Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
MARWOLAETH ARSWYDUS O'R GYNDDAREDD.
MARWOLAETH ARSWYDUS O'R GYNDDAREDD. Nos Lun, bu farw o'r gynddaredd blen- tyn pump oed, mab i ysgolfeistr o'r enw Wilson, yn trigianu yn Oakenshaw, ger Bradford. Br&thwyd y plenty n gan gi dyeithr ym Hydref diweddaf. Gwellhaodd y dolur y* ebrwydd. Ar y 9fed eyfisol, modd bynag, elafeiriodd drachefn, ac yn ebrwydd arddangosodd arwyddion o'r gyn- ddaredd. Er yr oil a allai gallu meildygol wneud erddo, bu farw mewn dirdyniadau arswydus.
BODDIAD SAITH 0 BERSONAU AR…
BODDIAD SAITH 0 BERSONAU AR Y MOR. Foreu Llun cyrhaeddodd y llestr Eu- rice Mereillo," o Genoa, i Falmouth. Yn yt 'd y fordaith cyfarfu a thywydd tymhestlog, a ehafodd ei darnio yn erwin, ae yr oedd ynddi bum troedfedd o ddwfr yn ystod y dymhestl. Tra yr oedd y eadben, mate, eegydd, a phedwar morwr, yr oil yn Italiaid, wrth eu g6rchwylion, ysgybwyd hwynt dros y bwrdd, a buont feddi yn uniongyrchol. Ar y cyntaf eyfisol, tyfarfuwyd a'r llestr Brydeinig North Wind," o Whitby, yn rhwym am Lundain, ac wedi cael cynnorthwy gan rai o'r dwylaw, llwyddwyd i gael y llestr anffodns i berthladd.
BODDIAD PUMP 0 BLANT DRWY…
BODDIAD PUMP 0 BLANT DRWY REW. Dydd Llun agorwyd trengholiad yn Barlsdon, swydd Warwick, ar gyrph Sump o blant a fuasent farw nos Sul, o an amgylchiadau gofidns. Aeth y plant trangeedig, yn nghyda lluaws ereill, i ys- glefrio ar lyn cyfagos, a thra yr oeddynt ar y rhew rheddodd ffordd yn ddirybudd. Diflanodd pump o honynt ar fyrder, a boddasant cyn y gellid estyn unrhyw ym- wared iddynt. Yr oedd eu hoedran o naw i idwy-ar-bymtheg, ac yr oedd tri o hon- ynt yn perthyn i'r un teulu. Gohiriwyd y trongholiad hyd ddydd Sadwrn.
T LLOFFION CYMREIG.
T LLOFFION CYMREIG. Mr Robert Hughes sydd wedi ei bennodi yn ysgrifenydd agoruchwyliwr cymdeithas long-yswiriol Bangor, fel olynydd i'r di- weddar Mr Samuel Roberts. Yn nglofa y Ffrwd, cyfarfyddedd dyn o': enw Joseph Tuder a'i angeu, trwy i swm mawr o I* syrthio arno. Fennodwycl Mr Jo&eph Llewelyn Wil- liams yn feddyg i Ysbytty Gwreesam. Y mae tynorweh eydwybod wedi tueddu Bodran i ymneilldao or fasnach wirodol, a disgwylir y bydd iddo yn fuan gael ei fendithio & darganfyddiad llechau yn ysfclys un o fryniau Cymru, fel gwobrwy ei hunanymwadiad canmeladwy, Serch ei fed yn edryeh mor iached ag itehyd, y mae y bardd Morwyllt wedi eymmeryd yn ei ben ei fod yn wael. Y dydd 9"r blaen ymwelodd eymmrawd barddonol Ag ef; ac wrth ei glywed yn ewyno, rhadedd y llinellau canlynol drwy feddwl ei ymwelydd:— 'Tawn i a Morwyllt yn marw—gallai'r Goliad fed yn chwerw Ymkolid & thrcm wjlw, Mai mewn ing Yn mkle mae nhw ?" Ymddengys fod un gohebydd barddonol wedi eael mam-yn-nghyfraith fwy enwog art ei bryntni na'i eharedigrwydd, ae fel hyn y mynai i'w beddargraph fod:— Dyma fedd fy m%m ddiwtddaf,—ua fu O'r fath deimlad bryntaf; We], mawn iach hwyl, mwy ni chaf Surni ei gormca arnaf. Deallir fod Iolo Trefaldwyn etto ar dir y byw, ac nad oedd ei ddistawrwydd 11 en- yddol diweddar yn ddim amgen na ehan- lyniad ei ymgyrch genhadol ddiweddar i oleuo trigolion paganaidd un o'r ynysoedd cymmydogaethol. Bydd yn llawen gan luaws ddeall fod Eidiol Mon wedi dychwelyd i'w hen gyn- nefin yn Arfon, ao ar hyn o bryd nlGwn