyd Adda ac Efa fel gwr a gwraig. Os ydyeh chwi, Tobos, wedi myfyrio "Ysgol Farddol," Dafydd Morganwg, bydd yn werth i clnvi i ddarllen yn ystyriol Caru, Priodi, a Byw," eto. Dichon yr eglura yr ysgrifenydd parchus seremoni y cadeirio, o barch i Tobos Tobos. Daeth y newydd i'r Pentan fod Caer- fyrddin yn codi yn ddewr yn erbyn y Bill Aùdysg presenol. Ond na farner nerth Ivhyddfrydiaetli yn y dref wrth y petitions, gan fod llawer i Radical trwyadl ddim yn credu mewn deiseb, ac adwaenom eraill am adael i'r Toriaid i gael pob mantais i gaethio —er mwyn agor llygaid y wlad. Dyweder a fyner, y mae Chamberlain yn eithafol gyfrwys. L)ry\liodd weinyddiaeth Mr Gladstone gynt pryd y cododd yn erbyn Home Rule j wedi ymunn a'r Toriaid, y mae wedi gosod trap i ddal y Gwyddelod ac wedi llwyddo i sicrhau eu pleidleisiau yn erbyn y Khyddfrydar y Mesur Addysg. < Bu y Dr Herber Evans am dro yn y Senedd yu ddiweddar—cafodd docyn gan Mr J. Iloyd Morgan, M.P. Mesur Addysg oedd gerbron y noson hono, a dyna farn Herber:—" Yr oedd chwerwder mawr wrth son am y Gwyddelod yn pleidleisio gyda'r Toriaid yn erbyn y Rhyddfrydwyr, a hyny wedi iddynt wneuthur y fath aberthau dros Home Rule ar hyd y blynyddoedd. Teimlai pob un a welsom fod y Gwyddelod wedi dangos nad Home Rule oedd y peth blaenaf ganddynt hwy, ond Rome Rule, ac felly y gallai'r Rhyddfrydwyr hefyd newid eu barn." Gellir barnu oddiwrth ysbwriel "Rhydderch Hael" yn Y Geninen fod gweinidogion Cymru yn derbyn Eu miloedd o aur melyn bob blwyddyn, ac mae lie bendigedig am yw y weini- dogaeth Gwir fod rhai yn cael cyflog dda, llawer yn cael yn weddol, ond y mwyafrif yn druenus o toael. Y mae i weiuidog i fyw ar egwyddor ambell i ddyn duwiol yn golygu Starvation er ei fod yn pregethu Salvation! Ac os ydym i farnu haelioni crefyddol "Rydderch Hael" yn ngoleuni ei dryblith cyfeiliornus yn Y Geninen, nid yw yn debyg fod ei egwyddor, ci logell, na'i law ef, yn gallu croesi amgylchedd y tree penny bit! Tywysog Cymru enillodd brif redegfa y Derby yr haf hwn. Na feddylied neb o ddarllenwyr y Pentan mai y Tywysog ei hun fu yn rhedeg, er y buasai hyny yn llawn mor dduwiol (?) yn ei hanes a llawer i stroke gyfiawna, druan. Cyfeirio T ydym at y ffaith mai ceffyl y Prince of oedd y cyflymaf o'r holl geffylau cyflym ar y maes y waith hon. Diau y bydd y Toriaid yn gorfoleddu yn y fuddugoliaeth, gan fod hyn yn rhinwedd yn gymeriad y Tywysog, er yn ysmotyn du yn banes Arglwydd Rosebery! Nid arwydd o lwyddiant ydyw gwelcd etifedd y goron yn troi mown cylch mor anheilwng. Er mwyn y darllenwyr hyny nad ydynt hyd yma wedi gweled araith Mr Lloyd George yn Caeruafon, rhoddwn ddarn o honi yma :— Ar hyn o bryd, yr oedd tirfeddiannwyr Lloegr yn derbyn tua 40 miliwn mewn ardrethoedd bob blwyddyn, a hyny oddi- wrth amaethyddiaeth ag a