Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

GYFLAFAREDDIAD YN LLE d; RHYFEL.

Y DEHEUDIR.

News
Cite
Share

Y DEHEUDIR. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD.) Y mae un Mr Blake, Radical uwch- raddol, yr hwn sydd yn ymgeisydd am gynnrychiolaeth Llanllieni, Leominster, yn y Senedd. Y mae y gwr hwn ya barod i bleidio unrhyw fesur neu fesuiau a ddygir yn ínlaen i ranu meddiannau, tir- oedd, &c.,—hyn a hyn o dir i bob pen. Cafodd )r a,thrawiaeth chwyldroadol hon ei deor ar y Cyfandir-dyma egwyddorion Communistaidd a llofruddiog Paris, athr- awiaeth cryddion a theilwriaid anfarwol Hole-in-the-Wall, a rag-tag, a phob tail eymdeithas--y dosbarth sydd yn byw, o un wythnos i'r llall, beb olphi eu gwyneb-1 au na chribo eu gwaflt, a thyllau yn eu i C3 closiau a'u hetiau, fel grinder Canning. Cawsom ni, yn y Deheubarth yma, ein syrffedu ar y fediyginiaeth anffaeledig i welia cymdeithas yn amser yr hen Siart- iaid-J ohn Frost, William Jones, a Zephaniah Williams. Penderfynodd y gwallgofiaid hyn, a miloedd o'u canlynwyr ffol, wneud hyn trwy rym y gwn, y bidog, y mandril, pigffyreh a phladuriau, a nod- wyddau ar benau ffyn; ond dyhuddwyd y symmudiad hwnw o flaen y Westgate Hotel, Casnewydd-ar-Wysg. Gyrodd 28 o filwyr lengoedd lefelwyr cymdeithas ar ffo, a diangodd eu blaenoriaid efo crwJn eu dannedd o afael y dienyddwr. Cafodd Frost fyw i weled ei gamsyniad. Nid ces un dosbarth mor barod i gymmeryd eu camarwain a'r dosbarth gweithgar gan gwacs gwleidyddol. Nis gall y fath beth a chydraddoldeb cymdeithasol gymmeryd lie; y mae yn groes i reswm, yn groes i synwyr cyffredin a'r Ysgrythyr. Y mae y Communistiaid hyn yn gallu appelio at yr Ysgrythyrau fel y diafol. Dadleu ant fod pobpeth yn gyffredin yn amser yr apostolion. Y mae yr eglurhad a roddant ar y geiriau yn hollol groes i'r Beibl. Yr oedd yr Eglwys yn Jerusalem yn gyfan- soddedig o Gristionogion, y rhai oeddynt yn credu yn Nghrist, ond nid oeddynt ond nifer fechan mewn poblogaeth o 200,000. Cymdeithas Gristionogol oedd hon i gyn- northwyo naill y llall, nes byddai i amser gwell ddyfod. Nid oes dim son i'r Crist- ionogi-m boreuol gael eu goriodi i ymuno a'r cyfundeb nid oeddynt yn treifcio ar eu gilydd. Ond y mae Communistiaeth ddiweddar yn gweithio ar yr egwyddor y trecha treisiad." Nid oes dim un gym- hariaeth rhwng Communiaid diweddar. Ni pharhaodd y cyfundeb hwnw yn hir. Cafodd ei ffurfio i bwrpas neillduol. Yr oedd pob un oedd wedi troi ya Gristion yn cael ei gau allan o gymdeithas yr fuddewon; yr oeddynt yn rhwym o ne- wynu ar ol treulio eu heiddo, os na fuasai i ryw ddarpariaeth gael ei gwneud at eu cynnal. Ni fuasai i un Iuddew fasnachu a hwynt. Nid wyf yn gwybod pa un a ydyw Mr Blake am ranu meddiannaifi bob deng mlynedd, fel y Communistiaid, ai peidio. Yr amcan sydd gan yr olaf yw, yn ddiambeu, y bydd i'r rhan fwyaf wario eu meddiannau cyn pen deng mlynedd; ac