Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

"LLOFFION O'R DEHEUDIR.

Advertising

HERW-HELA.

News
Cite
Share

HERW-HELA. FONEDDIGION,—Gwelaf fod ysgrif eich gohebydd galluog, Gwas Mr Punch," a ymddangosodd yn mis Rhagfyr diweddaf, wedi achosi cryn gynhwrf yn mysg rhai o brif ohebwyr y Deheudir. Cododd gwres- fesurydd Craig y FoelaUt" mor uchel, nes iddo fyned i dystio ar ei Iw na fyddai llawer o eogiaid yn Nheifi na gleisiaid yn Nghonwy, pe caffai penrhydd- ion eu ffordd." Maddeued eich gohebydd i mi am amheu cywirdeb ei ddywediad. Mae ffaith anwadadwy yn nglyn ag ardal Llanwddyn yn profi yn wahanol. Mae afon Fernyw, yr hon sydd yn ymddolenu trwy'r dyffryn (oddigerth rhan tua'i tharddiad, yr hwn sydd yn cael ei wylio gan lygaid eryraidd y game-keeper) fel mor Galilea gynt, yn agored i bawb a ewyllys- ia bysgotta ynddi. Os bydd y gweithiwr tlawd yn methu cyrhaedd pris uchel ymenyn, neu gig gyda'i datws, gall brysuro ei gamrau tua glan afon y Fernyw, a physgotta wrth ei ewyllys, neu fyned i chwilio am ysgyfarnog,neu gwningen, heb ofni dirwy na charchar. Beth all fod y canlyniad o'r fath benrhyddid ? Yn ol athrawiaeth Craig y Foelallt," mae pysgod y Fernyw, a game yr ardal yn lied anaml. Yn hytrach i'r gwrthwyneb y mae. Mentraf ddyweud nad oes un afon yn Ngogledd Cymru yn cynnwys mwy o frithylliaid ac eogiaid, ynol eu maint, nag afon y Fernyw. Yr un modd am y game, yn cynnwys ieir y mynydd, petris, phesants, chwiaid gwylltion, ysgyfarnog- od, a chwningod. Wele ffrwyth penrhydd- id Os bydd rhywun yn amheu cywirdeb y ffaith, bydded iddo gymmeryd gwibdaith yma yn yr haf dyfodol, a chaiff farnu trosto ei hun. Bydd llawer o foneddigion yn ystod yr haf yn arfer dyfod yma i ymbleseru a physgotta, a phrawf y niferi lluosog a ddalient, mai nid ychydig yw nifer y rhai a lechant rhwng ceulenydd y Fernyw. WDDYN.

I HENRY M. STANLEY.

CYFARFOD NADOLIG BEDYDDWYR,…

DARLLENFA GYHOEDDUS BANGOR.

LLITH MR PUNCH.,."If