Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

"Y TORIAID DILES."

ACHOS YSGARIAETHYN ABEEDYFL

LLAM'ECHKLL.

ABERTEIFI A'R AMGYLCHOEDD.…

CURKI8.

LLANFAIE P. G.

LLANDDANIEL-FAB, MON. !

News
Cite
Share

LLANDDANIEL-FAB, MON. YMRYSONFA AREDIG.—Cynnaliwycl yr ymrysonfa uchod mewn maes perthynol i Mr John Williams, Holo Gwyn, ar y 18fed cyiisol, pryd yr ymgynnullodd un- ar-bymtheg o aradrwyr gyda'u hofferi dori y cwysau. Dyfarnwyd y gwobrwyon fel y canlyn laf, John Roberts, Dafarn Ne- wydd, Llangefni, 2p; 2il, Evan Parry, 0 gwas Gwydryn Hir, lp 15s Bydd, William Owen, gwas Brynyfelin, Llandegfan, lp 10s; 4ydd, John Jones, gwas Tygwyn, Penymynydd, lp 5s 5ed, John Evans, gwas Garnedd Goch, Penymynydd, lp; 6ed, Owen Parry, gwas Dinam House, Gaenven, 15s; 7fed, Robert Roberts, gwas Garnau Fawr, Penymynydd, 10s; 8fed, John Thomas, gwas Trefnant Wen, Llanddaniel, 7s 6c. Rhoddwyd 53 i bob un o'r wyth aflwyddiannus. Gwobrwy- wyd am y gwefydd goreu fel y canlyn laf, gwedd. Garnedd Goch, lp; 2il, gwedd Tygwyn, Penymynydd, 15s 3ydd, gwedd Garnan Fawr, 10s; 4ydd, gwedd Gwydryn Hir, Llpnidan, 7s 6c; 5ed, gwedd Bryncelli, Llanddaniel, 5s. Rhodd- wyd gwobrwyon am yr eryar goreu laf, William Williams, g6f, Talwrn, 7s 6c; 2il, Edward Davies, pof, Cwm, 5s; 3ydd, William Williams, gôf, Talwrn, 2s 6c. Y beirniaid ar yr aredig oeddyntMr 0. Williams, Dre'r Driw, Llanidan; Mr ReI. Evans, Fferam, Llangrisfciolus a Mr H. Hughes, Black Horse, Pentraeth. Ar y gwefydd Mr E. H. Owen, Caernarfon; Mr Hugh Prytherch, Bryngo a Mr T. Francis, Cefn Cwmwd. Cafwyd diwrnod hynod o ffafriol, a hyny yn nghanol tywydd gwlyb a rhewllyd. Digon yw dy- weud i ymdrechion diflino y pwyllgor, a hyny yn ngwyneb cryn anfanteision, gael eu coroni a llwyddiant perffaith. Nos Wener, yr 21ain cyfisol, cynnal- iwyd cyfarfod yn eglwys y plwyf, i'r dyben o wraudaw ar y plant yn canu ac yn cael eu hegwyddori. Ymgynnulloedd tyrfa 0 y fawr a pharchus yn nghyd, pa un, yn ol pob tebyg, oddieithr ambell i gadnaw rlpgfarullyd, a dderbyniasant gyflawn (Uoiigaeth yn eu dyfodiad, gan i'i plant, trwy lafur diflino y Parch. G. W. Griffith all briod serchoglawn, fyned trwy waith ag sydd yn gyfryw nad all y man fwyaf o eglwyswyr Mon ei gyflawni. Cafwyd annerch iadau grymus a phwrpasol i'r plant gan y Parchn. G. B. Jones a W. Wynne Jones, Caernarfon. Nos Sadwro, yr22ain, rhoddoddyParch. G. W. Griffith swper ardderchog i'r c6r, yn nghyda'r plant perthynol i'r cyfarfod egWyddori, oddeutu deg-a-deugain onifer, pa rai a orymdeithiasant o'r eglwys i'r ) Persondy. Wedi ymddigoni o bawb o'r danteitbfwyd, caed gwledd adloniadol, dan lywyddiaeth ein parchus weinidog, yr hwn a lanwodd y swydd yn deilwng o hono ei hun. Cynimerwyd rban gan -ti il arnry w o'r gwahoddedigion mewn datganu ac annerchiadau pwrpasol i'r amgylchiad. Wedi myned trwy y ffurf gyffredin o ddio'chgarwch, &c., terfynwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf adloniadol, trwy ddat- ganu yr Anthem Genedlaethol. Yna ym- wahanwyd gyda mynwesau yn llawn o deimladau hapus a serchog tuag at yr an- rhegwyr.—Deiniol IJicyd.

LLANLLECHID.

LLANBERIS.

MACHYNLLETH.

TALWRN, MON.

Family Notices

Advertising