Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
AMLWCH.
AMLWCH. TE PARTI YSGOL SABBOTHOL Y WE8LEYAID. —Dydd Iau y 7fed cyfisol, cynnaliwyd yr uchod, a mawr y difyrwch a gaed mewn cyfarfod ya nghyd y flwyddyn hon etto, er nad oedd piwb oedd yn cael eistedd wrth y byrddau flwyddyn yn ol yno eleni; ond hyderwn eu bod hwy wrth fwrdd y wledd yn nby eu Tdd, ac meddai un cyfaill pan yn mwynhau yr arlwy, a than argyhoedd- iad y rhaid ein gwahanu,— HenfFych i'r dydd cawn etto gwrdd Yn Stio-n l&a odd-iutu'r bwrdd. Credaf fod heulwen brawdgarwch yn tywynu yn ddisglaeriach ar ein brodyr Wesleyaid nag un enwad yn ein tref, yr hyn sydd yn uu o elfenau sicraf Hwydd- ianfc. Ua prawf o hyny ydyw, yr aingylch- iad hwn, tra nad oes yr un o'r enwadau ereill wedi cael yr un te parti na dim o'r fath yn ein tref eleni. Mae hyn yn fath o bechod yn ngolwg rhai o'r Phariseaid hunan-gyfiawn yma, fel yr arferant eu holl ddylanwad penarglwyddiaethol i'w rhwystro, tra mewn gwirionedd mai hwy eu hunain yn eu gorawydd i fod yn ben fydd yn codi ymrafaelion, nes eu gwneud yn anfuddiol. Pa ryfedd fod ein pobl ieu- aingc yn myned ar gyfeiliorn, tra y mae ein swyddogion eglwysig mor oeraidd eu serchiadau tuag attynt ? Yn yr hwyr, cafwyd cyngherdd yn y capel, o dan lyw, yddiad ddoeth Mr John Williams, Man- chester House, a'r cor yn cael ei arwain gan Mr Daniel Jones, yn cael eu dilyn ar yr harmonium gan Miss Paynter, Maes- yllwyn. Cymmerwyd y rhan adroddiadol gan Mr Abraham Botham, yr hwn a aeth trwy ei waith yn ganmoladwy. Y dernyn a berfformiwyd ydoedd allan o Uncle Tom's Cabin," o drefniad James Lipton, y geiriau wedi eu cyfieitbu i'r Gymraeg gau Mr J. Thomas, Qaeen-street. Gwnaeth pawb ei ran yn dda odiaeth, ac nid y leiaf felly Miss Lemin canodd hi ddau unawd ei hunan yn rhagorol. Mawr ddiolch i'r cyfeiilion am y cyfarfod. Buom fwy n.a unwaith yn talu yn ddrad am gael myned i gyngherddau heb fod cyshl a hwn. Le'n dda cael rhywbeth i loni tipyn ar yspryd dyn mae'r lie ers tro bellach fel diffaeth- woh.-Nid Nero.
BANGOR.
