Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

! TELERAU GWERTHIAD LLA-IS,…

DOSBARTHWYR YN EISIAU.

AT EIN GOHEBWYR.

RAPICALIAETH YN NGWRECSAM.

News
Cite
Share

RAPICALIAETH YN NGWRECSAM. Nid anthebyg i haid e wenyn yw y Kadicaliaid y dyddiau hyn. Tan fyddo y gwenyn ar wasgar, rhaid yw cael rhyw hen wreigan i guro offeryn digon swnfawr i'w swyno i'r eweh. Ar hyn o bryd, y mae y Radicaliaid allan o gwch melus y Wein- yddiaeth, ac y mae llawer hen wreigan boliticaidd yn curo ei thabwrdd gwag "er eu swyno i undeb, ond hyd yn hyn nid yw y swn, gari nad pa mor uchel-gloch yw, wedi esgor ar lwyddiant. Ceir un yn curo 0 ar y cylchljthyr llyngesol, arall ar wrth- darawiada,a morwrol, arall ar estyniad yr etholfraint i'r siroedd, arall ar ddadgys- sylltiad a dadwaddoliad yr Eglwys, ac yn mysg y lluaws, cawn Mr Osborne Morgan, fel drychiolaeth yn aflonyddu ar ddinas y meirw, gan guro y ceryg beddau-ond y cyfan yn ofer. Swn gwag yw y cyfan, ac yn anffodus, y mae yr oes yn tueddu at fod yn fwy ymresymiadol nag ydoedd yn nyddiau heulog Radicaliaeth, pan øedd addewidion yn gwneud y tro yn lie cyf- lawniadau. Yr amcan mawr ac amlwg gan y blaid hon yw, cyrhaedd cronfa mel- -usder y Weinyddiaeth, a mynent hyny heb falio gwelltyn ped elai cymdeithas yn gandryll; ond y mae y wlad yn ymgymodi yn drwyadl ag egwyddorion didderbyn- wyneb Ceidwadaeth, a chredwn y bydd i'r Weinyddiaeth bresennol ddirwyn i ben ei thymhor naturiol cyn y gellir oynllunio digon o esgusawd dros appelio at y wlad am ei barn drwy etholiad. Ond i ddyohwelyd at Mr Morgan, yr hwn a anrhydeddodd etholwyr Gwrecsam a'i bresennoldeb a'i lafar yr wythnos ddi- weddaf. Tra yn diolch iddo am gydna- bod fod lluaws o f esurau y senedd-dymhor diweddaf yn dda mor bell ag y maent yn myned, a goddefer i ni ddatgan ein syndod fod ei ymenydd toreithiog ef wedi methu cynnyrchu ychwaneg o feiau dychymygol er pardduo y Weinyddiaeth. Y cwbl a awgrymai oedd y gwnelsid y da yn well pe digwyddasai i'r wlad fod yn ddigon cib- ddall i ymddiried i'w blaid ef yr awenau llywodraethol. Fodd bynag, nid ydym ni o'r un farn, a gwyddom fod gwlad ddiolch- gar yn llefain Amen" o waelod calon. Ychydig amser a wastraffodd Mr Morgan gyda phyngciau nas gallai eu cwbl gym- meradwyo no/u condemnio ac nid rhy- fedd' hyny, oherwydd yr oedd ganddo geffyl marw o'i eiddo ei hun mewn angen ei chwipio i fodolaeth, asyn o'i gynlluniad personol i'w farchog, a thabwrdd bedd rodol i'w guro. Cyn cyrhaedd pwngc C> claddedig y claddfeydd, yr oedd gymmint ] allan o'i olfen a gleisiad o'r dwfr; ond wedi cyrhaedd yno, ymrwyfai, yn ei hen gynnefln, gan ymreibio at yr un gwybed yn gymhwys ag a fuont yn cael ei sylw ar bob achlysur yr anrhydeddodd ei etholwyr a'i bresennoldeb. Nid oedd ganddo gym- maint ag un ymresymiad newydd dros gyssegr-ysbeilio y breiniau Eglwysig, a rhaid fod ei wrandawyr yn feddianol ar gylla politicaidd o'r radd flaenaf cyn y gallent lyngcu gydag awch yr un cawl ail- dwymnedig drosodd a throsodd drachefn. Ceisiai Mr Morgan wahaniaethu yn ddysg- edig rhwng cyfraith a chyfraith, ond yn y cyfeiriad hwn yr oedd ei wrandawyr yr un mor anneallol a physt adwy, ac etto bloeddient yn ymddangosiadol foddhaus wrth wrandaw ei gasgliadau cyfeiliornus oddiar seiliau twyllodrus. Ceisiai wahan- iaethu rhwng hawl plwyfolion i fabwys- iadu eu gwasanaeth eu bunain mewn claddedigaethau yn y mynwentvdd a phriodasau yn yr eglwysi, ond yn hyn dra- chefn yr oedd ei ymgais lipa yn fethiant truenus. Gwir yw fod gan bawb hawl beddrod yn mynwent y plwyf, a'r un mor wir yw fod gan bawb hawl i ymbriodi yn eglwys y plwyf; ond y mae y naill a'r Hall o'r hawliau hyn wedi eu eyssylltu yn anwahanol åg ammodau gan ddeddf ac arferiad. Ar y tir hwn y mae cymmaint o reswm dros i'r sawl a ddewiso, wasan- aethu wrth yr allor briodasol ag uwch gweddillion y marw. Fel rheswm drosyr haeriad nad amcan mesur y claddfeydd yw cloddio dan sylfeni yr Eglwys ei hun- an, cyfeirir at yr hawl drwyddedol sydd gan bob enwad i weinyddu mewn priod- asau yn eu haddoldai eu hunain, ond dy- munem gyfeirio at y ffaith fod ganddynt yr un hawl i gladdu eu meirw yn eu cladd- feydd eu hunain; ac os ydynt yn gallu hyfforddio adeiladu er lledaeniad eu heg- wyddorion crefydfliol, diau y gallant sefydlu claddfeydd er cyssegru llwch eu meirw. Y gwir yw, mai dyna ymresymiad naturiol cyfangorph Ymneullduwyr Cymru, ac na fynent ar un cyfrif ysbeilio yr Eglwys o'i hawl ammodol i'r fynwent. Felly, credwn fod Mr Morgan yn euau dros ei fympwyon ei hun yn hytrach na barn y cyhoedd. Nid ydym ni yn ctedti ei fod, fel mab i glerigwr a mynychwr yr Eglwys, uwchlaw amheuaeth yn y pwngc hwn, ac yn y grediniaeth.hon y mae lleng yn gyfranog.

YR HEN GI RADICALAIDD YN CYFARTH…

! DIENYDDIAD TRI 0 LOFRUDDION…

[No title]