Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
ANEBCHIAD YR AIVEN
ANEBCHIAD YR AIVEN I gyfaill mynwesol y bardd, sef y pen adroddwr, Mr J. Percy Thomas, Mountain Ash, yn ei gystudd. I'm cyfaill Percy Thomas Mor hawdd yw canu can, Mae'n seren yn ffurfafen 'St.eddfodol Cymru lan; Gwladgarwch chwydda'i fynwes, Mae'n Gymro gwych dros ben, Ac un o gymeriadau Dysgleiriaf Gwalia Wen. 11 Haehonus yw o galon, A'i ymdrech am y gwir, Un goaest yw o anian I'r bardd mae'n gyfaill pur Ei natur fwyn grefyddol A ddengys naws y nef Fel blodeu'n perarogli Ei swynol fuchedd ef. Hoff blentyn ein Heisteddfod, Namriol ydyw ef, Ac anian cystadleuaeth Sydd ynddo'n elfen gref Mae wedi Uorio cewri Rhagoraf fedd ein gwlad; Adwaenir ef fel seren Adroddol Cymru fad. Dymuna'r bardd o'i galon I'w gyfaill hoff hir oes, I ddringo i enwogrwydd Trwy bob corwyntoedd croes; A phan y del ei einioes Flodeuog, hardd i ben, Ei aros fyddo'r delyn Tu draw i ser y nen. HEN EISTEDDFODWR.
Dau Ddannodiad o Fywyd.
Dau Ddannodiad o Fywyd. A ganlyn yw darnodiad Herbert Spencer o fywyd:— The definite combination of heter- ogenous changes, both simultaneous and successive in correspondence with eternal co-existences and sequences." Cyd-gysylltiad penodol cyfnewidiadau gwahanol, yn gydweithredol ac olynol, mewn cyfatebiaeth a chyd-hanfodion a therfyn-ganlyniadau tragwyddol. Ysgrifena Joseph Cook o Boston, am fywyd fel hyn :— Life is the invisible, individual, co- ordinating cause directing the forces in- volved in the production and activity of any organism possessing individuality." Bywyd ydyw yr achos anweledig, gwahanfodol a chyd-drefniadol yn cyfeirio y grymusoedd goblygedig yn nghynyrchiad unrhyw iawn-gyfansoddiad yn meddu unigoldeb. Dylem deimlo yn ddiolchus i ddynion enwog sydd wedi cymeryd poen i fyfyrio bywydeg, am gynyg mentro deffinio bywyd, ond ryw fodd teimlwn fod bywyd megys yn gwrthod cymeryd ei elfeni a'i ddarnodi, ac mai eithaf dyn gyda golwg arno ydyw eglurhau ychydig ar ei ymddangosion. Er pob lladmeriad, y mae hanfod bywyd yn gladdedig mewn dirgelwch, a dichon mai felly yr erys byth, er gwneyd y myfyrdod o hono yn dclyddorus. Aberdar. TWRFAB.