BANGOR. LLYS YR YNADON. Cynnaliwyd llys pythefnosol ynadon Bangor ddydd Mawrtb, pryd yr oedd ar y fainge y Milwriad Holt, Cinon Wynne Williams a'r Parch. D. Evans. Cyfraith Addysg. Am droseddu' yn erbyn Deddf Addysg gorfu i Griffith Hughes, asiedydd,Penrhosgarnedd,Bangor, dalu dirwy o swllt; Thomas Griffith, llafur- wr, o'r un lie, 23 6c; a Thomas Lovebone, signalman,Penychwintan,2s 6c.-Gwnaeth y Faingc archeb yn gorfodi Tnomas Jeremiah Williams i anfon ei fachgen i'r ysgol. Creidondeb.—Dirwywyd Richard Parry, a Robert Parry, (tad a mab) o Gaellwyn- grydd, y cyntaf i 15s a'r costau, a'r ail i 5s a'r costau, am weithio eeffyl tra nad oedd mewn cyflwr i hyny.Bu raid i William Jones, cyn out-porter yn ngorsaf Bangor, dalu 5s a'r costau am roddi cie i gi perthynol i Edward Sides. Ymosodiad-—Dirwywyd Benjamin Rich- ards, morwr, Bangor, i 20d a'r costau am ymosod ar Owen Prytherch, tocyn gasgl- ydd, Gorsaf Bangor, yn mis Mai diweddaf. Meddwdod. Am feddwi dirwywyd Robert Roberts, llafufwr, Bangor, i Is a'r costau; William Baggallay, llafurwr, Bangor Uchaf, 2s a'r costau a John Ro- berts, pier-master,- Beaumaris, 5s a'r costau. Erlyniadau gan y Hwrrld Iechyd.-Caf- odd William Thomas, cerbydwr, o Feth- esda, ei dditwyo i 10d a'r costau am beidio gwisgo ei badge.Am aros yn rhy hir mewn ty tafarn, a thrwy hyny adael i'w geffyl a'i gerbyd fod ar y brif heol heb fod o dan ofal neb, dirwywyd John Edward Jones, cerbydwr arall o Fethes- da, i 10s a'r costau.—Bu raid i John Prit- chard, un arall o gerbydwyr Bethesda, dalu 10s o'r costau am yru yn ynfyd. Pysgotta yn Annghyfreithlawn. — Am wneud yirosecid hwn mewn afonberthynol i Arglwydd Penrhyn, dirwywyd John Da- vies a Morgan Owen, dau ddyn ieuangc o Ebenezer, Llandinorwic, i 10s a'r costau yr un.
CASTELL CRIOCIETH.
CASTELL CRIOCIETH. Yr ydyeh yn cofio, mae'n debyg, fy addewid yr wythnos o'r blaen yn nghylch yr ymrafael a fu yn Glanymor. Y mae yr hanes rhywbeth yn debyg i hyn:—Yr oedd un ferch ieuangc yn y dre, yn gwas- anaethu yn rhywle; ond am rhyw reswm bvnod iawii, hi a ymadawodd un pryd- uawn. Ac yn ei lie, daeth un drachefn, a gwawdiai'r gyntaf hi'n ei chefn ond un prydnawn, wrth Banycei, cyfarfu'r ddwy ya hynod sty ac wedi pasio geiriau drwg, dechreuent ddyrnu fel y mwg. Ar hyn daeth llt] o bobl y lla, ar ganol bwytta pryd o de, a rhywun waeddai, Hoi, myn rhew, rhowcb chwareu teg i'r hogen dew." Un arall waeddai, Mwrdwr mawr; 0! I codweh hi oddiar y Ilawr." Ac wedi dar fod curo'n dost, aeth rhai o'r mcrched i gyfri'r gost. Una fynai gyfraifch deg; un arall a ddywedai, Can dy goge)3 A ffraao buont am amsor maith, nes daeth y gwyr oddiwrth eu gwaith. Ac fel yna, wedi ffraeo a chwffio, bu raid cael gwyr y cwils i drin y matter a chael haner dweia o ferched y lie i dystio yn erbyn eu gilydd. Yr wyf yn siwr y byddai yn well i'r dos- barth hwn a phob ua arall settlo eu mat terion gattref. Yr wythnos o'r blaen digwyddodd mar- wolaeth sydyn iawn i lodes ieuangc o Bwllheli, mewn ty o'r enw Parciau bach, ger Criceieth. Ar ol ei marwolaefch, dy- wedwyd iddi gymmeryd gwenwyn, a thrwy hyny bu raid cadw y corph am ddyddiau lawer er cael archwiliad arno ac wedi yr holl drafferth i gyd, barnodd y doctoriaid nid oedd rhith o wirionedd yn hyn. ROBIN DAFYDD.
LLANRUG.
LLANRUG. Y mae yn dda genym ddeall fod y Parch. R. M. Edwards, Llanrug, wedi cael ei appwyntio gan Arglwydd Penrbyn i bersonoliaeth Ysbytty Ifan.
PONTARDULAIS.
