Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
YR ADRAN GYMREIG.
YR ADRAN GYMREIG. Y Gwir yn erbyn y Byd." Gwahoddir cynnyrehion i'r Adran hon. Pob gohebiaeth i'w anfon i Swyddfa'r "Leader," Aberdar.
TALEFYDD A'B ORSEDD.
TALEFYDD A'B ORSEDD. Paham na fuasai Talefydd yn derbyn urdd farddonol yr orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Mountain Ash, 1905 ? Y llinellau hyn a rydd yr ateb. Ceisiwyd ganddo wneyd barddoniaeth. i'r pwrpas. 'R aur gym'rodd, taflodd yn tan, y 110 hwn a ddð allan. Defodau yr orsedd- Nid clod ac anrhydedd Ond gwagedd i gyd; Nid nod o ddysgeidiaeth, Ond eilun addoliaeth. Ac olion derwyddiaeth Yn helaeth o hyd. Y grefydd aruchel Oedd gynt gydag Israel Sy'n isel a sal; Aeth. hon dan waradwydd A gwarth yn dragywydd, Pan droiodd y derwydd Annedwydd at Baal. Nid syndod, deallwch, Fod hwn mewn tywyllweh A duwch di-wawr; Ond syndod fod ninau Yn Nghymru wen, oleu, Yn cadw defodau 'R hen dadau ar glawr. Diddymwch yr orsedd, A phurwch y llygredd, Anrhydedd fo'n ben; Alltudiwch dderwyddiaeth Ac eilunaddoliaeth, Rho'wch barch i ddysgeidiaeth, Cerddoriaeth, a lien. Pan dderfydd y dwli C'wyd cenedl y Cymry I fyny'n y fan; 'Rol claddu y duwiau A'r seremoniau, Fe gwyd 'r eisteddfodau Eu penau i'r lan. Gorsedd fawr, yn wir, gorsedd fad-i Dduw Oedd hon o'i dechreuact; Abraham, ein dinam dad, A daenodd yr ordeiniad. Gorsedd dda, ie. gorsedd Ion-a hagrwyd Trwy lygredd derwyddon; O! waith hyll! i Baal aeth hon, Y garw faen a'r goron. Ys rhaid ydoedd gwneyd plant Israel-yn llawn Deuddeg llwyth aruchel; Eu hach a'u henw uchel Godnodwyd, gernwyd heb gel. Y deuddeg careg arw-a gafwyd I gofio eu henw; Codwyd 'rhain er mwyn cadw Eu nhawdd a'u nod iddi nhw. Llygredigaeth gaeth, ni gawn,-a'n hysodd Mewn oesau yn gyflawn; A'r orsedd mewn llygredd llawn A gafwyd ddim yn gyfiawn. A Baal, y brenin salw,— ei ystum. Yn eistedd fel delw; Y duw mawr, ond duw marw, Ni cheir lien o'i ben na bw. Mor ddwl i'n feddwl ei fod,—wag eiluI, Yn gwylio ein defod, Yn rhoi deddf i'r eisteddfod, Heb un dust i dderbyn clod! Er mwyn clod eisteddfodau—ni ddylech Addoli y duwiau; Gwnaed derwydd a'i gelwydd gau Ei drig mwy gyda'r dreigiau. Dyfais o eiddo'r diafol,—a gwres 0 ffwrnes uffernol, Ydyw clod eisteddfodol, Ow! goegaidd ffug, gwagedd ffol.
BYWYD YN Y WLAD.
