Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
The Original Coco* and a Speciality. EPPS'S being distinguished from all others by Its invigorating nutritious qualities and its delicious flavour. This Cocoa. con- taining as it does all the substance of the Cocoa Nib, mainteaus its leading position 9-fter three-quarters of a Century as AgeNk Att%k Ar AV I= COCOA Mae best form of Cocoa far every-day use. The very best work possible in PHOTOGRAPHS BLACK &WHITE WATER COLOUR OIL PAINTINGS Is only obtainable at THE TRIUMPH STUDIO 4 Station Street, (Directly opposite the Police Station), Aberdare. J. HARRIS, Proprietor. PAINTING GLASSES » » WILL BE HELD AT THIS STUDIO. Subjects Taught: LANDSCAPE, SEASCAPE, FIGURE AND FLORAL PAINTING. TERM COMMENCES JAN. r6th. 1905. Classes commence, Mondays, 7.30 p.m. Thursdays, 7,30 p.m. Saturday mornings, II Paintings on Silk, Satin, Porcelain and Canvas. For terms and particulars, apply d. HARRIS, Triumph Studio. IS* Are you aware THAT THE GASH-IN-HAND STORES, ABERAMAN, Are always LEADING in PRICE and QUALITY. OUR GOODSSare the2Best".Brands obtainable. A CUP of PHILLIPS' 1/8 TEA is a Luxury. Welsh Bacon and Butter always in Stock. WHITCOMBE HOUSE, 2 GLOUCESTER ST., ABEBDABE. MO RCA fyORCAN, Auctioneer, Valuer, Accountant, House and Estate Agent, Fire, Accident and Plate Glass Insurance Agent. RENTS COLLECTED. M. M. personally attends to collecting, also holds Certificate to levy distress for rent. (Late 6, Whitcombe Street.) OEPPEN Aberdare, Mountain Ash & Porth. You will find has a nice sele tion of All KINDS of TOBACCONIST'S GOODS Try our Special Loose Shag 3d per oz. Loose Mixture 4d per oz. Our noted 2d. and 3d. Smokes 5 and 7 for a Is. t Wholesale and Retail. Duncan Jeffries Cab Proprietor, Posting Master, &c., 18 Catherine St., Aberdare. o: Open and closed carriages. Nat. Tel. 0143. CALL TO SEE Bradbury's NEW V.S. SEWING MACHINE J. BUGLER, 420, Cardeff-noad, Aberdare. Agent over 22 years 275 RATS FOUND DEAD. Mr. REID, Professional Rat Catcher, writes from Blair Castle, N.B.:—"A few hours after using Rodine Rat Poison I found 275 Rats. I have been Rat Catcher for 45 Years, and never saw anything so deadly." Rats Like it, Eat it, and Die. Price—Is., 2s. 3s., 5s.; Post, 2d. HAKLEY, Chemist, Perth. Agent, W. H. Jones, Chemist, Aberdare. -w- The man who does not believe in adver- tising, generally believes in advertising his own convictions. i r- et SHADES. OF WINTER. ■ ■ 1 ;0.: Conveners of Concerts, Secretaries of Literary Societies, Organisers of all F unctions for WINTER EVENINGS WILL GET THE BEST and CHEAPEST a&naBnwnnBMBBBMBBBnnMaBi PRINTING iiiiiiiiiMiiinBTTinriTarrnnTriTiTmiTMMmni—mi— AT THE "Leader" Office, MARKET STREET, ABERDARE. -:0:- Every Kind of Printing Executed.
"Y Gwir yn erbyn y Byd."
"Y Gwir yn erbyn y Byd." Gwahoddir cynnyrchion i'r Adran hon. Pob gohebiaeth i'w anfon i Swyddfa'r ''Leader," Aberdar
ER COF AM MAGGIE :
ER COF AM MAGGIE A briod Mr W. D. rugh, Birmingham (gynt o Dolgellau). (Y? Hir-a-Thoddaid buddugol yn Eisteddfod y Cymry, Birmingham). Cof am Athrawes, gynes yn gwenu,- Y Briod rasol, a'i bryd ar [esu; Maggie fwyn lanaf, wylaf o'i chelu Rhin oedd ei choron, a hawdd ei charu At Forfydd,* o dywydd du-byd galar, I hedd Duw'n gynar hedodd dan ganu. Aberdar. AB HEVIN. baban unig-anedig a gladdwyd ychydig z;1 amser o'i blaen.