o ganlyniad, y bydd yn ofynol cael ad- gyfnerthion adnewyddol. Bydd i'r diwyd a'r cynnil ddyblu ei feddiannau ynyr amser, pan y byddai ei gymmydog gwas- traffus ac afradlon yn anneddu heb gein- iog goch. Gorehymynir i ni ddwyn beich- iau ein gilydd; ond ni orchymynir ni i wneud hyny trwy ysbeilio a threisio medd: iannau pobl ereill. Gobeithiaf y bydd i etholwyr Llanllieni, a phob llan arall, ochelyd dynion sydd yn pleidio athraw- iaethau y Cammunistiaid. Y mae y Rhyddfrydwyr wedi taflu y faner i lawr yn Nghaerfyrddin a Llanelli, a gally Ceidwadwyr benderfynu na fydd iddynt adael un gareg heb ei throi i droi Mr Neville, yr aelod Ceidwadol neu anni- bynol, allan o'i sedd y tro nesaf y ceir cyflemsdra. Y maent wedi ffurfio Gym- deithas Ryddfrydol, neu o leiaf mewn enw, yn y bwrdeisdrefi. Agorwyd hwy gyda sain udgyrn a thrumped Radicalia. Y maent yn myned i amgylchynu mor a thir er adonnill y tir a gollasant yn yr etholiad diweddaf. Yn Llanelli, pwngc y dadgys- sylltiad oedd yn mlaen llaw ar yr esgyn- lawr; hwn yw pwngo y dydd. Nid ydyw Mr Neville yn foddlawn i ddadgyssylltu yr Eglwys-ergo, nid yw, erei holl dcla- ioni, yn oddas i gynnrychioli Llanelli. Nid aedd y brolwyr Radiealaidd yn gweled dim daioni mewn Gweinyddiaeth Geid- wadol. I lawr a hi i blith y meirw- down among, the dead men "-y dylai fod. I lawr a Mr Neville, er ei fod ef a'i deulu wedi cadw bara yn ngeneuau can- noedd o bobl Llanelli; er eu bod, drwy eu cyfalaf, wedi gwneud Hanelli yr hyn yw, nid oes-dim yn tycio. Nid oes dim llawer o ddynion mor graffus a Mr David Davies, yr aelod seneddol dros fwrdoisdre-fi Ceredigion, ond yr oedd ef yn ddigon rhyddfrydol i gydnabod y lies a wnaeth y Weinyddiaeth bresennol, ond yr oedd cymmaint o lwch rhagfarn yn llygaid Radicaliaid Llanelli fel nas gallasent weled dim daioni mewn Ceidwadaeth. Yn etholiad 1868, darfu iddynt anfon hen wr bron pedwar ugain oed, y Mil. Stepney-" Sir John Stepknee," fel yr oedd Punch yn ei alw—i'r Senedd; dyn yn ei ail fabandod, ond yr oedd ef o'r goreu i wneud pawen oath o hono. Y mae Mr Neville yn werth dwsin o'i ragflaenydd. Mi garwn wybod faint o les wnaeth yr aelodau Radicalaidd a etholwyd yn '68. Y mae yn wir i Mr Sartoris danysgrifio deg punt pan osododd ef gareg goffadwr- iaethol capel Pontardulais a derbyniodd trowel arian a morthwyl gwerth deg punt a deg swllt. Gorfu i'r gynnulleidfa fod ar y golled o ddeg swllt. Yr wyf yn beiddio dywedyd mai i'r Ceidwadwyr y mae pobl Sir Gaerfyrddin yn ddyledus am les a Ilenyddiaeth y sir. Disgynodd ysbryd prophwydoliaeth ar y Parch. John Lewis, gweinidog y Methodistiaid, capel Heol y Dwr, yn nghyfarfod y Gymdeithas Rydd- frydol. Prophwydodd y bydd i weinydd- igeth Mr Disraeli farw yn mis Mai. Nid oes dim amheuaeth, It is a consumma- tion devoutly to be wished for." Gyda phob dyledus barch i Mr Lewis, nid wyf yn credu ychwaith mai aelod seneddol trueaus yw Mr