Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

EVERY WOMAN

Iforiaeth.

Review.

Aberdare and District Photographic…

Mining Students' Re-Union.

East, West, Home's Best.

[No title]

Advertising

ODLAU HIRAETH

Nodion.

News
Cite
Share

Nodion. Ymddengys fod y "Die Shon Dafydd a aeth i Lundain a'i ben mewn llathen i gynffon llo ar hyn o brvd yn lletya yn NGwlais, ac yn addoli yn adeilad y For- ward Movement yno. Ar y bwrdd hys- bysiadau eydd o flaen yr adeilad, cry- bwyllir am U Nos Farwth" a UNo" Ian." Ti-efn y gwasanaeth yn un o'r cyfarfodydd ydyw "Eglwsig." Nis gwyddom pa iaith ydyw y geirJau estron- ol a. ddyfynwyd, ond y mae y gweddill o'r argraph yn gymysgfa o Gymraeg a Saes ng. Saif yr hysbys-fwrdd hwn inewn lie amlwg ar fin y ffordd yn golofn goffa i'r iaith Gymraeg sydd yn awr yn farw yn Nowlais. Nis gwyddom pa gyfeiriad a rydd y mudiad i grefydd, ond gy "backward movement" Jdyw i iaith paradwys. Mewn sefydliad Cymreig yn Ohio, America, y mae pedair o eglwysi dan yr na weinidogaeth. Y gweinidogion ydynt y Parch. John Evans (loan o Feirion) u.'i briod, y Parch. Gwendolen Evans. Cyd- rhyngddynt bugeiliant y pedair eglwys gan ymresymu yn y ddwy iaith. Flyn- yddau un ol bu loan o Feirion yn weinidog yn Nelson, Morganwg, ac ysgrifenai lawer i newyddiaduron Cym- raeg. Credwn mai y cyfieithiad goreu o U pre- liminary announcement ydyw yr un a ddefnyddia Cymry Trecynon, sef rhag- hysbysiad." Y mae "Celtia," organ y Gymdeithas Geltaidd, yn lied lym ar ymddygiad Cymry Methodistaidd Llundain yn sefydlu achosion Seisnig yn y Brifddina,s. Dyma fel y dywed: —" Mae yn wir fod dwy ochr i gynygiad rhai ymysg Mjethodistiaid Calfinaidd Llundain yn nglyn a sefydlu Achosion Seisnig ym mhrifddinas y Sais, eto nis gall Cymro twymgalon weled y symudiad hwn heb gryn deimlad o brudd-der. Bu ein capel- au Cymraeg yn brif amddiffynfeydd ein hiaith a'n cenedlaetholdeb ar hyd y gan- rif ddiweddaf. Hwy, yn benaf, a fagodd gewri yr iaith. Tybed, a yw hanes y genedl vn Llundain mor anobeithiol a D hyn: y rhaid anfon allan o'n mysg ryw haid o Sais-Gymry F Os felly, mae rhag- olygon y Gymraeg am y dyfodol yn hynod dywyll. 'Ond,' dywed eiriolwyr yr Achosion Seisnig, 'edrychwn ar y mater o safbwynt grefyddol, ac nid o safbwynt yr iaith. Tyf llawer o blant i fyny yn ein heglwysi Cymraeg mewn, difaterwch crefyddpl a hyny o herwydd na ddeallant iaith yr oedfa yn gtwir.* Dyna fo! 'I bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo: Yna, gan nas gall y bobl ieuainc hyn ddeall yr oil sydd gan Ann Griffiths a Williams Pantycelyn i'w ddweyd wrthynt, cymerir yr oedfa Gym- raeg ymaith, gyda'r gobaith y ca'r to r.ewydd ryw dipyn. o flas ar Sankey a Mcody. Wel, dyna Philistiaeth, a hyny gan Gymry Methodistaidd Llundain. Peth ddywedai James Hughes, D. Charles Davies, ac Owen Thomas am hyn? Nis gall awyrgylch oer a 'genteel' yr oedfa Saesneg gyda'i thouau di-afael foddio enaid Cymro, nac ychwaith enaid y Sais ei hunan yn hir. Try rhan fwyaf hyd yn oed o'r Saeson oddiwrth y capei ym. l'eillduol Seisnig a Sankey a Moody, at fFurfiaeth yr eglwys; haner-Pabyddol neu at wamalrwydd a serthni y lleoedd a elwir 'neuaddau cerddoriaeth: Credwn mai nid rhwng Pantycelyn a Sankey a Moody y bydd raid i Gymry ieuainc tren mawrion Lloegr ddewis, ond rhwng Pantycelyn a Marie Lloyd. A'r ffordd oreu i'w rhieni, naturiol a chrefyddol, ydyw dysgu iddynt ddigon o'r Gymraeg i ddeall ac i hoffi Pantvcelyn." Torf o gerbydau'n tvrfu,—heibio'u myn'd Heb un march i'w tynu; Ager yn dod o gorn du, An wn megys yn mygu. Y tren, wrth gwrs, ydyw y testyn, a Hiraethog ydoedd awdwr yr englyn. Nid oedd y bardd o Lansanan yn gyngaaii- eddwr mawr, ond gallai englynu yn naturiol, peth na fedr llawer o seiri cjnghanedd yn y dyddiau mursenaidd hn. Pan ydoedd Mynyddog yn amaethu y Fron, Llanbrynmair, gwnaeth hen gym- ydog o Lanerfyl gais am gi sodli oddi wrtho. Cymerodd y cais y ffurf englynol a ganlyn:— Ci eodlau go ddechau, fe ddichon,a A'i goesau'n lied fyrion; (geisiaf, Hwnw i gyd o fryd y Fron, Yn gas odiaeth wrth goes eidion. Hen fardd gwledig arall, wedi colli llwdn, a hysbysodd ei golled mewn cynghanedd fel hyn: — Llwdn bach llwyd yn ei ben,—corniog. Ac arno lythyren, Ar ei glun mae un N, Yn delio'n nolydd Dolwen.