Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

____.__n----ABERCYNON POLICE…

#_--.--Barddoniaeth.

News
Cite
Share

# Barddoniaeth. ER SERCHUS GOF Am Mrs. Elizabeth Hopkins, anwyl briod Mr Daniel Hopkins, Tudor Terrace, Gadlys, Aberdar. Dyma eto un yn rhagor At y Ilu a fu erioed, Liza Hopkins wedi ei galw'n Un ar ddeg a deugain oed; Mewn rhyw dawel ymollyngiad Hedodd i'w gorphwvsfa wiw, Cefnodd ar flinderau-'r anial, Pwysa fry ar fynwes Duw. Bu yn hir yn oedi'n nychlyd Ar lan vr lorddonen ddofn, Ond yn llaw ei Cheidwad anwyl Fe aeth drwyddi yn ddiofn; Heddyw mae yn mhlith y dyrfa Ar orielau aur y nef, Gyda hwv yn canu anthem— Anthem qjriad Iddo Ef." Aeth yn ieuanc iawn at grefydd, Bu yn ffyddlon yn ei dydd, A'i chyfeiliion pennaf yma Ydoedd gwerthfawr deulu'r ffydd; Ffyddlon fu yn nghapel Gadlys, Yn y cwrdd a'r Ysgol Sul, I Dengys ei chymeriad gloyw Iddi rodio'r llwybr cul. I Gwelaf hi yn ddynes hapus, Gwrid llawenydd ar ei grudd. Yn dynes u at yr allor Bore ei phriodas ddvdd Nef o serch oedd yn ei llygaid, A pharadwys yn ei gwen, Golwg ddygai adgof melys I edrychwyr penwyn hen. Hapus fu yr uniad sanctaidd, Dedwydd fu y ddynes gu, Cariad oedd yn llywodraethu Ar ei haelwyd gynnes hi; Gwerthfawr ydoedd hi i'w phriod Drwy helvntion blwvddi hir, Iddo bu yn goron berlog Yn eu taith drwy'r anial dir. Hoff berthnasau, na alerwch, Na thristewch, gyfeillion mad, Y mae heddyw uwch gofidiau Yn mwynhau y Ganaan Wlad; Nid oes yno boen na blinder, Nid oes yno wyneb trist, Pawb o'r dyrfa yn cyduno I glodfori Iesu Grist. CYFAILL.

Snaps from the Cinemas.

! Aberdare Cinema. i....--...-

---------------Glyn Neath…

[No title]

Advertising

ABERAMAN.

ABERDARE.

PENYWAIN.

ICWMDARE.

MOUNTAIN ASH.

PENRHI WCEIBER. j

ABERCYNON. '

------------.----. PENRHI…

FFARWEL Y BUGAIL.

Advertising

ABERCYNON.