Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

- MES-URAU Y-LLYWODIRAETH

News
Cite
Share

MES-URAU Y-LLYWODIRAETH Nid oes derfyn ar haerllugrwydd ambell aelod seneddol yn baldorddi anwireddau i glustiau anwybodusion Radicalaidd yn Nghymru, ac y mae yn iechyd i'n hawyr bolitieaidd gael ambell i frawd fel Mr Davies, Llandinam, yn ddigon gonest yn ogystal a diniwed i gydnabod fod rhyw faint o ddaioni a rhinwedd yn perthyn i'r eymmeriad Toryaidd, ac nad yw y gagen- dor rhwng Mr Disraeli a Mr Gladstone yn llawn cymmaint, wedi'r cyfan, a'r un a sefydlwyd rhwng Satan a Gabriel. Yn ddi- weddar cawsom adran o'r Monwysion yn tori allan mewn gorfoledd o dan athraw- iaeth wenwynllyd Mr Morgan Lloyd, yr hwn a hwtiasid gyda dirmyg haeddianol mewn llawer man pe meiddiasai sarhau synwyr a gwybodaeth cyffredin ei wran- dawyr a'r fath ysbwrial politicaidd. Ar derfyn y senedd-dymhor diweddaf, y w.t\vch Radicalaidd fawr a gyfodid ydoedd na wnelsai y Ceidwadwyr ddim amgen na lladd amser; ond wedi argraffiad llafnr enfawr y blaid, y mae cywair y ddn wedT 1 newid i raddau helaeth, a qhydnabyddir yn gyf/redinol bellach fod y lluaws mesur- au a gynuyrchwyd o nodwedd fendithiol i gymdeithas Brydeinig. Wedi ei ar- "yboeddi fod synwyr cyffredin yn bodoli oddiallan yn ogystal ag oddifewn i furiau St. Stephen, rhyngodd bodd i hyd yn nod Mr Osborne Morgan gydnabod fod mesur- au y llywodraeth "yn dda mor bell ag y maent yn myned," ac yr ydym yn dra sicr na chafodd gymmeradwyaeth ei gyd- wybod am fwy gwirionedd a draethodd yn Ngwrecsam. Y gwir syml ydyw, fod y Radicaliaid yn dechreu canfod o'r diwedd fod y bobl yn gwerthfawrogi a sylweddoli y bendithion cymdeithasol a dderbyn- iasant oddiar ddwylaw y Ceidwadwyr; ac yn gysson a dichell nodweddiadol eu cym- jmeriad, y maent erbyn hyn yn cydnabod y cyfryw, ond nid heb ofalu am briodoli y j cyfan iddynt eu hunain. Dywedant fod y Ceidwadwyr yn dilyn eu troed-olion liwy, ac os felly-yr hyn yr ydym ni yn bell o'i gydnabod-paham yr holl gollfarnu a chyngrheirio a chynllwyn yn eu berbyn ? Y ffaith yw mai hiraeth am awdurdod yn unig sydd yn aflonyddu ar heddwch y brodyr Radicalaidd, pa rai a ymgystadlant a'u gilydd mewn gwneud gwawd o honynt eu hunain ar allor annghyssondeb sydd ddigon amlwg i bawb a fyno weled, gan nad pa mor bwl ei dreiddgarwch. Mewn cyferbyuiad iachus i faldordd a gwegi y brodyr cochliw hyn, yrydym yn troi gyda boddhad at araeth gymmedrol a syl- weddol dyn o bwys a safle boliticaidd, yn mherson Mr Raikes, yr hwn a anercbodd gyfarfod dylanwadol yn Nghaer ychydig ddyddiau yn ol. Cyfeiriai Mr Raikes yn effeithiol at y gwahanol farnau a fodolent yia mysg y Radicaliaid o barth cyfanu gwa- hanol adranaa y blaid. Ceid Syr W. Har- court yn tystio fod y blaid yn ei chyfan- rwydd, ac annogai soddi bob mympwyon personol er ymuno mewn cydweitbrediad, tra yr oeddArdalydd Hartington or farn mai mewn bod yn llonydd yr oedd nerth y blaid ag y mae ganddo y gorchwyl an- obeitliiol o'i harwain. Yn y naill gyfar- fod llefid am estyniad yr etholfraint i'r siroedd, ac yn y llall am gyfiawnder i'r Iwerddon, pleidleisiau i ferched, a dym- chweliad yr Eglwys. Mewn gair, nid oedd derfyn ar y mympwyon ag y mynai Syr W. Harcourt eu soddi er cyrhaedd undeb. Dangosai Mr Raikes yn eglur ddigon fod amcanion cenedlaethol yn ddigon o gymhelliad i undeb yn mblitb y Ceidwadwyr, ac wrth lynu at yr amcanion canmoladwy hyn y maent wedi sicrhau iddynt eu hunain ymddiriedaeth y genedl. Hyd yma, y mae y Radicaliaid wedi cwbl esgeuluso ymwneud a pbyngciau pwysig a ymwnelant ag iechyd, cysur, a llwyddiant y werin; ond, fel y dangosai Mr Raikes, ymaflodd y Ceidwadwyr yn y gwaith yn galonog, ac y mae eu cyflawniadau eisoes yn dechreu profi yn fendithiol i wahanol ddosbarthau. Y mae deddfau llafur wedi eu hadgyweirio, ac nis gellir mwyach logi benywod a phlant dan oed i weithio eu h main i farwolaeth yn yr ymgais i ennill eu bara beunyddiol; y mae mesur y cym- deithasau cyfeillgar wedi ei gwneud yn ganmil anhawsach i segurwyr twyllodrus ysbeilio y gweithiwr darbodus o'i gynnilion caled, drwy ymddiriedaeth mewn cym- deithasau pwdr; ac y mae y mesur amaethyddol wedi gosod y tir-feddianwr a'r tir-ddeiliad ar lawer tecach seiliau i gydweithredu yn ddyogel yn niwylliad y tir. Nid yw y rhai hyn, fel y sylwai Mr Raikes, ond cyfran fechan o'r mesurau bendithiol yr ydym yn ddyledus i'r Ceidwadwyr am danynt; ac etto y mae ambell Radical yn meddu ar ddigon o haerllugrwydd i ddynodi yr eisteddiad di- weddaf fel senedd-dymhor diffrwyth." Ein cred ddiysgog ni yw, fod cyfang6rph y bobl yn gymhwys o'r un farn a Mr Raikes, nad oes un senedd-dymhor i'w gymharu a'r diweddaf yn y swm o waith a wnaed, a chanlyniadau gwerthfawr y ddeddfwriaeth."

\DYDDLYFR Y PACKMAN.

BETHESDA A'R AMGYLCHOEDD.

GWRECSAM A'R AMGYLCHOEDD.