FFRWYTH AWEN
FFRWYTH AWEN Un o ddychweledigion y Diwygiad yn Nghwmaman. Diolchaf i Ti, Arglwydd, Am ein bendithion Hawn, Parhau mewn gweddi byddom Foreuddydd a phrydnawn. Mae llu o wawdwyr crefydd Yn dweyd nad yw ond sham; 0 Dduw, bydd Di'n y canol, Gad iddi fyn'd yn fflam. Mae Evan Roberts siriol Yn llawn o'r Ysbryd Glan, Boed i ninau megisniagizets Gael cyffyrddiadau'r tan. A dyma fi, bechadur, 0 gwrandaw ar fy llais R'wyf fi am gael brawdgarwch I ffynu yn barhaus. Mae llu o hen wrthgilwyr Yn teimlo yn mhob man; Ieuenctyd hoff Cwmaman, Gweddiwch ar eu rhan. Mae'r anffyddiwr o Drecynon Wedi gweled Iesu glan, Nes y parodd iddo daflu Llyfrau Blatchford oil i'r tan. Mae cofio am weithredoedd Ar diroedd ac ar for, Cofio byth wnaf finau Am Wyl 1904. Rwy'n diolch i Ti, Iesu, Am farw ar y pren i Ac am yr Ysbryd hefyd Diolchaf byth, Amen, Cwmaman. OWEN PARRY,
ENWR IESU.
ENWR IESU. Beiddia adyn balch ei ffroen hyf-wadu gwyrthiau Mab y Dyn Hawdd gall ynfyd yn ei galon wawdio bod- aeth Duw ei hun. Mynwes ddu yn llawn o laid, wna fyth lychwino'r dyfroedd byw,— Ddua'r nefoedd a'i cbymylau rhag i'r llygad weled Duw. Hwnt y gwawd, mewn claer ogoniant, y gorsedda Brenin net; Nid oes saeth o fwa'r gelyn ddaw yn agos ato Ef. H Hedd a chariad megis afon," dardd o'i fynwes Ef o hyd. I roi balm yn nghhvyfau gofid, i dawelu euog fyd. Pan y cilia enwau Hume a Strauss i encil bedd yn nghudd, Fe a enw'r Iesu rhagddo fel y wawr hyd ganol dydd. Llawn yw awyr gwlad Judea o beroriaeth ddwyfol fyw, A ymchwydda gan yr oesau yn anthemau ar einclyw. Nid oes fodd i'r mor fu'n cario ar ei donau Arglwydd nef, Lai na bod yn dyst o hyd o fawredd ei awdurdod Ef. Llais y gwr fu'n galw'r bydoedd i boblogi'r gwagle, sy' Fyth yn siarad iaith yr orsedd wrth y 'storm ac wrth y lli. Rhodio'a ddistaw megis cariad wnaeth yr z, Iesu yn y byd, Eto'n ddwfn fel serch ei hunan, aros mae ei 61 o hyd. Cenad hedd yw ef o hyd i fron drallodus teulu'r llawr; Cyll y 'storm ei hanadl olaf wrth swn traed y Crewr mawr. Deil i wisgo ei awdurdod dwyfol ar ei ys- gwydd gref Wrth ei arch y fellten saif pan fflachia draws gwerddonau'r nef. Draw mae taranfolltau Sinai'n siglo cedyrn seiliau'r byd, I A digllonedd dwyfol ddisgyn dros ei ysgwydd Ef o hyd Dychrynfeydd y farn a welir yn ymsymud yn y tarth, A phechadur wrth y godreu ddwys ddolefa yn ei warth; Ond pan ddaw y Crist ei hun, a goreu nef- oedd yn ei wedd, Sinai gyda'i tharanfolltau dry'n Galfaria lawn o hedd. CARADOG.
