Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

YR ADRAN GYMREIG.

AT EIN GOHEBWYR.

ENGLYNION

DIWYGIAD 1904.

Nodion CyffnedinoL

News
Cite
Share

Nodion CyffnedinoL Y mae Syr Marchant Williams wedi bod yn rhoddi anerchiad ar "Ddiwygiad Athrofaol." Yn fyr ond nid yn felus, y mae y Proffeswr Henry Jones wedi rhoddi ei farn ar araeth Syr Marchant. Dywed nad oes angen am atebiad iddi, ao na fuasai un dyn o synwyr da na chwaeth dda yn meddwl fod y pwys lleiaf yn ei ymadroddion. Diwedda ei Hgom- pliment" llaw-chwith i Syr Marchant da'r cwpled: "Nid yw anair ond enyd; Ni sym twyll mo bwyll y byd." "It never rains but it pours," medd y Sais. "I'r pant y rhed y dwfr," medd y Cymro. Mae y ddwy ddiareb wedi cael eu gwirio yn nglyn a ffafrau brenhinol diweddar. Gwnaed Caerdydd yn Ddinas Treiniol, yr hyn ydoedd gyfwerth ag an- rhydeddu y Maer yn bersonol,a gwnaed Arglwydd Windsor yn larll. Hwfa Mon wedi marw! Bu yr unwai th hoenus Archdderwydd yn hir ddihoeni. Pan yn cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn Nghlwyd y Fud yr haf cyn y diweddaf, edrychai yn eiddil a musgrell, ae yr oedd yn amlwg ei forl yn agoshau at filltir olaf ei fywyd. Chwith fydd yr Eisteddfod heb Hwfa. Yn awr wele drindod urddasol yr Eisteddfod, "grand old men" yr hen eefydliad—Plen- ydd, Alawn, a Gwrom yr orsedd, Bef Clwydfardd, Gwalchmai, a Hwfa Mon- wedi myned. Yr oedd Hwfa yn fardd gwycli. Fel pre- gethwr a darlithiwr yr oedd yn boblog- aidd hefyd, ond braidd ar y mesur hir ydoedd ei genadwri yn gyffredin. Pail elci Hwfa i hwyl, ac yn foddfa o chwys, ni wnelai sylw o awrlais. Yr oedd fet pe wedi cael ei gludo ar edyn hyawdledd i fyd lIe nad oedd mesuiiad amserau. Cofus gonym am dano yn cymeryd agoa i bedair awr i draddodi ei ddarlith ax Hiraefchog. Gyda bod yr Archdderwydd wedi huno yn yr angeu, wele y beirdd yn dechreu ymryson yn eu plith eu hunain pwy a fyddai fwyaf, a phwy ydoedd gymhwys i wisgo y 'rob' Archdderwyddol. Myn rhai mai Cadfan, ereill mai Dyfed, ac ereill mai rhywun arall. Hyderwn na fydd cynen uwchbem esgyrn tad yr Eis- teddfod a'r mwyaf o feib awen. Cwestiwn sydd yn cael sylw neiliduol mewn un newyddiadur y dyddiau hyn ydyw pa un ai "Aman" ai "Amman" ydyw y ffurf briodol i sillebu y gair. Y mae y cwestiwn pwysig hwn yn debyg o wthio cwestiwn y Brifathrofa a phob mater cenedlaethol i'r "siding." Y mae rhai dynion yn para i eiarad ffolineb o berthynas i ddysgu Cymraeg i bllant Ysgol Caerdydd. Byddai yn ddyddorol i wybod pa nifer o athrawon ysgolion "Prif-Ddinas Cymru" sydd yn gymhwys i ddvegu Cymraeg i'r plant. Y mae yn syndod fod dynion hirben a chraff yn pleidio y fath ffw-lbri. A y plant i'r ysgol yn hollol anhyddysg yn y Gymraeg, tra y m-ie gramadeg Cymraeg mor ddi- eithr i'r athrawon a gramadeg Hindus- tani. Ac eto y mae dynion call yn dis- gwyl cynydd! Cymro o X»anynye, Dinbych, ydoedd Mr. John Eyton Wiliams, Caer, yr hwn a fu farw yr haf diweddaf. Yr oedd yn ddyn