Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

Nodion a Newyddion.

News
Cite
Share

Nodion a Newyddion. Mewn cystadleuaeth dro yn ol yr oedd un o'r ymgeiswyr wedi chwennych a dwyn eiddo ei gymydog. Ei ffugenw yn y gystadleuaeth oedd "Barabbas." Unig sylw y beirniad arno oedd, "A'r Barabbas hwn, fel y Barabbas hwnnw, oedd leidr." Rhaid taw hen wag oedd Barabbas yr ail neu ni fuasai yn defn- yddio y fath ffugenw arwyddocaol. Mewn cystadleuaeth am yr englyn beddargraff goreu darfu i'r bardd Cadvan unwaith ddarganfod pump o len ladron. Yr oedd y mwyafrif o hon- ynt wedi copio o weithiau beirdd ymadawedig. Dyna beth yw ysbeilio bedd y marw i roddi coffa i'r marw. Gwr mawr oedd y diweddar Bareh. Joseph Thomas, Carno—mawr o gorff a meddwl. Hyny efallai a gyfrifai am y duedd oedd ynddo i anwvbyddu, os nad i ddiystyru, yr hyn oedd fach. Unwaith pregethai mewn addoldy oedd heb fod yn fawr. Yr oedd yn tueddu at fyned i hwyl ac at godi ei lais pan yn sydyn yr edrychodd i nen y capel ac yna ar y gynulleidfa, ac meddai, "Yr wyf yn ofni gwaeddi yn y capel bach yma rhag ofn iddo ddod i lawr ar fy mhen i." Digiodd hyny rai o bobl y capel hwnw, ond diau nad oedd yr hen batriarch rhadlon yn meddwl amharchu neb na dim. Dro arall dvwedai blaenor wrtho, "Y mae gennym ni bregethwr rhagorol newydd ddod i'r gylchdaith." Digwydd- ai y pregethwr hwnw fod yn Zaccheus > o gorpholaeth er yn Saul o feddwi. Modd bynnag ateb Joseph Thomas ydoedd, "Mae yn gorff rhy fach o flaen cynulleidfa fawr." Nid oedd y gwr o Garno yn hoffi ymyrwyr chwilfrydig. Unwaith gofyn- odd un o'r cyfryw iddo ei oedran. Yr wyf bedair blynedd yn hyn nag Edward fy mrawd," oedd yr ateb. Yr oedd yr ymofynydd pryderus yn ben- derfvnol o wybod oedran Joseph, ac aeth i'r drafferth o weled Edward, a gofynodd iddo yntau ei oedran. Ateb hynw modd bynnag ydoedd, Yr wyf bedair blynedd yn ieuangach na Joseph fy mrawd!" Yr oedd y gwr parchedig yn gwneyd darpariaeth ar gyfer y ddau fyd. Er ei fod yn bregethwr diwyd ac yn fugail diflino ni chyfyngai ei egnion i dori bara y bywyd. Cadwai siop, ac hefyd masnachai mewn glo a chalch. Ni chymeradwyid hyny gan rai o gyd- bentrefwyr a gredent y dylai y rhai a bregethant yr efengyl fyw wrth yr efengyl. Efallai hefyd y buasai ei er- gydion Ilymion ar y tybacco yn dod gyda mwy o ras pe buasai yr ergydiwr yn ymatal rhag gwerthu y nwydd hwnw. Er ei fod yn meddwl yn fawr o'i en- wad nid oedd Joseph Thomas yn wr cul. Gwelsom ef yn gadael pritwyl ei enwad ei hun er mwyn bod yn bresenol yn nghwrdd sefydlu brawd o enwad arall, a mawrhai y gweinidog hwnw y deyrnged hono o barch o eiddo apostol Carno yn fawr. Yr oedd yn hynod o wreiddiol a ffraeth, ac ni cheid neb tebyg iddo i arwain cwrdd llenyddol. Collwyr gwael ydyw gwyr y "Sospan Fach." Gwnaethant dro ffol yn Bryste i gicio yn erbyn symbylau y beirniaid, fel y gwnaethant. Wedi colli y dydd collasant eu tymherau. Mae en hym- ddygiad yn warthrudd ar enw da Llan- elli gerddgar yn ogystal a Gwlad y Gan. Gadawodd v diweddar Syr Hubert von Herkomer, yr hwn a gymerodd ddyddordeb mor fawr yn yr wyI genedl- aethol, yn benai mewn cysylltiad a chelf, y swm o R41,139 ar ei ol. Sibrydir yn awr y bydd i Mr Vaughan Davies sydd yn cynrychioli Ceredigion (mewn enw) yn Nhy y Cyffredin, ym- ddiswyddo yn ffafr Mr Masterman. Diau mai doeth yn y gwr boneddig o Danybwlch fuasai cilio o'r maes i roddi cyne i wr ieuengach. Ond ai ni ddylai fod ei olynydd yn Gymro Dywed y "Western Mat)" nad oes llyfrgell gyhoeddus yn yr oil o Sir Ben- fro. Ai cywir hyn:- Dichon nad oes llawer o werth yn y D.D. Americanaidd, ond ffaith arwydd- ocaol ydyw mai, fel rheol, siomedigion ydyw y rhai a wawdiant etholedigion y radd, ac edliwiant mai grawnwin sur ydyw y ddwy lythyren. Mae Mr David Rowlands, a adna- byddir yn myd y gan fel Llew Maldwyn, wedi dod o'r W lad fa Gymreig am dro i wlad ei faboed. Ganwyd ef yn y Glas- bwll, yn agos i Fachynlleth, ac y mae wedi treulio 32 o flynyddau yn Mhata- gonia. Dywedai Tudno unwaith, Mao')' glodfawr Gymreig Wladfa- wedi gwel'd Gwaelder ar ei gyrfa." Ac y mae Llew Maldwyn wedi bod yn dyst o'r gwaelder hwnw ac o'r gwell byd a ddilynodd. Mae yn ewyrth i Mr .J. L. Rowlands, Swyddfa'r "Leader," Aberdar. Y Sul diweddaf darfu i'r Parch. H. Harries, D.D., Treherbert, a adna- byddir yn myd y beirdd fel Afanwy, hys- bysu ei eglwys yn Libanus ei tod yn bwriadu ymddeol o'r weinidogaeth. Mae Afanwy yn 82 mlwydd oed, ac wedi bod yn y weinidogaeth am agos i 60 mlynedd. Mae yn bregethwr melus ac yn fardd a llenor gwych. Merch iddo yw Mrs. D. R. Llewelyn, Fairfield, Aberdar. Hysbysir marwolaeth Mr Theodore Watts Dunton, wedi cyrhaedd oedran teg. Yr oedd yn gyfaill i George Bor- row ac i Swinburne. Teimlai ddyddor- deb mawr yn Nghymru, ac ysgrifen- odd dipyn am dani, fel ag y gwnaeth ei gyfaill Borrow.

Advertising

I..LINELLA U !

[No title]

Letters to the Editor.j

THE ABERDARE AND DISTRICT…

BLE MA FA?I

WELSH NATIONAL DRAMA.

Advertising

YR ADRAN GYMREIG.

Bethel (B.), Abernant.

---"'-------.-...4>.-B.W.T.A.

Colliery Development at Rhigos.

-...._-The Widening of Mill…

Advertising