PONTARDULAIS. GOSTYNGIAD YN Y CYFLOGAU.—O'r pedwar gwaith Alcan sydd yn y lIe hwn, mae rhy- baddion wedi eu rhoddi mewn dau o honynt—gweithiau Heady a Ty'nybongc- yn gofyn am ostyngiad yn y cyflogau. Ni wyddis yn bresenol pa un a ddilynir yr un Uwybr gan ddau waith arall ai peidio. Nid yw yn hysbys ar hyn o bryd ychwaith pa un a dderbynia y gweithwyr delerau y rneistri, neu a fydd iddynt "sefyll allan," os parha y meistri ya ddiysgog wrth eu pen- derfyniad o hawlio y goutyngiad. PLESEBDAITH.—Dydd Sadwrn diweddaf cafodd aelo(tau ysgolion dyddiol yr Hendy eu cymmeryd ar bleserdaith i lan y mor, i'r Mumbles, ger Abertawe. Rhwng y plant a dynion mewn oed, ymadawodd dros fit gyda'r tren arbeaig a'i dygai yno. Pan gyrhaeddwyd gorsaf Mumbles-road, yr oedd yn rhaid ymadael a'r trea, a myned oddiyno gyda'r tram cars," ond yn lie gwneud byny, aeth amryw rhag eu blaen i dref boblog Abertawe, lie y gwir fwyn- hasant eu hunain. Cafodd y plant ac ereill a aethant i'r Mamble3 hin braf i fwynhau awyr iachus y mor ac i ddringo y creigiau a'r castell, yn yr hwn Ie y cyf- ranogwyd gan y plant o de rn y prydnawn. Dychwelwyd adref mewn amser prydlon, a phawb yn llawen ac heb gyfarfod ag un ddamwain i amharu eu mwynhad, a dy- muniad y plant yw cael diwrnod cyffelyb etto yn fuau.-Gohebydd.
PORTHAETHWY.
PORTHAETHWY. LLYS Y R YNADON. Gynnaliwyd Ilys pythefnosol ynadon dosbarth cyntaf Moo, dydd Llan, yn Porth- aethwy, pryd yr oedd yn brosenol y Cad- beniaid Verney a Morgan, Mr W. Massey, a Mr H. B. Price. Troseddu yn erbyn Cyfraith Idciysg.- Am droseddu yn erbyn y Gyfraith uchod drwy fethu ailfon eu plant i'r ysgol yn rbeolaidd dirwywyd Mark Price, llafarwr, Yard Malltraeth, i 5s yn cynnwys costau; a Henry Thomas,morwr,Bryn,Llaudegfan, i swllt yn cynnwys costau.—Dygwyd cy- ffelyb gyhuddiad yn erbyn William Ro- berts, amaethwr, Tyddyn bach, Trefdraeth, oad oherwydd afreoleidd-dra yn y wya taf- lwyd y cyhuddiad allan. Meddwdod.—Cafodd y personau can- lynol eu dirwyo am fe,,ddw:Iod -Hugh Roberts, dali wr cwningod, Brynsiencyn, i 53 ar costau; Henry Roberts, morwr, Glanymor, Porthaeihwy, 7s 6c a'r costau; Robert Rowlands, torwr ceffylau, Gwalch- mai, saith niwrnod o garchariad gyda llafur caled; Robert Pritchard, llafurwr, Brynsiencyn, 7s 6c a'r costau David Jones, llafarwr, Pump-street, Llangefni, 2s 6c a'r costau; Hugh Williams, Bryn Eryr, Llansadwrn, 5s a'r costau. Cospedigaefh dram am ymosod ar Iledd- geidwad.-Ca fodd Hagh Morris, daliwr cwningod, Brynsiencyn, ei ddedfrydu i chwech wythnos o garchariad gyda llafur caled am ymosod ar yr fleddgeidwad Wil- liam Jones, yn Brynsigncyn, ar yr 28ain cynfisol—Amddiffynid Morris gan Mr John Roberts, Bangor. Dyckryii Brain gan Bregetltivr.