Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
,1 CYMDEITHAS AMAETHYDDOL'…
CYMDEITHAS AMAETHYDDOL' UWCH ALED. Nos Lun, Chwefror y 14eg, cynnaliodd aelodau Cymdeithas Amaethyddol Uwchi Aled eu cyfarfod dyffredinol, yn y Lion Hotel, Cerrig-y-druidion, i'r dyben o ystyried y priodoldeb o uno eu cymdeithas hwy ag un Corwen, neu yn fwy priodol, efalial, Gymdeithas Amaethyddol Edeyrn- Ian. Daeth nifer gweddol yn nghyd, ac wedi ethol C. S. Mainwaring, Ysw., i'r gadair yn unfrydol, dechreuwyd rhoi Pennau yn nghyd er ystyried y mater. Ymddangosai pawb yn bur ddifrifol, a gallesid yn hawdd ddarllen eu teimladau oddiwrth eu gwynebpryd. Er agor y 10 • gweithrediadau cawsom annerchiad gan y llywydd, yr hwn a ddywedodd eu bod wedi eu galw yn nghyd i gymmeryd i ystyriaeth y priodoldeb o uno eu oymdeithas a chym- deithas Corwen, neu Edeyrnion. Gobeith- iai y byddai iddynt ystyried y mater yn bwyllog, ac na fyddai iddynt fod yn frysiog eu barnau, rhag o bossibl y byddai kyQy yn eu harwain i amryfusedd. ^Wyddent fod ganddynt surplus o oddeutu 70p yn yr ariandy, sef yr ennillion a gafwyd oddiwrth arddangosiadau y blyn- yddoedd diweddaf. Pedunid y gymdeithas hon, bethawnelid a'r arian hyny ? Hefyd, pan yr ystyriont fod tanysgrifiadau wedi "eu haddaw ganfoneddigionco Bentrevoelas j credai y byddai iddynt ymddwyn yn hollol anesgusodol tuag at y cyfeillion hyny, a 1 byddai eu caredigrwydd, eu hewyllys da, a'u haelioni yn cael eu diystyru ganddynt, c hefyd, fel y gwyddent, yr oedd manteis- ion mewn amryfal ffyrdd YIl deilliaw oddi- wrth y gymdeithas hon iddynt fel gwlad ac amaethwyr. Paham, gan byny, yr amddifadent eu hunain o freintiau hon? fGrallent anfon eu hanifeiliaid i arddangog- :fa Edeyrnion hefyd, os byddent yn dewis, nc yna byddent yn cyfranogi o fanteision bono yn ogystal ag un eu hunain. Yna darllenodd y rheol ag ydoedd wedi ei Iphasio gan y pwyllgor, "Fod arddangosfa J gymdeithas i'w chynnal yn flynyddol yn ^Ngherig-y-druidion." Ae efe a ychwan- egodd y byddent yn euog o dori y rheol ion ped unent eu cymdeithas ag un arall, am y rheswm da, os byddai iddynt uno, na fyddai i'r arddangosfa gael ei chynnal yn Ngherig y Druidion yn flynyddol,ond ar sgylch. Ond yn olaf peth dymunai gyd- JQabod caredigrwydd pwyllgor Cymdeithas Edeyrnion yn cynnyg iddynt freintiau y gymdeithas hono, sef rhyddid i ddangos liØU hanifeiliaid yno, ac y dylent hwythau wneuthur eu goreu tuag at hyrwyddo a ;Chefnogi y gymdeithas hone yn mlaen. .Ivna cynnygiwyd gan Mr Hugh Parry, Bwlchbeudy, fod iddynt gynnal ardd- angosfa eleni etto."—Mr Harry Evans, 'Taiucha', a ddywedai nad oedd am roi y 'gymdeithas i lawr o gwbl.-Dr. Edwards a ddywedai ped unent a Chorwen na iiChawsid arddangosfa yma eleni.—Mr Jones, Hendreddwyfron (gynt), a ddywed- odd, ei fod wedi bod yn aelod o gymdeithas -Dolgellau, ond ei fod am gefnogi un Cor- wen hefyd, er, ar yr un pryd, nad oedd am kdynn ei gefnogaeth yn ol oddiwrth gym- deithas Uwchaled.