Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

MARWOLAETH ARSWYDUS O'R GYNDDAREDD.

BODDIAD SAITH 0 BERSONAU AR…

BODDIAD PUMP 0 BLANT DRWY…

T LLOFFION CYMREIG.

LLOFFION CYFFREDINOL.

News
Cite
Share

LLOFFION CYFFREDINOL. Hysbysir fod y frech wen yn gwneud difrodaeth mawr yn Bombay. Bu farw Arglwydd Galway, A.S., dres Ratford y nos Sul cyn y diweddaf. Aufonodd y Frenhines rodd o gan' punt i'r Royal Alfred Asylum er budd morwyr oedranus. Y mae newyddion wedieyrhaedd Lloegr o ddarganfyddiad mwnau ychwanegol islaw yr Emma Mine. Sonir an sefydlu esgobaeth newydd yn Georgetown, Dekeubarth Affrica. Ba tymhestl aruthrol yn nghylchoedd San Domingo o'r cyntaf i'r wythfed o Ionawr, pryd y drylliwyd llawer o longau. Nifer y own a drethwyd yn Mrydain y iwyddyn ddiweddaf ydoedd 1,270,369, a'r dreth ar yr oil ydoedd 317,587p. 10s. Anfeawyd adgyfnerthion i'r fyddin sydd yn gwarchod y terfyn, rhwng y Talaethau Unedig a Mexico; i'r dyben o roddi attalfa ar rwysg y carn-ladron ar lanau y Rie Grande. Cafodd y Cad. McClellan gynnyg 20,000 o ddeleri y flwyddyn am arolygu gwelliantau Y)1 mhorthladdeedd Brazil. Ffugiodd E. D. Winston, » Boston, bapyrau a thalebau i'r swm o 600,000 o ddoleri. Adrodda y Seryddwr Ffrengig Lever- rier ddarganfyddiad planed newydd o'r 12fed gradd, Ionawr 26, 1876. Terodd lladron i'r Northampton Na- tional Bank, Bosten, nos y 27a.in o'r mis diweddaf,a lladratasant 720,000 o ddoleri. Tn Old Brompton, yn 75 mlwydd oed, hysbysir am farwolaeth Mr Edward Nel- son, yr hwn yn ei ieuengctyd a fu yn gwasanaethu o dan Arglwydd Nelson. Gan yityried ansefydlogrwydd am- gylehiadau politieaidd yn China, y mae yn mryd ein llywodraeth ychwaiaegu at north ein llyages ar y glanau Chineaidd. 0 flaen yr ynadon yn Newport, cafwyd amryw o fasnachwyr Ynys Wyth yn euog o dderbyn gwirod wedi eu smyglio, a dir- wywyd hwy yn drwm. Bernir y bydd i Dywysog Cymru ddych- welyd i Loegr yn gynnarach o bythefnos neu dair wythnos nag y tyfeid, o herwydd afiechyd yn ei oogordd. Cafodd ysgrifenydd Undeb Nottingham ei geryddu am anfen tylodion drosodd i'r I werddon yn groes i'w hewyllys. Y mae tanwyr agerlong berthynol i Antwerp, ar fwrdd yr hon yr oedd 150 o bersonau, wedi darganfod saith pecyn o bylor yn nghanol y glo. Dywedir fod y dylanwad a feddianna Jobu Bright ar gynnulleidfa i'w briodoli, mewn rhan, i'r nifer Iluosog o eiriau unsill a arfera. Mewn un ymadrodd, yn un o'i areithiau, yr oedd 149, allan o 190 o eir- iau, yn un sill. CYFLAFAN YN MINNESOTA.—Ionawr 22, cymmerodd cyflafan erehyll le yn Plain View, Minn., drwy i Frank Hathaway saethu i farwolaeth Miss Nettie Slayton, oherwydi ymrafaelion carwriaethol. Wedi hyny amcanodd ladd ei hun; ond cym- merwyd ef i westty gerllaw, lie y bu dan wyliadwriaeth. Oddeutu naw o'r glocli y nosom hono, daeth haner cant o bobl at y gwestty, ac aethant i'r ystafell lie yr oedd Hathaway yn ngefal swyddogion y gyf- raith, a chymmerasant ef allan a chrog- asant ef wrth goeden o flaen drws yr hotel. Cosp ANNISGWYLIADWY.—Yn 1865, darfu i ddeheuwr caethwasol o'r enw Johnson lofruddio milwr Undebol e'r enw McMil- lan, yn swydd Jackson, Tennessee ond ni atafaelwyd y llofrudd yr amser terfysg- glyd hwnw. Yn ddiweddar carcharwyd ef, ac mae ei brawf newydd derfynu. Er mai hen enciliwyr oedd y rheithwyr, y barnydd, a'r cyfreithiwr erlynol, caed Johnson yn euog, a dedfrydwyd ef i ben- ydfa. y Dalaeth am ddeng mlynedd. TEINIAETH ERCHYLL LLOFRUDD.—Yr oedd dyn o'r enw Edward Williams yn byw gydag un Mrs Meeling yn Barboursville, West Virginia, yr hwn a garoharwyd ar amheuaeth o fod wedi llofruddio Mr Meel- ing ac hefyd yr oedd y wraig wedi ei charcharu am gyfranegi yn y llofrudd- iaeth. Aeth gweinidog yr efengyl i mewn 0 gy at y carcharorion ar nos y 23ain cynfisol, gan erfyn arnynt gyfaddef eu trosedd, gan foi tystiolaethau digonbl i'w heuog-farnu. Hefyd, dywedodd fod y carchar wedi ei amgylchu gan dorf o ddynion terfysglyd a thra yr oeddynt yn siarad, torasant i mewn. Cymmerasant Edward Williams dan goeden gerllaw, a rhoddasant raff am ei wddf, gan ei osod i sefyll ar daleen bar- il, lie y cyffesodd ei euogrwydd; a gofyn- odd i Dduw faddeu iddynt, a'i fod ef yn dra hapus i gychwyn i'r nefoedd yr amser hwnw. Herciwyd ef i fyny, ac ar ol 15 munud o wingo a ehrechwenu, bu farw. Dygwyd Mrs Meeling i wyneb y corff marw, a gofynwyd iddi gyffesu. Dywed- odd fod Williams yn ei charu er's tair blynedd, a'i bod hithau wedi ceisia gwen- wyno ei gwr, ond methu; yna tarawodd Williams ef yn ei ben a bwyell tra yr oeid yn cysgu, a bu farw yn y fan. Er fod pawb yn barnu y dylasid crogi y ddynes, eto nid oedd neb a roddai y cortyn am ei gwddf, a chymmerwyd hi yn ol i'r carchar.

YSTORM ENBYDUS YN AMERICA.

» -agi'.jtjw "i-i-cYNNULLION…

TIRFEDDIANWYR CYMREIG.

BEULAH, BUALLT, BRYCHEINIOG.

Advertising

IDAMWAIN ALAETHUS AR FFOEDD…

[No title]

Y PRIF FARCHNADOEDD SEISNIG.

__.-PKIF FARCHNADOEDD CYMREIG.