Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
COF
COF Am Miss Lloyd, merch Mr. W. a Mra. J. Lloyd, dr per, Lampeter. Mae'r ddaear yn ffrwythlawn ardd brydfwth a thir, A blodau amryliw'n ei brodio Yo barddwch ei thoraeth eysgodol a phfir Cir rhIaiot a phlant boff ymrodio. Dw, tir a radr eang gyflenwad da'i ryw t'r ardd sy niferog ei llwythau Fx hyny, tra'o estyn cynnaliaeth i'r byw, Mae'n ardd gydi bedd dan ei ffrwythau. Am wreiddyn y matter o'r uehod ardd 14a, Elisabeth Lloyd fu'n ymorol, ? El glendid, ei buchedd, ei chrefydd, a'i chits, Mewn deall a gras oedd ragorol Wrth wriindaw eethlyddion yr isod ardd lawn, Gan gael pob dywenydd lie delai, A gweled gwych degwch pob aeron a grawn, Y bedd gar y cyfan a welai. Tra'i thyner gorph yma'n oymmeryd o faeth Yr ardd isleuadol i'w nerthu, 0', ardd uwch yr beulweo, drwy ffydd yn Nghrlst daetb Maeth nefol i'w mewnol brydferthu Bi serchog gymdeithas & Duw yn ei hedd, Oedd gryf a pharbaus i'w hanwylo Ac aetb o'r ardd farwul i'r ardd nad oes bedd, Na dim a woa iddi byth wylo. Ei thad a'i mam ffyddlon, a'i^dwy chwaer ya gu, A garent ei chael heb ysbeidio: ODd gw&g, fel un gadair ar aelwyd euty, Yw'r famol fraich oedd i'w choftaidio- Er fod etto'n aros y gnydiog ardd lwya, A'i blodau'n addurno pob talar, Mae blodeu serch teulu 'a dra gwyw daa y gwys, A tholyn anwyliaid yn alar. Tan gydgan awelaidd yr ardd fach i lawr Mae 'i beiddil gorph tawel yo huno v Ood fry, ya ughyfangerdd y nefol ardd fawr Mae i henaid yn hardd ymgyfuno rr Arglwydd ei derbyn o gyrhaedd pob owyo Sydd destyn i'n airiol ddiddtnu Mawr resyn yw wylo ar ol y ferch fwyn, A hithau mewn gwynfyd yn canu. Newidiad mawr welir ar ddyn byvi of I'r ardd daw marwolaetb i'w sengi Newidiad mwy etto—daw bywyd i'r bedd, A dyn saarw'a fyw er ei drengi: Ya nerth y, newidiad, pob duwiol a chwardd, Caiff saint oesau'r byd gydgyfarfod A'r oil sydd yn farwol o fewn hyn o ardd A lyngcir gan fywyd diddarfod. ROBERT Pabry (Robyn Ddu Eryri). Venn Wood Cottage, Marden, Hereford.
DONALD A FLORA
DONALD A FLORA- (Efelychiad mewn rhan). Rbyw ddydd ar fin y nos Yn ngwawl y lleaad dlos, Fe gerddai Flora, A'i deigryn ar ei grudd, A'i chalon bach yn brudd, Hyd ddyffryn Mora. T Chwibianu'n drist wnailr gwyot Wrth fyned sir ei hyat, » Drwy ddyffryn Mora; rw glustiau trymilyd ef, Vel byn, A phrudøaidd lef, Cwynfannai Flora: Y gwypt oub'neidia 'i -gwy n Yn cgbangau'r helyg lwyn, Yn nyffryn Mors, A hithau 'r ieaangc loer, Edrycha'n flin ao oer, I lawr ar Flora, M Fe sylla 'r ser uwchben- Bilaliu 'r nefoedd wen- Yn brudd ar Flora; v N ld oes yr un a chwardd, Ar gant ffarfafen hardd, Uwch dyffryn Mora. "01 Donald, anwyl, aur J Sisiala chwarter gair, Yn Dghlust y lleuad 0 dywed rbywbeth pdr, Yn