porfa fras, ar lan dwfr gloewlas araf" y Gonwy. Hyfryd genym hysbysu fod y cerddor galluog Isalaw wedi ei adfer i'w gyn- nefin iochyd," a'i fed yn alluog, wrth ym- ohebu a'i gyfeillioR mewn gobaith, i ddef- nyddio y frawddeg-l' Me c, s y mae yn fy .Y ngadael inau yn bresenol," &c. Y dydd o'r blaen, anrhegodd gwraig un James Lement, yn trigianu ger Paisley, ei phriodA phedwar o ølant-dwy ferch a dau fab. Er ei ofid, yn diamheu, y maent oil yn dyfed yn mlaen yn rhagorol. Hysbysir fod cwmni yn Barrow wedi derbyn veheb i adeiladu dau o ynfadau i'r llywodraeth. Dywedir y bydd i Dywysog Cymru, ar ei ddychweliad e'r India, lanio yn Ports- mouth, a diau y bydd y trefniadau er dathlu yr amgylchiad dyddorol ar raddfa eang. Cafedd W. H. Orell, o Droylsden, ys- grifenydd cyfrinfa 721 0 Urdd y Drudion, ei draddedi i garchar am chwe' mis, ddydd Llan, am ysbeiliad. Nid dyrchafiad sydd yn penftddwi neb, ond edrychiad dirmygus ar y rhai fydlo islaw.
LLOFFION CYFFREDINOL.
LLOFFION CYFFREDINOL. Hysbysir fod y frech wen yn gwneud difrodaeth mawr yn Bombay. Bu farw Arglwydd Galway, A.S., dres Ratford y nos Sul cyn y diweddaf. Aufonodd y Frenhines rodd o gan' punt i'r Royal Alfred Asylum er budd morwyr oedranus. Y mae newyddion wedieyrhaedd Lloegr o ddarganfyddiad mwnau ychwanegol islaw yr Emma Mine. Sonir an sefydlu esgobaeth newydd yn Georgetown, Dekeubarth Affrica. Ba tymhestl aruthrol yn nghylchoedd San Domingo o'r cyntaf i'r wythfed o Ionawr, pryd y drylliwyd llawer o longau. Nifer y own a drethwyd yn Mrydain y iwyddyn ddiweddaf ydoedd 1,270,369, a'r dreth ar yr oil ydoedd 317,587p. 10s. Anfeawyd adgyfnerthion i'r fyddin sydd yn gwarchod y terfyn, rhwng y Talaethau Unedig a Mexico; i'r dyben o roddi attalfa ar rwysg y carn-ladron ar lanau y Rie Grande. Cafodd y Cad. McClellan gynnyg 20,000 o ddeleri y flwyddyn am arolygu gwelliantau Y)1 mhorthladdeedd Brazil. Ffugiodd E. D. Winston, » Boston, bapyrau a thalebau i'r swm o 600,000 o ddoleri. Adrodda y Seryddwr Ffrengig Lever- rier ddarganfyddiad planed newydd o'r 12fed gradd, Ionawr 26, 1876. Terodd lladron i'r Northampton Na- tional Bank, Bosten, nos y 27a.in o'r mis diweddaf,a lladratasant 720,000 o ddoleri. Tn Old Brompton, yn 75 mlwydd oed, hysbysir am farwolaeth Mr Edward Nel- son, yr hwn yn ei ieuengctyd a fu yn gwasanaethu o dan Arglwydd Nelson. Gan yityried ansefydlogrwydd am- gylehiadau politieaidd yn China, y mae yn mryd ein llywodraeth ychwaiaegu at north ein llyages ar y glanau Chineaidd. 0 flaen yr ynadon yn Newport, cafwyd amryw o fasnachwyr Ynys Wyth yn euog o dderbyn gwirod wedi eu smyglio, a dir- wywyd hwy yn drwm. Bernir y bydd i Dywysog Cymru ddych- welyd i Loegr yn gynnarach o bythefnos neu dair wythnos nag y tyfeid, o herwydd afiechyd yn ei oogordd. Cafodd ysgrifenydd Undeb Nottingham ei geryddu am anfen tylodion drosodd i'r I werddon yn groes i'w hewyllys. Y mae tanwyr agerlong berthynol i Antwerp, ar fwrdd yr hon yr oedd 150 o bersonau, wedi darganfod saith pecyn o bylor yn nghanol y glo. Dywedir fod y dylanwad a feddianna Jobu Bright ar gynnulleidfa i'w briodoli, mewn rhan, i'r nifer Iluosog o eiriau unsill a arfera. Mewn un ymadrodd, yn un o'i areithiau, yr oedd 149, allan o 190 o eir- iau, yn un sill. CYFLAFAN YN MINNESOTA.