FEL Y SEREN.
FEL Y SEREN. Awgrymwyd y gan hon gan ddywediad o eiddo Mr Evan Roberts, ar Hirwaen, Ionawr 18fed, tra yn anerch y dorf fawr. Sylwodd yn ddamweiniol trwy y ffenestr ar seren, ac meddai, -1 R'wvf yn gweled seren, dyna ddisgleirio y mae mi garwn fod mor ddisglaer a hi." E'wyf vn gweled seren yn yr wybren dlos, Gwenu mae yn llawen yn y dywell nos Gwelaf hi'n disgleirio ger y cwmwl gwyn Sydd yn llawn tangnefedd draw ar ben y bryn. Mae ei gwedd yn danllyd fel rhyw Seraph claer Sydd yn tynu'i fysedd dros y delyn aur; Fel y seren acw carwn fod fy Now, Beunydd yn disgleirio mewn sancteiddrwydd byw." R'oedd y nos yn ddwyfol, crwydra:'r cwmwl gwyn Mewn rhyw urddas nefoi heib'o bryn r'ol bryn; A phob bryn yn erfyn yn ei fantell wen Arno i orphwyso enyd ar ei ben.
Advertising
DRINK HORNIMAN'S Affm PURE TEA. AL A¡ ,r In packets only. Sold by T. LLOYD, Wholesale and Retail Grocer, Aberdare-
[No title]
Crwydro wnaeth y cwmwl dros y bryniau draw, Aeth fel angel heibio tua'r byd a ddaw Aros wnaeth y seren yn yr wybren fry Fel y seren acw, Arglwydd, wnei Di fi ? Moli 'roedd y dyrfa, ac angylion Duw Yn costrelu dagrau llu yn dechreu byw Fel y seren acw, 0 mi garwn fod, Arglwydd gwna fi'n seren ddisglaer er Dy glod. Aberaman. EURFAB. Yr oedd eira yn gorchuddio'r bryniau y noson hono.
Newyddion Cyffredinol.
Newyddion Cyffredinol. Y Sul diweddaf ydoedd Sabbath jiwbili eglwys Siloa, Aberdar. Y mae Siloa yn awr yn rhydd oddiwrth faich y ddyled, ac yn y cyfarfodydd cenid gyda hwyl:— Blwyddyn y jiwbili a ddaeth, A rhyddid cu i enaid caeth. 000 Meddai Silyn, y gweinidog, yn un cyfar- fod, Ni ganwn, Mae'r etifeddiaeth i ni dod.' Mae yr emyn yn y llyfr emynau yn rhywle, nis gwn yn mha le, ond yr wyf yn gwybod yn mha le y mae yr etifeddiaeth." 0 0 0 Un o bregethwyr yr wyl ydoedd Gwylfa, y bardd. Dylanwadol dros ben ydoedd ei iaith felodaidd farddonol, ei barabl araf mesuredig. a'i oslef Ogleddol drom. Apeliai at y deall ac at y teimlad. Yr oedd y pen a'r galon yn cael gwledd ar ei fwrdd. 000 Un o blant Siloa, Aberdar, ydyw y Parch Elias Davies, a'i frawd y Parch Tom Davies, yr hwn sydd yn awr yn gorwedd yn dawel yn mhriddellau'r dyffryn yn Maesycwmmer. Yn nghwrdd prydnawn Sul diweddaf gwnaeth y Parch D. Silyn Evans gyfeiriad teimladwy at y brawd sydd wedi blaenu, ac yr oedd dagrau ar wedd y brawd sydd ar ol yn ogystal ag ar ruddiau llawer yn y gynull- eidfa. 000 Un o ffrwythau y jiwbili ydoedd absenol- deb y casgliad. Ni chlywyd tine yr arian ac ni welwyd blwch casglu yn un o'r cyfar- fodydd. 