Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

Priodas Arianaidd

News
Cite
Share

Priodas Arianaidd Y Parch, a Mrs. John Morgan, Aberdar. Ar y 7fed o'r mis hwn yr oedd y Parch, a Mrs. John Morgan, Bryn Seion, Trecynon, Aberdar, yn mwyn- hau ychydig seibiant yn ffynhonau Llandrindod. Daeth i wybyddiaeth y cwmni oedd yn trigo tros y gwyliau haf yn y Grange fod y ddeuddyn hapus y dwthwn hwnw yn sefyll ar randir gysegredig amser lie y tynir llinell rhwng a fu ac a fydd, lie y sibrydir am y da a gaed a'r gwych i ddod, lie yr adgofir am lu o ddych- mygion fu yn arianu llwybr bywyd, a phryderon fyrdd nad oedd iddynt sail, a'r man hwnw lie y tawel huna ami i freuddwyd melus na sylweddol- wyd mewn cyfnod chwarter canrif. Ffurfiwyd pwyllgor yn uniongyrch- ol i wneud trefniadau modd y gellid anrhydeddu yn deilwng y ddeuddyn da eu gair ar yr amgylchiad diddorol. Yr oedd llywyddiaeth y cyfarfod yn nwylaw Mr. Maddock, Plas Coed, Treforris, ac ar ol sylwadau rhagar- weiniol cymwys i'r amgylchiad, f,al- wodd ar Mr. H. E. Jones, Cemaes, Mon, i gynyg penderfyniad o longyf- archiad. Ar ol ei anerchiad ef galwodd ar Ir. Davies, Garreg- cefn, Mon, i eilio, ac felly syrthiodd i ran "Mon, Mam Cymru," yr an- rhydedd o longyfarch Deheuwyr, ac y bydd yn wiw ganddynt adgoffa am danynt flwyddi a ddaw, oherwydd y diymhongar a edmygir a'r dirodres a efelychir. Attegwyd y dymuniadau da c,an Mr. Williams, Llanelly; Mr Thomas. Llansamlet, a Mr Howells, Tredegar. Dilynwyd yr anerchiadau trwy i'r llywydd, ar ran y cwmni, gyflwyno anrheg o album prydferth ynghyda rhestr o enwau'r ymwelwyr oedd yn bresenol i Mrs. Morgan, a darlun gwych o'r ddau wedi eu hamgylchu gan y cwmni. Bu raid i Mrs. Morgan ddyweud gair mewn attebiad, a chafodd yr ychydig eiriau ddywedodd dan deim- ladau dwysion dderbyniad calonog y gwrandawyr. Dilynwyd trwy i Mr. Morgan, ei phriod hawddgar, adrodd profiad chwarter canrif mewn geiriau tra phriodol ac er bttdd y cyfarfod, a thystiai mai yr unig fywyd dedwydd posibl ydyw yr un sydd seiliedig ar undeb ag Iesu Grist. Ar ol i Mr. Morgan ddiolch am yr amlygiadau o garedigrwydd a ar- ddangosid tuag attynt, galwyd ar ei frawd, y Parch. Dd. Morgan, Aber- teifi. Datganodd ef ei hyfrydwch mawr o gael bod yn bresenol pan yr anrhydeddid ei frawd a'i chwaer gan gynrychiolaeth o Ddeheuwyr a Gog- leddwyr. Ar ol talu diolch i'r llywydd terfyn- wyd y cyfarfod mewn llongyfarch- iadau i'r ddau a anrhydeddid. H. E. JONES. Cemaes, Mon.

------ / Marwolaeth.

Gweledion a Chlywedion o I…

Cwmaman, Aberdar.

|Mountain Ash County Court.

Administration Orders.

Creditor & Debtor Argue the…

Goods Supplied.

Fitted on in Court.

The Reflector.

Advertising

Pat's Return.

Obituary.

Choir Conductor's Wedding.

Powell Duffryn Steam Coal…

Advertising