BYWYD YN Y WLAD. Yn nghol y wlad mae blodau tlws, Eu sawr sy'n peraroglu'n mhell: Nis gallaf ffroeni dim sydd well Na blodau teg o gylch fy nrws. Os ydyw'r bwthod bach yn dlawd, Mae'r blodau pur yn berlau byw; Rwy'n gweled ynddynt ddrych o'm Duw Yn sibrwd purdeb wrth fy nghnawd. Sancteiddrwydd perffaith heb ddim rhith A welaf yn y blodau gwiw, Nid ydynt ond delweddiad byw 0'1' cariad Dwyfol yn ein plith Pan af i blith y blodau mad Mae hyny'n gwneyd i f'enaid gwan I gofio am y gerddi ban Sydd uwch y wybren gan ein Tad. Arweinia'r blodau tlws fy ngwedd I fynu'n union at fy Naf, 'Rhwn liwiodd rudd y rhosyn braf, 'Rhwn wnaeth y lili'n ardeb hedd. 0 na chawn fyn'd i'r wlad i fyw, A threulio foes mewn cywair lion, Heb unryw ofid tan fy mhron, Yn nghwmni Naf a'r blodau gwiw. Er fod y bwthod bach yn llwm, Tawelwch eydd ar hyd y dydd I unrhyw fardd i ganu'n rhydd Ar gopa'r bryn ac yn y cwm. Mae cerdd yr adar bach yn fwy Ei swyn na holl delynau'r byd, Mae'n cynghaneddu drwyddi'i gyd Heb unrhyw ddisgord i wneyd clwy'. Abercynon. Ehedydd Bach.
Advertising
Gwneir pob math o Argraffwaith yn destlus a rhad yn Swyddfa'r LEADER.
t Nodion Cyffredinol.
t Nodion Cyffredinol. Y mae yr arferiad o 'ddyblu'r gan' wedi gafaelyd yn gryf yn enaid y Cymro addol- gar. Wrth osod ceryg sylfaen eglwys ieuanc Noddfa, Mountain Ash, ddydd Llun wythnos i'r diweddaf, canwyd am- ryw weithiau. Yr oedd y tywydd yn oer- lym, ac edrychai .y rhan fwyaf fel pe bron a sythu. Ond wedi'r cyfan yr oedd digon o wres yn y gynulleidfa i ganu drosodd a throsodd gwpledau olaf rhai 0'1' emynau. Yn marwolaeth y Parch. D. Lloyd Jones, Llandinam, collodd y pwlpud Methodistaidd yn Nghymru un o'i gedyrn. Efe ydoedd mab ieuangaf y di- weddar John Jones, Talysarn. Er nad ydoedd yn feddianol ar hyawdledd seraph- aidd ei dad, yr oedd ei bregethau yn neill- duol o addysgiadol a sylweddol. Cymerai ddyddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, ac ysgrifenodd lawer ar wahanol destyn- au gwyddonol i gyfnodolion Cymreig. Yr oedd yn efrydydd diwyd ac yn sylwedydd craff. Mewn gwleidyddiaeth yr oedd yn Un- debwr, ac yn yr adeg pan rwygwyd y blaid Ryddfrydig yn ddwy gan helynt Ymreol-f aeth i'r Iwerddon, cymerodd Mr. Jones yr un olwg ar bethau a'i gymydog enwog, Mr David Davies, Llandinam, gan ymdrech yn erbyn Home Rule hyd at waed. Dechreuodd bregethu yn ieuanc iawn- cyn ei fod yn 17 mlwydd oed. Nid ym- enwogodd Mr. Jones fel bardd, er iddo fod yn eistedd wrth draed Eben Fardd pan oedd awdwr enwog "Dinystr Jeru- salem" yn cadw ysgol yn Nghlynog. Gadawodd Dr. Barnardo yn ei ewyllys y swm o £ 13,485. Gadawodd gan punt yr un i'r ysgiitorion, ac o'r gweddill 0'1' ystad y mae un ran o ddeg yn myned at y cartref i blant amddifaid, yr hwn oedd dan ei ofal yn ei fywyd, a naw rhan o ddeg yn myned i'w weddw. Y mae y tymhor o'r flwyddyn wedi dod pan y mae Byrddau Gwarcheidwaid yn arfer cael cryn ddadleu o berthynas i gwrw gwyliau-a ydyw y tlodion yn y tlotdy i gael dyferyn o ddiod gadarn am unwaith yn y flwyddyn. Yn Medwellty yr oedd cwrw un radd yn gryfach na dwfr. Pasiwyd drwy fwyafrif o un bleid- lais i roddi cwrw