nghluatiaa rhai o'r s6r, I loni 'th gari*d., i 0 dyro gusan faoh Ar fin yr awel iaeb, „ I'w dwyn i Flora A rhwyma lythyr serch « Ar fir y gwynt i'th ferch, „ I ddod i Mora. M 'Rwy 'i) erwydro 'u drist fy ogwedd, • Yn unig fel y bedd, Hyd ddyffryn Mora ° Tyrd allan, 0 fyngem, Frynra i gael triam Ar d'anwyl Flora. Addewaist unwaith ddod O'r rhyfel yn ddioed, I ddyffryn Mora; 0 Donald, 'rwyt yn hit 7 Heb ddod o'r estron dir, I wel'd dy Flora. (oj 'Rwyf yma dan fy nghlwy', O paid ag aroa rowy Oddiwrth dy flora 0 Donald, ai yn siom Y trddd yr amnuod drom A wnawd yn Mora.! Ond pwy a welaf draw Yn dod daa godi ei law Hyd ddyffryn Mora i Ai tybed, 0 fy Nuw, Mai Donald anwyl yw Yn dod at Fiore. ?" « Druenus, brydferth fAu," Yn driat, dywedai 'r dyn A ddaeth i Mora,— Ni chaiff dy Ddonald gwiw Dy gwrddyd mwy yn fyw; Byth, byth, yn Mora H Tu draw i foroedd maith, » Fe gwag inewn beddro(I Itaitb, Yn mhell o Mora; Efe 'm hanfonold i I leddfu 'tb boeuau dir J Ei anwyl Flora 1 Pan tafai Donald go 0 flaen ei ddewrion lu, Ya bloeddio I conoweet !I Y gelyt), er ei gftr, A gladdodd yndlo 'i ddar, • Ao 0 mae 'r galon bur, Yn awr yn llonydd "'Pan ydoe(id Iludw 'r glyn yn Ileithilo 'i iuddiau,gwyt), Blopag-dd'wedai floro x M0 oymtner lafn fy nghledd, I'r eneth drist ei gwedd, Sy'n wylo ya Mora. A dywed wrth yr hon, A grwydra 'il brudd ei brou Hyd ddyffryn Mora, Mai'r gair drweddaf d<iaeth, 0'00 mio, yn aMgeu caetb Oedd-' Flora, Flora I"' Parlyswyd Flora gIJ, Yo farw syrtiiiodd hi, Ar ddy ffryu Mora; Nii gallodd dd' wedyd gair Ond—" Donald anwyl, aur," A Florae Flora Llauaanna* N. S. J N.
rlL YR IESU YN WYLO UWCH BEN…
r l L YR IESU YN WYLO UWCH BEN JERUSALEM. Ar fynydd Olewydd lkn Mysg doddai miwsig diddan, A'r dyner ehwa rodianol Chwareuai gyloh el aur g6L Sain ereehwen a llawenydd, Ar aden pdr hyder rhydd, Wasgarai dros y goror Yn ddoniawl gerdd anwyl gdr, Mwyn emynu mewn manwydd Wnai dwamel yr awel rydd. Qwaredwr gwiw rfid ar pa Cenedl odidog Caaoan; Miwsig hoff a grymus cant, Yn mawlfioeddio milflwyddiftnt; Blooddio-" Wole, Efo fydd EinwrJdog ben Gwaredydd t I'r wyl fawryr olaf hon Neshau uaae Brenio Seion. 0 lawen ael Olewydd Hyd rOdau o gtngaw 'f gwydd Arweiuiai dorf yr Idn da I Seion yn Femiah. Oddidanynt 'roedd dinae Ragorol fri, gaerol, fria, Jerusalem, yn em ndd N Y deyrnas yn ei diwrnod; 0 1 mor heirdd yw mnriau hon A'r tai clasur Caclusion Ei thyrau beilch a'i ther byrth, Rhag ing a drygau engyrtb, Yn gwylio pheo gwehelyth Uwchlaw un balch elyn byth. Dinas lawn pechod yno-wil leau, Teyrn-lyaoedd bron fflaoaio Anwar ddiedifar dd,— Iesu hael droes i wylo I Gwel'd dipaa glau o daøo-a barn Daw Bron a d'od i'w dryllio, Am ei drwg, ddiadlam dro, Roes sail i'r Ieau wylo. CUrDY.