Christians' Meeting House,…
Christians' Meeting House, Godpeaman. On Sunday evening, Nov. 6th, Mr John Davies, of Mountain Ash, preached to a well-attended meeting at the above place on Heb. xi. 24-25. He dealt with Moses carry- ing out his determination to stand by and suffer with the people of God, rather than enjoy the pleasures of wrong-doing even for a short time. By his faith in God he was able to carry out his purpose. The preacher concluded a well-prepared address, with some clear and well-directed home-thrusts on Faith in God." It is expected Mr Davies will again occupy the platform at an early date, and much good is expected to follow his earnest and well-timed addresses. On Sunday and Monday, November 13th and 14th, Mr David Morgan, Evangelist, Treharris, conducted meetings all day. In the evening his subject was, The Way of Salvation," and dealt ably with Asts xvi., emphasising the conversions of Lydia and the jailor. He also dealt with the fact that the apostles would not accept any assistance from any but professed followers of the Lord (v. 16-18). Also he insisted that the past did affect the present and future. Jesus came to blot out the past that stood between God and us. The Son of Joseph was to be called Jesus because he would save His people from their sins, and thus become a people preparing to be inhabi- tants of the New Heaven and the New Earth, wherein shall dwell righteousness." He concluded that it was not following the fore-runner John the Baptist that would find us in the Way of Salvation," but following the Christ Himself, Acts xix. 1.5. On Monday, Mr Morgan delivered a Bible Lecture on Some Truths about the Holy Spirit." Under the old dispensation up till Peter's first sermon on Pentecost, only God-chosen men were filled with the Spirit, but Jesus went away so that the Spirit might come down to abide, and be the Guest of every child of God. Not the world, but those who follow obediently the Christ, would receive this Guest. The Spirit of God rendered practical aid in the battle of life and its stern realities. Through the teaching of the Spirit we received the spirit of adoption (sonsbip) and realised the Creator as our Father. The Spirit helped us in our infirmities, directing our appeals for help, and made intercession before the Throne of Grace with language beyond words (Rom. viii. 26). We we/e cautioned not to grieve the Spirit by inconsistent be- havious, by missing opportunities of doing good. Mr David Morgan will continue the series of Monday Night Bible Lectures during this month and next.
"Y Gwir iYI aI'byn y Byd."
"Y Gwir iYI aI'byn y Byd." Gwahodchr cy i iyrcbion i'r Adran hon. Pob gohebias i.h i'w anfon i Swyddfa'r "Leader," Ab-rdar
YN Y DIWYGIAD.
YN Y DIWYGIAD. Adlais y graig ein cydlef,—daw Iesu Yn Dywysog Tangnef; Y Duw-ddvn fu'n dyoddef- Swn ei droed sy yn y dref. Aberdar. AB HEVIN.
PENILLION
