Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

EISTEDDFOD LLANDDEWI-BREFI.…

CYFARFOD CYSTADLEUOL BRYMBO,…

CYFARFOD CYSTADLEUOL EG. LWYSIG…

FFESTINIOG.

Advertising

ABERYSTWYTH. S

[No title]

News
Cite
Share

BODDLONRWYDD.-Tuag at ddysgu neu gyrhaedd boddlonrwydd, rhaid ein bod yn gyntaf wedi ein sylfaenu yn dda yn y gred o Ragluniaeth Duw yn llywio ac yn rheoli pobpeth. Pan y byddom yn gwybod ac yn credu fod llygaid Duw dros yr holl fyd yn cyfarwydde neu yn goddef pob damwein- iau, yn ol ei anfeidrol ddoethineb ar'i j ddaioni, hyn a'n gwna ni yn foddlon, pa ) beth bynag a fyddo ein cyflwr a'n ham- gylchiadau yn y byd; hyn a ddysg i ni, megys St. Paul, pa fodd i ymostwng, a pha fodd i ymhelaethu; ac a'n cyfarwydda ni yn mhob lie, ac yn mhob peth, pa fodd i ymddwyn mewn hawddfyd ac adfyd; i fod yn llawn ac yn newynog; mewn J helaethrwydd ac mewn prinder. Bodd- lonrwydd, tan y cystuddiau trymaf, a bar i ni ddilyn amynedd ac ymostyngiad Job; neu, os bydd yr annuwiol yn ein his- raddio, neu yn ein hamharchu, ni a'i cym- merw nmewn addfwynder,megys y gwnaeth j Dafydd oddiwrth Simei, oherwydd i j Dduw oddef iddo. Y mae gwir Gristion yn credu fod pobpeth yn gweithio ar daioni i'r sawl sydd yn caru Duw efe a *Y1' nad yw Creawdwr daionus pobpeth ddim yn cystuddio gwaith ei ddwylaw ei hun yn ewyllysgar, ac oddiar y gred hon, y mae efe yn wastadol yn ddiolchgar, yn dawel, ac yn foddlon dan bob math o rag- luniaethau. Ond na feddylied neb fod boddlonrwydd yn gynnwysedig mewn tymher ddiofal, segur, a diog; mor belled oddiwrth hyn, fel ag mai y cyfryw fath .[ o ddynion yn gyffredin yw y rhai mwyaf anfoddlongar; ac yn wir, braidd y ■( gallant lai na bod felly, yn gymmaiiatag mai hwynt-hwy yn fynychaf yw awdwyr y croesau a'r anfanteision ag a fyddo yn eu blino, ac nas gallant, o eisieu diwydrwydd, symmud ymaith y drygau hyny ag y mae eu hamynedd mor lleied danynt. Nid yw tlodi ddim yn gyflwr dymunol; ac er y bydd gwr doeth yn foddlon iddo, etto y mae efe bob amser yn barod i ymaflyd yn mhob cyfle teg, ac i adferyd pob moddion cyf- ( reithlon i wellhau ei gyflwr; ond yn hyt- racli na chofleidio neb rhyw offerynau an- i nghyfreithlon, efe a ddewis farw o dan ei lwyth, ac ymostwng yn esmwyth i'r rhan i hono ag y mae efe yn tybied a gafodd ei gosod iddo gan Ragluniaeth. Os cyn- nydda golud, nid yw efe ddim yn rhoddi ei galon arno os lleiha, nid y w efe ddim yn grwgnach oblegid y golled, gan wybod, | nad ydynt o ddim gwasanaeth yn hwy r na'r bywyd hwn, ac mai ei ddyledswydd ef yw ymofyn am drysor mwy parhans na phydra'r bedd mo hono, ac na heneiddia ■■ tragwyddoldeb ychwaith mo hono. Dyna'J^ fath yw dedwyddwch meddwl boddlonga Pe dysgai dynion fod yn foddlon yn eU hamrywiol sefyllfaoedd; pe gallant end gwybod pa bryd y mae ganddynt ddigon, ) neu ddysgu ymostwng pan fyddo eisieu mewn gwirionedd arnynt, neu pe fli [ chwennychant byth gael 'ychwaneg, ond j oddiar y dymuniad canmoladwy o fod yn fwy gwasanaethgar i'w eymmy(logion, yna darfyddai yn gwbl am bob rhyfel a di- frod, creulonder a, gormes, twyll ae an. {, udon byth ni roddid gwobrwy er gwyro barn, canys y boddlongar ni throseddai ei ddyledswydd oddiar y fath ystyriaeth 1 gwlad ni chyfodai yn erbyn gwlad, ac 1 chynnygiai undyn ysbeilio arall. Oddi' wrth foddlonrwydd y tardd trefn a chys" < ondeb, cyfiawnder a gwirionedd, trugar* i edd a heddweh; ac o ddiffyg boddloa* I rwydd y tardd yr holl ddrygau sydd y» ,1 cystuddio dynolryw.—Odydd, P.P.G.Mt i' Rhedyn Cock, Niwbwrch. j

Advertising