Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

"LLOFFION O'R DEHEUDIR.

Advertising

HERW-HELA.

I HENRY M. STANLEY.

News
Cite
Share

HENRY M. STANLEY. FONEDDIGION,-Mae enw y gwr uchod yn adnabyddus erbyn hyn i drigolion yr boll fyd gwareiddiedig. Cymro ydyw o'i y enedigaeth, ond y mae wedi gwadu y wlad lie cafodd ei fagu. Ganwyd ef yD agos i Ddinbych, a'i enw priodol yw John Row- lands. Yn moreu ei oes, addysgwyd ef yn nhlotty Dinbych, a bu yn gwasanaethu am beth amser fel pupil teacher mewn ysgol ddyddiol yn y Wyddgrug. Aeth i'r America pan yn lied ieuangc; ac yn mhen amser, cafodd le yn ohebydd i'r New York Herald. Bu yn gwasanaethu yn y swydd hon am rai blynyddau, ac ymwelodd a rhanau pellenig o'r ddaear pan yn cyf- lawni y gorchwyl hwn. Ond yr oedd Stanley i gael ei ddyrchafu yn uwch na hyn, ac yr oedd ef i gyflawni gorchestion a dynai sylw pobl bob gwlad. Pan oeddid yn methu yn llwyr a chael dim o hanes yr anfarwol Dr. Livingstone-pan yr oedd rhai yn meddwl ei fod wedi marw yn nghanol anian-diroedd Affrica, ac ereill yn ofni ei fod wedi ei ladd gan rai o drig- olion y lleoedd anghysbell hyny, gdfyn- odd perchenogion y newyddiadur yr oedd Stanley yn ei wasanaethu iddo a fyddai ef yn foddlon i fyned allan i chwilio am y dyngarwr enwog Livingstone. Cydsyn- iodd Stanley a'r cais, a chyn pen hir gwelwn ef yn parottoi i fyned i dramwyo ar hyd crasdir Affrica, ar neges yn yr hon y teimlid dyddordeb gan bawb o bobl y byd. Cychwynodd ar ei daitb, a chyda chyflymder anghyffredin teithiodd trwy wahanol wledydd, a llwyddod4 i gael hyd i wrthddrych ei ymchwiliad. Ar ol dych- welyd yn ol, cyhoeddodd lyfr difyrns iawn, yn rhoddi hanes ei daith, a'r modd y daeth o hS d i'r darganfyddwr anfarwol, dan y teitl o How I found Livingstone." Pan ymadawodd Dr. Livingstone a'r fuchedd bresennol, ac ar ol i'w gorph gael ei ddwyn gan ei weision duon ffyddlon i'r wlad hon, ac iddo gael ei gladdu yn mysg enwogion y deyrnas, gyda phob parch a allai y genedl ddangos tuag atto, gwelwn Stanley drachefn yn hwy!io am fyned i Affrica i gwblhau y gwaith yr oedd Livingstone wedi ymgymmeryd ag ef. Gyrwyd ef allan yn ngwasanaeth y New' York herald a'r Daily Telegraph; ac yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, derbynioJd y papurau hyn lythyrau oddiwrtho yn desgrifio ei daith, yn adrodd ei helynt- ion, ac yn hysbysu ei ddarganfyddiadau. Cyrhaeddodd y llyn hwhw a elwir Vic- toria Niyanya. mewn byr amser. Cyfar- fyddodd a gwrthwynebiadau oddiwrth rai o'r llwythau Affricanaidd, yr hyn a'i gor- fododd i ymladd a hwynt. Daeth clefyd- au, y rhai sydd mor hawdd i'w cael yn y parthau hyny o'r ddaear, ar ei warthaf, a chariasant ymaith amryw o'i weision. Trwy y cwbl, gwelir ei fod wedi bod mewn helbulon mawr iawn. Ar ol cyrhaedd y llyn a grybwyllwyd eisoes, dechreuodd rhag blaen wneud darganfyddiadau. Hwyliodd yn y llong fechan oedd wedi myned gydag ef o'i amgylcb, a phrofa, mai un llyn mawreddog ydyw, ac nid nifer o fan lynoedd wrth ymyl eu gilydd, fel y meddyliai llawer gynt. Mae hefyd wedi tynu map newydd o hono, ac felly ceir gweTed enwau trefydd, afonydd, a myn- yddoedd, ar fapiau dyfodol o Affrica na wyddid dim yn eu cylch o'r blaen. Yn un o'i lythyrau, rhydd Mr Stanley hanes "ei ymweliad a brenin Metsa. Derbyniwyd ef gan y llywodraethwr hwn mewn modd canmoladwy iawn, gyda rhwjsg a rhialtwch anarferol. Mae y brenin hwn yn barod i gofleidio Cristionogaeth, a,c y mae wedi gorchymyn i'r Deng Air Deddf a Gweddi yr Arglwydd gael eu hysgrifenu iddo, modd y gallo eu darllen a'u htis- tudio, hyd nes y cyrhaedda cenhadon i'r wlad. Dywed Mr Stanley fod tua phum' mil o bunnau yn ddigon i gychwyn y geu- hadaeth yno, ac wedi hyny mae y brenin yn barod i gymmeryd yr holl gostau yn nglyn a'r achos arno ei hun. Hyfryd yw canfod fod achos y Gwaredwr mawr yn myned yn ei flaen, fod Cristionogaeth ya llwyddo, ac fod tywyllwch eilunaddoliaeth a gau-athrawiaeth yn cilio draw o flaen goleuni disglaer efengyl Iesu Grist. Deallwil fod boneddwr wedi rhoddi y swm angenrheidiol o ariau i un o'r cymdeithas- au cenhadbl fel ag i'w galluogi i gydsynio a chais brenin Metsa trwy anfon cenhad- on i'w diriogaethau. Pan ystyriwn mor fawr yw brenhiniaeth, mor eang yw tiriog- aethau, ac mor bwysig yw sefyllfa gwlad y brenin hwn, nis gallwn amheu na chaiff presennoldeb y cenhadon yn y wlad ddy- lanwad anghyffredin ar y trigolion. Pan glywyd ddiweddaf oddiwrth Mr Stanley, yr oedd yn parottoi i fyned yn ei flaen i chwilio am leoedd anbysbys ereill, ac i dalu ymweliadau a gwledydd di-son-am danynt. Llwyddiant iddo, er ei fod yn gwadu y wlad lie cafodd ei fagu, ac yn haeru nad yw yn Gymro. CYBI.

CYFARFOD NADOLIG BEDYDDWYR,…

DARLLENFA GYHOEDDUS BANGOR.

LLITH MR PUNCH.,."If