Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

CAERNARFON.

News
Cite
Share

CAERNARFON. Yn mhen fy Ilith olaf dylasai y gair U Da" fod yn lie "Drwg," yr hyn oedd yn andwyo y meddwl. Chwip dair cainge at y cyssodydd. DIOGELWCH YR IRENE."—Gyda llawen- ydd yr ydym yn gallu hysbysu fod pob sierwydd wedi cyrhaedd am ddiogelwch y llestr uchod. Ei meddianwyr ydynt y Mri Owen a'i Fab o'r dref hon a dydd Llun derbyniasant newydd gyda'r pellebyr oddi wrth eu goruchwylwyr o Lerpwl, yn hys- bysu fod pob, sicrwydd am ddiogelwch yr Irene." Cychwynodd am St. John's oddeutu pedair wythnos ar ddeg yn ol, gyda phedwar ar bymtheg o forwyr ar ei bwrdd, a buwyd am yr ysbaid uchod heb glywed dim oddi wrthi; a chan iddi wneud tywydd auffafriol, yr oedd pawb wedi llwyr gredu eu bod wedi colli era rhai wJth- nofiau bellach. Dywedir nad oes dim dif- rifol wedi digwydd iddi. Y mae yn awr yn Savannah yn cael ei llwytho gogyfer a dychweliad adref. Gresyn yw meddwl na welwyd golwg mor feddw ar ein tref ers amser maith a nos Nadolig diweddaf. Er cymmaint manteision oedd yn y gwahanoi leoedd addoli, mynu eu ffordd yn mlaen yr oedd- ynt hyd nes oedd gwaeth golwg arnynt na llawer anifail direswm. Dywedir hefyd ei fod yii ffaith fod gwraoedd, yn dwyn yr enw o grefyddwyr, yn cario ffrwyth Syr John Barley yn helaeth iawn i'w tai, ac yna yn croesawu pawb ddelai yno, yn ferched a meibion, a thipyn o'r ffrwyth ie, ysywaeth, rhoddiref i lant bychain diniwed. Famau, fe ofynir gwaed eich plant oddiarnoch etto. Diwygiwch, da chWi, a rhoddwch addysg ac esiampl wa- 7 hanol i'ch anwyliaid. Y mae trustees y dock newydd (ar ol i'r ddanrwain ddiweddaf gymmeryrt lie yno), yn unol ag awgrymiad y rheithwyr, wedi rhoddi rhaff a phvst o amgylch y lie er mwyn ceisio atfcal dafhweiniau ychwan- egoi. Rhyddhawyd y bachgen ieuangc o forwr o'r enw John Ellis, o'r dref hon, ar y cy- huddiad o-ddiangc oddiar fwrdd llestr o'r enw "Margaret," ysgwner, berthynol i Mr Hughes, blockmaker, ar ei waith yn ym- ddibeuro oddiwrth yr hyn a ddywedodd, sef-nad ydoedd y Hong yn fordwyol (sea- worthy), ac hefyd gwneud yr ymddihenrad yn hysbys trwy y newyddiaduron, a thalu" costau y cyfreithwyr. Baich trwm ar gf-fn plentyn amddifad, onide ? YM HYSON FA SAETHU.—Cymmerodd ym- rysonfa saethu le ddydd Llun diweddaf ar Forfa Seiont, rhwnct gwahanoi aelodau a fwyddogion y gwirfoddolwyr. Bu yno ym- drech deg, ond enilhvyd y brif wobr gan Sergeant John Summers, yr bwn hefyd a ennillodd amryw wobrau yn Porthmadog ddiwedi yr haf. CTHUDDIAD PWYSIG YN ESBYN CYNNORTH- WYWR MBDDYGOL.—Dydd Sadwrn di- weddaf, ger bron Mr de Wintpp a Dr W. W. Roberts, dygodd un Miss Humphreys gyhuddiad yn erbyn W. W. Winston, yr hwn oedd ers saith wythnos yn gwasan- aethu fel meddy- cynnorthwyol yn y Din- orwig Hospital, Llanberis. Y cyhuddiad ydoedd iddo ladratta dwy bunt, eiddo Miss Humphreys, prif feistres y ty. Oddeuta hanner awr wedi ddeuddeg o'r gloch ucr noswaith, deffrowyd hi gan dwrf agoriodau yn ychest, of drawers, lie y ced- wid yr arian, a gofynodd iddo beth oedd yn ei geisio yn yr ystafell, ac aeth yntau allan, gan ddyweud mai