—Dr. Edwards a sicr- iaodd ped yr ennillent 5p yn arddangosfa JDolgellauy buasent yn fwy yn eu mantais zarlennill dim ond Ip neu p yn Ngherig- ?y-druidion.—Mr Jones, Heiadre dd an. a ddywedodd fod yn irhaid i ni ychwanegu tod ein harddangosfa wedi dwyn Cerig-y- drudion i sylw y byd.—Yna cynnygiwyd gan y Llywydd* yn laf, .Nad priodol uno cymdeithas Uw^&led £ Chorwen, Edeyrn- ion yn ail, H Fod clçlynt roi pob cefnog- aeth i un Corwen.—Biliwyd gan Mr H. Parry, Bwlchbeudy, a phasiwyd hwn yn unfrydol.—Cynnygiwyd gan Dr. Edwards, ac eiliwyd gan Mr Parry, Queen, ar fod iddynt fyned yn aelodau o gymdeithas Corwen, a chyttunodd pawb o'r presennol- ion a hyn. Yna penderfynwyd yn un- frydol cynnal arddangosfa eleni fel arferol. Afewn attebiad i'r cadeirydd, dywedai yr ysgrifenydd mai un o'r beirniaid oedd Mr Robert Jones, Cargoed, Corwen, ac iddo dderbyn llythyr addawol oddiwrth Mr R. Williams, Fedw, Llanrwst. Yna aed yn mlaen i ethol goruchwylwyr am y dydd, ac wale hwy C. S. Mainwaring, Ysw.; Mri. Robert Jones, Ffynonwen; J. ..Hughes, Tyddyntudor; R. Jones, Disgarth; > — Jones, Tygwyn D. Evans, Plasiolyn; R. Jones, Felinwig, Bettws, G. G.; Roberts, Voelas Hotel, Pentrevoelas. Dymunai Mr Hughes, Crown Inn, Llan- fihangel, gael gwybod a ydoedd perehenog y tir yn rhoddi CllnaWl r aradwyr, i'r hyn yr attebodd yr ysgrifenydd nad oedd. Ystyriai Mr Hugbes hyn yn gywilydd, ac ma chlywodd'erioed am y fath ymddygiad. IDywedai yr ysgrifenydd iddo geisio ei r*bevswadio i roddi ciniaw, ond nad oedd dim :yn tyccio, ac o dan yr amgylchiadau ei ;fod ef ei hun yn bwriada parottoi ciniaw iiddynt am swllt.—Y Cadeirydd.a ddywed- odd, gan ein bod wedi penderfynu cynnal yr arddangosfa fel arferol, y dylent dde- -chreu hel tanysgrifiadau yn gynnar, ac liefyd ofyn i'w cyfeillion gynnorthwyo un Edeyrnion. Hefyd, os oedd gan rhywun beu rhywrai ddymuniad am newid y gwobrwyon, mai'r §oreu fyddai iddynt anfon eu cynnygion i'r ysgrifenydd, rhag 0 gwastraffu amser.—Mr Hughes, Tyddyn- tudur, a gynnygiodd mai dymunol fyddai talu sylw yn y cyfarfod nesaf i'r rheol parthed derbyniad aelodau, &c. Er eng- raiflt, nid teg na ehyfiawn oedd i ffermwr bychan dalu cymmaint ag un mwy a gaiiuocacli.—Yr Ysgrifenydd a ddymunai 0 wybod a ydoedd hi yn rby hwyr i ychwan- egu at wobr gyntaf yr aredig.—Attebwyd 0 9 nas gellid gwneud hyny, gan fod y gwobr- wyon wedi eu cyhoeddi.—Cynnygiwyd diolchgarwch gan Dr. Edwards, ac eiliwyd gan Mr Hughes, i'r llywydd am ei wasan- aeth gwerthfawr bob amser ar achlysuron fel hyn. Yna terfynwyd y gweithrediad- au gyda banllefau calonog i'r llywydd. Cydnabyddodd yntau hwyam eu teimlad- au da tuag atto, a dywedodd ei fod yn falch eu bod mor ddoeth yn eu penderfyn- iadau, sef peidio a ffurfio undeb, a sicrhai ef pe y gwnelsid hyny na chawsid cym- maint a'r ugeinfed ran o entries o'r dos- barth hwn. Y mae yr ymrysonfa aredig i'w chynnal yn Llangwm ar y 7fed o Fawrth. LLYGADOG. Llanfihangel N. S., Corwen.
