Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

"LLOFFION O'R DEHEUDIR.

Advertising

HERW-HELA.

I HENRY M. STANLEY.

CYFARFOD NADOLIG BEDYDDWYR,…

DARLLENFA GYHOEDDUS BANGOR.

News
Cite
Share

DARLLENFA GYHOEDDUS BANGOR. FONEDDIGION, Yn eich rhifyn am y 1.4eg cyfisol, mae gan eich gohebydd Pen y Bone sylw ar ein darllenfa; ac os bycld- wch mor garedig a chaniattau ychydig o'ch gofod i minnau, byddaf yn ddiolchgar i chwi. Y mae mynychwyr y lie uchod yn cael eu blino gan blant sydd yn dyfod yno i chwareu â'u gilydd. Un noswaith yr wythnos ddiweddaf,daeth pedwar o honynt i mewn, a dechreuasant aflonyddu a lluchio y llyfrau y naill at y Hall, nes o'r diwedd bu orfod arnom eu gyru allan ac os digwyddi'r llyfrgeUydd fod yn absennol, maent yn cymmeryd y cyfleusdra hwnw i aflonyddu. Peth arall y buaswn yn caru galw sylw atto ydyw, y fynedfa at y llyfr- gell; y mae yn beryglus ac annghyfleus. Pan yn dyfod allan o'r ddarllenfa y nos, mae mor dywyll fel mai o'r braidd y gallwn gadw y llwybr. A fuasai yn ormod i ni ofyn i'n bwrdd iechyd ddarparu lamp a'i gosod yn rhywle ar y llwybr o'r ddar- llenfa i'r heol ? Yr oedd dau o honom yn dyfod oddiyno un noswaith yn ddiweddar, a phan oeddym yn ymyl y grisiau sydd yn arwain i'r brif heol, rhoddodd fy nghyfaill ei droed yn rhy bell tros y grisyn, a chwympodd i'r gwaelod er mawr niwed W iddo ei hun. Pe buasai yma ronyn bach o oleuni, buasai fy nghyfaill yn myned i lawr yn ddigon araf i'w rhifo, ac felly buasai yn cyrhaedd yr heol heb niweidio dim arno ei hun. Gobeithio y cymmer ein bwrdd lr,.q awgrymiad hwn. 'E T. P. D.

LLITH MR PUNCH.,."If