—Ionawr 22, cymmerodd cyflafan erehyll le yn Plain View, Minn., drwy i Frank Hathaway saethu i farwolaeth Miss Nettie Slayton, oherwydi ymrafaelion carwriaethol. Wedi hyny amcanodd ladd ei hun; ond cym- merwyd ef i westty gerllaw, lie y bu dan wyliadwriaeth. Oddeutu naw o'r glocli y nosom hono, daeth haner cant o bobl at y gwestty, ac aethant i'r ystafell lie yr oedd Hathaway yn ngefal swyddogion y gyf- raith, a chymmerasant ef allan a chrog- asant ef wrth goeden o flaen drws yr hotel. Cosp ANNISGWYLIADWY.—Yn 1865, darfu i ddeheuwr caethwasol o'r enw Johnson lofruddio milwr Undebol e'r enw McMil- lan, yn swydd Jackson, Tennessee ond ni atafaelwyd y llofrudd yr amser terfysg- glyd hwnw. Yn ddiweddar carcharwyd ef, ac mae ei brawf newydd derfynu. Er mai hen enciliwyr oedd y rheithwyr, y barnydd, a'r cyfreithiwr erlynol, caed Johnson yn euog, a dedfrydwyd ef i ben- ydfa. y Dalaeth am ddeng mlynedd. TEINIAETH ERCHYLL LLOFRUDD.—Yr oedd dyn o'r enw Edward Williams yn byw gydag un Mrs Meeling yn Barboursville, West Virginia, yr hwn a garoharwyd ar amheuaeth o fod wedi llofruddio Mr Meel- ing ac hefyd yr oedd y wraig wedi ei charcharu am gyfranegi yn y llofrudd- iaeth. Aeth gweinidog yr efengyl i mewn 0 gy at y carcharorion ar nos y 23ain cynfisol, gan erfyn arnynt gyfaddef eu trosedd, gan foi tystiolaethau digonbl i'w heuog-farnu. Hefyd, dywedodd fod y carchar wedi ei amgylchu gan dorf o ddynion terfysglyd a thra yr oeddynt yn siarad, torasant i mewn. Cymmerasant Edward Williams dan goeden gerllaw, a rhoddasant raff am ei wddf, gan ei osod i sefyll ar daleen bar- il, lie y cyffesodd ei euogrwydd; a gofyn- odd i Dduw faddeu iddynt, a'i fod ef yn dra hapus i gychwyn i'r nefoedd yr amser hwnw. Herciwyd ef i fyny, ac ar ol 15 munud o wingo a ehrechwenu, bu farw. Dygwyd Mrs Meeling i wyneb y corff marw, a gofynwyd iddi gyffesu. Dywed- odd fod Williams yn ei charu er's tair blynedd, a'i bod hithau wedi ceisia gwen- wyno ei gwr, ond methu; yna tarawodd Williams ef yn ei ben a bwyell tra yr oeid yn cysgu, a bu farw yn y fan. Er fod pawb yn barnu y dylasid crogi y ddynes, eto nid oedd neb a roddai y cortyn am ei gwddf, a chymmerwyd hi yn ol i'r carchar.
YSTORM ENBYDUS YN AMERICA.
YSTORM ENBYDUS YN AMERICA. Yn y papurau sydd newydd gyrhaedd .'r America cawn fanylion am ystorm a ddesgrifir fel y fwyaf erchryslon y gwyddir am dani yn New York, yr hon a ysgubodd dros arfordir dwyreiniol gogledd America ar yr ail eyfisol. Gwnaed dinystr mawr yn New York, a chodwyd pyst anferth yn glir o'r gwraidd. Yn Brooklyn chwyth- wyd pump o dai eysylltiedig yn deilehion i'r llawr, ac mewn annedd arall ni chafodd y teulu ond prin ddiangc cyn i'r adeilad gael ei ddymchwel. Chwythwyd i'r llawr yr holl drefniadau pellebrol i'r dehau a Philadelphia, ae yn New Jersey taflwyd cerbyd eddiar y rheilffordd, gan ladd un person yn ddirybudd. Taflwyd i'r llawr glochdai yn Providence a Worcester, ac yn mhorthladd Newport ymryddhai y llengau oddiwrth eu hangorion, gan ym- guro yn erbyn eu gilydd ac achosi dinystr mawr. Creai yr ystorm gyffelyb ganlyn- iadau mewn lluaws o barthau ereill o'r wlad, a dywed pellebrau o Utah ddarfod i gerbydres gael ei chladdu yn y tywod, ac i drafnidia,eth gael ei attal am ddeng niwrned.