NODION 0 GEREDIGION.
NODION 0 GEREDIGION. Mae y tywydd twyllodrus a gawsorn yn ddiweddar wedi ein gadael yn eiddo i hin oerach a mwy amserol. Twyllwyd yr adar i ganu, y dolydd i flaendarddu, a'r bobl i daflu ymaith eu overcoats. Erbyn hyn y mae'r adar yn ddistaw, y dolydd yn wywedig, a'r bobl yn y peswch ie, a 11awer yn marw. Mae ein meddygon parchus yn cael cynhauaf toreithiog o alwadau, a'r mynwentydd yn cael eu cochi gan feddau newyddion. Mae llawer rheswm ac esgus yn cael eu cynnyg am y marwolaethau sydyn sydd yn cymmeryd lie yn ein hardaloedd, ond un newydd yw eiddo Dr. Rowland, mai yr arferiad o anadlu drwy y genau yn hytrach na thrwy'r ffroenau yw gwraidd y drwg. Dichon fod llawer yn hyn, ac fod clefyd.y "ffroen a'r genau" yn arwain llawer i fedd anamserol. Dymunem yn fawr glywed gaa y Doctor deallus pa fodd mae cael ymwared o'r arferiad, yn enwedig pan yn mreichiau cwsg. Gan nad beth yw yr achos, yr wyf fi yn gallu canfod Llaw Ddoeth wrth wraidd y marwolaethau ami presennol. Mae ein meddygon yn y rhan hon o Geredigion mor fedrus nes ymaeyrhanluosocafo'n clefydau yn hollol dan eu hawdurdod. Yn amI iawn yn ein plith y gwelir personau ag sydd yn gol- ofnau byw o fedrusrwydd ein meddygon Cedwir hwy yn fyw drwy bills a drugs y meddyg. Buasent yn eu beddau erg tro oni bai am fedrusrwydd ein meddygon. Artificial a sham yw holl guriadau ein bywyd. Nid wyf yn credu fod y llwydd- iant meddygol hwn yn mwyhau ein cysur cyffredinol fel poblogaeth. Nid wyf; yn groes i leddfu pjenau ac esmwythaui arteithiau, ond yv wyf yn canfod gwahan-, iaeth rhwng hyn ag estyn oes boenus ac anobeithiol. Nid wyf yn groes i law Y8-: gafn a medrus y meddyg gynnorthwyo natur mewn llawer cyfyngder; ond yr wyf yn canfod gwahaniaeth rhwng hyn a chymhell ac ymdrechu yn groes i natur. Mae ein meddygon yn gyfrifol am lawer o anngbysur iechydol ein gwlad. Pe buasai ein meddygon mewn cannoedd o achlys- uron mor garedig a'n byd a chadw eu drugs dan glo, ni buasai natur fawr o drd cyn puro ein poblogaeth a'i gwneud yn iachach, cryfach, a dedwyddach. Nid an- aml yn ein plith y gwelir y mab neu'r ferch afiach ag sydd wedi treulio eu hoes dan law meddygon yn son am briodi. Nid ychydig sydd yn priodi yn y grediniaetn y deuant yn iachach ar ol hyny. Gan nad beth am ddyfod yn iach&ch ar el priodi, nis gall neb wadu nad yw Iluoedd o'n clefydau yn etifeddiaethol. Efallai fod llawer yn d'ol yn iachach, ond nid heb adael eu clefydau yn etifeddiaeth i hanner dwsin o blant gwelwon a llwydion. Pwy na wyr fod Ilawer mab a merch yn eu hardal wedi eu cynnal yn fyw gan fedrus- rwydd meddygol-rhoddi clwt arnynt—- nes eu gweled yn priodi ac ymbriodi, ac yna yn marw gan adael yn gymunrodd i'r oes ddilynol hanner dwsin o blant afiach. Onibai am y Llaw ddoeth ag sydd ar adegau fel yn bresennol yn ysgubo'r Ilawr, ac yn glanhau'n hardaloedd, nid hawdd dirnad canlyniad cynnydd mor niweidiol i gysur cyffredinol. Cyn y gellir disgwyl poblogaeth