EIN HAMGUEDDFA LENYDDOLT"
EIN HAMGUEDDFA LENYDDOLT" Dan y penawd uchod bwriadwn gyhoeddi o bryd i bryd bigion o farddoniaeth a Ilythyrau anngyhoeddedig prif-feirdd ac enwogion ymadawedig Cymra, y rhai a daflant gryn lawer o oleani ar helynt- ion beunyddiol ea bywyd, yn ogystal ag ar sefyllfa llenyddiaeth yn y Dywysog- aeth yn ystod hanner cyntaf y ganrif hon. Yr ydym yn gallu gwneud hyn trwy garedigrwyddy bardd a'r gwydd- onwr enwog Aled o Fon, yr hwn, ao efe yn gyfaill mynwesol i'r rhan fwyaf o feirdd Cymru ugain mlynedd yn ol, a fu yn ddigon meddylgar i gadw ysgrifau gwerthfawr o'r eiddynt, y rhai y mae yr Aled, gyda gwladgarwch teilwng o efelychiad pob bardd a lienor Cymreig, wedi eu dodi yn nwylaw awdurdodau Prifysgol Cymru i'w trefnu gogyfer a'u eyffo-ad "tra thed"dwr" ar astell an- rhydeddusaf llyfrgell y Coleg yn Aberys- twyth. Yn y gyfres ddyddorol hon ym- ddengys llythyran a darnau barddonol o waith Eben Fardd, Talhaiarn, R. ap Gwilym Ddu, Elis Owen o Gefny- meusydd, Gwrgant, Parry Caer, awdwr y "Royal Visits," loan Meirion, loan Tegia, leuan ab Gruff- ydd, &c. Yr ydym yn gobeithio y dilyn- ir esiampl glodfawr Aled o Von gan lengarwyr ereill, y rhai a feddant drysorau llenyddol y byddai yn ddy- munol eu gosod ar got a chadw. Trwy eu hynawsedd yn y cyfeiriad hwn, hwY agyfeethogant nidyn unig golofnau y Llais, ond hefyd lenyddiaeth eu gwlad, ao a'n galluogant ninnau i wneud yr un gymmwynas a/n cenedi ag a waacld gan y Brython flynyddoedd yn ol.Gol.
YR YMRYSONGBRDD RHWNd BDMWNT…
YR YMRYSONGBRDD RHWNd BDMWNT PRYS, ARCHDDIAGON MEIRIONYDD, A WIIiLIAM OYNWAL, PRYDYDD AC ARWYDDFARPD. (Parhad.) Rhys WYNN, hen *r bonheddig, a ddaeth efo William Cynwal at yr Archddiacon [Prys] lleyroeddefynseuthudeg ar bug- ain ei han; ac wedi ei gyfarch, a ddywed- odd fal hyn: Pettai gentiyf fwa digou gwann, er fy hyned i, ni chaech c'uwi mo'r seuthu eich hunan." Yno y dywedodd, William fod gantho fo fwa a dynnai Rhys a'i fys bach, a gyrkaeddai ddeg ar iiugain. A. Rhys a eiliodd ymadrodd wrtho: mi a baraf i'r gwr yma wueuthur i cbwi gy- wydd i'w ofyn, B rhoweli chwi ge-nftcl." Yno yrhoes ef gennad, ond gadael iddo fo yrru y destyn i'w ofyn; o blegid rhodd oedd y bwa iddo yntau gan Mr William Clwch a ddaethai gyd ag efo Antwerp. Ond ni welai Rhys Wynn mo William yn gyrru mo'r destyn mewn amser; yna y dymunodd ar yr Archddiacon ganu cy- wydd ar ei amcan; ac efe a ganodd y ey- wydd oanlynol:— Uywydd droe Rhys Wyn" i ofyn bv>a i William CynmL CYFARCuAr Ile i W firobeet, Croyw fardd braise cryf o rodd brest. Corf awenydd croyw fyuwe" Cynwal deg, c&a ail i dds Cyfarwydd Ilyfr cof araith, Cadar,a yvv, cydiwr eiu idifch