Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

GWRECSAM A'R AMGYLCHOEDD.

News
Cite
Share

GWRECSAM A'R AMGYLCHOEDD. DAL LLADRONES.—Boreu Sadwrn, gyd- a'r wawr, talodd yr arolygwr Wilde ym- Weliad & gwahanollettyilai (lodqinq-houses) y dref, er dod o hyd i un Catherine Flan- nary, yr hon oedd wedi diangc o Stone, Staffordshire, gan gymmeryd i'w chanlyn nifer helaeth o ddillad ei meitres, gan eu defnyddio i addurno ei pherson ei hun. Wedi ei chael, trosglwyddwyd hi yn ol i I WY I ofal awdurdodau Stafford, pa rai a ym- ddygant atti yn ol teilyngdod ei throsedd. Dyma rybudd i forwynion i adael pethau na pherthynant iddynt yn llonydd, onide deuant i warth a ohywilydd. CYNOHERDD.—Yn aghorph yr wythnos cynnaliwyd cyngherdd er budd y clafdy, y maer yn llywyddu, a Mr E. Harris yn arwain, a chafwyd gwasanaeth amryw foneddigesau a boneddigion o dalent, a hyny yn rhad ac am ddim. Yr oedd y Temperance Hall yn lied lawn o wran- dawyr parchus, a chafwyd 8p o elw. YSTORM.-Dyddiau LIun a Mawrth, talodd ystorm enbyd ymweliad a'r dref, gan wnead dinystr mawr ar amryw adeil- adau. Chwythwyd rhan helaeth o'r adeilad newydd perthynol i Mr Low, Hope-street, i lawr, gan wneud colled o rai cannoedd o bunau, Gwnaed difrod Hed bwysig ar adeiladau Mr Thomas, wrth orsaf y rheilffordd a derbyniodd Mount- street gryn sylw gan yr ymwelydd din- ystrio), drwy iddo chwythu amryw fanau yn deilchion—mewn gair, mae hoil adeil- adau uwchaf y dref yn cael ei sylw, ac yn neillduol y rhai mwyaf candryll ac egwan. Ac er fod y mynegfys ar ffordd Rhuthyn wedi gwrthsefyll ystormydd llawer blwyddyn, profodd yr ystorm hon yn dreeh nag yntau, gan ei wneud ef a'i gymhares (sef y lamp a hongiai arno) yn deilchion. YR EISTFDDFOD.-Dywedir fod galwad helaeth am restr testynau yr eisteddfod yn mhob parth o'r deyrnas; ac os ydym i farnu y gystadleuaeth oddiwrth helaeth- rwydd gwerthiant y testynau, gellir dis- gwyl pethau mawrion. Ond bydded hys- bys i bawb sydd yn bwriadu dyfod i'r wyl genedlaethol, ei bod hi yn anhebgorol angenrheidiol iddynt fod yn hyddysg yn yn yr iaith fain, neu waeth iddynt aros adref, os nad yw y pwyllgor yn bwriadir llogi rhywun cymhwys i gyfieithu eu gwelthredoedd Dicsiondafyddo'l. Dywedir fod sypyn o gyfansoddiadau o'r America wedi dyfod i law yn barod, ac ,fod tyrfa yn dyfod. PEL GICIO:- Mae yr Ysgotiaid wedi treehu Cymry Llundain gyda'r gwaith di- fudd hwn, ac ofnir mai yr un modd y bydd hi gyda chynnyg Gwrecsim yma, pa rai sydd yn myned i Glasgow er treio eu gallu cicyddol y Sadwrn nesaf. Os anffawd fydd eu rhan, ni fydd achos galaro. CYFARFOD YR YNABON.—Fel arferol, ym- gyfarfu yr ynadon ddydd Llun, i bender- fynu tynged gwahanol becbsdariaid. Go- hiriwyd achos Thomas Matthews, yr hwn a wysiwyd am nacau talu y glwyd-doll, hyd yr wytbnos nesaf, er cael ychwaneg o dystion.-J ames Finn, am fod yn feddw ac afroolus, ac ymddwyn yn giaidd at ei wraig, yr hon sydd dan gleisiau beunydd- iol, a ddanfonwyd i garchar am fis gyda llafur caled; mae ef wedi bod o flaen yr ynadon, ac yn ngarchar ugain o weithiau yn flaeilorol.-Am ddwyn basged yn cyn- nwys ohwe' phwys o ymenyn, eiddo Mr J. Parry, Marchwiel, anfonwyd un o'r enw Marshall Miles i "d £ edifeirwch am dri mis gyda llafur caled. Rboddwyd os o wobr i R. Blackvvell, Brymbo, am ei ddal rt'i drosglwyddo i'r heddgeidwad. Oher- wydd i R. Blackwell ddal llcidr yr ymen- yn, ymosodwyd arno gan ratncK rseary, ac am ei sêl brawdol anfonwvd yntau i garchar am fis i gyflawni yr un gwaith a'i gyfaill.