i'r sawl a'i cara. Yn ein rhifyn presenol y mae Talefydd, Aberpennar, yn lied lawdrwm gyda'i fflan- gell o fan reffynau ar yr Orsedd Gymreig. Y mae 11awer o gondemnio wedi bod ar yr orsedd a'i defion gan "utilitarians" ein gwlad. Haerant mai eilunaddoliaeth ydyw gwasanaeth y cylch cyfrin, ac mai ffwlbri plentynaidd ydyw yr hyn a wneir o fewn y meini. Ond, a chaniatau fod tarddiad yr or- sedd yn baganaidd, beth waeth am hyny? Cofier am y perl o enau Ilyffant. Ai nid oes llawer o drysorau y grefydd Grist- ionogol wedi eu cloddio yn anialdir pagan- iaeth? Ai nid pagan ydoedd awdwr y "rheol euraidd?" Na fyddwn ry ymar- ferol. Rhoddwn ychydig Ie i'r henafol. y prydferth a'r cyfrin yn rhagien ein bywyd cenedlaethol, ac na oddefer i dra- ddodiadau cysegredig perthynol i oes fwy cfergoelus ond llai mursenaidd fyned ar ddifancoll. Ai ni fyddem wrth roddi i fyny yr or- sedd a'i defion yn tueddu i wneyd ymaith ag un o'n nodweddion cenedlaethol sydd yn ein gwahaniaethu oddiwrth genhedl- oedd ere ill ? Mawr yr ymdrech i gadw yn fyw yr iaith Gymraeg am y byddai tranc yr hen iaith, meddir, yn ergyd i'n cymer- iad eenedlaethol. Ai nid yw cadwraeth y cylch cyfrin mor anhebgorol a chadwr- aeth ein hiaith, yr hon sydd lawn mor gyfrin i ddieithriaid? Yr oedd dydd Gwener diweddaf yn ddi- wrnod o ddiolchgarwch cenedlaethol yn Japan—diolchgarwch am derfyniad bodd- haol y rhyfel. Aeth yr Ymherawdwr y diwrnod hwnw i gyntedd sancteiddiolaf ei deml i fynegi i ysbrydion ei hynafiaid der- fyniad yr ymdrech a gelynion ei wlad. Y mae Pastor Houghton yn para i greu cynhwrf yn Sir Gaer. Y mae wedi bod wrthi ynj NyffrTfn Aman yn gwneyd gwyrthiau mawr a honiadau mwy. Con- demnia. rhai papyrau afreoleidd-dra y cyfarfodydd—nifer o bersonau yn siarad yr un pryd. Ond beth sydd yn rhyfedd yn hyny? Ai nid afreoleiddiwch o'r fath ydyw rheol cyfarfod adfywiad ac anheb- gor diwygiad yn y dyddiafa trystfawr hyn? Rhyfedd fod rhai sydd yn honi gallu gwyrthiol a gweledigaethol yn. dangos y fath wrthwynebiad i Pastor Houghton i wneyd gwyrthiau. Os ydyw consuriaeth yn un o elfenau crefydd, paham y can- iateir i un ei arferyd er gogoniant Duw ac y gwaherddir y llall? Ai eiddigedd sydd wrth wraidd hyn? Y mae hyrwyddwyr Eisteddfod Genedl- aethol Abertawe yn rhoddi "advertise- ment" am ysigrifenydd i'r eisteddfod, y gyflog i fod yn gan' punt, ac am ysgrif- enydd cerddorol, y gyflog i fod yn .£50. Rhaid i bob un o'r ddau fod yn ddwy- ieithog. Pa bryd y mae awdurdodau yr orsedd yn myned i roddi "advertisement" am Archdderwydd? Y mae cwacyddiaeth ysbrydol yn myned ar gynydd. Syndod' ydyw gweled dynion o ddiwylliant yn cefnogi y "cheap jacks" crefyddol ydynt yn myned ar hyd y wlad gan farchnata ar natur hygoelus ac ofer- goelus pobl weiniaid. Un o brif gefnog- wyr y Pastor Houghton pan ydoedd yn cynal ei arddangosfa yn Nghaerfyrddin
Advertising