» -agi'.jtjw "i-i-cYNNULLION…
» -agi'.jtjw "i-i- cYNNULLION DIFYRUS. Lladdwyd a sychwyd 150,000 o foch yn Cincinnati yn ystod y mis cyn y diweddaf. Gofynodd un i'w gyfaill paham yr oedd wedi priodi gwraig mor feehaa ? "Wei," meddai yntam, yr oeddwn yn meddwl dy fod di yn gwybod, mai o'r holl ddrygau y dylem ddewis y lleiaf Pan yr oedd Gwyddel yn ysgrifenu hanes ei fywyd, efe a ddywed ei fod wedi rhadeg ymaith pan yn ieuangc oddiwrth ei dad,o herwydd iddo gael allan nad oedd ond yn unig ewythr iddo. Ireedddyn yn Maine yn ddiweddar yn y Ilys yn ymofyn trwydded i arddangos 11ft o'r mummies Aifftaidd, yr hwn, medd- ai, oedd dres dair mil o flynyddoadd o oed. Tair mil o flynyddoedd," llefai. y barnwr synedig, "ac a yw y creadur. yn fyw! Y mae llawer yn gweddio— nid am war- edigaeth oddiwrth bechod, ond i'r dyben o allu byw yn dawel ynddo, gan ddiogwyl y derbynir eu gwiddiau yn He diwygiad. Pan oedd mab i dad hoff ar gychwyn i'r rhyfel, addawodd ddyfod & phen un o'r gelynio,n adref gydag ef. Attebodd ei dad ef, "Byddai yn dda genyf dy weled yn dyfod adref lieb yr un pen, os t'leui adref rywfodd yit ddyogel," Yr wyf bob amser yn eanu i foddham fy ban," meddai boneddwr ag oedd yn sisial rhyw don mewn cwmpeini. Dyl- ech fod yu ddiolchgar iawn cish bod mor liawdd 1eh plesio," meddai boneddiges a eisfceddai yn ei ymyl. Aeth creadur ynfyd at offeiriad y plwyf, a dywedodd, gyda gwyneb hir, ei fod wedi gweled ysbryd. Pa brvd ac yn mha le ?" gofynai y gweinidog. "Neithhvr," attebai y dyn ofnus, yr oeddwn yn pasio heibio yr eglwyi; ac yn sefyll ar ochor y mur y gwelais y ddrychiolaeth." Pa fath oedd ei ffarf?" gofynai yr offeiriad. "Yr oedd yn ymddangos fel pe bi^asai ar ffurf asya mawr." "Dos adref, a phaid a dyweud y stori wrth neb arall," chwanegai yr offeir- iad; ni welais erioed ddyn mor pfnus a a thi, yn cymmeryd dy ddychrynu gan dy gysgod dy hun 13 Y MOR.—O'r holl greaduriaid, y mwy&f yw y m6r. Y mae yn debyg na buasai genym ond syniad anmherffaith am yr Anfesnrol a'r Diderfyn, oni bae am yr help a reddir i ni trwy y,creadur mawr hwn. Y mae unoliaeth y m6r yn un o ddirgelion ei fawredd, oblegid er ein bod yn eawi rhanau yn Werydd, Tawelog, Canoldir, &c., etto y m6r ydyw efe, yr un yn mhob man. Fe ddywe4 cyfrifwyr gallaog fod digon o ddwfr yn y m6r i roi amwisg 8,000 o droedfeddi o ddyfnder o gylch y byd. Dywedir yn mliellach, ped ychwanegid onid un rhan o bedair, y byddai yn ddigon i foddi y sychdir oddi- gerth copaau y mynyddoedd. Y mae dyfnder dyfnaf y m6r yn ansicr. Y maent, fwy nag unwaith wedi methu cael gwaelod gyda line 5t o filltiroedd o hyd. Dywed Lieut. Maury, fod y m6r yn ymyl St. Helena, yn tynu ar y saith milltir. Nid ydyw y goleuni yn cyrhaedd y dyfnderau hyn, ae nid oes yno na llysiau na physgod. Y mae gwaelodion y dyfnder mawr yn dywyllwcb annghyfaneddol, heb ddim yn tori ar y distawrwydd ofnadwy, ond ambell ymweliad o eiddo y morfil, pan yr ym- gladda i'r dyfnder mewn dychryn, a saeth yr heliwr yn ei ystlys. Y mae halltrwydd y m6r yn elfen a osodwyd ynddo gan y Creawdwr, -ond nid yn gyfartal hallt yn mhob man. Y mae m6r y Baltic, ar rai adegau bron yn grocw. Peth rhyfedd perthynol i'r m6r ydyw ei drai a'i lanw. Y lleuad, fel y mae yn hysbys, ydyw y prif weithredydd gyda hyn. Gwelwyd ambell i forwyn mewn ffermdy, nid yn unig yn forwyn dda ei hun, ond yn gryn feistres ar y gwas hefyd felly y mae'r lleuad gyda'r m6r. Tyr'd yma," meddai wrtho ar lanau America, dos a'r pynau blawd a'r cotwm yma i Loegr—tyr'd a dy gefn yn nes (meddai wrtho yn Lerpwl) a chymmer dy bwn;" ac y mae yntau yn bur ufudd yn dyfod unwaith neu ddwy bob dydd.