PENILLION A ddarllenwyd yn nghyfarfod anrhegu Mr 11 Tom Phillips, yn Bethel, Trecynon, nos Lun; Tachwedd 7ed. Mae cymyl ar y bryniau, Gwlawogydd yn y cwm, A'r nos rydd ddu gysgodau Ar hyd y dyffryn llwm; Ond yma nid oes cymyl Yn gwgu ar un wedd Mae cydymdeimlad syml I'w wel'd yn wawr o hedd. Mae gweithiwr dystaw, siriol, Yn enill calon byd I'w garu yn angherddol, I'w barchu ef o hyd; A'r anrheg hon sy'n siarad Yn hyglyw yn ei hiaith, Ei bod yn gynyrch cariad I Phillips am ei waith. Bu ef yn weithiwr prydlon Gyda'r berdoneg bur, I chwyddo moliant Seion 0 hyd o blaid y gwir- Mor brydlon a'r tymhorau Sydd ar eu taith o hyd, Mor brydlon a'r holl wawriau A lifant dros y byd. Boed iddo eto weithio Yn ffyddlawn gyda'r gwaith, A dilyn yn ddi-ildio Heb golli cam o'r daith Boed iddo lwyddiant cyson, Dedwyddwch pur o hyd, A bywyd dibryderon, Tra fyddo yn y byd. Coleg Caerfyrddin. LEWIS DAVIES. Pwy dd'wedodd nad yw'r byd Yn parchu dynion, Mae rhywrai bron o hyd Yn cael anrhegion; A ninau yma heno, Er hired y'm cyn teimlo, Nis gallwn ag anghofio Chwareuwr ffyddlon. A chwareu teg i ni A'n haml feiau, Rhoi anrheg, cofiwch chwi, A wnawn am chwareu. Pe byddai brawd ond mentro Myn'd ati'n ddewr i weithio, Ei barchu a'i wobrwyo A gai'n ddiameu. Can's gwel'd yn glir a wnawn Lie bo teilyngdod, A dyna brawf yn llawn Arogl cydwybod; Os chwareu oedd y gweithio, Hawdd iawn i ni yw cofio Fod chwareu da yn weithio Gwerth ei gydnabod. A phrawf o werth y gwr Yw hyn, yn ddiau, Fod ef o'i waith mor siwr- Ei wneyd dan chwareu Mae llawer yn llabyddio Eu hunain tlawd wrth geisio Proffesu 'i bod yn gweithio, Dyna'i telerau. Ond am fod Tom mor fwyn— Mor ystwyth, ufudd, A'i waith yn gymaint swyn I'w deimlo beunydd,— Am helpu gwaith y nefoedd Pan gyfyd moliant pobloedd Caiff anrheg fydd i'r cyhoedd Yn siriol arwydd. Chwareuodd ef i ni Am rai blynyddoedd, Gwasanaeth llawn o fri Ei chwareu ydoedd; Ond nid peth teg yw gweled Yr un byth wrthi'n galed, Mae hyny'n magu dyled, A theimla'r cyhoedd. A theimlo wnaethom ni Ein tro yn dilyn, Ac aethpwyd ati hi » I chwareu tipyn; Chwareuodd Tom yn iawn Y boreu a'r prydnawn, Ond dyma chwareu lawn Mor dda yn canlyn. Rhoi music stand fel hon Sydd chwareu gweddol, Mi fentra'r funyd hon Fod llawer pobol Yn mhell o fod mor effro A ni yn Bethel heno, Sy'n chwareu a phresento Mor galonogol. Chwareuodd Tom yn dda, Pwy sydd a'i gwada ? Ond dal ei dir a wna I chwareu yma: Chwareuodd Tom ar nodau, Ni yw'r chwareuwyr goreu, Chwareuwn ar ein sylltau Mewn anrheg gryno. Ond mwy na'r stand fel rhodd Yw rhywbeth arall Sydd lawer mwy wrth fodd Y fron a'r deall- Y cynhes ddymuniadau, Y cywir ddiolchiadau, A geiriau brwd a gwenau Cyfeillion diwall. Parhawn drwy'n hoes i gyd 0 hyd yn ffyddlon I helpu taith y byd, A thyfiant dynion I fyny at wirionedd, Fel tyfo blodeu rhinwedd Ar feddau bodau llygredd, Nes delo'r byd o'r diwedd Yn bur ei galon.
Newyddion Cyffredinol.
Newyddion Cyffredinol. Y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Nghaer- dydd, dan lywyddiaeth Syr T. Marchant Williams, wedi penderfynu cael ysgol haf yn Athrofa Caerdydd y flwyddyn nesaf. Hefyd penderfynwyd gofyn i Ifano, gynt o Aberdar, yn awr o Lyfrgell Rydd Caerdydd, i anerch y Gymdeithas. 