Drink Horniman's Pure Tea. In Packets only. 1/6 to 3/6 per lb. Sold by— ABERDARE, T. Lloyd, Grocer, Commercial St. (Wholesale and Retail) Hiley's Cash Stores, Canon street Tom Evans, Grocer, Whitcombe street Phillips, Grocer, Victoria square E. E. Evans, Chemist, do. W. H. Jones, D. Phillips, Grocer, Canon street D. Watkins, „ Cross street Rees Jones, „ Ynyslwyd street D. Evans, Royal Stores, Gadlys road D. E. Davies, Grocer, „ CWMDARE, D. Edwards, Grocer TRECYNON, J. R. & J. Smith, Chemists CWMBACH, Co-operative Society ABERAMAN, T. Roberts, Grocer, Lewis street T. Maddy, Grocer, Cardiff road Co-operative Society J. W. Evans, Grocer, Cardiff road CWMAMAN, Co-operative Society PENRHIWCEIBER, Morris & Son, The Stores M. Isaac, Family Grocer MOUNTAIN ASH, Cwmbach Co-operative Scy. J. Long, Grocer D. Smith Oxford street N. Thomas T. Bowen, Jeffrey street Duffryn Co-operative Society CAPCOCH, Co-operative Society GODREAMAN, P. Thomas, Grocer
-.__-----_. Marwolaeth Watcyn…
Marwolaeth Watcyn Wyn. "Hwfa a aeth i'r nefoedd, A da genyf glywed oedd." Dyna y ddwy linell a anadlodd Watcyn Wyn-y diweddar Watcytn Wyn erbyn hyn-pan glywodd fod ei gyd-fardd anwyl Hwfa Mon wedi blaenu. Dyna y cwpled diweddaf a gyfansoddodd y bardd o Ryd- aman, i'r "nwil yr oedd nyddu cynghan- eddion mor llaturiol ag ydoedd nyddu gwlan i fwthynwyr Gymru Fu. Am gynghaneddion tarawiadol a ffraethbert pwy a'i curai? Y mae rhywbeth yn arbenig ac eitlir- iadol yn y ddwy linell yma. Nid oes nod galarnad ynddynt. "Drwg genyf glywed" ddywedasai pawb arall yn mron. Ond yr oedd Watcyn Wyn ar fin y dwr pan ddaeth i'w glustiau fod Hwfa wedi croesi. Bu y ddau Eisteddfodwr enwog yn cyd-oedi'n nychlyd yn hir. Hwfa a laniodd yn mro y goleuni gyntaf. Llawen- ychai ei gyfaill cystuddiedig wrth feddwl fod Hwfa "yn iach heb boen na braw," ac ymlonai yn y rhagbrofiad o uno gydag ef cyn hir. Yn Aberpennar eleni yr oodd dau fwlch mawr yn y cylch cyfrin, ac erbyn hyn y mae dwy adwy lydan yn rheng flaenaf barddas Cymru. Son am "man of many parts," dyna engraifft ragorol o hono yn Watcyn Wyn. Yr oedd yn fardd—caeth a rhydd, Ilenor, beirniad, athraw, pregethwr, darlithiwr, ac yr oedd yn eisteddfodwr yn ystyr lawn- af y gair. Y mae y Cymro fel rheol yn "many-sided genius," ond anfynych y ceir hyd y nod Cymro mor amlronglog a Watcyn. Gwnaeth nod fel pregethwr as athraw. Efe ydoedd Elias ysgol y prophwydi yn y Gwynfryn. Pa le y mae Eliseus i dder- byn ei fantell? Yr oedd yn bregethwr, ond nid yn bregethwr poblogaidd, am ei fod, fel Rhys Lewis, yn anabl i ganu. Ni ddechreuodd Watcyn Wyn bregethu hyd nes ydoedd yn ddeg ar hugain oed, ac yr oedd flwyddyn yn hynach pan aeth i'r coleg. Ond yr oedd elfen dysgu ynddo, a daeth yn ysgolor dan gamp. Yr oedd y bardd o R,ydaman yn fardd telynegol yn ystyr lythyrenol y term. Pa fardd a allai gyfansoddi penillion telyn mor swynol ag eiddo Watcyn Wyn? Pa bryd y clywyd gwell "blend" o gerdd felus a sain soniarus nag ar danau y delyn pan ydoedd Eos Dar yncanu penillion y "dyn gwyn" o Rydaman? Un adeg eisteddodd Watcyn Wyn mewn cadair genedlaethol, sef yn Eisteddfod Genedaethol Aberdar 20 mlynedd yn ol. Ar ei goryn ef hefyd y dodwyd coron Ffair y Byd, pan y cafodd ei gyfaill Dyfed y gadair. Yr oedd ganddo ystor ddihysbydd o arabedd, a medrai daflu pelydrau llonder i bob cynulliad. Tafled y Nef belydrau eysur ar aelwyd ei deulu galarus.