TIRFEDDIANWYR CYMREIG.
TIRFEDDIANWYR CYMREIG. Ceir yn ol y Doomsday, Book," sydd newydd ei gyhoeddi, y manylion canlynol o barth tirfeddianwyr Cymrsig Yn Ngogledd Cymru y mae 15,467 o feddian- wyr tir islaw un accer, a 9068 o feddian- wyr un accer ac uchùd, yn gwneud cyfan- swm o 24,535. T tirfeddianwyr lIwyaf yn ngogledd Cymru ydynt Arglwydd Pen- rhyn a Syr Watkin W. Wynn, ac y mae y diweddaf yn un o'r deuddeg a feddian- ant fwyaf o dir yn Nghymrn a Lloegr.
BEULAH, BUALLT, BRYCHEINIOG.
BEULAH, BUALLT, BRYCHEINIOG. Dywenydd genym ddeall fod Mr David James, o'r lie hwn wedi ennill First-class Queen's Scholarship, yn arholiad y Na- dolig. Saif ei enw yn uchel ar y rhestr, yn mysg y cant blae⁡ tra yr oedd dros 0 bymtheg cant yn yr ymdrechfa, ffaelodd dros bum cant yn gyfangwbl. Y mae safle uchel Mr D. James ar y rhestr yn glod iddo, ac yn brawf 0 allu, gofal, a gweitlagarweh Mr a Mrs Williams, o YI- gol Beulah, dan ofal pa rai y bu ef am y chwe' mlynedd diweddaf. Areiymadaw- iad i Goleg St. Mark's, Llundain, anrheg- wyd ef gan blant yr ysgel a nifer o gyf- eillion a flute werthfawr, yn nghyda phyrsaid o arian. Ac er dathlu'r am- gylehiad, darfu i Miss Thomas, o Lwyn Madog, yn ol ei haelfrydedd arferel, roddi gwledd e d6 a theisien i holl blant yr JI- gol, a nifer e gyfeillion a ehyfeillesau. Wedi elirio'r byrdda*, wrth gyflwyno'r rhoddion i Mr D. James, dywedodd y Parch. W. E. Welby, M.A., fod y llwydd- iant ag oedd y cyfaill ieuangc wedi gyr- haeddyd yn ffrwyth ymroad, penderfyniad, a gostyngeiddrwydd, ac (yr oedd yn hy- derm) yn ernes o lwyddiant mwy etto yn y dyfodol. Ymadawodd y ewmhi ya llawen, wedi treuliodd prydnawn a hwyr wrth eu bodd.—Minavon.