—William Evans, bachgen ieuangc o Gerrigydruidion, a gyhuddwyd o ddwyn wyau perthynol i Joseph Evans, Gwrec- sam. Gohiriwyd yr aehos byd ddydd Liun. Hefyd, gohiriwyd achos Sarah E. Williams, yr hon a gyhuddwyi o laJrcttta hanwer sofren, hyd yr wyttmos nesaf. —Anfonwyd John Parndal, cigydd o'r dref hon, i garch,r am fis gyda chaled- wdith, oherwydd iddo esgeuluso ei denlu, pa rai a dderbynient gynnorthwy plwyfol. PIGO LLOGELLAU.—Dydd Iau diweddaf, daliwyd par o ladron yn 1 marchnad y I ffrwythau tra wrth y gorchwyl o wthio eu pawenau i logellau na pherthynent iddynt. Maent yn y dref era rhai wyth- nosau, ac wedi gwneud, mae yn debyg, gynhauaf da. Gohiriwyd eu hachos hyd ddydd Llun, pan y derbyniant eu gwobr. I' NATUR A CHELFYDDYD. Prydnawn ddydd Mawrth, cynnaliwyd cyfarfod gan aelodau y gymdeithas uchod, yn y Banc Cynnilo, dan lywyddiaeth Dr. Williams. Derbyniwyd y Parch. D. L. Taylor, Rhiw- abon, a Mr W. C. Hughes, yn aelodau o'r newydd. Darllenwyd papur gan Mr E. Rowland, Fron Offa, ar Naturiaeth hanesiol, hinsawdd, a neillduolion Deheu- dir Awstralia." Bu Mr Rowland yno am dair-ar-ddeg o fiynyddoedd; a dywedai, pe buasai iddo gael ail ddechreu bywyd, luai yuo fuasai ei ftiii dewisol. IILYS y MANDDYLEDION,-Dydd Mercher, Mawrth y 15fed, bu y Barnvsr Horatio Ltoyd yn pendeifynu gwahanol achosion. In nchos Hugh Jones, Corwen, yr hwn ODDD fethdalwr, ae wedi ei wysio gan Mr Char es Wynn, Rhug, am yr ardreth, gwelodd y barnwr yn ddoeth i beidio can- iutUii dim ond y costau.-Achos Mrs Ana Jones, Cefnmnwr, yr hon oedd wedi CH_¡ b-mtnyg 19p 6s 9o, gan y Cambrian Loan Company. Penderfynwyd iddi dalu Ip y chwarter nes y deuai y swm i fyny. TALU AM Y Tiitiv.-Aello;,i oedd hwn yn mha un yr hawliai Stephen Dicken 7p. oddiar Mr Davies, ei gymmydog am was- anaeth y tarw. Wedi holi llawer o dyst- ion, a gwrando areithiau doniol gan y cyfreithwyr, penderfynwyd 35s a'r costau yn burion tal am wasanaeth yr anifail corniog. ETIFEDDIAETH PLASYNHRYMLE. A chos yw hwn yn mha un y mae annghydfod yn prysur rami yr etifeddiaeth rhwng y "gigfran a'r cwn," fel y dywedir. Wedi lla wer o siarad, a dangos graddau o ddrwg deimlad y naill at y llall, penderfynwyd fod pethau i aros fel y maent am y pre- sennol, beth bynag. Yn nesaf daeth Peter Grifhth yn erbyn7 Cwmni darllaw Gwrec- sam. Gwerthodd Mr Griffith 92 o fesurau o haidd i'r cwrnni uchod am 53 4c y mesur; ac er fod yr hyn oedd yn y sachau yn cyfatteb i'r sample a ddangoswyd adog y gwerthiant, gwrthochtsant dalu am "nad. oedd yr haidd yn bragu fel ag yr oeddynt yn dymuno. Ond tybiai y barnwr fod y prynjad yn hollol deg, ac archodd iddynt dalu y cyfrif, sef, 23p 4s 8c, a'r costau. HUNAN-LADDIAD. Dydd Gwener cyn- naliwyd trengholiad yn y Running Horses Inn, Ffrwd, ar gorph George Warburton, Bwlchgwyn. Ymddengys fod v trangcedig mewn cariad a gwraig weddw, yr hon nad oedd o'r un fanrag ef, ac yn hytrach na myned i edrych am gymhares arall, efe a aeth ac a ymgrogodd. Dychwelwyd rheithfarn yn unol a hyny. MARWOLAETH DDISYMWTH. "Dydd Gwener diweddaf tarawyd hen ddyn o'r enw E. Hugh yn glaf ar y ffordd yn Rhostylien a chan fod y rhai a ddaethant o hyd iddo yn tybied ei fod yn feddw, hwy a'i cym- ¡ merasant i farcdy a phan aed i edrych am dano, yn mhen tua dwy awr, yr oedd yn hollol farw. Y DDAMWAIN.-Brodor o Lanidloes oedd y dyn a gyfarfyddodd a'i ddiwedd yn nghraig y Mwnglawdd yr wythnos ddi. il weddaf. Ychydig wythnosau sydd er pan yr oedd wedi d'od i'r ardal.—Oohebydk.

Advertising

Y BRAWDLYSOEDD

GAIR O'R DEHEUDIR,!

YNYS MON.

BANGOR.

-___--_--""'-'---! PORTHAETHWI-

[No title]

[No title]

Family Notices

GWEITHREDIADAU Y SENEDD.