iach, rhaid cael rhyw ddiwyg- iadau yn ychwanegol i'r hyn a ddarperir drwy ein sanitary committees. Rhaid puro ein stock. Mae amaethwyr ein sir yn dadleu ac ymryson am y rhywogaethau goreu o foch, ceffylau da, a defaid, ond mwy dymunol yw cael rhywogaefch iach a chryf i'n poblogaeth. Gan nad oes obaith am gynllun ymarferol i ddwyn hyn oddi- amgyich i ddiwygio breeders dynolryw, nid oes dim yn well na chefnogi'r gyfuhdrefn sy'n gofalu am "Surviving of the fittest." Gwelaf fy mod yn gwynebu ar diroedd peryglus aphell "Darwinism," "Euthan- asiaism," a Cremationism." Dichon y bydd i'r oes nesaf oddef son am y ddau olaf, ond hyd hynyy mae'n rbaid i'r byd fyw ar Stereotyped phrases* Ar ol edrych ae ailedrych droa destynau Tregaron, yr wyf yn methu canfod na theimlo fawr o gymholliad i gyfansoddi ynddynt. x\iae pryddest ar y "Gwiith" yn swnio yn dda iawn, ond 'r wy'n amheu yn fawr a geir pryddest deilwng o gadair a gwobr Tregaron. Mae pryddest yn well nag awdl, am y ceir dau i gystadlu ar bryddest am bob un a gynnyg englyn neu doddaid. Mae y prif destyn tiaefch- odawl yn mliell o fod wrth fy modd i. Mae Dyben bodolaeth dyn" yn fwy o buzzle damcaniaethol a duwinyddol nag o destyn i brofi a chymhell ymroad llenyddol. Mae llyfrau tewion wedi eu hysgrifenu ar y pwngc, ond nid yw yr un ohonynt wrth 0 fodd neb ond yr awdwr. Nid oes dadl nad oes dyben uwch i fodolaeth dyn na'r bywydau dreulia llawer ohonom ond a oes rhyw un heblaw yr Hollwybodol ei hun yn gwybod y gwir ddyben ? Oa felly, ni ddylai neb arall feirniadu gan nad beth am gystadlu. Etto, pwy all fod yn onest wrth ysgrifenu traethawd ar Onestrwydd," testyn yr ail draethawd ? Mae ein holl lyfrau yn llawn o gyfleus- derau adysgrifio, ac y mae'n illustrations y 11 mor brin fel mae'n anmhossibl ysgrifenu dim ag sydd yn rhagorach nag a ysgrifen- wyd yn barod. Mae y testynau cerddorol yn gampus, a diau genyf mai. gogoniant yr eisteddfod fydd y cystadleuaethau j cerddorol. Dymunaf i chwi yn Tregaron eisteddfod ddilwch, a'm hunig gynghor i chwi yw Advertize well." Peidiwch cynnilo eich hysbysiadau. Cefais lythyr yr wythnos hon oddiwrth y cyfaill parod a charedig A- yn ach- wyn ar y cynnydd ceisiadau am englyn- ion, galarnadau, a chaneuon. Y mae yn amgau dwsin o lythyrau a gafodd y flwyddyn hon oddiwrth ymhonwyr eis- teddfodol yn erfyn arno am an ion iddynt gyfansoddiadau, megys englynion, traeth- odau, &c., ar destynau neillduol y cynnygir gwobrwyon mewn man eisteddfodau am danynt, a'r oil yn terfynu ac os caf fi. y wobr anfonaf hi i chwi, o herwydd nid wyf fi am ddim ond yr anrhydedd (!) o; guro." Ceisia genyf gyhoeddi y llythyrau hyn, a bydded hysbys y gwnaf hyny os na roddir heibio y fath driciau budr ac an- onest. Mae Radicaliaeth ein sir wedi cael ad- gyfnerthiad yn ddiweddar. I gwrdd a gofynion ei swydd, y mae y chiej officer. ZD wedi ymddiswyddo; a diau genyf y gwneir gwrhydri, gan fod holl fywyd y brawd i gael ei gyssegru e hyn