000 Purion peth fyddai i gysodwyr y South Wales Daily News fyned am ychydig wersi mewn Cymraeg i'r ysgol haf pan y del. Yn rhifyn dydd Gwener diweddaf dy- wedir wrthym mai i "Trustram and Iseult" y canodd y Parch Silyn Roberts, bardd coronog Eisteddfod Bangor. Ai cymeriadau yn chwedloneg Twrci ydyw y rhai a nod- wyd ? Yn yr un rhifyn dywedir fod y bobl mewn cyfarfod diwygiadol yn Mhontycym- mer yn canu Pen Calf aria, nad oed hwnw byth o'm cof." o o o Dywedir yn mhellach fod yno un wraig yn canu Oh anfon gi yr Ysbryd Glan! Y mae hyn yn ein hadgoffa am yr hen Ddeheuwr hwnw yn rhoddi emyn allan fel hyn:— Blwyddyn y Jiwbili a dda'th A rhyddid ci i enaid ca'th. o o o Y mae yr hyn a ganlyn bron yn ddigon i wneyd i'r hen Sant Cybi ei hunan godi o'i orweddfan yn Ynys Cybi i ddial ar y rhai sydd yn anwybyddu ei enw. Ychydig amser yn ol anfonwyd llythyr o Ddyffryn Conwy yn gyfeiriedig i Gaergybi. Anfon- wyd y llythyr i'r De a try Carmarthen yn ysgrifenedig arno. Nis gallai gwyr Myrddin wneyd dim o'r cyfeiriad dieithr, ac anfonwyd y llythyr i'r Amwythig, lie y daeth dan lygad rhyw Gymro oedd yn gwybod mai yr un oedd tref Cybi a Holy- head." Clywsom o'r blaen am lythyr wedi ei gyfeirio i Aberhonddu yn cael ei anfon i Birmingham, lie yr ysgrifenwyd Try Rhondda" arno. 000 Yr wyf wedi fy rhagordeinio i ladrata meddai dyn ieuanc a gyhuddid yn mrawdlys Newcastle o ladrata postal orders. Ym- ddengys ei fod yn dioddef oddiwrth iselder crefyddol mewn canlyniad i astudio yn rhy galed. 0 0 0 Yn y rhifyn diweddaf o Bapyr Pawb ymddengys darlun a bywgraffiad byr o Mr John Mills, Aberdar, argraffydd, llenor, a theithiwr Dwyreiniol, yr hwn, er yn ei ddeg- fed flwydd a thriugain, sydd mor droed- heinyf ag erioed. o o o Mawr ydyw yr ymdrech ar hyn o bryd i gael ein Gwarcheidwaid i roddi enwau tlot- dai ar gofrestrau genedigaethau fel tai annedd. Bryntirion ydoedd yr enw a awgrymid gan un gwarcheidwad fel un priodol i dlotdy neillduol yn Ne Cymru." Yr oedd y gair "tirion," meddai, yn gyfun- iad o drugarog a charedig," dwy elfen a nodweddant weithdy'r nndeb. Pwy a ddywed bellach ei fod yn "nythle creu- lonedd." 000 Y mae Pwyllgor Addysg Dinbych wedi taro ar gynllun gwreiddiol i gael y bobl "yn ol i'r tir." Y maent wedi pwrcasu erw o dir yn Nglyn Ceiriog, lie y maent yn dysgu plant yr ysgol i arddio ac i drin tir. 000 Dywedir fod chwech o dafarnwyr o Llan- rwst wedi bod yn curo wrth ddrws llys y methdaliad. Iselder masnach ydyw y prif reswm. Os pery y diwygiad yn ei rym lawer yn hwy digwydda yr un peth yn Nhrecynon. 0 0 0 Achwyna newyddiadur newydd Cymry Llundain fod Caerdydd wedi bod erioed yn elynol i bobpeth Cymreig. Yn awr pan y mae wyth allan o ddeg o Gynghorwyr Trefol Caerdydd yn Gymry gellir dysgwyl pethau gwell a mwy gwladgar o brifddinas Gwalia. 000 Y mae eglwys Ebenezer, Trecynon, lie y gweinidogaetha y Parch J. Grawys Jones, wedi cyrhaedd ei chanfed mlwydd oed. Fel y gwyddis, capel eang Ebenezer ydyw prif ganolbwynt y diwygiad presenol, ac yn ys- tod diwygiad 1859 cymerodd safle gyflelyb. 000 Yn un o gyfarfodydd tanbaid y diw- ygiad sylwasom fod un pechadur yn cysgu -ie, yn chwyrnu-bron drwy gydol y cyf- arfod Na sonier mwyach am Jonah yn cysgu yn merw tymhestl ac yn min Hong- ddrylliad, ac na ryfedder fod Argyle yn gallu huno y hoson olaf cyn ei ddienydd- iad. Wrth i ni ganfod y cysgadur, nis gallem beidio meddwl am yr emyn (nid yw yn y llyfr emynau) a gyfansoddodd Williams Pantycelyn i'w forwyn gysglyd wedi hir waeddi yn ofer arni i godi un boreu :— Yn awr 'rwy'n gwel'd yn eglur, Tae clychau mawr y Llan, A rhod y felin bapyr, A gyrdd y felin ban. A'r badell fawr a'r crochan Yn twmblo hyd y ty, A'r gwely'n cracio dani, Mai cysgu wnelai hi!
