Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

TROTH WY'M MHEDWAR UGAIN 4…

News
Cite
Share

TROTH WY'M MHEDWAR UGAIN 4 OED. Ar drotjiwy'm mhedwar ugain oed, Yn awr wvi wedi rhoi fy nhroed, Yn llesg" a byr fy nghamrau; Adgoffa hyny imi'r ffaith, Daw terfyn cvn bo hir i'm taith, Ei mwyniant oil a'i chroesau. O'm hen gvfoedion hychan yw Y nifer heddyw sydd yn fyw; Y mwyrif o'u cystnddiau Groesasant at y mwyrif mawr, Eu plant a'u liwyrion, hwy yn awr Breswyliant eu hanneddau. Mi hoffwn eto roddi tro Yn awr i'm genedigol fro, Bro'r Dryshvyn, Dyffryn Tywi; Lle'n ddedwvdd treuliais t'oreu'm hoes, Heb deimlo gwg y byd na'i loes, Dan nawdd fy hoff rieni. 0 na chawn ran o'm nwyfiant gynt, Pan hoenus redwn ar fy hynt Ar lanau teg yr afon Svdd megys llinyn arian liir, A'í dyfroedd yn arianu tir Y dyffryn hardd a ffrwythlon. Pen Pisgah plant y Dryslwyn yw Y Castell sydd fel eadarn lyw Yn gwylio dros y dyffryn; Ei gaerog fur a'i lethrau serth, Bu dewrion yma'n herio nerth Ymosodiadau'r gelyn. Bum ar ei gopa lawer gwaith, Heh deimlo blinder ar y daith Wrth ddringo'i serthol risiau; Ffarwel i mi eu dringo mwy, Teuenctyd hoff, boed iddynt hwy Yn awr fwynhau eu breintiau. Yn awr fwynhau eu breintiau. W. DA VIES. Aberdar.

Nodion.

1——> ITABERNACL (B.), YtyYSBOETH.…

Scraps.

FOOD ECONOMY.I

I.O.C.T.

Trecynon and Llwydcoed .Notes.

THE CREAT INTERNATIONAL.

Advertising

Advertising

PARCH COFFA

UNITARIAN CHURCHES.

[No title]

ABERDARE ACTIVITIES.

OBITUARY.