crefddol, yn arianog, ac yn hen lane—"gwr gweddw," ys dywed yr Hwntw. Gadawodd £ 30,000 at Brifysgol- ion Cymru, ond y mae lie i ofni na cha yr un o'r prif-ysgolion geiniog goch y delyn o honynt, am y rheswm fod yr ewyllysydd wedi dodi i lawr yn ei ewyllys fod yn rhaid i'r efrydwyr fydd yn cael budd oddiwrth ei destament, yn gyntaf, gredu yn ddiysgog yn modolaeth Duw; yn ail, fod yn Brotestant uniawngred. Dyna beth ydyw "religious tests" onide? Ac ni chydnebydd Prifysgolion Cymru y fath delerau. Y tebygolrwydd yn awr yw yr el yr arian i'r perthynasau. Yn awr y mae y "Cymro" wedi cael ei werthu i gwmni a adnabyddir wrth yr euw "The Cymro Publishing Co." A fydd "Cymro" Lerpwl mor llwyddianus yn awr mewn ystyr lenyddol a maeneujhol a phan oedd personoliaeth Llyfrbryf wrth y llyw, sydd gwesti wn amheus. Digon diraen yn gyffredin ydyw y newyddiadur- on sydd dan reolaeth cwmniau. Dywed "Cymru" fod Caerdydd wedi dangos ei ffyddlondeb i draddodiadau goreu a dyheuadau dyfnaf Cymru. Cyf- eirio y mae at y eymudiad i ddysgu Cym- raeg yn yr ysgolion i blant unieithog Caerdydd. Ai dyfnder eithaf ein dyheu- adau cenedlaethol ydyw cael ein plant i ddysgu allan ac i ail-adrodd fel parrots frawddegau Cymraeg heb wybod yn y byd beth ydyw eu hystyr ? Yn ddiweddar y mae "Pastor Hough- ton," fel y gelwir ef, wedi bod yn creu cryn gynhwrf yn Nghaerfyrddin. Y mae "Pastor Houghton" yn un or lliaws "faith healers" sydd ar gerdded yn y dyddiau ofergoelus hyn. Y mae amryw o grefyddwyr Caerfyrddin wedi anfodd- loni o herwydd ymddygiad y cyflawnwr gwyrthiau hwn, ac y mae llawer o gyn- ulleidfaoedd crefyddol y dref wedi ym- dyngh na cha fenthyg eu pwlpudau yn rhagor. Yn ei bregeth nos Sul darfu i'r Parch. J. Fuller Mills, gweinidog y Bedyddwyr Seisnig, wneyd cyfeiriad at gynydd ofer- goeledd yn ein mysg. Dywed fod angen am ryw Hezekiah i ddryllio delwau ofer- goeledd yn yfflon. Des, ao y mae angen am ryw Saul i yru y dewiniaid a'r con- surwyr o'r wlad. Dywed Mr. Mills fod ymweliad Pastor Houghton wedi ein taflu ugain mlynedd yn ol mewn ofergoeledd. Ond beth am y rhai sydd yn ystod y flwyddyn ddiweddaf wedi gweled gweled- idaethau, eer arweiniol, a rhyfeddodau yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod, ac wedi clywed lleisiau nefolaidd, etc. ? Ydym, yr ydym wedi cael ein taflu yn 01, nid ugain mlynedd, ond canrif gyfan. Ond pa'ham y gwrthwynebir ac y boy- cotir mor egniol yr estron hwn, tra yr edrychir gyda ffafr ar weinidogion Ym- neillduol yn proffesu gwneyd peth cyffelyb yn Merthyr? Dywed Mr. Millte fod anffyddiaeth a materoliaeth yr oes yn wrthdystiad yn erbyn jjbnddygiad dynion oeddynt yn gwneyd "caricature" o'r IGorucha.f a gwawd o grefydd drwy eu honiadau coel- grefyddol a phlentynaidd. Eithaf gwir; y maent yn hau gwynt ac yn medi corwynt.

Advertising

Gohebiaeth.

Aberdare Impressed.

Aberdare Bankruptcy Court.

Billiard Match at Aberdare

—===I Foundation Stone Laying…

Advertising