-Dygai awdurdodaa yr Inland Revenue gybuddiad yn erbyn y Parch. Simon Fraser, Llanfair P. G., o arfer gwn heb drwydded ar yr 22ain o Fai.-Erlynid gan Mr S. R Dow (Bangor), ac amddiffynai Mr J. Roberts. -Yn ei araeth agoriadol dywedai Mr Dew mai y pwngc ydoedd pa un a ydoedd Mr Fraser wrth saethu at fran yn lladd vermin neu ynte ddyehryn adar. Os nad un o'r rhai hya yr oedd yn ddarostyngedig i'r gytraitb.-Tystiolaethodd Thomas Wil- liams, platelayer, Stag CJthge, Llanfair P. G., ei fod wedi gweled Mr Frasor yn saetbu ddwy waith at fraa.—Ar ran y di. ffynydd cyfaddefai Mr Roberts yr oil a ddywedai y tyst. Yr oedd Mr Fraser wedi planu tatws a ffa ar ddarn o dir o'i eiddo, y rhai a aflonyddid ar ac a ddinystrid gan frain. Cvnghorwyd ef gan John Roberts, ceidwad helwriaetb, i saethu dros y tir, gan y byddai i hyny ddyehryn y brain ym- aith. Ychwanegodd y gallai Mr Fraser wneud hyny yn dJiofo, oblegid gwneid hyny yn ami gan amaethwyr. Gadawodd Roberts ei ddryll gyda Mr Fra.ser.a, than- iodd yr olaf ef fel y dywedid, eithr ni ladd- odd y fraa. Y&tyriai ef (Mr Roberts) pe buasai y diffynydd wedi hyd yn nod ei lladd na buasai i'w feio, oblegid gan fod rhan fawr o gnwd ffa y diffynydd wedi ei ddinystrio gollid ystyried y brain hyn yn vermin.—Wedi cael tystiolaeth John Roberts, y ceidwad helwriaetb, daeth yr yuadon i'r farn nad oedd y diffynydd wedi troseddu y gyfraith, a thaflasant yr achos "allan.—Gofynodd Mr Dew ganiattad i symud mewn llys uwch, a chafodd gyd- syniad y faiogc i hyny. Arfer Iaith Anweddlls.-Cafodd Mary Hughes, Fferm isaf, L'ansadwrn, ei rhwymo drosodd i gadw yr heddwoh am trfer iaith anweddus a bygythiol tuag at Eiizabeth Williams ac Ann Thomas, o'r un lie.—Ym-idangosai Mr G. D. Dew (Llangefni) dros yr achwynyddesau. AnifeViaid Crwydrol.—Dirwywyd Grif- fith Williams, ffermwr, PJas Gwyn, Llan- bedrgoch, i 5s a'r costau am ganiattau i rai o'i wartheg fyned ar grwydr a Robert Evans, Druid Farm, Henegi wys, 2s 6c a'r costau, am adael i hweh fyned oddicar- tref.-Tail wyd allan gyhuddiidau cyffelyb yn erbyn Rowland Hughes, Pentre'rfelin, Llangoed, a Jane Thomas, Ty'nlon, o'r un lie, gyda rhybudd. (Jyhuddiad o Ymosodlad. -Dygai Ann Rowlands, Tynewydd, Llangeinwen, gy- huddiad yn ergyn John Williams, Perth y Bear, Llanidan, ei diwedd&r feistr, gydag ymosod arni nes achosi iddi fyned dan driniaeth feddygol.—Ymddangosai Mr J. A.Hughes, Caernarfon, ar ran yr achwyn- yddes, ac amddiffynid gan Mr S. R. Dew. —Taflwyd y cybuddiad allan. Plentyn A nnghyfreithlawii. Ceisiai Margaret Jones, Post-office Place, Pen- traeth, dadogi ei phlentyn annghyfreith- lawn ar Richard Owen, Castell, Llandeg- fan.—Ymddangosai Mr John Roberts dros y ddynes, ac amddiffynid gan Mr S. R. Dew.—Taflwyd yr achos allan.—Gohir- iwyd rhai achosion i lys Llangefni.
