Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

INODIAU TEITHIOL. |

News
Cite
Share

I NODIAU TEITHIOL. Oblegyd ansawdd anffafriol y tywydd y diwrnodiau diweddaf hyn, nid wyf wedi bod yn alluog i ymweled ond ag ychydig leoedd, yn mhlith pa rai y saif Dolyddelen, pa le a gyrhaeddais ddydd Mawrth, a chan fy mod yn clywed fod yno gyngherdd i gael ei gynnal er budd i'r Telynor Dall, nos Fercher, penderfynais aros er mwyn cael gwledd yn y ffordd hono. Nos Fercher a ddaeth, ac ar ol myned i'r ysgoldy cenedl- aethol, mi a'i gwelwn yn orlawn o bobl. Yr oedd Elis o'r Nant yn llenwi y gadair, a'r swydd bwysig o arweinydd. Y mae Elis yn un pur ddoniol, ond ni a'i clyw- som yn fwy felly na'r noson bon. Gellir dywedyd am Elis o'r Nant fel y dywedodd un am Twin, ei fod yn cael ei "hynodi mewn arabedd naiunol, pertrwydd parod mewn ymadroddiou, duehan miniog mor llyn^ed a'r ellyn, yn brathu at y gwaed." Dyma englyn a wnaed iddo gan eich go- hebydd, Moelwynog Wyllt: Gwir enwog arweinydd,—^ohebydd Gwiuiog, ac hanesydd, Elis o'r Nant auwyl sydd Yn dirion fwyn gadeirydd." Yr oedd yr Ehedydd Elen, neu fel y mae yn fwy adnabyddus, y Telynor Dall, yn ei hwyliau gor .eu, ac yn canu hefo'r delyn a'i lais yn hynod dda. Canedd gyda Llew Ogwen "Yteiiiwr a'r crydd," yn bur ganmoladwy. Dyma englyn iddo yntau etto gan yr un I Mor hudol mae'r EhedyddHyn canu Acceuiou tra chelfydd, A'i ddoniau a'i seiniau sydd Ganeuon fel gwiu newyed." Yr oedd amryw o enwogion y gymydog- ZIY aeth yn cymmervd rhan, sef Alawydd Eryri, Eos Ceiig, Crych Elen, Mair Wil- liams, ac Ap Machno, yr oil o ba rai a wnaethant eu rhan yn bur gymmeradwy. Y mae Crych Elen yn dyfod yn bur adna- byddus, nid yn unig i Dolyddelen, ond hefyd i Gymru oll, fel bardd a chyfansodd- wr. Efe ydyw awdwr Y golomen wen," a'r Llongddrylliad." Fel hyn y canodd Moelwynog Wyllt iddo Cryeb E¡"'n gorwych eilydd-a'i ddawti B^rddouol dihyabydd, A'i f-twl diint cawn tel y dydd A'i ganu'u myn'd ar gyuuydd." Diolch i bobl Dolyddelen, y maent am gael eu cyfarfodydd yn hollol yn Gymraeg; ond pa fodd bynag, nid y lleiaf yn mysg y cantorion oedd Mr Robert Ralph Egar, Sais o Lerpwl, oedd yn digwydd bod yn bresenol yn y pentref, ac ar gais amryw, cydsyniodd i roi ei wasanaeth. Gan fod yno amryw o'r Alban a lleoedd ereill, pa rai nad allent ddeail Cymraeg, yn gweith- 10 ar y rheiltfordd, yr oedd gwasan- aeth Mr Egar yn bur gymmer- adwy, ac yn wir canodd ei ddwy gan, 11 Far-away in bonnie Scotland," a I Passing the time away," yn ardderchog. Creodd ddifyrwcli mawr trwy ddwyn enw I Ells o'r Nant i mewn i'w gan Passing the time away." Drwg genym orfod cof- nodi nad aeth y cyfarfod yn mlaea. mor ilwyddiannus ag oedd wedi dechreu gan i'r amser deng munud ddyfod, pryd y galwydar eich gohebydd Moelwynog Wyllt i allllierch y cyfarfod. Ond pa fodd bynag, nis gallasai, gan i rhyw ddau neu dri wrth y drws ddechreu curo eu traed, yr hwn orchwyl a gymmerwyd i fyny gan bawb, am rhyw reswm neu gilydd, ac er holl ymdrech y cadeirydd, nid oedd modd dys- tewi y bobl, am, meddai un wrthyf, eu bod wedi dyfod yno i cael clywed canu ac nid areithio." Er gwneul pethau yn waeth, dyma'r ysgolfeistr yn dyfod ar y llwyfan, ac yn ceisio, yn nghanol llefau o i lawr a fo," gan y bobl beidio eistedd ar y desciau ysgrifenu, ond nid oedd i ddim pwrpas gan na chymmerwyd y sylw lleiaf o hono. Pa iodd bynag, ar ol i'r dorf ddystewi ychydig, cafwyd dau neu dri o eiriau gan Moelwynog Wyllt, acynaaeth- pwycl yn mlaen gyda'r program, pa un oedd yn bur amrywiol. Oni buasai am y cynhwrf a gymmerodd le, buasem wedi treulio noson hyfryd a chael cyfarfod pur dda. Yn wir yr oedd y canu yn ar- dderchog, ond fod yr holl guro traed a gwaeddi wedi cymmeryd lie, yr hyn a'i gwnaeth yn un o'r cyfarfodydd canu mwy- af ystormus a fa erioed ar fy rhan i fod ynddo. Yr oedd Moelwynog Wyllt wedi bwriadu adrodd englynion i'r cantorion. PENMACHNO.—Nid oes dim o bwys yn aflonyddu ar y lie hwn. Nos Sadwrn di- weddaf cynnaliwyd yma gyngherdd mawr- eddog, pryd y gwasanaethwyd gan amryw enwogion, ac yn eu plith Mynyddog, pa un fel y clywais oedd yn llawn liwyl i gyd. Cafwyd cyfarfod pur lwyddiannus. Y mae gan bobl Penmachno un arferiad bur ddrwg y maent yn hynod hoff o sefyll ar hyd y bont 'L'r cornelau. Y mae yn hawdd gweled nad yw yr heddgeidwad byth yn gwaeddi yma move on," fel yn y trefydd mawr. Gwylied Uangciau Penmachno, y mae un bn rdd wedi bygwth gwneud can arw iddynt. LLANRWST.—Drwg genyf hysbysu eich lluaws ddarllenwyr nad oedd corph Richard Jones, a foidwyd yn afon Conwy, hyd nos Sul diweddaf wedi dyfod i'r amlwg. Y mae pob poth sydd yn ddichonadwy wedi es wneud er ceisio dyfod o hyd iddo, ond y mae hyd yn hyn wedi profi yn hollol aflwyddiannus. Clywais fod ei bet a'i oriawr wedi eu cael, ac y mae cryn bryder yn cael ei ddangos gan y bobl mewn perthynas i pa Ie y gall ei gorph f.)d. Yn wir, dyma ydyw yr unig beth sydd i'w glywed yn y He ac am filldiroedd o gwm- pas.-AII)h(t.

LLOFFION O'R DEHEUDIR.

[No title]

1; . YNT CLERIGOL MON.

"''*'""------... LLANWDDYN.

Family Notices

I..--.'--.---. j DYDDLYFR…