Cynuydd odiati (An ddidiawd, Cawn eure 'iKcrdd cauwyr gwawd. Tudur ai traittt by dar frig Tydain y gei-dd briotiedig Trei/lwr gwawd, traigl ar gftn, Tafod Ysbytty Ifau. Adda FrAs wyt, ddiferw sur, ¡ A di fas yw dy teur; A gwr o ddysc ar y ddan, Amseroedd y mesurau. Urotiigi iaith disiigl waith deg, Ctair mydr y croyw r»min»dej{ Oliel dyso i w) joj clodus ei gwraidd, Oynwal yr Helioouaidtf. F?re» boyw fu, a phathiua fydd, FfynsoD ddigloff aweoydd. Arfau aid', irfiiwr wyr [ "1 rywpiwb o rai pybyr. ( Un art i rwy' yn drfy P, MW'i'LL.J——LJ. f A'i roi o serch i-Rhys Wynn Nid er ymwan trwy ammbarcb, Nid er ei worth nodai'r arch Rhodd hoyw coch rhwydd i cair, Yn dorfelyn drwy fowlair. Mae hiraeth am gyd-saethu A r Rhys Wynn, Ilorf Rhosyn Ilti Bu wrol Rys burol wraidd, Weithian hwn aeth yu henaidd Ni hwvlia ar un helynt Y bwa qwych y bu gynt « • Ag ni thyn gan waith henaint, Henwr fyth hancer ei faint. Ag ni bu'r egin aerwy, Snethan mawr yeywaeth mwy. ,Ewa gwann biau'Gynwal, B,3 a dyn, ei bwys a d&l.. Gyr e auwar wr gronyi), G ireu modd i'r gwr a'i mynn Yn lloiivdd yn Haw henamfc, Llyna fydd yn ifrell no'i faint. Ar ei wanas wr uniawn, Ag ar y maes yn grom iawn A dclaw asen ddevvigol, Aseth a yrr saeth o'i di Gwrysgen yn gyrru asgell, Gwindio bydd genwad o bell; Buan i dysc ar ben dol, Bry genwair boori o'i g,,inol., Corn bach ef a'i cair yn bwyth, Cloi diaat pen caled yntwytb. Caed blys ar wingciad blwng, Cai ad wastad cyd-oatwng. Rhodd ei lais'ar y ddol werdd, Yspotigc ar lawes Peticeidd, Y sarff a fwrw ei swrffed, A, yn saeth gron bon a he,.i. &tin gynnyroh sy,'u y gonoll, Seth iawn a bair eaethu'n bell; Hedyddion cyttYlIiou teg, • H udol a'i gyrr i hedeg. Mawr sod am Sampson y sydd, Milwr o ffurf ymeilydd. Ni chwardd y Hew owchwyrdd llwyd, Yn grymmus oni grymmwyd: Ni chawn hwn awch ywen hir, Yu ei rym oni rwymir — Ni ynnill gam yn nw gwr, Nes i boeai Yspaenwr Ag wrth linyn, gronyn gwar, Gorchest a wnai o'i garcbir. Gwennol a gwsg y gwanwyn, 0 fewn ty, nid arfin twyn A i-ii; s rbai o dai yn deg, 1 rb ii adar i bedeg. 0 rhoir i benadur hen, Drwy acbos aradr ycben Gwell rhodd yw gwaell awyr hau, Gwyllt eyth gawellaid saethau Doiwcb, a daed ydyw, YBwa i Rhys, o bir yw. ■ Beraidd radd Beirdd a rod lan, Beirdd a glut am beraidd gftu. Liaw a estyn testyn ter, Hen gytnmcd hon a gymmer Llaw a gymmer Haw gommodd, I roi a wna yr un wedd. Gyrr, ydolwg, wr dilys, O'th wir fodd y rhodd i Rhys.. Ni we. I hir, ni honnir hwn, Un o'i wyrthiau Di werthwn, Dros werthu dinas werthol, Teiau Rhys a'u tir i'w hol. Edmwnt Prts A'r Cant Awn yn mlaen iz-yda'r gweddill o rifyu i rifyn, fel y caniafcta gofod. Hynafiaethydd.
