Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

" NODI ON.

News
Cite
Share

NODI ON. C'wyna Grolygydd y "British Week- ly" oherwydd diystyrrwch y Llyw- odraeth o bob bam grefyddol ynglyn a chwestiwn y fasnach feddwol. Dichon fod aelodau'r Llyw- odraeth yn darllen y "British Week- ly." Ni fu erioed ddim mor agos in gwneud ni'n Anffyddiwr a'r papur hwnnw. "Ni ellwch wasan- aethu Duw a mamon."—"Y Darian." Gresyn na fyddai i Ymneillduwyr dalu mwy o warogaeth i wasanaeth crefyddol drwy ddod i'r odfa mewn pryd ac yn ddidrwst. Yn hyn o beth rhagorir arnynt gan aelodau Eglwys Loegr ac Eglwys Rufain. Yn yr eglwysi hyn ceir pawb yn eu lie yn brydlon, a dim siarad a gwthio yn y cyntedd ar ddechreu y cwrdd -ac yn hir wedi dechreu. Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dy Dduw—ac ar dy dafod. Hoffi'i wlad mae'r mad Escimo-mor frwd A'r mawrfrydig Gymro, Ac arian frig yr hen fro Sydd fel paradwys iddo. Dyna fel yr englynai y bardd melus Emrys yn ei awdl anfarwol ond ddiwobr i Wladgarwch. Cas gwr ni charo,r wlad a'i maco, meddir, er nad oes i'r fath gariad un sai1 ond damwain geni. Y duedd mewn gwladgarwyr fel rheol ydyw bod yn rhy gul eu heneidiau, anghofio mai brodyr o'r un bru ydym ac i Dduw wneyd o un gwaed bob cenedl 0 ddynion. 0 un gwaed, aie? Ac eto clywir son am waed glas, am waed coch cyfan, am waed pendefigaidd a chyffredin. Wedi'r cwbl rhaid cydnabod mai mwy yw y dyngarwr neu y bydgarwr na'r gwladgarwr. Mae enaid y naill gymaint yn lletach, a'i weledigaeth gymaint yn eangach nag eiddo y llall.

COMPETITIVE CONCERT AT CWMBACH.

Advertising

MOUNTAIN ASH EDUCATION COMMITTEE.

Architect's Stinging Retort.

Doctor and Cirls' Hair.

Parents' Presence a Hindrance.I

Teachers and Quack Medicines.

SCRAPS. |

Advertising