000 Bu y Proffeswr J. Morris Jones, M.A., Bangor, nos "Wener diweddaf, yn traddodi darlith i gynulliad lluosog yn Nghaerdydd. ar ei hoff bwnc, Barddoniaeth Cymru," Llywyadai yr Henadur Edward Thomas, Y.H. Dyfed ac Eilir oedd yn cynyg ac eilio diolch i'r darlithydd. 0 0 0 Yr oedd y ddarlith yr un o ran sylwedd ag ysgrif fu gan gan y llenor trylen yn y Traethoclydd. Barddoniaeth ydoedd blod- euyn llenyddiaeth. Yr oedd yn gelf gain, a gwaith y cyfryw ydoedd dynwared. Yr oedd pwyllgorau Eisteddfodau y ganrif aeth heibio wedi myned ar gyfeiliorn wrth ddewis testynau dansoddol i'r beirdd, yn He rhai casgliadol. Yr awdlau hawddaf eu cofio oeddynt Rothsay Castle." Dinystr Jeru- salem," Y Greadigaeth," ac ar gyffelyb destynau. Yr oedd hanes a thraddodiadau Cymru yn eu cyflenwi a digonedd o Ciecf- nyddiau i gyfansoddi arnynt. 0 000 Nid oes gan y Proffeswr olwg o gwbl ar y Bardd Newydd. Maes yr olaf'ydyw ewes- tiynau athronyddol. Golygai ei feddwl dyfnach feddwl mwy dansoddol, ac nid gwelediad cliriach i mewn i'r natur ddynol— tra mai'r olaf sydd eisieu gael. Y bardd natur allanol goreu ydoedd Dafydd ab Gwilym. Am farddoniaeth natur ddynol nid oedd genymnebgvmharai a Shakespeare. Ffolineb perffaith ydoedd y cri am drag- wyddol heol." Er yn anghyfaddas i weithiau mawrion, cynghanedd ydoedd y wisg oreu i emau barddas. 0 0 0 Onid ydyw yn bryd i brif-feirdd fel Cad- van bellach gilio o'r ymdrechfeydd Eistedd- sonol, a myned ati i gyfansoddi, wrth eu pwys, ryw orchestwaith a geidw eu henwau yn fyw mewn oesau a ddel? Ymddengys mai y prif-fardd profedig uchod aeth a'r Darian Arian yn Eisteddfod Dalaethol Machynlleth yr wythnos o'r blaen, dan feirniadaeth Berw, tra yr oedd y pedwar cystadleuydd arall, er yn rhai rhagorol, yn cadw pellder mawr cydrhyngddynt a'r dyfodol Archdderwydd. 000 Argraffwyd dwy fil o gyfrol goffa Ben Bo wen yr oedd 700 o danysgrifwyr ac y mae 1,100 wedi eu gwerthu yn barod. Aift yr elw bob dimai i godi cof-golofn i Kea;s I Cymru. Yn ddiweddar, y mae angeu wedi bod yn brysur yn rhengau yr Eglwys Sefvdledig. Dydd Gwener diweddaf bu farw y Parch Lewis Jones, Ficer Llanboidy. Dydd Sul bu farw Rheithor Troedyrhiw. 000 Erbyn hyn, y mae Esgob hybarch Llan- daf wedi gadael byd o amser. Cafodd Dr Lewis fyw i weled oedran teg, a chafodd, yn ol ei ddymuniad, farw a'i law ar yr aradr. 000 Cyfrifir fod tua 1500 o ddychweledigion mewn canlyniad i genadaeth Gipsy Smith yn Mhontypridd. 000 Darfu i un o aelodau Bwrdd Addysg sir Gaerfyrddin wrthwynebu i'r athrawon ddysgu dirwest i'r plant yn yr ysgol, am y rheswm fod y plant yn gweled rhai o'u hathrawon yn feddw yn yr hwyr. Dywedai y gallai brofi ei haeriad.