-~ABERDYFI.I
ABERDYFI. Er mwyn "curo yr haiarn tra byddo yn boeth," a chroniclo eymmaiiit- ag sydd bossibl o hanes y Qeindorf a'i helbul, rhof fy ysgrifell unwaith yn rhagor at eu gwas- anaeth. Bydd yn dda gan ei pbleidwyr gwresog, pan y rhestrir hi yn mhlith pethau a fu, fod ychydig o oreuon ei hanes wedi ei gofnodi. Gwelant y pryd hyny hefyd, feallai, fod yn ddyledswydd arnynt dalu diolch i mi, er fod yr hyn a ddywedais yn awryn peri cynhwrf nid bychan yn eu gwersyll. Cynghorwn hwynt i beidio edrych yn rhy ddu arnaf, y mae arall— Alitud Gwyllt,-am eu ,cribo, so ni bydd hww, feallai, yn ymladdwr mor onest. Boddlon fi i wneuthur amryw o bethau dros y sein dorf,draari; ceisio arch iddi- d'od i'w chladdedigaeth-codi careg fedd ac englyn pwrpasol ami, er c6f am dani. Ni wna pawb dalu cymmaint a hyny o brch iddi. Ond a gwaith yr A.V.S.B. ddydd Calan y mae i fynwyf y tro hwn. Hwy oedd yn blaenori gorymdaith y Gymdeithas Gyfoillgar,hwy mewn rhan ddylaswn i ddyweud, o herwydd fod-pump o aelodau seindorf Machyolleth yn eu cynnorthwyo. Ohwareuodd y eyn- uo^thwywyr hyn n dda, ond am waith yr I A.Y.S.B." mae yn anmhossibl dyweud yn dda. Ni allesid dyweud eu bod yn chwythu o gwbl (rai o honyut), oni bai fod y gruddiau yn ymddangos fei pe buasai gwynt ystormus yn eublino o'r tu mewn. Yn canlyn y seindorf yr oedd ffrynd calon i "Syr Johu Heidden" yn taflu ei freichiau 1 fyny, fel pe credasai y gorchfygai teulu y gaa, fel yr Israeliaid gynt, tra daliai ef ei trerchiau i fyny. Dyferodd dros ei wefusau aml i fendith ar waith y seindorf cyn diwedd y dydd. Yr oedd y gwr a gurai y tabwrdd (drum), yn tynu sylw neillduol. Beth, tybed, allasai iod yn cymbeU y person hwn i vmgymmeryd a'r gwaith yvia 2-idwal.
Advertising
('uV<}B8) Asthma, Bbokchitis, DiFwcuLTy of Hukathing, are speedily cured by Keating's COUGH Lozenges (recognised aud recotntnended t<y the Medical r acuity). No other remedy is half so effective, Oue L'>&eoge al°ne gives relief. They contain no Opium, .\1, rptua, nor any violent drug, and may be taken by t'ie moat delicate. Ot)e or tw ,o at bedtime ensures rest whfn troubled, by the throat. The proprietor receives, constantly, the most gratifying letters from those who have obtained great benefit from their use. Keating's Cooqh Lozenges, prepared by Thomas KeatiLlg, ¡j,. Paui's Churchyard, are sold by all Chatmst*, iu Base-, 1-t lid and 2a 9d each. THROAT As'i,,EC!TI0N3 AND H0AB3ENE38. —All suffering r* ini lrnfcatiou. of the throat aud hoarseness wiil be ä;ee tiny surprised at the almost immediate relief afforded by i-Ue use of "Brown's Bronobial Troches." These famous loaeuges" are now sold by most respectable chemists in Uiis country at Is ld per box. People troubled with a "naciiiog couh," a "slight cold," or bronchial affections, cannot try them too soon, as similar troubles, if allowed to progress, result in serious Pulmonary aud Asthma tic utEectious. See that the words" Brown's Broaehiai- Troohes" are on the Government Stamp around the box, vlauufact^ed by Jqhisi I. B39^r,N and Soss, Boston. (JniMil States. Depot, 491 Oxferd-street iV»ndoa
"!.«!!! BANGOR.