dvwedent oedd mor wasgedig fel y galwent ar y Llywodraeth i'w cynnorthwyo. Yr oedd ardrethi yn rhwym o ostwng yn ol trefn pethau, fel y gwnelai pobpeth arall. Ond y ffaithydoedd am rai o'r siroedd Cymreig—sir Gaerfyrddin, er engraifit—cynnyddu a ddarfu y rhenti yn ystod yr ychydig flynydJau diweddaf, ac os y cyferbyuient ardrethoedd y dyddiau pre- sennol gyda rhai hanner cant neu gan' mlynedd yn ol, canfyddent gynnydd dychrynllyd, ac yr oedd hyny yn fwy nas gellid ei ddyweyd am unrhyw ddiwydwaith arall. A phahain y gelwid ar y Llywodraeth i roddi l,500,000p i wneyd i fyny golled nas gellid ei hosgoi gan ddyn a roddodd ei arian yn y tir, a pheidio cymaint a chrybwyll am roddi unrhyw gynorthwy i bersonau oeddynt wedi gwneyd buddsoddiadau ereill a chael collediou (uchel gymeradwyaeth). Yna aeth Mr George yn mlaen i ddangos pa mor unochrog yr oedd y mesur. Tra yr oedd trethi y trtfi ar gyfartaledd yn 7s 6c yn y bunt, ni thalai y ffermwr ond 2s 4c yn y bunt, ond yn ol y mesur hwn a wthiwyd drwodd, yr oedd yn rhai i'r trefi a dalent eisoe3 7s 6c mewn trethi, dalu yn ychwanegol hanner y 2s 4c a delid yn bresennol gan y ffermwr. Ai nid oedd yn hen bryd gwneyd ,,wi-thdystiad ? C" Oedd," a chymeradwyaeth fyddarol). Byddai raid i drethdalwyr tref Caernarfon yn unig dalu mwy o drethi o 500p nag a wnelent yn bresennol, tra na dderbynient yr un geiniog yn ol (" Cywilydd "). Awgrymid fod dioddefaint mawr yn mhlith laudlordiaid. oblegid, fel engraifft-cynnyddu a ddarfu y rhenti yn gorfod cymmeryd 2o,000p yn He 30,000p o renti yn y flwyddyn, ae, wrth gwrs, pa heu wr tlawd fuasai yn ddigon afresymol i ddisgwyl blwydd-dal yn ngwyneb dioddefaint mor fawr, tra yr oedd landlord- iaid ein gwlad eisieu yr arian yn eu dygn dlodi" eu hunain? (chwerthin). Bydd i holl aelodau y Weinyddiaeth bresennol dderbyn dros 60,000p oddiwrth y mesur hwn. Pwy nad yw yn holfi barddoniaeth Cenin ? Dyma ddau benuill o'i eiddo :— Tyred at y gamfa hono, Lie cwrdtlsom gan'waith g) nt, Tyr'd am unwaith, anwyl eneth, Cyn fy myred ar fy h)'r:t; 'Fallai na chaf eto 'th weIrd, Na chaf mwyach byth dy gwrdd, 'Mhrn N-eb)-dii ainser et", Mae dy fardd yn myn'd i ITw dd Tyred at y gaoufa hoi.o, Camfa'r lyfaaiitodm yw, Neb >n gwrando ein cyfrinach Ond my ti, tydi, a Duw Dagrau'r. treialo dros ein gruddiau, Cvsrgreiiig ddigrati serch, Y mae riiywoeth bei digedig Mewn eyfainmod mab a ruerch. Y Dryelt sydd yn gyrfrifol am hwn:- "Yn y Lienor, dywed v golygydd mai 'cadernid Prydaiu yw ei chariad at lieddwch.' Wei, y mae yn yinladd llawer i un sydd yn ymddibynu ar ei chariad. Dywed yr hen air, mai wrth gripio a chraiu bydd cathod yn carll,' ac efallai mai chariad felly a olygir gan y Lienor." Dywed un naturiaethwr enwog na fydd mellt byth yn taro ff twydden ac ond anaml dderwen. EfMllai mai am hyn yr oedd y dderwen mewn cymaint o fri gan yr hen Gymry, gan ei bod yn cyfuno cryfder a diogelwch. Craig y Van Fawr. 0 SYR,—Mae golwg hyfryd ar y wlad o bon y Van tair sir o Gvrnru i'w canfod—Caer- fyrddin, Morganwg, a Brycheiniog. Lie iachus ydyw ar hir-dydd haf rhwng y creigiatt daneddog. Cadarnwych golwg- feydd ihamantus welir wrth edrych i bob cyfeiriad, a lloches ddiogel sydd genyf rhag pob gelyn.