Y Diwygiad yn Ngwiad Cynon.
Y Diwygiad yn Ngwiad Cynon. (0 lyfr Cronicl yr Amseroedd). Ar ddydd Calan Gauaf (wrth rifedi dydd- iau yr hen oruchwyliaeth) yn nyddiau Ior- werth frenin, wele diwygwyr a ddaethant o'r gorllewin i Dref Salem a Mynydd Seion. A hwy a ddaethant o ddinas Llwchwr, lie y buasai diwygiad mawr, gymaint fel y sych- wyd ffynhonau meddwdod yn y wlad hono, ac ni chlywyd mwyach reg ar heolydd Llwchwr. 0 enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeitbiwyd moliant, a thyrfaoedd lawer a ddychwelasant at yr Arglwydd. A'r diwygiwr ynghyd a'r gwyryfon a'i can- lynasent a esgynasant i Fryn Seion. A hwy a ddywedasant wrth y bobl, Yr Ar- glwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen," a chan fynegi hwy a fynegasant i'r holl bobl yr hyn a wnaethai yr ysbryd yn ninas Llwchwr. A'r bobl pan welsant hyfdra y diwygwyr a gweled mai pobl anllythyrenog ac annys- gedig oeddynt, a ryfeddasant. A synasant oil ac a amheuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod ? Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melus ydynt. Eithr y diwygiwr a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, 0 wyr o Gymry, a chwi oil sydd yn trigo yn ngwiad Cynon, bydded hysbysol hyn i chwi. Canys nid yw y rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied. Eithr hyn yw y peth a ddywedwyd trwy y proffwyd Joel: A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywylltaf o'm hysbryd ar bob cnawd a'ch meibion chwi a'ch merched a broffwydant, a'ch gwyr ieuainc a welant weledigaethau, a'ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwyd- ion. Ac ar fy ngweision ac ar fy llaw- forwynion y tywalltaf o'm hysbryd yn y dyddiau hyny. A'r diwygiwr a adroddodd pa fodd yr ymddangosodd yr Arglwydd iddo mewn gweledigaeth, ac efe a ganfuasai farch gwyn a march coch. A'r weledigaeth nis gallai ei deongli hyd oni chyfarwyddodd yr Ysbryd ef i Lyfr Datguddiad, lie y cafodd eglurhad ar yr hyn a welsai. Ac mewn ufudd-dod i'r Ilais nefol efe a aeth ac a efengylodd i'r bobloedd. Ac ni roddes gwsg i'w lygaid na hun i'w amrantau, ac ni wnai na bwyta bara nac yfed dwfr, canys efe a lanwasid a'r Ysbryd. A'i gorph oedd yn llawn trydan byw a'r tyrfaoedd a wef- reiddiwyd gan ei drydaniaeth. A phan dystiodd efe fod cynghor y Sanhedrim am ei lyfetheirio a dodi ei weinidogaeth mewn hualau, efe a ffromodd ac a ddywedodd wrthynt, Ni bydd i mi a wnelwyf a'ch awdurdod, ac ni bydd i mi gyfarwyddwr ond yr ysbryd. Ac efe a aeth o ddinas i ddinas gan ledaenu y diwygiad. Ac yn y cyfamser y tan ydoedd yn ymledu yn ngwiad Cynon, ac yr oedd yno rai nad aent allan o'r deml ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddiau ddydd a nos. A hwy oil oeddynt yn gytun yn yr un lie. A rhwyg llwythau Israel a gyfanwyd. Ac ni ddywedai neb, Myfi wyf eiddo Paul neu, myfi wyf eiddo Cephas, minau wyf eiddo Rehoboam, a minnau yn eiddo Israel, ond pawb oedd yn eiddo'r Ysbryd. A llawer o'r rhai a gredasent a ddaethant ac a gyffesas- ant, ac a fynegasant eu gweithredoedd. Llawer hefyd o'r rhai a fuasent yn proffesu anffyddiaeth a ddygasant eu llyfrau ynghyd, ac a'u llosgasant yn ngwydd pawb. A rhai o'r Philosophyddion, or Epicuriaid, ac o'r Stoiciaid, a ymddadleuasant a'r di- wygiwr. A rhai a ddywedasant, Beth a fynnai y siaradwr hwn ei ddywedyd ? A'r holl Gynoniaid a'r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeitbio yno nid oeddynt yn cymeryd hamdden i ddim arall ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd. A bu golygfeydd rhyfedd yn Mryn Seion ac yn Nhref Salem ac yn Ebenezer, merched yn neidio a dawnsio a moli Duw, a dynion yn llewygu gan ofn. Ond yn Bethel ni wnaeth yr Ys- bryd lawer o weithredoedd nerthol o herwydd eu harighrediniaeth hwy.