!.«! BANGOR. GwYLNOs.-Nos Wener, Rhagfyr Slain, cynnaliwyd y cyfarfod arferol er gwylio yr hen flwyddyn yn myned adref at ei chwi- orydd yn nghapel Horeb, pryd y datgan- wyd amryw ddarnau o gerddoriaeth gys- segredig, yn wir awynol, gan gorau unol St. Pauls a Horeb, ac amryw unawdau gan Eos Maelor, ac amryw ereill; chwareuwyd ar yr harmonium yn fedrns gan Miss Lewis, Gartherwen; yna tra- ddodwyd pregeth bwrpasol gan y Parch. R. Jones, Llanasa. Yr elw at ddileu dy- led y capel.-Cynnaliwyd cyfarfod i'r un pwrpas yn Eglwys St. Mair, ond nid ar yr un cynllun a'r llall. Gwedi i'r Parch. J. Griffiths ddarllen rhan o'r gwasanaeth, rboddodd y Parch. J. Pryce, ficer,annerch- iad difrifol a phwrpasol i'r achos.—Cyn- naliwyd hefyd wylnos yn yr Eglwys Gad- eiriol, yr hyn na fu o'r blaen ers llawer o flynyddau. NODACHFA,Mae pobpeth yn cael ei gadw ar unwaith yma, fel nas dichon i neb roi adroddiad cyllawn o bobpeth i chwi. Cynnaliwyd baxaar yn yr Ysgol Genedlaethol. Rhoddwyd amrywwobrwyon am gynlluniau llongau, a gwniadwaith. Elai yr elw o'r fan yma at aehosion addysg yn Glasinfryn. Y DYNION Duon."—Mae y teulu hyn wedi dyfod yma ddechreu y flwyddyn, i gyflawni yr hyn a fuont yn ddysgu y flwyddyn arall. Deallwn na roddwyd cymmaint o gefnogaeth ag arferol iddynt y tro hwn. Y Fife AND Drum BAND.-Dyms yw yr enw swynol a ddewisa ein seindorf, Dydd Sadwrn diweddaf, talodd y seindorf hon ymweliad a Chaernarfon, a dywedir ddarfod i'r trigolion gael eu bodddau yn fawr. Deallwn fod Capt. Whittaker wedi rhoddi ei wledd flynyddol iddynt yr wyth- nos ddiweddaf. Mae yn ddiamheu, os rhydd trigolion haelionus ein dinas ychydig o gefnogaeth i'r seindorf, y deu- ant i fyny a'r rhai goreu yn y sir. Ciniaw Ardderchog. —Rhagfyr Slain, cafwyd ciniaw ardderchog er dathlu gwyl agoriad cangen-gyfrinfa mewn cyssyllt- iad a, chlwb yr Odyddion, yn yr Alexandra Vaults, lie cedwir y Gyfrinfa Prince of Wales. Gwedi i'r nifer luosog oedd yn bresennol gael ciniaw da nes eu digoni 4'r bwydydd rhagorol, yr hyn a ddarparwyd yn wir deilwng o glod gan Mr a Mrs Hughes, ac wedi clirio y byrddau, aeth- pwyd yn nilaen i gadw cyfarfod adloniant, pryd y cafwyd amryw ganeuon difyrus ac annerchiadau gan y gwahanol frodyr. Deiillwn fod y gyfrinfa hon yn myned yn mlaen yn llewyrchus er adeg ei hagoriad, ac fod y cyfarfod hwn yn brawf o hyny. Gwedi yfed y llwngcdestynau arferol, ymwahan- wyd, weditreuliojun o'r nosweithiau mwyaf difyrus a dreuliasom erioed.—Pen y Bone.
CONWY.'