Cymdeithas y GeninenI Werdd.,I
Cymdeithas y Geninen Werdd. 1 Cynaliwyd cyfarfod cyffredinol y Gym- j deithas uchod Nor, Fercher, Tachwedd 15, pryd y darllenwyd papur gan y Llywydd (Gwynwawr) ar HBwdredd breninol yn ngoleuni 'Can y crys. Dywedodd wrth gychwyn mai ei amcan wrth ddyfod a thestyn mor hynod o flaen y gymdeithas ydoedd, nid er mwyn gwi euthur ymosod- iadau personal ar aelodau y teulu bren- hinol, ond er mwyn dangos annghysondeb yr egwyddor o gadw cymaint o bersonau yn segur, ar draul y tlodion, i raddau helaeth, y rhai oedd yn dvocldef yn ami o eisieu bwyd. Pwy eynwyr oedd mewn cadw llu mawr o bersonau mewn cadeir- iau esmwyth, a hyny nid oddiar unrhyw haeddiant o'u heiddo, ond oblegyd fod eu cyn-deidiau wedi trechu a gormesu y rhai oedd yn llai ffodus na hwynt, tra yr oedd byddin fawr yr annghyflogedig heddyw ar hyd ein gwlad yn edrych am waith, ac yn methu ei gael. Credai ef yn athraw- iaeth Paul: "Os byddai neb ni fynai weithio, na chai fwyta chwaith" (2 Thess. iii., 10), ac yr oedd yn beiddio dweyd hefyd fod Duw ei hun yn werin-lywodr- aethwr (democrat), o herwydd dangosodd hyny yn eglur yn ei ymdriniaeth a Phar- aoh, pan oedd plant Israel yn yr Aipht. Cyfeiriodd hefyd mewn dychymyg at y gwelliantau fyddai yn cymeryd lie pe llywodraethid y wlad hon gan y bobl, a phe ddiddymid Ty'r Arglwyddi. Yr oedd yn ddychrynllyd i gyplysu'r ffaith fod .2620,000 yn cael eu gwario bob blwyddyn gan y wlad hon i gynal y teulu breninol, gyda'r meddylddrych fod llawer un yn pwythu ac yn gwneuthur amwisg iddi ei hunan, tra yn gwnio sidanau a dillad i'r cyfoethogion, fel y portreadwyd yn nghan anfaiwol Tom Hood. Gobeithiai fod cyf- nod newydd ynaros ein, gwlad ni, a theim- lai y buasai yn ddigon o dal iddo ef am ddarllen y papur, pe bai yn deall fod un wedi ei "eni" o'r newydd igredu mewn gwerin-lywodraeth y nos hono. Ar ol yehydig, eiriau galwodd Mr. Dd. Davies, Cwmbach (y cadeirydd am y noson), ar yr aelodau i roddi eu gwahanol farnau ar y pwnc dan sylw. Dywedodd Mr. J. Lewis (Ap Gwalia) ei fod mewn perffaith gydymdeimlad a thes- tyn Gwynwawr, ond nad oedd yn hollol yr un farn ag ef parthed efelychu gwled- ydd gwerin-lywodraethol. Yr oedd y fren- hiniaeth, yn ddiau, wedi bod yn farn i lawer teyrnas, ond rhaid cofto ei bod wedi profi yn fuddiol i tai teyrnasoedd hefyd. Meddylier am yr Unol Dalaethau, Amerig, er enghraifft. Dyna wlad sydd heb gael brenin o gwbl, ond nid yw ei llywodraeth nemawr gwell nag eiddo Prydain Fawr, oherwydd fod Tammany yn ffynu i gym- aint graddau yno. Rhaid i'r werin gael eu haddysgu yn uwch nag yn bresenol cyn y gallesid mentro'r llywodraeth yn eu dwylaw. Yr oedd hen ddiareb gan y Cymry yn dweyd fod tair oes derwen yn cyfansoddi oes teyrnas, sef, 900 o flynydd- oedd. Os felly, a chyfrif fod y frenhin- iaeth bresenol wedi ei sefydlu yn amser William y Concwerwr, dim ond 61 o flynyddau oedd genym eto cyn y gallesid disgwyl i'r wlad hon ddilyn esiampl Ffrainc, etc. Mr. W.T. Roberts: Ni chredai ef mewn gwneuthur cyfnewidiadau o'r fath hyn yn sydyn. Yn gyntaf yr oedd eisieu meithrin meddyliau y werin anwybodus yn raddol fel y gallasent wel'd buddiol- deb hunan-Iywodraeth. Mr David Davies, Hill-street: Yr oedd gwyr Prydain Fawr yn fwy