allan i addysgu plwyf Pencarreg mewn Radicaliaeth. Rhyfedd mor ddilewyrch a digynnyrch yw dewisleoedd a meusydd llafur y brawd hwn. Beth ddywed trethdalwyr Ceidwadol am dalu can' punt o gyflog i swyddog sydd a'i holl egni i hau hadau Radical- iaeth yn meddyliau plant ac hen bobl hygoelus. Mawr y drafnidiaeth a gymmerodd le mewn moliantau yn y parth yma. Pobl gall yw y Cardies ac y maent yn .magu meibion a merched call neillduol. Au- fonadd John valant i Mary a phar o fenyg ynddi, a digiodd hono o herwydd fod y menyg yn rhy fawr, ac anfonodd gap nos yn 01 i John. Prynodd Liza Jones valant hardd ae ymgauodd werth dau swllt o ruban ynddi, a thaflodd hi i'r letter-box, a chafodd Liza Jones valant dranoeth oddi- wrth ei chariad, yn cynnwys yr un fath ruban a'r un fath bobpeth. Cafodd Nelly Jones foes chwe' modfedd o hyd, a thair o led ac o ddyfnder, drwy y post, a mawr yr ymgasglu oedd o'i hamgylch i'w llon- gyfarch, a chael gweled rhodd ei chariad. Agorodd Nelly ef mewn ysbryd 11awen a boddhaol, ond, mae'n erchyll meddwl, nid oedd ynddo ond dalluan farw. Gwynodd Nelly, chwarddodd y cwmni, a ohlywid dannedd man Nelly yn rhincian. Ni wel- wyd mor pennillion oedd yn nglyn a'r rhodd nes i'r cyffro cyntaf ddarfod; ond pan ddarllenwyd y pennillion hyn, yr oedd yno ail wynu, gwrido, chwerthin, a rhin- cian dannedd. Nelly an vyJ, mawr fu'm fiwJaa I gael da iuu o dy hunaa, Y tebyct: f gefais allaa I dy lun, yw Ilun dalluan. Cymmer hoc, a do'd hi'n gynhes, Ddarlun oywir, yn dy fynwes Nes y catf'jt un fwy tebyg I foddlum dy ddychymyg." Gyda bod y rbLi hyn yn cael eu darllen, taflodd Nelly ci shawl dros ei gwar, ac allan a hi tl'¡'i mham yn ailadrodd, "Nelly ni yn debyg i ddalluan a ie? Buasai'n well gonyf golli y fuwch oreu o'r beudy na bod heb wybod pwy wnaeth hYn, &c." Modd bynag am hyny, ni chollwyd y fuwch o'r beudy, ac ni ddaeth yr hen wraig i wybod pwy anfonodd y ddalluan i Nelly; ond y cwbl a wyddom yw i fab y fferm nesaf gael valant yn mhen dau ddydd, yn cynnwys ystlum a thafod y ddalluan wedi eidynu o'r gwraidd, a'r oil yn cael eu hesbonio gan y pennill- ion hyn:— Mae dy rodd yn ddyogel ddigon, A chredaf ddyfod hon o'th galou Ond pam annghofiaist gadw'i thafod I grio'r nos ar ol rhiauod ? Yiitlura du y nos a wready Gri'r ddalluan rhwng y llwyni; I Cymmer rhai'n a geld addaw 'R noson nesaf y cei groesaw. i j Mya rhai adael eu perth'nssiu ( Ar jr plwy' i dreuUo'u dyddiau, i Yn lied debtg rnynaist tithau ] Daflu'th naiu i'ui awfpwrdd inau." j Beth bynag am gyfiawnder y syniadau, 0 sicr yw nad oes gobuith i Nelly gael yr an- rhydedd o roi pan i'w chariad hwn yn gfau etto, tra mae'n sicr hefyd nad oedd gan y llangc a dderbyniodd yr ystlum un llaw yn anfoniad y ddalluan; ond sibrydir mai cyfnither i Nelly a'i hanfonodd er gwneuthur rhwyg rhwng Nelly a'i chariad, gwneutliu- r, rhwyg rhwng Nelly a'i chariad, a'r gobaith y gwnai hyny ddwyn "yd i'w melin hi." TWR Y DDERI.
-I." ; " CAR D I LAN D.