CONWY. Mae y dref henafol hon wedi cael ei chwbl feddiannu y dyddiau presennol gan gwn. Mae yn anmhossibl myned gam ar hyd inrhyw heol heb fyned ar draws yr hiliogaeth hwn o anifail, a chael ei ddym- chwelyd ganddo. Maent yn wir yn at- talfaar y ffordd fawr, ac mae yn bryd gwneud rhywbeth i attal eu Iluosogiad. Ychydig fisoedd yn ol, fe wnaed gorcb- ymyn gan yr ustusiaid i'w cadw yn rhwym am fis, oherwydd fod un cynddeiriog wadi ymddangos yn eu plith. Ni welwyd yn Nghonwy fis difyrach ers amser maith, a dymuniad cannoedd yw i'r un peth gym- meryd lie etto. Llawer o ysgrifenu ac areithio sydd wedi bod, ac a fydd etto, mae yn amlwg, ar ddrygioni y fasnaoh feddwol; ond er y cwbJ, fel ag yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon yn y dref yma. Mae y fas- nach yn uchel iawn ei phen. Bydded i'r brodyr dirwestol yn y dref ymegnio er gorchfygu y gelyn. Drwg genyf hysbysu mai ychydig ydyw nifer y rhai sydd yn dyfod i'r cyfarfodydd dadleuol. Nis gwn beth yw y rheswm. Mae yn sicr o fod yn adeil adol ar gyfrif pwysigrwydd y pyngciau ac enwogrwydd yr areithwyr. Maent yn rhwym o fod yn fuddiol a liesol i bawb o bob oedran, ac yn gyfleusdra difyr i dreulio nosweithiau hirion ac oerion y gauaf yn lie cerdded yr heolydd. Nos Wener, yr 17eg cynfisol, yn y D<Jarllenfa, cafwyd araeth gan Proffeswr Evans, Birkenhead, ar Undodiaeth, crefydd natur, a rheswm ac Ysgrythyr." Cafwyd araeth alluog ar y pyngciau uchod, osd nid mor effeithiol a derbymol. Cafodd gynnulleidfa gryno, gan fod y mynediad i mewn am ddim- Nid )dwyf yn meddwl fod yma lawer o'i gredo yna yn N ghon wy.-D¿wygwr. Yn yr heddlys, ddydd Gwener diweddaf, cyhuddwyd un Grace Jones, o Fangor, am feddwi ac ymladd a gwraig arall o'r dref yma y dydd blaenorol. Dyfarnwyd iddi dalu 2s 6d a'r costau am ei dewrder. Y peth rhyfeddaf ydoedd gweled y wraig a gafodd ei churo yn talu drosti. Yr un noswaith talodd y Buckley's Christy's Minstrels ymweliad a'r l!e yma, ond ni chawsant gynnulleidfa mor luosog ag y maent yn gael yn gyffradin. Nos Galan, yn Ysgoldy y Methodistiaid, cynnaliwyd cyngherdd. Yn absennoldeb y Parch. R. Hughes, cymmerwyd y gadair gan Mr William Jones, Temperance. Canodd y cor, o dan arweiniad Mr Wm. Hughes, yn odidog, a chafwyd amryw ddarnau melus gan gor y plant, o dan ar- weiniad Mr Thomas Roberts. Cafwyd cyngherdd rhagorol. Yr oedd y canu yn dda anngbyffredin, yn enwedig yr Halel- lujah Chorus." Yn ychwanegol at y eanu, adroddwyd amryw ddarnau dyddorel. Rhoddwyd annerchiadau gan Meistri It. Stephen ac Edward Jones. Yr oedd y lie wedi ei orlenwi. Elai yr elw at ddi- ddyleds y capol. Terfynwyd y cyfarfod trwy roddi y diolchiadau arferol, ac ym- wahanodd pawb wedi eu llwyr foddloni. -Un oedd yno.
RHOSTRYFAN.
RHOSTRYFAN. Dydd Nadolig cynnaliwyd gwyl len- yddol Undeb Ysgolion Sabbothol Method- istiaid Oalfinaidd Rhostryfan, Rhosgaclfan, a Charmel, yn nghapel Horeb, Rhostryfan. Cafwyd dau gyfarfod. Ar ol bwytta hyd ddigonedd, eyfeiriasom ein camrau tuag yno. Llywyddwyd y ddau gyfarfod gan y Parch. T. G. Roberts, gweinidog y lie. Ennillwyd y gwahanol wobrwyon mewn dictation, gan Mr G. G. Parry, Carmel, ri Miss Dorothy Jones, Bryngro darllen- iadau, Mri G. G. Owen, Carmel; G. R. Jones, Brynygro J. Thomas, Vron oleu; a Miss Catherine Thomas. Ysgrifenu Ilythyr, Mri G. R. Jones a J. Thomas. Celfyddyd, Mr J. J. Roberts (Ap Cadfan); Mrs Catherine Williams, Rhosgadfan; a Miss Catherine Thomas, Vron olea. Cyfieithu i'r Gymraeg, Mri 0. 