Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

"LLOFFION O'R DEHEUDIR.

Advertising

HERW-HELA.

I HENRY M. STANLEY.

CYFARFOD NADOLIG BEDYDDWYR,…

News
Cite
Share

CYFARFOD NADOLIG BEDYDDWYR, CAERNARFON. MIn. GOL.,—Yn y Llais am yr wythnos d diweddaf, mae Gwas Mr Punch yn ei lith yntraethu o dan y penawd "Cwymp oddi- wrth ras a chyfarfod llenyddola gynnal- iwyd ar nos Nadolig yn nghymmydogaeth, Caernarfon. Y mae Iluaws yn fy hysbysu mai attaf fi y cyfeirir yn y sylwadau gan hyny, erfyniaf eich caniattad i dystio yn y modd mwyaf pendant yn erbyn y cyhudd- iad. Cynnaliodd y Bedyddwyr yn Nghaer- narfon eu cyfarfod llenyddol ddydd Nadolig diweddaf, fel yr arftd,rent ers blynyddoedd bellach. Yn y cyfarfod olaf yr oedd rhai pethau annghydnaws k chwaeth rhyw un (hollol anhyshys i mi) a ysgrifenodd i'r Fa,ner y dyddiau dilynol. Ac ymddengys oddiwrth eich gohebydd hwn, mor bell ag y gallaf gasglu, ei fod yn priodoli yr erthygl hono i mi. Llawer o bethau yn yr ysgrif a wnant rm dybied hyny. (1) Cyfeiria mewn modd sarcastic at y credo o "gwymp oddiwrth ras." Gan fy mod, fel pregethwr Wesleyaidd, o angenrheidrwydd yn credu yn ddiysgog yn yr athrawiaeth ysgrythyrol hon, cesglir fod y saeth wedi ei hannelu attaf yn yr uchod. Gyda llaw, Gwas Mr Punch, ai 6, yn traethu ei len ar gwymp oddiwrth ras!" Os nad ydyw hyny yn debyg i dwrch daear yn amcanu areithio ar yr haul, nis gwn pa bath sydd. (%). Hysbysir fod y person cyfeiriedig atto, wedi myned allan cyn i'r cyfarfod der- fynu, '-ei fod wadi "myned i rai o dai-- y dref,"—^c awgrymir ei fod yn ddyn ieuangc." Y mae y tri pheth hyn yn ffeithiau am danaf. Felly, eithaf teg ydyw i mi gael fy nghyhuddo o fod y person sydd o dan fflangell y Gwas; ond dymunaf ei hysbysu ef a'i wehelyth gwrachaidd, nad oes y cyssylltiad lleiaf rhyngwyf a'r hyn a dadoga yn ei ddull bawlyd arnaf. Nid ymostyngais hyd yn hyn, ac nid wyf yn bwriadu byth ymostwng i'r arferiad iselwael o ddifrio Personau a chvfeillion o dan gochl ffugenwau. Y mae genyf fwy o barch serchog a brawdol at y Bedvddwyr yn Nghaernarfon nag y dywedwn ddim.yn annheilwng am danynt; a chredaf fod y llu gohebwyV fu yn ysgrifenu o'r dref hon wedi dyweud digon o gelwyddau am yr enwad parchus hwn, am un can' mlynedd, beth bynag. Pan fydd arnaf eisieu traethu fy marn trwy y wasg, gwnaf hyny heb ofyn i na Gwas Mr Punch, na'r un crwydryn arall o'r fath. A gofynaf iddo cyn rhoddi'r ysgrifbin o'r neilldu; a fedr ef brofi fod yr hyn a ysgrifenwyd i'r Faner yn anwir- eddau noethion," yn gelwyddan," ac yn "ysbwrlaI gwenwynllyd."? A oedd yn y cyfarfod cyfeiriedig atto feirniaid ? Un barnwr a welais i yno. Ai "llwybr annghyfreithlon ydyw adolygu ar gyfarfodydd ? 0% felly, cosper y Gwas ar frys yn Ilys y ddeddf.-Ydwyf eich serchog, T. PRICHABD EDWAEBS (Caerwyson.) O.Y. 0 eblywaf gan rhywun etto yr awgrym lleiaf yn cynnwys tadoliad yr ys- grif yn y Faner arnaf, boed bysbys ybyddaf o dan angenrhaidi ostegueudadwrdd trwy gwrs eyfreithiol.