-I." CAR D I LAN D. Mae Twr y Dderi" yn cymmeryd iarno anfon i chwi newyddion canolbarth y sir hon; ond gwybydded ef nad yw ond megys polyn polca attaf fi, ac fy mod yn gallu gweled dros ei ben ef, a llawer o bethau uwch. Mae'n amlwg wrth ei nod- ion nad yw yn gweled jn mliell, ac fod arno angen drychau yn ami. Mae llawer 0 bethau pwysig: yn cael eu gadael yn ddi- sylw. Mae'n rhaid iddo wylio yn well, neu bydd i mi daro fy nhroed a'i daflu yn deilchion i Gwm Tulas. Paham na chawsem hanes sefydliad bwrdd ysgol Cilcennin ganddo ? Sut y mae e'n disgwyl i bobl Pentrewanc dder- byn y Llais, os na fydd hanes yr ardal- oedd hyn ynddo ? Bu Cilcennin yn hynod o boenus i bob newyddiadur arall. Bu y I Dydd, y Faner, a'r Dywysogaeth yn goch gan waed yr ymladdwyr ysgriblyddol hyn. Efallai mai dyddorol fydd adolyg- I iad byt ar y ffrae. Daeth areheb i Gil- caniiin i ffurfio bwrdd. Daeth festri yn nghyd, a dewiswyd yr aelodau heb son am gredo grefyddol na lliw politicaidd. Bu y cwbl yn unfrydol ac yn dawel, mor bell a'r festri. Ysgrifenwyd hanes sefydliad y bwrdd i'r newyddiaduron, ond nid ym- foddlonai y cofnodydd ar ddywead ffeith. iau, ond desgrifiodd un o'r aeladau fel anffyddiwr," a llawer o enwau cas ac annghywir. Fel gwreichionen i bylor, mawr y twrw a fu yma. Gwnaeth ych- ydig linellau mewn papur dinod yr ardal yn wenfflam o dan cynhen a chynhwrf. Anfonwyd am yr ysgrif wreiddiol, a chafwyd hi, a chafodd pawb eu boddloni mai trie hogyn direidus oedd yr oil. Yn bendifaddeu, dylid ei stripio yn noeth- lymyn a'i chwipio o amgylch y lie saith waith, nes gwneud iddo barchu geirwiredd a chymmydogaeth dda. Yn Eisteddfod Cross Inn, methodd y beirniad a'r cystadleuwyr a chydgyfarfod. Yr oedd y cystadleuwyr wedi decampio pan y gwaaeth Mynyddog ei yrnddangosiad o t31 y 0 0 "rywle." Clywais mai bwch dihangol yr amryfusedd yw y tren," ac yn wir peth diflas iawn yw colli y tren," a siarad yn "ildidderbyn wyneb." Mae bwrdd ysgol Cilcennin yn gweithio yn hwylus. Mae y foneddiges haelfrydig, Mrs Saunders, o'r Tymawr, wedi gwneud yn dda a'r plwyf. Mae yr annedd-dy ger Haw y capel, darn o dir'tri chwarter cyfer, a railway shares gwerth 20p yn flynyddol, wedi eu trosglwyddo ganddi i'r bwrdd. Pa Ie y mae Radicaliaid Cilcennin yn awr ? Ni chlywir fawr o ganmol am y rhoddion hyn o werth dros 300p i'r plwyf. Pa le mae yr Henry Richard a'r Osborne Mor- gan lleol ? Gwelwch, a chydnabyddwch yn onest haelioni y Ceidwadwyr i chwi. Nid yw yn rhy fawr genych dderbyn o haelioni y Ceidwadwyr, ond ni oddefwch i neb eu canmol. Mae caredigrwydd Mrs Saunders i'ch plwyf yn gysson a phar- haol, ond ni wyddoch beth yw rhoddi parch i'r hon y mae parch yn ddyledus. Nid rhyfedl nad oes ond tri Radical yn yr holl blwyf. Mae y tri hyn yn foneddwyr purion, ond yn wleidyddwyr ffol iawn. Agorwch eich llygaid, a mwynhewch eich breintiau. Mae bwrdd ysgol Ystrad a Chiliau yn parhau i weithio yn rymus. Mae tri o adeiladau costus wedi eu pennodi iddynt. Bydd