CYFARFOD CYSTADLEUOL DOSBARTH…
CYFARFOD CYSTADLEUOL DOS- BARTH Y DE, MON. Gynnaliwyd y cyfarfod uchod yn Nghapel y Trefnyddiou Calfinaidd, Gaer- wen, ddydd Gwener, Awst 8fed. De- chreuwyd y cyfarfod cyntaf am 1.30. Llywydd, W. Roberts, Ysw., Fferam; ar- weinydd, Mr W. Ellis, Dwyran. Y budd- ugwyr yn y cyfarfod hwn oeddynt y rhai cinlynol:-Ara adrodd Pwssi yn y Ffwrn," gwobr, 2s goreu, Master H. Jones, Llangefni. Atteb cwestiynau ar "Anffaeledigrwydd Y sbrydoliaeth y Beibl," gwobr, 7s 61; goreu, Mr J. Jones, Llan- fair. Ni ddaeth" ddim ond un cor i ym- geisio am y wobr am ganu y don, Tie- faldwyn," sef, cor Capel Dinas, Llangefni, dan arweiniad Mr Robert Jones, Tradod- odd y beirniad, Mr O. Griffith (Eryr Eryri), feirnia.daeth fanwl ac addysgiadol. Dyweddodd fod y cor h wn yn ddiffygisl mewn tonyddiaeth, a dywododd, hefyd, am iddynt weithio yn galed gyda diwylllad ac amaethiad y lleisiau, gan dechreu gyda'r soprano, a gwneud iddynt oil ganu fef un corff o llais pur, a chymmeryd yr un llwybr gyda'r oil o'r lleisiau, modd y ceid lleisiau yn ymdoddi i'w gilwdd a'r har- mony yn well. Nid oedd yn cael yr expres- sion ychwith yn gywir, yn ol ei farn ef; ond dywododd eu bod yn teilyngu y wobr o 1 p. Un ymgeisydd oadd ar y pennillion i Gyfarfod cystadleuol y dosbarth," yr h wn ni wnaeth ei ymddangosiad. Am gyfeithiad i'r Cymraeg o'r dernyn Is it right ?" gwobr, 63; gorau, Mr O. Cnam- bers, Carrog, Llangristiolus. Am ganu yr unawd, Y Llongddrylliad," gwobr, 4s; dau ymgeisydd goreu, Mr J. Morris, Brynsciencyn. Am atteb cwestiynau ar y -bennod gyntaf o'r Ephesiaid, gwobr, laf, 12s; ail, 88;, cydfuddagol, Mr H. Prit- chard, Sardis, un o Aberffraw, na clywais ei enw, a Mr Jones, o Llangefni. Traeth- awd "Dagrau y Beibl," cyfyngedig i Z3 ferched, gwobr, 12s; goreu, Miss M. Prit- chard, Llangaffo. Am ramadegu adood, gwobr, 83; goreu, Mr W. Edwards, Llan- gefni. Yna daethpwyd at brif attyniad y cyfarfod, sef cystadleuaeth gorawl y p lant, Yr Arglwydd sy'n teyrnasu," o Gantata Dafydd, gan Mr H. Davies, A. C., Rhiw- abon, gwobr 3s. Yr oedd tri o gorau yn cystadla, sef eiddo Llangefni, dan arwein- iad Mr Robert Jones; Brynsiencyn, dan arweiniad Mr E. Jones; a'r Gaerwen, dan arwaini,-tdl.LfrT. Owen. Ctfwydbeirniadaeth fanwl etto. Aw^rymodd y beirniad fod yn angenrheidiol i'r dynion goreu amwyaf clust-deneu ein hardaloedd fod gyda'r plant. Dywedodd fod y tri chor edi canu yn dda, ond fod Cor y Gaerwen yn tra rhagori mewn intonation ac expression, ac mai efe oedd y goreu. Derbyniodd Mr Thomas Owen, yr arweinydd, y wobr gyda tharanau 0 gymmeradwyaeth. Ar ddiwedd y cyfarfod canodd yr holl gorau yn rha- gorol, dan arweiniad medrus Eiyr Eryri. Hefyd cafwyd caneuou rhagorol yn ystod y cyfarfod gan Eryr Eryri. Llanwodd y llywydd ei swydd yn rhagorol fel arfer, a'r arwoinydd hefyd yr ua modd. Drwg genym hysbysu mai ychydig iawn oedd y cynnuHiad yn y cyfarfod hwn, Wedi talu y diolchiadau arferol, terfynwyd