wedi gwneud cam- gymmeiiad yr ydoedd, ac yn y fan hi a aeth i chwilio y gist, a methodd a dod o hyd i'r arian. Gwnaed y ffaith yn hysbys i'r heddgeidwad, yr hwn a wyliodd ystafell y catcharor fcyd bump o'r gloch, pryd y deffrodcl. Yna cyhuddwyd ef o jjyflawni y y lladrad, a gwadodd yntau yn bendant. Archwiliwyd ef, a chafwyd un penadur ac oddeutu ugain swllt mewn arian. Oyf- addetodd ei dwrnai, Mr Allanson, iddo fod yn yr ystafell, ond gwadai y cyhuddiad o ladrad. Galwai syiw y faingc at yr an- mhosibilrwydd iddo allu newii yr arMn, gan iddo fyned i'w wely o'r lie y gwyliwyd ef gan yr heddgeidwad. Traddodwyd ef i sefyll ei brawf yn y brawdlys chwarterol nesaf, a thrwy iddo fethu cael meichiafon, gorfu arno fyned i'r carchar. Dywedir ei fod o deulu hynod o barchus, ac yn frodor o sir Frycheiniog, 35 oed. YR ACHOS CFIDVADOL.-Liawen genym allu hysbysu fod yr achos teilwng uehod yn prysur ennill tir yn ein tref, yn enw- edig yn mhlith ein ienengctyd. Y mae wedi cychwyn yn yr iawn fan. Pwy ond hwy fydd y dynion yn mhen ychydig amser etto? Arnynt hwy y bydd pwys y dydd a'r gwres. Ymae yma aelodaunewyddion bob wythnos. WATCHNIIGHT.-Cynnaliodd y Wesleyaid eu IVatchnight eleni yn nghapel Moriah (M.C.), yr hwn a fenthyciwyd ar yr acblysur am fod capel y Wesleyaid yn myned dan adgyweiriadau. Ganodd Miss Jones, 21, Market-street, "Hen ywen Werdd," ac Angels ever bright and fair," yn wir dda; a'r un modd Mr W. W. Thomas Gyda'r Wawr," (rtv Fam a'r Baban." Canodd Mr Howell Williams, unaWd, f Behold a Virgin shall conceive." 1 Cafwyd carol gan Miss E. C. Prichard, Mri Williams, J. J. Roberts, a W. Roberts, Garmon-street, yn nghydag an- them ac amryw gydganau gan gor dethol- edig, o dan arweiniad Mr Humphrey Wiliams, Castle-square. Pregethwyd yn rymus gan y Parch. E. Evans (gynt gwein- idog Caernarfon), ar y geiriau, 08 creffi ar anwireddau," &c. Dywedir mai dyma un o'r Watch-nights mwyaf boneddigaidd a gynnaliwyd yn y dref erioed, a llawen genym allu hysbysu fod capel mawr Moriah yn llawn hyd yr ymylon. Cynnelid cyfarfod pregethu gan yr un enwad ddydd Sul, pryd y tiaddodid y gen- adwri gan y Parchn. H. Jones, gweinidog; ac E. Evans. MARWOLAETH PnroD Y FiCER.-Ar ol ysgrif- enu yr uchod daeth y newydd trw: a galarus i'm clywo farwolaeth y dawel, yr addfwyn, a'r serchog Mrs. Edwards, piiod y Parchedig H. T. Edwards, ficer, Caernarfon. Cyd- symdeimlir yn ddwys a'n parchus ficer yn ei brofedigaeth chwerw. Cafwyd colled ddwys yn marwolaeth Mrs. Edwards. Y mae braidd yn anhygoel meddwl fod y dwylaw hardd fu yn gwisgo eglwysi ein tref gogyfer a dathlu yr wyl Nadolig i gofio am eni y/Gwarodwr, yn awr yn barod i'w rhoddi yn mhriddellau y dyffryn, a'r ysbryd wedi mjned i ganu yn dragywyddol am enedigaeth ei Gwaredwr. Bydded i'r Arglwydd fod yn nerth i w phriod galarus yn ei ddwfn brofedigaeth. Yr ydym yn deall fod yr angladd yn un preifat. Bu farw yn yr oedran cynnar o 27 mlwydd oed. Heddwch i'wllwch.-Ap Gomer.

DOLYDDELEN.

• ^ ,LLYSFAEN.

BRYNSIENCYN.

CYFARFOD CYSTADLEUOL A CHERDDOROL

Advertising

] Y DEHEUDIR. ; '^

LLANGEINWEN. :

• LLAngristiolu S.

Advertising