yma ysgolion da, ond bydd yma dreth i rywun ei chasglu hefyd. Yr am- heuaeth yw, ai yr un personau a fydd yn talu y dreth ag a fydd yn bwytta yr haidd. Mae bwrdd ysgol Llanbadarnfach yn cweryla a, rhieni yr ardal. Mae llawer un wedi cael ei ddirwyo, a rhai wedi dangos i'r bwrdd fod meistr ar Meistr Mostyn." Mae amcan y bwrdd yn dda, ond dichon fod dau olygiad am ddoethineb eu cynllun. Mae bwrdd ysgol Bwlchyllan yn ddis- taw iawn, ond sibrydir mai nid tair cein- iog yw y dreth yno. Nid oes yno ond un ysgol, a'r ysgoldy hwnw yn eiddo i'r Methodistiaid. Nid oes yma dreuliau ond cynnaliaeth yr ysgol. Mae bwrdd ysgol Llanarth yn parhau i weithio. Mae yr angenion yn cael eu cyflawni o un i un. Mae ysgol newydd yn Talgarreg ar droed yn bresennol. Y mae yma fechgyn lied wrol, ac yn gwneud eu gwaith yn ddiofn a chysson. Maent yn gwneud gwaith da mewn ardal- oedd ag sydd wedi bod mor hysp eu meddyliau a chefn Shon Cwilt o feillion. Os na wna Twr y Dderi ei ddyled- swydd, bydd i mi anfon gair etto yn fuan. Ysgrifened yn rheolaidd, a pheidied coelio gormod ar fechgyn Aberaeron. Gwn i eu hanes hwy yn well nag ef.—Trichruo.
....IJ.JJL.IIIMUU* YMWELIAD…
.IJ.JJL. II MUU* YMWELIAD TYWYSOG CYMRU A'B INDIA. FONEDDIGION.- Y mae'n amlwg fod rhan o'r wasg Radicalaidd Gymraig yn dechreu parottoi eu i/harfau i ymlaeld. dan Werinlywodraeth, ae y mae'r sylw canlynol,— dyfynedig o newyddiadur a ystyria ei hun yn orael awdurdodol ar byngciau'r blaid,yu sarhad ar deyrngarwch y genedl Nis gellir gwadu fodymweliad Tywysog Cymru a'r India yn eiomiant trwyadl i bawb a fu mor hygoelus a disgwyl pethau gwych i ddyfod' oddiwrth yr yspleddach costus hwnw." Etto myn ysgrifenydd y llith dan sylw i ni gredu ei fod yn mysg teyrngarwyr Cymru ond y mae genym sail dda i hyderu fod teyrngarwch ein cydwladwyr yn cyrhaedd yn ddyfnach ac yn mhellaeh nag i'r Frenhines yn berson- ol. Nid yw hyd yn nod Charles Dilke yn chwennych briwio teimladau ei Mawr- hydi i'r fath fodd fel ag i'w diorseddu ae y mae'n ddigon tebyg y caiff yr ymosodwr anniolchgar hwnw gydnorthwy un newydd- iadur Cymraeg o leiaf i wrthwynebu y Tywysog i esgyn yr orsedd. Y mae'n ddifyrus gweled yr eiddilwch gresyaua a. fradychir yn yr ebychiad gwaradwyddus a geir yn lie erthygl arweiniol yn y newydd- iadur y cyfeiriwn atto, yn mha un y mae yn trin pethau annhraethol uwchIawei amgyffredion cyfyngedig. Gwnaeth ei waith yn ceisio pardduo urddasolion a geiriau iselwael i ui wenu uwchben y fath gymmeriad dirmygus, a gofyn mewn difrif o ba gyfeiriad y daethai y fath sylwadau. Pe na buasai am ddim arall, yr oedd yr oernad nodweddiadol uchod yn ddigon o arwydd wrth ba un y gall em yn rhwydd adhabod y dosbarth o greaduriaid i ba un y perthyuai. Ond y peth ag sydd yn ei wneud yn werth sylw yw fod unrhyw newyddiadur, pa mor ddirmygus bynag, yn casglu digon o ddigywilydd-dra fel ag i roddi y fath gynnyrcbion gwenwynllyd o flaen ei ddarllenwyr. Nid ydym yn rhy- feddu gweled y trychfilyn llenyddol