y cyfarfod. CYFARFOD YR IIWYR. Llywydd, R. Hughes, Ysw., Lime Works; arweinydd, Mr R. P. Jones, Newborough. Dechreu- wyd y cyfarfod am haner awr wedi pump trwy i'r cor plant buddugol ganu. Yn ail caed annerchiad gan y Liywydd, ac wedy'n can gan Miss Parry, Pensarn. Un ddaeth yn mlaen i ganu yr unawd o Teyrnas- oedd y ddaear," gwobr 4s, sef, Mr J. Hughes, Newborough, a dyfarnwyd iddo y wobr. Am adrodd Crist yn dysgu iaith, y werin," gwobr 2s 6c goreu, Miss E. Roberts, Dwyran. Am y traeth awd "Hanes brenhinoedd Israel a Juda," gwobr 12s; goreu, Mr R. Davies, Bethel. Can gan Miss S. Tones, Llangefni. Am y ddau englyn Y Nefoedd," gwobr 5s goreu, Mr R. L1. Pritchard (Merwydd Mon), Heneglwys. Beirniadaeth, arholiad ar "Arfaeth," gwobr laf, lp; ail, 10s; I gureu, Mr J. Jones, Llanfair; ail, Mr O. ( Rowlands, Dwyran. Can gan Eryr Eryri nes gwefreiddio y gynnulleidfa. Cyfieifchu i'r Saesneg Y Dywysoges Alice," gwobr 6s; goreu, Mr J. Jones, Llanfair. Adrodd Dinystr y DemI," gwobr 4s goreu, Mr Timothy Owen, Llangefni. Amddatganu yr unawd "'Yr eneth amddifad," gwobr 4s; goreu, Miss E. Jones, Bryntwrog Farm, Bodwrog, a chafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniad. Traethawd ar Gydwybod," gwobr gini; cydfuddugol, Mr E. Jones, Brynsiencyn, a Mr 0. Rowlands, Dwy- ran. Aeth y llywydd a'r arweinydd trwy eu gwaith yn ganmoladwy iawn. Cyflwyn- wyd y gwobrwyon yn nghyfarfod yr hwyr gan Miss Jones, Ty Croes, a Miss Roberts, Gwydryn. Y beirniaid oeddynt y Parch. R. Williams, Llangwyllog W. Pritchard, Pentraeth; J. Williams, Brynsiencyn; Mr J. Gaerwenydd Pritchard, Bethesda, ac Eryr Eryri; a gwnaetbant oil eu rhan yn rhagorol. YNYSWR.
CREFFT Y CRYDD.
CREFFT Y CRYDD. Crydd ydwyf finau, Mri. Gol., nid o Lanerchymedd ychwaith, nac o Ddinbych. Yr wyf yn dwyn mawr sel dros fy "nhraed," chwedl Morys y Magwr, i'r hwn yr oedd traed crynion fel elephant- iaid. Y mae pob crefftwr da yn meddw! yn fawr o'i grefft, fel y mae pob gwlad- garwr da yn meddwl yn fawr o'i wlad. Cobleriaid pygddu, diog, annghelfydd, sydd yn lladd ar y broffeswriaeth gryddol. Paham y rhaid i grydd gywilyddio o'i alw- edigaeth, mwy na meddyg neu gyfreith- iwr? Y mae gwneuthur gwisg i'w rhoddi ar drae(I dyn," fel y dywedai y Bardd Cocos yu un o'i arwrgerddi poui- gamp, mor anrhydeddus gwaith a pbys- ygu dyn i farwolaetb, neu ei gneifio hefo gwellaif y gyfraith wia(tol. Os yw henaint yn ychwanegu rhywfaint at urddas galw- edig'aeth, yr wyf yn barod i honi a thyngu ar y lapstone, os bydd galwad am hyny, fod cryddiaeth can hyned a'r un gelfyddyd, gyda'r eithriad, hwyrach, o arddwr a hws- mon. Pan dorodd y ddaear allan mewn natur ddrwg tan effaith melldith Eden ar lun drain a mieri, y pigyn cyntaf aeth i droed ein rhieni cyntaf a alwai am waith y crydd ac er nad oes genym ddim cry- bwylliad dilys am y grefft hyd ddyddiau Moses, pan y cafodd y patriarch-ddeddf- roddwr hwnw orchymyn i ddiosg ei esgid- iau oddiam