Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

! TELERAU GWERTHIAD LLA-IS,…

DOSBARTHWYR YN EISIAU.

AT EIN GOHEBWYR.

RAPICALIAETH YN NGWRECSAM.

YR HEN GI RADICALAIDD YN CYFARTH…

! DIENYDDIAD TRI 0 LOFRUDDION…

News
Cite
Share

DIENYDDIAD TRI 0 LOFRUDDION YN NEW YORK. GOLYGFA ANNGHYFFREDIN. Ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis di- weddaf, cafodd tri o ddynion eu dienyddio yn New York, am lofruddio yr un person; sef, m&n-werthwr o Germany. Yr oerld y tri yn negroaid o genedl: dau o honynt yn Babyddion, a'r Hall yn Fethodist Wesley- aidd. Yr oedd y Pabyddion yn cael ymweled a hwynt yn fynych, a'u parottoi ] at farw, yn unigedd eucelloedd pruddaidd, gan y tad Durauquet, offeiriad Pabaidd y )■ earchar. Ond ar y noswaith flaenoroli j foreu y dienyddiad, er codiad calon i'w dyn hwythau, aeth cwmni o weinidogion y Methodistiaid Wesleyaidd) ac arwein- yddion y dosbarthiadau eglwysig, gyda'u gilydd i mewn i'r carchardy, a chaniatta- wyd iddynt gynnal cyfarfod diwygiadol maith yn un o'r ystafelloedd, a'r Ilofrudd ,conclemniedig yn eistedd yn y gadair fwyaf anrhydeddus yn y cyfarfod. Yr oedd gweddiau uchel-geisiol y gweinidogion, amenau uohel arweinwyr dosbarthiadau eglwysig, canu yr emynau, a diolchiadau achlysurol y llofrudd, yn, cael eu cym- mysgu â. seiniau o lawenydd oedd yn dyfod o'r gell oedd am y pared a'r un yr oedd y cyfarfod yn cael ei gynnal, gan lofrudd arall oedd i gael ei ddienyddio ar yr un dydd, ond ei fod wedi derbyn dien- oed oddiwrth y llywodraeth-yr oedd y pethau hyn oil yn gwneud y carchar i wisgo gwedd pur annghyfredin. Boreu drannoeth, am hanner awr wedi naw o'r gloch, yr oeid y dienyddiad i gymmeryd lie a phan oedd y dienyddiad yn myned yn mlaen, digwyduodd amgylchiad tra, hynod, yr hwn a gofir yn hir; sef, pan 1 oeddynt ar y dienyddle, yr oedd y cortyn a'r cwlwm yn nacau llithro yn rhwydd; ac am hyny, gwelid un o'r negroaid yn palfalu am gryn amser, ac yn llefain mewn modd dychrynllyd; ac wedi cael gafael a'i ddwylaw yn nghorff marw ei gyd- lofrudd oedd yn crogi yn ei ymyl, yr oedd f yn ei gofleidie yn ei freichiau. Mawr oedd y teimlad yn erbyn y gwr yr oedd gofal y gwaith ofnadwy hwnw arno, am na buasai yn fwy medrus.

[No title]