Advertising
Everybody knows that EPPS'S is an admirable food, the nicest and most nutritious. beverage for the breakfast table. It is made in a moment with boiling water or milk, and its sterling qualities are COCOA Appreciated by aiL
Presentation at Mountain Ash.
Presentation at Mountain Ash. A meeting was held at the Cresselly Hotel on Thursday evening, when Mr Walter T. G. Marsh, the assistant mechanical engineer at Messrs Nixon's Mountain Ash Collieries, was presented with a magnificent roll top writing desk, and Mrs Marsh with a beautiful silver mounted epergne, on the occasion of their marriage. The presents had been subscribed for by the officials and workmen of Messrs Nixon's Collieries. The arrangements had been admirably carried oat by a committee, with Messrs Tom Richards and W. W. Williams as joint sec- retaries, and Mr Thomas Davies as treasurer. Captain F. N. Gray occupied the chair. There were also present Messrs F. W. Bell, Thomas Davies, William Williams, Arthur Jenkins, John Christopher, Richard Richards, William Hale, Albert Conley, T. Howells, and William Lewis Smith. A song was given by Mr J. Powell, accompanied by Mr J. Webber. Mr David Brown, in presenting Mrs Marsh, said that it gave him great pleasure to hand her the epergne on behalf of the officials and workmen of Messrs Nixon's Collieries. Mrs Marsh briefly returned thanks for the presentation. She would always value it. A song was then given by Mr J. M. Bennett. The chairman, in handing the keys to Mr Marsh, said that he had a very pleaing duty to perform. He was sure they would all welcome Mrs Marsh to Mountain Ash. and hoped that Mr and Mrs Marsh would be with them for many years. Mr Albert Conley said he had known Mr Ma.rsh for some years and was proud to think that the people of Mountain Ash had shown their appreciation of him. Mr William Hale said he felt that the little that had been done that evening could not have been done for a worthier object. He hoped Mrs Marsh would find in Moun- tain Ash hearts as warm and sincere as those in the city *hich she had come from. He hoped the presents would always remind the recipients of the esteem in which they were held in the neighbourhood. Messrs T. Davies, Thomas Griffiths, John Jones and George Wakefield also spoke. Mr Marsh, in responding, said he could not find words to express his thanks to those who had contributed towards the presenta- tions. He would take the desk as a token of the respect and esteem in which he was held by the officials and workmen. He thanked the meeting on behalf of his wife and himself for the kind way in which they had spoken of them that evening (cheers). Solos were rendered by Messrs J. A. Williams, Alfred Dudley, George Jeffries, David Morgans and Charlie Mathews. A recitation was given by Mr Thomas Hughes. A vote of thanks to the chairman was proposed by Mr Tom Smith and seconded by Mr Sam Williams.