ei draed neu yn hytrach ddyddiau Job—dywed rhai heirniaid Beibl- aidd fod Job yn gyfoeswr a.g Abraham—ac y mae adnod yn Ilyfr Job yn gofyn, "A dylli di ei drwyn ef a myniawyd ?" a rhaid fod crydd cyn y buasai myniawyd nac esgid,—nisgallyr un uchelwrynMhrydain olrhain ei dras can belled yn ol ag y gallwn ni olrhain ein galwedigaeth. Ac nid yn unig y mae yn hen, ond y mae hefyd yn ddefnyddiol. Gallesid gwneud yn o lew heb yr hetiwr, gan fod natur wedi darpar am tua.haner oes dyn do diddos o wallt i orchuddio ei ben, ac am yr haner arall wis60 wig wedi ei wneud o rawn eeffylau, g ond gofalu na ddigwydd i'r cyfryw amlen mo'r ddamwain a ddigwyddodd i eiddo offeiriad sir Aberteifi Ac wrth fyned adref ar hyd rhyw ffordd geryg Yn y prydnawn fe gsllodd ei ferwig Ac yna rhyw gigfran a'u cipiodd hi'n union, I ddodwy a nythu yn merwig y Person." Ond am y traed ni wnaed cyffelyb ddar- pariaeth er ei bod yn wir fod gwadnau y traed yn tewychu wrth eu gwisgo, ond fedrweh chwi na neb arall byth gael gan groen dyn dewychu mor drwehus a chroen ceffyl, neu hyd yn nod groen Ho. Y mae dyfais dyn wedi bod ar waith trwy'r oesau yn perffeithio defnyddioldeb yr es- gid. Ar y cyntaf nid oedd ond math o sandal annghelfydd—y gwadn o bren, a I hwnw wedi ei rwymo wrth y troed hefo wdeni o'r gwydd. Y mae yr esgidiau a wisgir yn awr yn rhai o wledydd y Cyfan- dir wedi eu gwneud o ddarn o bren, ac yn debyg i gafn mochyn. Nid oes llawer o amser er pan aeth goruchwyliaeth y & sen drosodd ynNghymru ungo f 0a hi hefyd ar fanau gwlvbion, a dia^ bod yn wasauaethgar yn y cyfryw etto. Ond i herwheliwr wisgo °^PcS'Jjji ddygid ef gerbron ei well am boachio,& ddadlu fod gan bob dyn hawl i saet'-J ei goed ei bun. Ond y mae celfy wedi ychwanegu llawer 0 foethan esgidiau yn ystod y ddwy oes aeu aal j weddaf hyn, a cheir amrywiaeth ohonynt, megys esgidiau a thopia^ f ion, gleisioii, llwydion, &c.—y yn benaf at ganlyn cwn hela; esg1"1 y sodlau uchel—high heel boots to them tall "—fel y gelwir hwynt, y r^0j, wisgir va benaf gan ferched a ck^8 wrs bychain o gorpholaeth; esg y iau bluchers, yn cyrhaedd trog tb ffer; half Wellingtons yn cyrhaedd croell y goes; a Wellingtons yn cyrhaeddyPo glin. Rai blynyddoedd yn ol, bygJ j chwyldroad hollol yn ein 1 trwy ddygiad i mewn ihyw nwydd o'r enw Gutta Percha. Bu llawer 0j arno am yspaid, ond yr oedd tuedd y ffrynd i doddi 0 flaen gwres y tan -a P, jj ddelai dyn oddiallan ar dywydd oer a j ei bedion ar ffon y grat, er mwya ett j hesu, deg i un na fyddai wedi ga. ej gwadn ei esgid ar y ffon pan dynalfoJ draed oddiyno. Gwelwyd yn fuan. jg llawer o wir yn hen gyswyn*,Ilr S y grefft. There is nothing like leftt Ond un o'r melldithion trymafyn & a mwyafrif marchogion y ddaeth erioed i ran yr rhydeddus hon ydyw y defnydd a beirianau i grydda. Bu ages i hyo L ddisodli y goifyddyd,fel y dyfetaiod( 8 gelfyddydau parchus ereill; ac Did det' bur sicr nad hyny a wna hefyd cyp T fydd a ni. Fydd