Advertising
ENAINT A PHELENAU HOLLOTTAT.—Llwyddiant Par- haus.—Nid oes uhrhyw anhwylderau yn fwy poenus i'r dymber, a mwy diffygiol i'r cyfaDBoddiad na phoenau yn y gewynau a'r cymalau drwy wlychu neu oerni. Lie bynag y byddo y boen, nid yw yn angenrheidiol ond mwydo y man drwg gyda dwfr cynhes, ei sycbu yn hollol, ac yn uniongyrchol rwbio arno Enaint anmhris- iadwy Holloway ercael esmwytbMy Gynamalwst, Cryd- cymmalau, Neuralgia, a Tic-dolureux a esmwytbir yn brwJdd, ac a iacheir yn fuau drwy ddefnyddiad y feddyginiaeth ddigyffelyb hon yn nghyda chynnorthwy Pelenau parhaol Holloway. 0 dan y driniaeth ddoeth hon bydd i'r rhanau yr effeithir arnynt beidio poeni yn fuan, ac yn ebrwydd y dcuant i'w cyflwr arferol. Y mae y meddyginiaethau hyn yn anmhrisiadwy mewn iactiau anhwylderau y spine a'r gewynau. VALUABLE DISCOTERT FOR THE HAIR.—If your hair is turning grey or white, or falling off, use The Mexi- can Hair Renewer," for it will positively restore in every case Orey or White hair to its original.colour, without leaving the disagreeable smell of most "Restorers." It makes the hair charmingly beautiful, as well as pro- moting the growth of the hair on bald spots, where the glands are not decayed. Ask your Chemist for" Txm MEXICAN HAIR RENEWER," prepared by HENRY C. GAL- LUP, 493 Oxford Street, London, and sold by Chemists and Perfumers everywhere at 3s 6d per bottle. FLORILINE !—FOR THI, TEETH AND BREATH.—A few drops of the liquid "Floriline" sprinkled on a wet tooth-brush produces a pleasant lather,which thoroughly cleanses the teeth from all parasites or impurities, hardens the gums, prevents tartar, stops decay, gives t. the teeth a peeuliar pearly-whiteness, aad a delightful fragrance to the breath. It removes all unpleasant odour arising from decayed teeth or tobacco smoke. The Fragrant Floriline," being composed in part of Honey and sweet herbs, is delicious to the taste, and tKe greatest toilet discovery of the age. Price 28 6d, of all Chemists and Perfumers. Prepared by Henry C. GALLur, 493, Oxford street, London. THROAT AFFECTIONS AND HOAECSSIRSAS.—All suffering roni irritation of the throat and hoarseness will be agree- ably surprised at the almost immediate relief afforded by the use of "Brown's Bronchial Troches. These famous I I are now sold by most respectable chemists in this country at Is ld per box. People troubled with a "hacking cough," a "slight cold," or bronchial atfectioas, cannot try them too soon, as similar troubles, if allowed to progress, result in serious Pulmonary and Asthmatic affections. See that the words Brown's Bronchial- Troches" are on the Government Stamp around the box, —Manufactured by JOUN I. BROWN AND SONS, Boston. CTnitArl States. f>epofc. 11 j^ 0xfo>'<3-street London THE HAIR.—For 40 years Mrs S. A. ALLEN'S WORLD'S HAIR RFSTORLR has received the commendation and favour of the public. It has acquired the highest place that can be obtained for any moderate enterprise, and contributed to the adornment of teus of thousands ef persons, who have the proof of its serviceable character. It will positively renew and restare the original and natural colour of grey, white, aud faded Hair. It will strengthen and invigorate the Hair, stop ita falling, and induce a healthy and luxurant growth. No other pre- paration can produce the same beneficial result. Sold by all Chemists and Perfumers, in large bottles, Gs. Depdt 114 and 116, Southampton Row, London. ADVICE TO MOTHERS 1—Are you broken in your rest by a sick child suffering with the pain of cutting teeth ? Go at once to a chemist and get a bottle of MRS WINS- LOW'S SOOTHING SYRUP. It will relieve the poor sufferer immediately. It is perjectly harmless and pleasant to taste, it produces natura!, quiet sleep, by relieving the child from pain, and the little cherub awakes as bright as a button." It soothes the child, it softens the gums, allays all pain. relieves wind, regulates the bowels, and isithe best known remedy for dysentery and diarrhoea, whether arising from teething or other causes. Mrs Winslow's Soothing Syrup is sold by Medicine dealers everywhere at Is lAd per bottle. Manufactured in New York, and at 493 Oxford Street, London. MAGNETIC APPLIANCES.—Many of the most painful and intricate disorders are known to yield to the gentle vitalising affluences of magnetism, and several cases of spinal derangement, lirer, kidney, heart, lung, and chest affections have been cured by the use of Darlow's magnetine appliances, which are recommended by many gentlemen of eminence in the medical profession. Mag- iietine is the only original modern invention in curative magnetism. Pamphlets post free.