pwyllog ac ystyriol yn nghylch y mater hwn na phobl gwledydd ereill. Edrycher ar Rwssia, yr hon oedd yn berwi trwyddi gan deimlad y werin—terfygoedd ae au- foddlondeb oedd yn nodweddu ei bywyd hi fwyaf; yr un modd Germani, lie yr oedd efrydwyr wedi meddwi ar Sosialaeth, ac yn gwneyd eu goreu i greu cynhwrf a chwyldroad yn mhlith y bobl. Nid oedd breniniaeth Lloegr wedi bod yn hollol an- fanteisiol iddi. Meddylier am deyrnasiad Alfred, Elizabeth, a Victoria. Daethant i'r orsedd megys yn bwrpasol i gwrdd ag angeni heidiau pobl oedd mewn angen am arweinydd doeth a da. Y ffurf oreu ar werin-lywodraeth fuasai cael y bobl i weithredu yn ol deddf eu natur foesol, ar wahan oddiwrth gyfraith wladol neu orfodaeth ymherodrol. David Davies, Ysgrifenydd pro. tem.
The Woman who feels well eats…
The Woman who feels well eats well. Those who take Dp Williams' Pink Pills become well. DR WILLIAMS' PINK PILLS FOR PALE PEOPLE have cured a violent form of in- digestion the young lady whose portrait is given below.—Mddle. Helene Coulloux, of 22, Rue Gondiment, Limoges, France. MDLLE. HELENE COULLOUX, Cured by Dr. Williams' Pink Pills. For about eighteen months," she states, I suffered intensely from weak digestion. I could not digest even the lightest forms of food, and I gradually lost strength My weak- ness be- came so pronounced that" after the least ex- ertion I gasped for breath. At last I could eat practically nothing, I lost weight, was nervous, and obtained little sleep. After trying in vain all sorts of remedies, and when in despair of being cured, I was advised by a friend to take Dr Williams' Pink Pills. I did, and after two boxes I was com- pletely cured. I regained a good colour. an excellent appetite, a perfect di- gestion, and the strength that comes with new blood." All women, all young girls, desire the good health that makes them attractive. If they are not well they lose their charms, especially if they suffer from bloodlessness or indigestion. The anEemic sickly woman carries the traces of suffering in her face. Her complexion is sallow, her eyes sunken with dark circles, while sick headaches and pain after any exertion make her wrinkled and aged. The woman who derives no benefit from food bejomes thin and loses her figure. Indigestion is one of the principal causes of insomnia; con- sequently anaemic women who cannot digest food lose strength daily, and at night obtain little or no rest. Dr Williams' Pink Pills cure ruined digestions. They impart an appetite, fortify the system and restore lost strength. Dr Williams' Pink Pills achieve this result by their wonderful action on the blood, which they enrich and renew. Under the influence of this pure, rich blood the vital organs are strengthened. In this way, and by their tonic action on the nerves, Dr Williams' Pink Pills have cured repeatedly anemia, indigestion, consumption, eczema, rheu- matism, sciatica, St Vitus' dance, paraljsis, locomotor ataxy, and ladies' ailments. Sold by all dealers (but take care that the full name, Dr Williams' Pink Pills for Pale People, is on every package) or direct from Dr Williams' Medicine Co., Holborn-viaduct, London, post free for 2s 9d a box, or six boxes for 13s 9d.