- Uweled ydywf yr hen lyn yn gorwedd mor llonydd weithiau a phe bydd wedi rhoi ei hun i gysgu, ac ambell i hwyad wenfvog yn nofio ac ymbleseru ar ei douau brigwyn a minnau ar fy ngoreu yn ceisio ei denu i'r traeth er vmgyfeillachu a hi, ond hyd yn hyn wedi methu. Yr ehedydd bach yn chwareu ei adenydd gan byncio ci nodau melus o foliant i'w Greawdwr yn yr eangder diderfyn uwch fy mhen. Ar doriad gwawr y boreu teithiais i waered dros lechweddau serth y mynydd o gam i gam dan wyliaw twrn y cynydd hyd lanau cochion Llan- ddeusant, a'r lie y preswylia y Maer a'i gor mawr enwog, pa un sydd yn cipio y gwobrau dyddiau rhailn yn bur ami mewn eisteddfodau bychaiu a mawrion, pen ac agos. Cor y Maer uudebol Gwynfe a Llan- ddeusant. Io, y mae blodeu'r He hwu yn ei gynorthwyo eosiaid a llinosiaid Gwynfo yn dangos undeb a pharch mawr i'r Maer bychan. Well done, boys, ewch rhagoch, ac yna ui gawn cyn hir weled light railways yn rhedeg o un lie i'r llall, a rhyw Gymro glan gloew yn engineer, a Mari'r forwyn o Abergwaun yn tanio, a Shoni Shan yn signal-man, a rhyw jolly lad yn station-master, a chorn Twrn y cynydd yn rhoi arwydd pan y bydd perygl gerllaw a station yn Twyn- llanau, a junction yn Gwynfe; a return ticket i bob cantwr fyddo wedi cyraedd a graddio yn A.C., a phob cantores am hanner pris pa rai fyddo dan dwy-ar-ugain oed, ac yna ceir eisteddfod genedlaethol yn y flwyddyn 99 ar lyw y gan, a'r Maer enillo y prif wobr am ganu. Cawn briodas cyn hir yn LI ac yna cuir gan briodasol i'r par ieuanc ar y dydd hunanbwyntiedig, a rhyw Owen o'r Llan yn feirniad i'r cyfansoddiadau, a Dafi Lonydd ar y canu. Good night, mae'r cwn yn d'od. Y LLWYNOG. Diolch gwresog i gyfeillion am eu ffydd- londeb yn anfon nodiadau i'r Pentan. Cofier fod y Pentan yn rhydd i hawb-ond bod yn ddyddorol. Byddwn ddiolchgar am bob help i wneuthur y golofn hon o dydd- ordeb cyffredinol, heb niweidio neb. Ond cofied ein cyfeillion fod yn rhaid cael yr eaw priodol gyda pob nodiad—nid er mwyn ei gyhoeddi, ond prawf o gy wirdeb. Danfoned ein cyfeillion lien eu nodiadiau i'r Swyddfa fel hyn :— Dafi'r Gwas, Reporter Office, Carmarthen.

CANA.

Llandilo Urban District Council.I

Intermediate Education in…

Do You Know

Llanboidy Petty Sessions.

IN THE DO UK FOR "DOCKING…

PROTECTING THE "TOPEns."1…

Carmarthenshire Assizes.

--'-------'-.....--...........---...--.............---------------LLANEDI.