Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

HIRAETH-GAN

News
Cite
Share

HIRAETH-GAN Ar ol y diweddar Barch. J. R. Jones, D.D., Tabernacl, Pontypridd. O! mor hawdd yw mwydo'r ddaear Gyda dagrau hiraeth dwys, 'R hwn trwy Gymru fu flodeugar, -'R hwn a rodiodd gywir gwys; Bywyd oedd yn llawii o dlysni, Llawn o beraroglau drud, Bywyd pur fu yn arianu Bywyd gwyn oedd ar ei hyd. loan anwyl, mae holl Gymru Yn ei galar ar dy ol, Un o'i thanau wedi tewi, Un fu'n addurn yn ei chol; Mae y llais fu'n tanio Gwalia Weeli tewi yn y glYIl, Heddyw swyna'r nef-Gymanfa, Trwy rinweddau gwaed y bryn. Os yw'r delyn wedi tewi, 06 yw'r tafod heddyw'n fud, Mae ei enw'n perarogli Heddyw'n mhedwar ban y byd; loan Maelor Pwy angliofia Swyn ei eiriau. melus ef Pan oedd ar ei uchel hwyliau Yn cyhoeddi am y nef ? Pan y safai ar y llwyfan Yr oedd arno nefol wedd Yn cyhoeddi hedd i'r truan, Yn croesawi pawb i'r wledd; Dweyd am iawn y groes ar ddyled Am yr aberth drud a gaed, Am yr Oen aeth mor ddiniwed Dros y byd i golli ei waed. Pan y byddai yn croesawu Yr afrakliori. at ei dad, Ffrydiai'r dagrau fel yr heli, Collai'r galon fawr ei gwaed; 'Roedd ei eiriau a'i deimladau Mewn cydgordiad yn y gwaith, 'Roedd mor ddwyfol ei syniadau, Iaith y nef oedd ei brif iaith. Bu. fel Cedrwydd yn yr enwad, Arno pawb edrychai lan, Nefoedd oedd yn llon'd ei brofiad, N erthodd ef drueiniaid gwan, Bu fel tad yn llawn tosturi, En fel Iesu'r Ceidwad mwyn, Ar y tlawd ;1,)1' gwan bu)n gweini, Beichiau trymion wnaeth eu dwyn. Cafodd gan yr enwad. urddas, Titlau gafodd gan y llawr, Titlau'r byd oedd iddo'n atgae, 'Roe¿d ei feddwl yn rhy fawr; Meddwl 'roedd am ditlau'r nefoedd, Sef Offeiriad i Dduw Dad, Brenin yn ei nefol wisgoedd, Rhai a olchwyd yn y gwaed. Collodd enwad un o'i gewri Pan y collodd wr fel hwn, 'R hwn a'i dygodd a all roddi, Gwna y bylchau eto'n grwn; Os aeth cawr, mae tad y "iS&scri Heddyw'n aros eto'r un, Gwna yn Nghymru eto fagu Gewri mwy o deulu dyn. Eglwys Tabernacl, sychwch Ffwrdd eich dagrau sydd yn fyrdd, Nid oes yn y bedd dywyllwch, Byw mae Jones yn mhlith y myrdd; Huno mae, nid wedi marw, Nid oes meirwon yn y wlad, Bywyd byth heb drai na llanw Sydd o fewn i'r Ganaan fad. Berthynasau, peidiwch wylo, Sychwch ffwrdd eich dagrau trist, Arno ef gwnewch fythol bwyso, Sef eich Ceidwad lesu Grist; Fe addawodd na eha'r weddw NVr amddifad weled cam, Can mil gwell na thad mewn enw, Mae yn well na'r fam ddinam. C. BOWEN (Glowrh.b).

Nodion. -

ARE YOU THIN P

[No title]

Labour Jottings.

Advertising

iAberdare District Council…

Advertising

.-Miles's Annuai Outing.

Can Agnostics be! SocialistsP…

[No title]

-----__----------Merthyr Tydfil…

IJVJJRY WOMAN

Labour Jottings.