Advertising
THE GREAT SKIN CURE. BUDDEN'S S.R. SKIN OINTMENT will cure Itching after one application; destroys every form of Eczema; heals old Wounds and Sores, Chilblains; acts like a charm on bad legs; is infallible for Piles; prevents cuts from festering; will cure Ringworm in a few days; removes the most obstinate Eruptions and Scurvy. Boxes, 7 £ d. and Is. ltd. Agents: Amber- dare, W. H. Jones, 3, Victoria-square, and Emrys Evansi, chemists; Hirwain, W. A. George, chemist; Aberaman, E. Evans; Mountain Ash, Williams. DOCTOR Good morning, Nurse, how is patient's cough? NURSE I regret to say, Doctor, the patient's cough is not any better. DOCTOR: Purchase immediately a bottle of the Best Remedy I know of. It will save life at a critical moment- A MiRAcuLous b CHEST, COUGH, i AND ¡ | I THE GREAT LUNG I TONIC AND j 0-a LIFE SAVER. HEALERt -I Read what the Minister says: "I beg to add mv testimony to your invaluable preparation- DEAKIN'S MIRACULOUS CHEST, COUGH and LUNG HEALER. It possesses marvellous properties, and gives instant relief to Coughs, Colds, Hoarseness, Difficulty of Breathing, &c.. &c. It is very bene- ficial, and has proved for many years a boon to the working classes." t Your Life HEALTH, HAPPINESS, WEL- FARE and comfort depend on the GENUINE ORIGINAL REME- DIES. Beware of injurious imita- tions and substitutes, and of the dealer who tries to deceive you and sell you spurious, worthless, and injurious mixtures. G. DEAKIN & HUGHES. 1 Carefully examine and notice that 1 every Bottle, Label, Box and Wrapper 1 bears the Trade Marks, Wording, ] Titles, together with our Name, to copy, imitate, or tamper with which is forgery and fraud. Any person or persons causing infringe- ment of aforesaid will be prosecuted according to law. » SoLE Proprietors— Prices 1/1i & 2/3 G Deakin & HugheS) POST PAID, 1/3 and 2/6. The Inflammation Remedies Co., Of all Chemists and Stores. BLAENAVON. Local Agent: IVlr. E. EMRYS EVANS, Victoria Square, Aberdare. T. BROWN Practical Joiner, Shop Fitter & Ceneral Undertaker 24, Cardiff St., Aberdare. ALL ORDERS PERSONALLY ATTENDED TO. A. J. PADDOCK, PLUMBER & GAS FITTER, 24, Cardiff Street, Aberdare. All Orders Promptly attended to. Moderate Charges. THE CHILDREN'S MOTOR. tbSL Healthy Exercise and Lots of Fun. [nspect our Window! GRAND ASSORTMENT OF LARGE Toys. Repairs done to all domestic machinery. PHONOGRAPHS AND RECORDS. Largest Stock in Wales. New Records up-to date. Cash or easy payments, 2 Cardilff PARKER BKOS.,62s £ ee?r ABERDARE. Important Notice to Parents & Guapdians- Aberdare School of Commerce. Mr. MARSHALL, F.Inc.S.T., etc., Principal of the Aber- dare School of Commerce, has duly completed arrangements to conduct Intermediate and Technical day classes at Mountain Ash and Aberdare. All desirous of availing themselves of the advantages of these classes should communicate with the Secretary, Mr. J. PUGH, A.P.S., 4, Cefn Place, Aberdare, on or before the 25th inst. In addition to the above classes, candidates are also prepared for Com- mercial and Civil Service appointments by expert tutors. Shorthand Classes are held at the Penrhiwceiber Institute on Saturday