Neville,fel y dywedodd efe yn ei araeth. Nid wyf yn gwybod pa un a ydyw Mr Lewis yn pleidio dadgys- sylltiad ai peidio. Y mae Mr Lewis yn fab-yn-nghyfraith i offeiriad, ac y mae ei frawd yn offeiriad yn Eglwys Loegr. Siarad am ryddfrydedd Radicaliaid Caerfyrddin fel yr oeddwa yn cerdded i fyny yr lieol yn Nghasnewydd, cyfarfydd- ais ag un o blant amddifaid Mr Edward Joseph, golygydd a pherchennog y Car- marthen Reporter. Mr oedd Mr Joseph yn ddyn galluog; ond dinystriodd ei gyfan- soddiad, trwy or-lafur yn amser lecsiwnli '68 dros y Radicaliaid. Ni chafodd ei dalu am argraffu, a gadawyd ef i ddisgyn i'r bedd mewn angenoctyd, a nifer o blant bach heb ddim at eu cynnal. Ceidwadwyr oedd ei gyfeillion goreu yn ei adfyd, wedi'r cwbl Blow, blow, tholt wintry wind, Thou art not so unkind > As bleak ingratitude." Achwynir yn gyffredin yn y parthau yma o herwydd marweidd-dra masnachol. Pa beth yw yr achos ? Y mae lie i ofni fod yr holl annghydfod rhwng cyfalaf a llafur wrth wraidd y cwbl—yr undebau yn erbyn y meistri, ac undeb y meistri yn erbyn y gweithwyr. Hyd yn ddiweddar, yr oedd Lloegr yn euro holl wledydd y byd mewn ,llaw-weithyddiaeth. Yn awr mae Belgium yn cystadlu a ni. Gwnaeth yr holl frwydro y blynyddoedd aeth heibio yru masnach o'r Deheudir, a'r canlyn- iad fu, i fywyd masnachol y genedl gael ei rwystro i fyned yn mlaen fel arferol; ac yn awr y mae y gweithwyr, siopwyr, a masnachwyr yn medi y corwynt. Gobeith- iaf y bydd i gynllun newydd y sliding sea e roddi attalfa am byth ar y sefyll !a an* mae blaenoriaid undebau y Ilafurwyr amaethyddol yn eweryla a'u A AU ae yn erbyn naill y llall am gabl- draeth, a'r llafurwyr ffol yn eu cynnal. Traddododd y Parch. John Griffith, reetor Merthyr, un o'i bregethau cyifrous If ddiweddar yn eglwys ei blwyf. Nid yw Mr Griffith yn credu y bydd i'r Meistri Miall a Henry Richard fyth lwyddo i ddadgyssylitu yr Eglwys, ond i'r Eglwys fod yn ffyddlon iddi ei hun. Cyhudda ei frodyr offeiriadol o esgeuluso y tlodion. Adroddai hanes ei ymweliad ag eglwys y Cardinal Cullen yn Nublin; yr oedd llawer o'rjj gynnulleidfa heb esgidiau na hosanau, hetiau heb gantal, ac ereill heb goryn. Gwada y Parch. Roger Williams, ficer Llanedy, fod yr offeiriaid yn esgeu- luso y tlodion, ond fod pob gofal yn cael ei gymmeryd o'r tlodion. Cyhoeddir pregethau Mr Griffith fynychaf yn y Western, Mail. Nid wyf yn cymmeryd arnaf i ddywedyd pa un o'r ddau sydd yn llygad ei le. Gobeithiaf fod tlodion Merthyr ya arfer gwrando y rector, canys y mae yno ddigon l'w cael heb fynychu un llao addoliad, fe ddichon, fel llawer o leoedd poblogaidd ereill. Y mae y Parch. Lewis Jones, Dowlais, gynt o Fangor, wedi cael ei ddyrchafu i liceriaeth Llangattwg, Castellnedd. Y mae Mr Jones wedi ennill gair uchel iddo ei hun er pan ddaeth ef i'r Deheudir. CRAIG Y FOELALLT.

EISTEDDFOD 1877.

CHWAETH GERDDOROL BLAENAU…

AT ALED 0 FON.

LLITH MR PUNCH. cx ?