-Darlow and Co., 413, West Strand, London. 7718 As a safe, permaaont, and warranted cure for Pim- ples, Scrofula, Scurvy, Bad Legs, Skin and Blood Dis- eases, and Sores of all kinds, we o. with confidence recommend Clarke's World-Famed Blood Mixture. Seld by Chemists everywhere. IF THIS SHOULD MEET THE EYE of any one 1 ■v ubled with Wind in the Stomach, Indigestion, or B Lousness, take PAGE WOODCOCK'S WIND PILLS. Their world-wide celebrity proves them of sterling merit. Tonic, Invigorating, and Purifying, they form one of the remedies extant. Of. all medicine vendors, in boxes, at Is lid and 2s 9d. all
IDAMWAIN ALAETHUS AR FFOEDD…
DAMWAIN ALAETHUS AR FFOEDD HAIARN DINAS LLUNDAIN. Cawn hanes damwain erchyll wedi cymmeryd lie ar Ffordd Haiarn Dosbarth Llundain. Gadawodd cerbydres i Addison Road a Westbourne Park, o Earlscourt Road, oddeutu hanner awr wedi chwech ddydd Sadwrn diweddaf, a phasiodd Ham- mersmith Junction mewn iawn fodd ac amser, ac arwyddwyd fod y llinell yn mlaen oddi yno yn gIir. Dilynwyd hi gan gerbydres arall i Hammersmith a phan yn A,goshalt at y junction, rhedodd y naill i'r Hall, gan ddryllio y ddwy ol-gerbyd i'r rhes fiaenaf. Diangodd y peuiannydd a'r tanwr heb dderbyn un niwed, trwy leehn o dan y cerbyd. Anafwyd guard cerbyd- res Addison Road yn erwin. Yr oedd Mr Gleeson, meddyg o Hammersmith, yn y gerbyàres fll: y pryd, ac heb dderbyn niwed, ac efe a waaeth yr hyn oil oedd yn ei allu i'r rhai a anafwyd. D.iefch Mr Noott a Mr Andrews, Hammersmith, hefyd ya fuan i'r He. Yr oedd y niwl yn dew iawn, a chydag anhawsder mawr y llwyddwyd i gael y rhai anafus yn rhyddion o'r cerbyd- au maluriedig. Gwnaed tin mawr wrth cehr y llinell, a chymmeiwyd ysgyrien y eerbydats yn danwydd. Caed fod 25 o' bersonau wedi eu hauafu, ugain o ba rai, oedd heb eu niweidio yn ddirfawr, a gawsant drwsio y briwiau, a'u hwylio tua'u cartreii. Cymmerwyd y guard anafus hefyd, ar ei gais, i'w gartref. Dygwyd y rhai oedd wedi eu hanafu fwyaf gyda'r gerbydres i Hammeramitb,i'r West London Hospital. Gobeitbir na tberfynadim un o'r acliosion hyny yn angeuol.
[No title]
Y DIRGELWCH: 0 FOD YN DDEDWYSB.— Gofynwyd i esgob yn Itali amseryn ol, yr hwn a fuasni yn ymladd yn galed 4 gwrth- wynebiadan, heb amlygu un anfoddlon- rwydd, gan gyfaill iddo y dirgelwch o'i fod bob amser yn ddednydd. 0 gwnaf yn union," meddai'r esgob; mae yn gynnwysedig mewn un path, sef gwlteud iawn ddefnydd o'm llygaid." Ei gyfaill, mewn syadod, a ofynai iddo pa beth oedd yn ei feddwl wrth hyny. 0, dyweda,f yn ewyllysgar," meddai'r esgob. "Yn mha gyflwr bynag y byddaf edrychaf yn gyntaf i'r nefoedd, gan gofio mai fy ngwaith mawr ydyw cyrhaedd yno. Byddaf yn edryeh i lawr ar y ddaear, gan gofio pit mor Ueied o li y byddaf yn fman yn ei lenwi ynddi; ac yn edrych (t'm cwmpas, ae yn sylwi gymmaint o lwoedd sydd yn mhob ystyryn fwy annghysurus eu sefyllfa na mi; a,c yna byddaf yn cofio fod diwedd i'm hell ofalon. Felly, gwelaf mor liaied o achos sydd genyf i rwgnach neu i beidio bod yn ddiolchgar. Wrth fyw yn y tymher ysbryd yna, byddaf bob amser yn ddedwydd."
Y PRIF FARCHNADOEDD SEISNIG.
Y PRIF FARCHNADOEDD SEISNIG. LLUNDAIN, dydd Gwen^r.—Er mat yehydig fasnach a wuaed, yr oedd y gwenith cartrefol a thramor yn eofydlog. Araf oedd y fasnach mewn blawd, ond y prisiau heb newid. Yr oedd haidd at fragu a malu yn sefydlog. Talwyd llawo briaiau am geirch. Yr oedd grawn belia, (fa, a phY", yn eadw at brisiau blaenorol. Djdl Llun.—Gwerthai y gwenith am brisiau diweddar.^ Cadwai baidd at frigu a malu at lawn brisiau. Cedwid tua'r prisiau blaenorol am fr&f, end y fasnach yn ddi- fywyd. Yroedd y stoc o geirch yn helaetb, a'r fasnaak yn fwy sefydlog am lawn brisiau diweddar. Yr oedd grawn Iudia yn gwertbu yn fywiog, aV priaiau yn erbyn y prynwyr. Yr oedd y fasnach yn sefydlog mewn pys a la, a'r prisiau lawn mor ddrud. Gwnaed masnach gymmedrol mewn blawd, a chedwidat bri8iau blaenorol. LERPWL, dydd Gwener.—Yehydig fasnach a wnaed mewn gwenith, ond yr oedd tdn y farehaad yn well, a chymmerodd codiad o 10 y canpwya le yn y prisiau. Tueddai y blawd at goV, daliai t'fa. a phys yn sefydlog. Tawel oedd y fasnach mewn ceirch, ond yr oedd galwad bywiog am rawn India yn cl codiad o "0 y chwartei. Dydd Mawrth.—Daliii to v y fasnach mewn gweaith yn sefydiog am brisiau ddydd Gwener. Biawd yn gwerthu yn araf, a'r grawn India yn sefydlog am brisiau diweddar. Ffa a pbys yn dal heb un cyfnewidiad.