hwnyn ymosod, yn ol gallu ei dalent dlodaidd, ar yr Eglwys a'r tirfeddianwyr; ond y mae yn beth ehwithig i deimlad Cymry gwlad- garol ei ganfod yn rhoddi y fath ysgreeh arwyddecaol yn erbyn aer y goron. Ni fu tD ein hen iaith hyd yn hyn yn gyfrwng ym- osodiadau bustlaidd ar ein Tywysog. Ond y mae y rbeswm o'r anfeddogrwydd criutachlyd hwn i'w ganfod yn y frawddeg ganlynol:—" Nid ydym ni yn eiddigeddu oherwydd mai Mr Disraeli a'i weinydd- iaeth a gafodd yr anrhydedd o bresennoldeb ei Mawrhydi ar agoriad y senedd-dymmor sydd ar ddechreu." Dyna'r lie mae'r esgid yn gwasgu. Ni feiddia'r ysgrifenydd dan sylw geisio taflu anfri ar gymmeriad Victoria, a'r unig ffordd sydd ganddo i ddial ei lid am y pechod anfaddeuol a gyflawnodd ei Mawrhydi trwy agor y Parliament tra yr ydoedd Mr Disraeli yn Brifweinidog yw, lluchio llysnafedd cenfi- gen ddiystyrllyd ar Dywysog Cymru ond nidydymyn coeliona chenfydd darUenwyr y papuryn hwn y teimladau dan ba rai yr ysgrifenid y eyfryw druth. Dyma un engraifft yn ychwaneg o'r eithafion peryglus i ba rai yr arweinia egwyddorion penrydd Radicaliaeth en coleddwyr deillion. Nid oes dim na neb o bwysnad ydynt yn nodau malaia erlidgar yr yagriblwyr anfedrus sydd yn llwytho y wasg Gaethfrydig a'u cynnyrehion anadd- fed. Y mae hunandyb y dynsoddion torsyth hyn wedi cyrhaedd y fath raddan o haerllugrwydd fel ag i'w gwneud yn bla ar ystumog cymdeithas. Y mae'r culni truenus & fradychant yn gwneud bywyd yn fach annyoddefol iddynt-pan y mae neb o olygiadau gwahanol iddynt hwy yn cael yr oruchafiaeth mewn gwlad neu Eglwya; ac os na ddaw terfyn buan ar y Weinydd- iapth Doryaidd, bydd ya sier o brofi yn angeu gwelwlas i rai o enwogion llenyddol mwyaf anhebgorol cymmydogaaeth Caer- narfon. Gwell, bid siwr, i'r Toryaid roddi eu swydd i fyny nag i'r gyflafan drychin- ebus hon oddiweddyd ein gwlad. Gwell colli gwasanaeth gweinyddiaeth gyfan na cholli gwladgarwyr hunanaberthiadol a llenorion coethedig; y mae gwasanaeth y fath ddyngarwyr dysgedig a phrofiadol yn gyfryw nas gellid ei hebgor ar unrhyw delerau gan y rhan isloerawl hon o gread yr lor, a gwae fydd i Gymru y dydd yy amddifadir hi o'r eyfryw noddwyr ymroddr gar. Ond mewn difrif, y mae'n Itryd dynoethi haerllugrwydd dihafal yr ymyr- •wyr gwaradwyddus hyn. Y maent hwy a'u dwylaw budron yn trin pawb, ae y maent yn edrych ar bawb a a fyddo yn wrthwynebol i'w syniadau culion hwy yn orthrymwyr a diogwyr, tra mewn gwir- ionedd, nid oes neb yn fwy o haint gorth. rymus na'r boneddigion grwgoaehlyd hyn, na neb yn fwy dioglyd na'r segurwyr dilafur agasglanteu tamaid wrth ysgrifenn enllib ac anwireddau yn nghylch urddas- olion ein gwlad, Y mae y wasg Radical- aidd Gymreig wedi dechreu ymosod ar etifedd y Goron, modd yr ymesydar yr esgobion a'r tirfeddianwyr, ac y mae'n amlwg mai'r Eglwys a'r Goron a medd- ianau personal fydd yn y man yn wrth- ddrychau gwangc yr ysbeilwyr newynllyd ag sydd yn siarad mor ddrwgdybus am bawliau personol a chyfoeth.-Delta.