---__.-___-Evan Roberts yn…
Evan Roberts yn Hirwaun. Neu ar Hirwaun," ys dywed y brodorion. Dyddiau Mercher a Iau diweddaf yr oedd ardal dawel Hirwaun yn gyrchfan pobloedd llawer, o herwydd fod diwygiwr yr 20fed ganrif, y Cymro o Gasllwchwr, yn efengylu yno, Nis gellir ar un cyfrif alw Evan Roberts yn bregethwr mawr. Y mae ei sel yn fawr, a'i ddvlanwad yn fawr, ond dawn areithyddol ni fedd, ac y mae ei iaith yn gyffredin-ie, yn werinaidd. Y mae ei genadwri mor syml ag eiddo Jonah ac mor danbaid ag eiddo y Bedyddiwr, ond nid ydyw wedi etifeddu talent bregethwrol diwygwyr aur-enau y pwlpud Cymreig. Nid oes gysgod o ddawn seraphaidd Howell ny z, Harris neu Daniel Rowland ganddo. Nid oes wreichionen o dan Elias o Fon yn ei leferydd. Y mae Evan Roberts yn fwy syml nag hyd yn nod Richard Owen. Y sawl a aethant i Hirwaun gan ddysgwyl cael geiriau y doethion fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa a gaw- sant siomedigaeth. O'r diwedd y mae Evan Roberts wedi ei gweled yn angenrheidiol i osod y fwyell ar wreiddyn prenau mall cywreinrwydd a chwilfrydedd. Llym ydyw ei gondemniad o'r sawl a ddeuant i'r cyfarfodydd i ddangos eu hunain. Trwm iawn ydyw ei ftlangell ar gefnau y sawl sydd yn codi ar eu traed ac yn syn-syllu o amgylch pan fyddo rhyw chwaer neu frawd—weithiau dan faich yswildod—yn dilladu profiad newydd-anedig yn ei wisg eiriol gyntaf. Yr oedd yn wir ddrwg genym weled- y fath annhrefn yn nghynteddau yr addoldai lie yr oedd Evan Roberts yn Hirwaun. Yn mhorth un o honynt yr oedd y geiriau Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dy Dduw," tra yr oedd y capel fel dinas warchaedig-torf y tuallan yn ceisio gwthio i mewn a thorf tufewn yn ceisio ymwthio allan. Trechaf treisied, gwanaf gwaedded oedd hi yno yn llythyrenol. Ai ni fyddai yn well dilyn trefn cyfarfodydd y Cadfridog Booth ? Yn y cyfryw cauir y drysau can gynted ag y llenwir y neuadd, ac ni oddefir i neb fyned i mewn. Ar un cyfrif ni oddefir i neb fyned drwy y drws pan fyddo y General yn llefaru. Credwn y buasai gwaith y diwygiad yn cael ei wneyd lawer yn fwy effeithiol pe gwasgerid y cynulleidfaoedd i wahanol gapeli, a gadael digon o le yn mhob un i'r brodyr fyned o amgylch i geisio y sawl fyddo yn eistedd ar sedd edifeirweh neu ynte yn cloffi rhwng daii feddwl. Gallai y diwygiwr fyned ar gylch i bob capel yn ei dro, ac yna caffai pawb ei weled a'i glyweel, ac ni byddai siomiant yn unlle. Yr ydym yn awgrymu y pethau hyn, nid mewn ysbryd beirniadol ond gydag amcan diwyg- iadol. I'n teimlad ni, yr oedd mwy o ddefosiwn a mwy o ysbryd addoliad, ar y cyfan, yn y cyfarfodydd lie yr oedd y diwygiwr yn absenol. Y rheswm am hyny, yn ddiau ydoedd absenoldeb cywreinrwydd a phresenoldeb yr ysbryd priodol a gwedd- eidd-dra. Hyderwn fod y gwahanol eglwysi yn Hirwaun wedi cael bywiocad ysbrydol yn helaeth, os nad rhyw lawer o adgyfnerthiad mewn nifer. Yr oedd pobl Hirwaun yn wastadol yn bobl dawel, grefyddol. Ni ffynai yno y drygioni oedd yn gwneuthur rhanau o'r Rhondda a manau ereill yn ail Sodom neu Sidon. 0 ganlyniad, nis v gellid disgwyl yn Hirwaun y gweithredoedd nerthol a'r torfeydd o ddychweledigion a gafwyd mewn manau. Nid am fod yr Hirwauniaid yn fwy anghrediniol, ond am ea bod yn fwy moesol yn barod. Nid yn fynych y gwelir achos o Hirwaun yn llys ynadol Aberdar, oddigerth ambel'l i berchen asen golledig neu farch crwydredig yn gorfod rhoddi cyfrif am ei esgeulusdod. Bydded i'r had da a hauwyd ar randir Hirwaun pan oedd eira Ionawr yn gwynu y fro ddwyn ffrwyth lawer.
