Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

YR ADRAN GYMREIG.

--AT EIN GOHEBWYR.

TYR'D AT IESU.

Advertising

Y DIWYGIAD.

Nod ion CyffnedinoL

Y Geninen" am yI Flwyddyn…

Advertising

The Rev. R. B. Jones atj Carmel,…

----A CURE FOR ASTHMA. RRA

Advertising

Nod ion CyffnedinoL

News
Cite
Share

adfywiad, tra yr oedd diwygiad yn ei rym yn Sir Aborteifi "A-h," meddai un dyn newydd-ddychweledig, "gwell bod i mewn yn nhy Dduw drwy'r nos na bod allan ar gomin y diafol." Gwelwn y bydd "Y Geninen' am y flwyddyn nesaf yn parhau y gyfres o ys- grifau ar yr "Enwadau Crefyddol," pryd y |* ceir erthyglau ar "Gychwyniad a chyn- ydd yr Annibynwyr yn Nghrmru/' wedi cael eu hysgrifenu gan y lienor gwych, y Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon. Ddydd Llun diweddaf, yn Torquay, bu farw Syr George Williams, olynydd y diweddar larll Shaftesbury fel llywydd ji Y.M.C.A. Syr George ydoedd un a sylfaenwyr y sefydliad rhagorol hwn. Y mae Llandeilo wedi myned gam yn jil,hellach na Phcnybont yn ei hystyriaeth o angerdon ysbrydol y "tramp." Y mae pobl Llandeilo wedi penderfynu anfon cenadon i'w mysg. Yn chwareli llechi y Gogledd, yn ogystal ag yn mhyllau glo y De, y mae masnach yn farwaidd, a chyflogau yn myned yn is. Y mae chwarelwyr y Penrhyn wedi cael rhybudd o 10 y cant o ostyngiad yn eu cyflogau. Cyflenwad o lechi o Ffrainc sydd yn achosi y marweidd-dra. Ddydd Sadwrn diweddaf dad-orchudd- iwyd col-golofni i Mr. Gladstone ar y Strand yn Llundain. Ei gyfaill myn- wesol yn ei fywyd, a'i fywgraffydd ar 01 hyny-Mr. John Morley-a gyflawnodd y seremoni. Y mae C'eidwadwyr Dinas Caerdydd— nid Tref Caerdydd yn rhagor—mewn ym- chwil am ymgeisydd seneddol. Y mae Mr. Fred L. Davis wedi gwrthod sefyll, ac ofnir nad ydyw Syr Edward Clarke yn iach yn y ffydd Geidwadol. Ond beth am yr Arglwydd Faer? Byddai gwell go- baith iddo fyned i Westminster via Caer- dydd na thrwy y Rhondda. Achwyniad cyffredin gan apostolion y "grefydd newydd" ydyw fod y deg gor- chymyn yn rhy negyddol-fod gormod o "na wna" ynddynt, a "gwna" yn rhy brin. Yn awr y mae Mr. Henry Davies, darlithydd mwnawl y Cynghor Sirol, wedi cyhoeddi deg gorchymyn newydd yn dal Ii perthynas a llusernau y glowyr. Y mae y rbai hyn yn negyddol bob un; dechreu- pnt oil gyda "Don't."