evenings at 6 p.m. For further particulars respecting our Competitive Examination in January, 1906, apply to Secretary as above. INCREASED BONUS FOR TEA DRINKERS "1 1.. I TRAORL #4ARK. INCREASED BONUS FOR TEA DRINKERS The Ðld eastle Tea eo. encouraged by the SUCCESS of their Bonus System, hitherto applied to the highest price only, are now including in their offer teas sold at 2/- and 2/2 t>er lb and EACH QUARTER POUND PACKET at 2/- and 2/2 per lb will be found a W BONUS CHECK WHICH SHOULD BE CAREFULLY PRESERVED for the following reasons:— As an inducement to the Public, and to further increase the sale of OLD CASTLE TEA during the years 1904, 1905, and 1906, we, the OLD CASTLE TEA COM- PANY, undertake to GIVE AWAY IN EXCHANGE for OLD CASTLE "Checks" as follows:- checks. A magnificent Real Gold Gent's Watch, Guaranteed Jewelled Movement for 2000 „ Real Gold Lady's Watch „ M (| for 2000 „ Real Silver Gent's Watch „ M for 480 „ Real Silver Lady's Watch „ M M for 480 „ Small Silver Gent's Watch, Good Timekeeper for 240 „ Small Silver Lady's Watch M M for 240 Oxydised Steel Gent's Watch „ lf for 200 „ Gilt Lady's Watch „ for 200 Checks. 1 Case containing 1 Pair Carvers and Steel r.0 for 480 1 „ „ 6 White-handled Table Knives for 48d 1 6 Electro Silver-plated Table Forks for 480 1 II 6 Electro Silver-plated Dessert Forks for 400 1 «t It 6 White-handled Dessert Forks o. for 400 1 »» •> 6 Electro Silver-plated Tea Spoons and Sugar Tongs for 300 A Magnificent Electro Silver-plated- Checks. Checks TeaPot •• for 240 Breakfast Cruet •« •• f°r Hot Water Jug for 240 Toast Rack for 120 Sugar Basin .0 for 200 Jam Bowl and Stand for 120 Cream Jug. for 200 Pair of Sugar Tongs and Sifter for 100 Butter Dish and Knife for 150 Pair of Salt Cellars for 100 These goods are only given to the public consumers of OLD CASTLE TE, and will be sent DIRECT TO THE CONSUMERS ONLY. The Checks must be sent up direct to the OLD CASTLE TEA COMPANY, 8 CROSS LANE, EASTCHEAP, LONDON, E.C.. or to the South Wales Branch at QUEEN STREET, CARMARTHEN. All Checks bear the Signature of the Company across Trade MarJk, 1W FREE SAMPLE ON APPLICATION. Agent: Mr Emrys Evans, Chemist, Victoria. Square, Aberdare.
t Nodion Cyffredinol.
ydoedd y Professor Keri Evans. Efe a'r Parch W. S. Jones oeddynt fel Aaron a Hur yn dal. i fyny freichiau apostol ffug pan yr oedd yn tueddu i laesu dwylaw yn ngwyneb amheuaeth dynion call. Mewn cyfarfod yn Nghaerfyrddin ed- liwiodd rhywun i'r gwneuthurwr gwyrth- iau ei fod yn derbyn tal uchel am ei waith pan y proffesai ei fod yn cyfranu ei rin- wedd iachaol heb arian ac heb werth. Atebodd yntau ei fod mewn rhai achosion yn gorfod talu dwy gini yr wythnos i nurse. Ond y cwestiwn a ymgyfyd yn naturiol ydyw, oa ydoedd Houghton yn iachau drwy ffydd, pa angen am nurses no, moddion na dim arall? Nid rhyw swynwr neu gonsurwr cyffredin ydyw "Dowie yr Ail," fel y gelwir ef yn gyffredin. Nid ymfoddlona ar iachau anhwylderau, ond gall gyfodi y meirw, ac addroddodd i'w wrandawyr hygoelus pa fodd y darfu iddo waredu b.achgen ieuanc yn Lloegr o randir angeu. Beth nesaf? Pe. bryd y mae diwygiad synwyr cyffredin yn myned i wawrio ar ein gwlad?