-------Marwgoffa.
Marwgoffa. MR DAVID OWEN. Chwith genym weled hanes marwolaeth Mr David Owen, Abergafenni, yn ei 76 mlwydd o'i oedran. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Nolgellau, He yr oedd yn arolygydd yn swyddfa'r Dycld; ond daethai efe a'i briod i lawr at eu meibion (sydd yn cadw busnes argraffu yn Abergafenni) i dreulio gweddill eu dyddiau. Tystai y rhai gawsant y fantais oreu i adnabod Dafydd Owen na welsant erioed gymeriad mwy crwn. Yr oedd bob amser yn ffyddlon, cyson, pwyllog, cywir a phrydlon. Cloc mawr pen ucha'r dref y galwai rhai ef. Gofalai am ei iechyd drwy fod yn gymedrol a cherdded llawer yn yr awyr agored. Ni chlywid ei lef ar yr heol; ac nid llawer a wnai yn gyhoeddus hyd yn nod yn y capel lie yr oedd yn flaenor, os na fyddai galw; ond y mae gwenidogion a dynion defnyddiol yn fyw a deimlant yn ei ddyled byth fel eu hathraw yn yr Ysgol Sul. 01 ei graffder ef wrth ddarllen profleni sydd ar lu o lyfrau goraw y Gymraeg. Bu yn olygydd y Dydd a Dysgedydd y Plant am flynyddau; ond ychydig a wyddent hyny, gan na fynai ei enw yn nglyn a'r naill na'r llall. Pe buasai pawb yn debyg iddo ef ni fuasai angen am y Diwygiad.
--.--"----.--.---Direct Labour…
Direct Labour Representa- tion. Meeting at Mountain Ash. On Monday evening a meeting, convened under the auspices of the Mountain Ash Electorial Representation Committee, was held at Mountain Ash for consideration of the question of direct Labour representation on the various local bodies as well as in Parliament. Mr John Powell said the workers had in the past been the tools of political adven- turers. Let the workers see that they did not lend themselves to those who had poli- tical ends to serve. Mr Enoch Morrell, of the Taff and Cynon District, dealt with the past political history of the country, which had led to the demand of the workers for direct Labour representa- tion. Governing power had passed from the hands of the landowners into those of the middle classes, and must now pass into the hands of the workers. Dealing with the deputation from some of the Conserva- tive clubs to the Executive Council, who urged that it was unfair to compel them to pay towards the support of members who held Liberal views, his answer was that the Parliamentary levy scheme was not a scheme of the leaders, or even of a body of delegates, but of the colliers of South Wales, the Midlands, and Scotland. Some one in the audience asked a ques- tion as to the disbursements by the Rhon- dda miners towards various Liberal objects, but the chairman said they had no right to discuss the policy of another district. Further questions followed, in answer to one of which Mr Enoch Morrell said that if the Conservatives brought out a workman who would fight for the Labour programme he would be supported by the Miners' Fed- eration. (Hear, hear.) The chairman said the secretary of the Miners' Federation of Great Britain was an avowed Conservative. (Hear, hear.) It was explained that every I penny of the shilling collected in South Wales as the Parliamentary levy was sent to the central offices of the Miners' Federa- tion of Great Britain. A vote in favour of direct Labour representation was carried.