__.-PKIF FARCHNADOEDD CYMREIG.
PKIF FARCHNADOEDD CYMREIG. ABERSKLE, Cbwefror 12.-Gwenitb,o 15s Oci 16s Oc yr hob haidd, o 10s 00 i 12s Oc yr hob, ceircb, o is Oc i §8 6c yr hob; ffa, 15s 6c i 16a 60 yr hob; blawd ceirch, 37s Oc i 38s Oc y 240 pwys. ABERYSTWYTH, Chwefror 7.-Gwenith, o 6a 60 i 7s Oc y bwsel; haidd, 4s 3c i 5s Oc ceirch, Ss 3e i 3s 9c ymenya llestri, He i loc; ymemyn ffres, 16c i 18c. ednod, 38 6c i 4s 6e y ewpwl pytatws, Os Oc i 6s Oc y canpwys; BANGOR, Chwefror 11,—Gwenith, o 43s Oc i 46s 60 y chwarter; haidd, 29" Oc i 31s Oc; ceirch, 22s Oc i 24s Oc; blawd ceirch, ;35s 00 i 37s Oc y 40 pwys; ymenyu ffres, o Os Oc i Os Oc y pwys cig eidion, o Oc i OOc y pwys ;cig defaid, o 00c i 00c y pwys cig lloi, o (Jo i 00 y pwys. CAERNARFON,Chwefror 12.-Gwenith,o 43 fe 'i 45s 6c y chwarter haidd, 285 6c i 31s Oc y chwarter ceirch, o 21s 60 i 233 6c y chwarter; blawd ceircb, o S7s Oc i 38s 00 y 240 pwys. DINBYCH, Chwefror 9.—Gwenith, o 15a 6c i Ols Go yr hob; haidd, lis 0c i 12s 6c yr hob; ceirch o 8s 6c i 9d Oe yr hob ymenyu Ores, Is 90 i Is IOte y pwys tybiau, Is 3c i Is 4e y pwys. LI-ANGBFNI, Chwef. 10.—Gwenith, 42fi Oe i 44s #c y chwarter; haidd, 28 J 0c i 31s Oe y chwarter; ceirch 21s 00 i 23s Oc y jhwarter blawd ceirch, 34s Oc i 37s Ocy 240 pwy& pytatws,7s6c Hi. 8c y 100 pwys; ymenyn ffres, Is 10c i Os 6c y pwys; cig eidion, o 9c i JOo y pwys; cigdafad, o 90 i 10c y pwys; hams cartret gorev.. Is Oc y pwys. LLAJSKRCHYMBDD, Chwef. 9.—Gwenith, 42s Oe i 43a Or, y chwarter haidd, 29 Oc i 803 60 y chwarter; ceirch, o 20d (Jo i 21s Oc y chwarter blawd ceirch, 30s i 31..s 6c y 240 pwys; pytntws, o 78 6c i 8s Ocy 100 pwys; ymenyu tires, Is ge i Os 00 y pwys; cig eidion, o 93 i 10c y pwys cig defaid, 9c i 10a y pwys hainscartref goreu, Is Oc y pwys. LLANKWST, Cliwof. S.-Gwenith, 178 to i 18is ec; yr hob haidd, lis 0c i 13s Oc yr hob; ceirch, • Ss 60 i 9s Oc yr hob blawd ceirch, 21e 6c i 22s Oc yr hob pytatws, a 6c i 9s 00 yr hob; ymenyn ffres, 2s Oc i 28 2c y pwys; cig eidion, it i 9c y pwys cig dafad o 9c i 10c y pwys. Argraffwyd a Cyboeddwyd gan y Perchenog, KENMOIR WIUTWOHTH DODGEAS, Argraffydd, &c., Heol Fawr, | Badger, dydd Gwener, Chwefror 18, 1876.