hyn yn golled canys beth a wneir wedi hyny am y 86liea(.t. dai plwyfol, fel yr eiddo GwilymP^X e( gynt yn Nolwyddelen ? Yn siop y L$> cyn cof y penderfynir rhai 0 fatterion p- icaf pob ardal; a pheth arall hefyd^6. daw o'r chiropodist, yr hyn o'i y yw corn-dorwr, ar ol dileu carcba crydd? Dyna gwestiwn arall heff"^ oarwn ei ofyn yn y fan yma, a'i at ystyriaeth ddifrifol pob gweinidog neillduol sydd yn caru tymhestl (09 cryddiaeth wrth gwrs fe ddiflana'r cry pwy sydd i godi rowyn yr oglwysi a' fli crydd fyned ? Ni fedr y teiliwr y gorchwyl ei bun; ac ofnir mai'r anffoddus a fydd llonyddwch a m,tr tI dra na welodd Seion Ymneillduol Ø1 fath erioed. ttíd fath erioed. 0 Y mae'r deigryn yn neidio i fy } wrth synied ac ysgrifenu yr { hyn; ac yn enwedig wrth feddwi f°Vy hen drat urddasol ar gael ei symfld ■ cyfryw oddiar wyneb y ddaear. Cas fy enaid ydyw edrycb ar drafaeliwr j»» esgidiau. Trafaeliwr mewn fel pe byddai rhywun mor ffol A tbra^ 00$ ar y tymhor caled hwn heb esgidiau. ø fel y dywedir: Trafaeliwr e&í(J. menyg," "Traefaeliwr mewn hetiaU, !lt1 0 Wyddoch chwi beth? nid yn unigy. ^jj cryddiaeth yn myn'd, ond y mae'rijgfld Gymraeg yn myn'd hefyd, pan y y fath fastardd-frawddegau true»aS rhai hyn.—" Crispin," yn Y Dryeh- j
ANFFAWD AR REILFFORDD NARFON…
ANFFAWD AR REILFFORDD NARFON AC AFONWEN. di Boreu ddydd Mercher, yr wythoo9 j weddaf, fel yr oedd y mail o Gaerna^ Afonwen yn myned rhwng gorsaf Pa0jj[ a Brynkir, canfyddwyd fod y ffordd « ei chario ymaith gnn y Hifddyfroedd swydns oedd wedi gordoi yr holl lea^y [ Digwyddodd fod dyn wedi dyfod reilffordd a chanfod y ffordd a dryllio, ac aeth i ymofyn rhywrai "3^ gallwyd rhybuddio y gyriedydd ond. gallwyd attal y gerbydres hyd nes o fewn ugain 11a th i'r fan, a thrugar fawr ydoedd hyny, onide buasai y o'r cerbydau yn bentwr drylliedig a'^ oedd ynddynt.-Un a'i gwelodd.
YR HELYNT CLERIGOL YN MOS.,
YR HELYNT CLERIGOL YN MOS. .Ddydd Sadwrn daeth o flasn Lly8 Archau yr achos <f James yn erbyu.rf berts." Ar ran yr erlyniad, &PPe^al3ftli Jeune am ddexbyniad y cwyn, 0 d Ddeddf y Ddisgyblaeth Eglwysig, a wrth Esgob Bangor, a'r appeliad ad cyhuddiad 0 feddwdod a ddygid yn y Parchedig William Anwyl Roberts, fic^ Llanfairmathafarneithaf, yn Mon. Y. oedd dirprwyaeth a bennodssid yn & Z{ ladwy gan Esgob Bangor wedi dyfod penderfyniad fod y tystiolaethau fp A gonol i fyned yn mlaen gyda'r acb0^ gofynai yr esgob i'r llys orchymyn pr°^ *9 achos. Derbyniodd Arglwydd yr appeliad, a rhoddodd orchymyn 1* ffynydd ymddangos i atteb y cyhuddiad* a ddygid ynei erbyn,
[No title]
Dwfr Rosbacu.—Y mae y Dwfradaabyddus waiaaasth y bwrdd. Gwell genyf hwn nag un^jjadl Ddyfroedd Mineral ereill o flaen y cyhoedd (Adrod y' ProfFeswr Wacklyn). Gwerthir yn mhøb roaIl. eC' retail 63 y dwsin Beintiau, 8s y dwsia Chwartiau. P df ynau gwreiddiol, yn cjnawys 50 o Botelau 'j- Chwart 293, neu 100 etto Peinfc, 46a.—The Company, Limited, fiasbury Circus, LondoCj i*™*