Advertising
CUlSTARD POWDBB Completely supersedes the use of Eggs in the preparation of High-Class Custard- Greatly increases the popularity of all Sweet Dishes-The unfailing resource of every successful hostess. RICH IN NUTRIMENT. DELICATE IN FLAVOR. BIRD'S Custard is the one thinff needed with all Stewed, Tinned or Bottled Fruits. It enhances their flavour and imparts to them a grateful mellowness. NO I= I NO RISK I NO TROUBLE 1 To Piano Buyers. Notice of Removal. THJMPSON & SHACKELL, LTD., Piano and Organ Merchants, Beg to inform the Public that they have now removed to their New Premises at 114 High Street, Merthyr, Where they have a magnificent stock of instruments by all the best makers, and respectfully invite a visit. Sole Agents for most of the following celebrated makers :— Bechstein, Broadwood, Collard and Collard, Kaps, Ibach, Brins- mead, Hopkinson, Schreiber, Challen, Gors and Kallmann, Justin Browne, etc., etc., and the Estey Organs. Best discount for cash; or can be had on the 1, 2, or 3 years hire purchase system. Pianos by other makers taken in exchange. Tuners sent to all parts on receipt of postcard. Kindly note new address, and favour us with a call. AT LAST THE TIME HAS COME. Tlte Creat Discovery for all Diseases Of that most important organ, THE LIVER. It is J. H. TODD's wish that every sufferer should have relief and cure for the above-mentioned diseases. The chief symptoms are as follows :-Yellowness of eyes and skin, gall stones, nervousness, weakness, shortness of breath, sinking in the stomach, irregular appetite, fulness after meals, pains in the head and between the shoulders, palpitation of the heart, spasms, wind, dizziness, and spots before the eyes. All these symptoms point to derange- ments of the above important organ of the body. J. H. TODD'S MEDICINE AND PILLS are especially adapted, and almost immediately, by direct action, produce a healthy effect upon the Liver, and the above distressing symptoms gradually commence to disappear after a few doses have been taken. These Medicines and Pills are some of the grandest ever brought before the public for female disorders. No home in this country should be without these Medicines and Pills for anaemia, and in the first stages of dropsy and consumption they are unequalled. It is J. H. TODD's intention to place these important medicines before the public at such low prices so that they are within the reach of the humblest of homes. Anyone wishing to consult Mr J. H. TODD personally upon these diseases can do so at any hour at z 7, T Dean House, Dean Street, IVlaesydref, Aberdare. These medicines can be obtained at Aberaman Co-operative Stores, Cwmaman Co-operative Stores, Mountain Ash Co-operative Stores, io, Fforchaman Road, Cwmaman, The American Grotto, Canon Street, Aberdare. Prices: 7-id., 1/lh 2/9, 4/6, 11/ Post Free 1/3, 3/0, 4/10, 11/6. Postal Orders and Cheques payable Lloyds Bank. J. R. TODD is also a manufacturer of Artificial ||f|ff Teeth Sets fromt2 2S to £ 10 (in gold). Teeth stopped, sealed and cleaned a speciality. No charge for extracting old Teeth when giving orders for new. Teeth extracted painlessly, is and 2/6., Arrangements can be made so that all suffering from Indigestion and Stomach derangements through the loss of their teeth, may obtain a NEW SET by paying 5s per week. A small deposit must be paid when giving orders. J. H. TODD'S TOOTHACHE ESSENCE Is one of the grandest cures for Toothache, and can be obtained at all the above agencies at 7!d a bottle.
EVERY WOMAN
EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illus- trated Book, containing valuable information how all Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recommended by eminent Physicians, as the only Safe, Sure and Genuine Remedy, Never Fails. Thousands of Testimonials. Established 1862. Mr P. BLANCHARD, Dalston Lane London.
A WORD TO LADIES.
A WORD TO LADIES. Send two stamps for our new and original Illustrated Booklet, containing plain and practical advice how Irregularities, Suppres- sions, &c., may be prevented or removed by simple means in a few hours. Recommended by eminent Physicians, and thousands of Ladies, as being the only Genuine Remedy* This is not a quack medicine. Established 30 years. LESLIE MARTYN, Ltd,, Chemists, 34, Dalston Lane, London.