Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

PORTHAETHWY.

News
Cite
Share

PORTHAETHWY. PltIODAS MISS MURDOCH.—Dydd Sabboth y 9fed cyfisol, yn eglwys Tysilio Sant, cyhoeddwyd gostegion priodas rhwng Mr Francis Hume Kelly,Glyn Carra Armorita, Weatmeath, Iwerddon, à Gertrude Annie, merch Mr C. M. Murdoch, Belvidere, Portbaethwy. Bydd hon yn briodas gy- hoeddus, a gwahoddir pawb i'r eglwys i gyfarfod y pir ieuangc. Diau y daw 11awer o Fon ac Arfon, gan fod y briodforch yn dra adnabyddus yn y ddwy sir. Mite nifer o drigolion y Borth, Llanfair, a'r cwmpasoedd wedi ymffurfio yn bwyllgor i lunio y moddion goreu er talu parch i'r teulu ddiwrnod y briodas, yr hon a gymer le oddeutu y 9fed o Fai. Bydd y gwasan- aeth yn gorawl, traethgenir y salmau a'r attebion, a chenir yr emyn briodasol, "The voice that breathed o'er Eden," (212 II Hymns Ancient and Modern") ar don Gymreig gydweddol A'r amgylchiad. Bwriedir gofyn cenad yr Arglwyddes Willoughby i bawb a ddelo i'r briodas gael myned trwy bare a gerddi Plasnewydd. Rhwng pobpeth diau y bydd dydd y briodas yn ddydd o lawen chwedl i hcli ieuenctid yr ardal, ac y bydd hyd yn nod blant o oedran mwy" yn arddangos arwyddion o'u llawenydd diffuant ar ach- lysur mor ddyddorol. ESGOB BANGoia.-Bydd yr Esgob yn pregethu yn Eglwys y Borth nos Sul y Pasg. Dechreua y gwasanaeth am chwech o'r gloch. Y DIWEDDAR MR R. G. WILLIAMS, Q.C. —Nid yn fuan y gwneir i fyny y golled a gafoctd Cymru yn marwolaeth y gwr dys- gedig a gwhtdgarol hwn. Yn yr Eurgrawn am y mispresennol ceir don goffadwriaeth- 01 am dano o waith ei hybarch dad, Cor- fanydd, yr hwn sydd er's rhai blynyddoedd yn un o drigolion mwyaf adnabyddus a ehyhoeddus Porthaethwy. Enw y don yw Llandaneio," am mai yn y fynwenthono y claddwyd Mr Williams ar y 18fei o Hydref, 1875. bangoswyd y don yn ddi- weddar i Mr Brinley Richards, yr hwn a fawr ganmolai ei harddull Gymreig a i dirfawr ragoriaeth. Ni ryfeddem weled y don hon yn ail i Dymuniad" o ran a poblogrwydd. CERFANYDD A HYMEN.- Mae priodas dyfodol Miss Murdoch yn dwyn adferiad i ysbryd a brwdfrydedd yr hen lenor bar- fwyn sydd yn pwyso ac yn mesur corfanau yn nghysgod y "corn mwg goreu yn Mon." Dywedir ei fod yn cyfansoddi ton ar gyfer yr emyn sydd wedi ei ddewis i'w ganu yn yiitod y seremoni. Mae enw yr awdwr yn ddigon o sicrwydd y bydd ei phrif gordiau yn drwyadl Gymreig; ond y mae pererindodau y Corfanydd yn yr Iwerddon wedi gadael argrafiiadau Hibernaidd ar ei feddwl, fel na bydd yn syndod yn y byd cael ambell i frawddeg Wyddelig yn y don, yr hyn a fydd yo burion peth yn gymmaint a bod y priodfab yn hanu o un o deuluoedd anrhydeddusafyr Ynys Werdd. Y perygl ydyw i nabl y Pencerdd Corfanyddol godi hwyl briodasol ynmysg colotnau henlanc- yddiaeth yr ardal. Mae gwep Many a wise one yn dechreu gwelfti ynbarod.

Advertising

------EIN LLEFARWYR CYHOEDDUS…

YMDBANGOSIAD YSBRYDION. 1

CERDDORIAETH.

- - DEDDFAU Y MYNWENTYDD.

TRETHI FFESTINIOG.

NODIADAU IANTO COUND.

_..-LLANDUDNO. / '.i