-T. P. E, CAMGYMMERIAD TIRFEDDIANWYR. IRI GOLYGWYR,-Feallai y goddefwch ran o'ch gofod prin i ddarllenwr cysaon o'ch newyddiadur i draethu ychydig o'm syniadau ar bwngc gwir deilwng o sylw amaethwyr, crefftwyr, masnachwyr, a pherchenogion tiroedd yn enwedig, sef y weithred annheilwng a'r camgymmeriad mwyaf dybryd o eiddo tirfeddianwyr, sef cyssylitu maes wrth faes. Gallaf ddwyn profion cglur o'u ffolineb gyda golwg ar eu llwyddiant eu hunain yn hyny. Bob amser o'r braidd y gwelwch fferm fawr o ddau cant i fil o aceri; y mae hi yn fler, hen gloddiau pridd, llydain, hen ffasiwn, a digon o le i yru trol hyd ei penau heb ofni dymchwelyd di oytynt, a'r. ffosydd wedi cau i fyny hyd hanner eu penau, a'r dwfr wedi ei attal i redeg iddynt o'r drein- iau, os bydd rhai weqi gwneud yn y cae o gwbl, a'r canlyniad yw fod y tir yn codi yn donenau. Bum yn llygad-dyst o weled rhai felly cyn hyn, wrth gyffwrdd ynddynt yn ysgwyd am rydau o ffordd, a'r rheswm am hyny ydyw, nad yw y ffermydd yna yn cael eu diwyllio fel y dylent gael, a'r canlyniad yw fod y tir yn colli yn ei werth i'r tirfeddiannydd; ac nid yw y tenant, oherwydd fod ei fferm yn rhy fawr, yn gallu dwyn hanner y cynnyrch aHasai ef gael o fferm lai, am y rheswm nad all ef gario tail i'w gymmysgu a gwr- taith i'r caeau pellaf oddiwrth y farm- yard, ac felly ni chaiff onid rhan fechan iawn o fferm fawr ei hamaethu yn rheol- aidd, pan y mae ffermydd cymmedrol, o gant i cbwech ugain, yn cael eu trin yn rheolaidd bob tair i bedair blynedd. Pe baech yn myned efo'r gerbydres o'r Gaer- "Wen i Amlwch ar y chwith i chwi, ar ol 'pasio un o brif drefydd marchnadoedd Aon,! a myned drwy nant a cbreigiau, y mae fferm perthynol i un o'r tir- faddiannwyr mwyaf sydd yn yr ynys. Caech weledfar unwaith yn j gymmydog- aeth un ai diffyg gallu neu ddiffyg medr biewn rheolaeth—pob un o'r ddau feallai. Mae y naill fferm yn wahanol i'r llall- ejaddiau y naill wedi ei chwalu gan yr an- ifpiliaid hyd eisodlau. Oddigerth fodambell hen orglawdd yma ac acw i nodi'r ffordd yibu clawdd, y mae'r olwg arni fel traeth, oiid yn unig fod dwfr yn dyfod yn amlach clfos hwnw. Y canlyniad yw fod gwerth ffjarm o'r fath yna wedi colli cannoedd o bjmnau mewn ychydig flynyddoedd, apha ryfedd, o ran hyny. Yr wyf yn cofio pryd yr oedd un o'r fath yn ddwy o ffermydd oddeutu wyth ugain erw bob un, heblaw dau neu dri o dyddynod a gadwent o un i ddwy fuwch, ac fe fyddai pob un o'r ddwy fferm yn cadw mwy o lafurwyr Bag agedwir yn bresennol ar y cwbl o'r draeth- ell Onid yw hyn yn gywilydd i'n gwlad a'r tirfeddiannwyr, heb son eifod|yn golled i ni fel cenedi, gan y sicrheir mai nerth teyrnas yw ei phoblogaeth. Mwyaf o rif o bobl fydd mewn teyrnas, cryfaf yny byd ydyw. Y mae yn dangos fod ganddi fwy o aduoddau i gynnal y boblogaeth, gyda fod nerth amddiffynol y cyfryw yn fwy, pe bai galw am hyny. Ond y mae ymddyg- iad rhai o'r tirfeddianwyr sydd yn gosod ffermydd ar hyd breichiau, fel y mae arfer Mon o ddyweud, yn rhwym o fod yn colledu ein teyrnas yn uniongyrchol o'i llafurwyr a'i phrif nerth. Nid wyf wrth nodi un fferm yn golygu mai un sydd yn y wlad; na, y mae degau cyffelyb, a dwy neu dair ynyr unplwyf. Y cynghor goreu iddynt, os goddefa y tirfeddiannwyr ef, fuasai gwneud pob fferm yn oddeutu 100 i 120 erw, ac edrych ar fod dynion da, gweithgar, a diwyd yn eu cymmeryd i'w llafurio, ac i dalu ardreth teilwng am danynt. Y mae digon i'w cael o ddynion medrus yn ein gwlad, pe buasent yn cael y fantais, a fuasent yn diwyllio y tir a'i wneud yn fwy o werth, ac a fuasent hefyd yn dwyn ei gyfoeth a'i adnoddau i farch- nad llafur, yn lie ei adael heb ei weled dan draed. ■' LLYGADOG.

DARLLENFA GYHOEDDUS BANGOR.

LLITH MR PUNCH.,."If