0. Jones, Penbryn Hafotty, a J. J. Roberts. Cyf- ieithn i'r Saesneg, Mri W. L. Williams, a J. J. Roberts. Grammadegu, Mri H. Hughes, J. J. Roberts, ac 0. 0. Jones. Gwobrwywyd Mr Edward Williams, Cae 'mryson, am ennill tyst-ysgrif cynnydd (intermediate certificate), yn nodiant y tonic sol-ffa. Am ddatganu unawd Tor- iad y Dydd," gwobrwywyd Miss M. Wil- ? liams, Vach goch; ac am ddatganu, Moab" (LI.T.C.), y buddugol oedd parti o Rhosgadfan, dan arweiniad Mr J. J. Ror berts (Ap Cadfan). Am gyfansoddi alaw a chydgan, y goren oedd Mr J. J. Roberts Am englyn, Y Felin," y goreu oedd Mr G. G. Owen, Carmel; ac am y pennillion i'r "Nadolig," gwobrwywyd Mri G. G. f Owen a J. J. Roberts. Y goreu ar y bryddest i'r Hwyr" oedd G. G. Owen. Methasom a chael enwau dim ond un o'r rhai oeddynt fuddugol ar yr attebion i'r gofyniadau ar Eliseus, na chwaith ar "Hanes Iesu Grist," a hwnw yw Mr R. R. R. Jones, Brynygro. Amatteb gofyn- iadau oddiar hanes Esther, gwobrwywyd Misses Jane Roberts, Glanrafon hen; a Jane Owen, Carmel. Am yr attebion i'r gofyniadau oddiar y bennod gyntaf o Genesis, y goreu oedd Mr 0. 0. Jones. Ar y cynllunwersi, gwobrwywyd Mri 0. 0. Jones, J. Owen, a W. Hughes, Penbryn bach. Am y traethawd ar y Pummed Gorchymyn," Mri G. G. Owen, a R. W. Hughes, Shop, Coed Brain, a wobrwywyd; Yr oreu ar y traethawd Gostyngeiad.- rwydd" oedd Miss Jane Roberts, Glan- rafon hen ac am y traethawd, Rhagor- iaethau a diffygion yr oes," Mr Daniel Thomas, Hafod Boeth. Caed gwasanaeth cor Engedi, Caernarfon, yn yr hwyr, gan y rhai y cawsom amryw ddarnau yn wir glasurol. Yr oedd yn ddigon o treat pe na buasai dim ond elywed y cor enwog uchod. Hefyd caed y deuawd, "Flow gentlyDeva" gan Mri J. J. Roberts a W. Parry. Y beirniaid oeddynt y Parchn. J. Roberts (Ieuan Gwyllt), G. Parry (Tecwyn), a T. G. Roberts, yn nghyda Mrs T. G. Roberts. Caed beirniadaethau da fawn ac addysg- iadol. Drwg genym oedd gweled gwedd ddirywiol ar yr achos, yn enwedig y rhan gerddorol o h no. Bu adeg ag y mae ys- gril'enydd y llinellau hyn yn cofio Rhos- tryfan yn enwog iawn am ei chaniadaeth gorawl a chynnulleidfaol. Pa le mae J. Thomas, W. Thomas, Eos Cadfan, ac am. ryw o ddynion ieuaingc gobeithiol ereill yr ardal ? Deuwch allan ar unwaith, ac ym. ysgydwch; y mae eich canu hyd yn nod yn gynnulleidfaol wedi colli llawer iawn 6 dir. Dywedodd cyfaill i mi am un rheswm bychan a allasai fod, a hyny yw, rhyw fath o genfigen gwirion-blentynaidd rhwng y cerddorion, ac yn wir gallaswn feddwl ei fod yn rhywle tua bod yn ei le hefyd, oblegid pan aeth parti Rhosgadfan ar y llwyfan i ddatganu, dyma rhyw f6d gorfanwl yn gwaeddi, Mae yna ormod o un." Dyna fanyldra Y mae hwnyna yn werth i holl bwyllgorau eisteddfodol y wlad i gym- meryd sylw o hono. Rhag eich blino a meithder, fel y mae arnaf ofn fy mod wedi gwneud, ymattaliaf hyd dro etto. Y mae genyf amryw bethau dyddorol i sylwi arnynt ar ol y daith Wyliau y Nadolig.— O.
[No title]
As s safe, permanent, and warranted cure for Pim- ples, Serofuia, Scurvy, Bad Legs, Skin and Blood Dis- eases, and Sores of all kinds, we can with confidence recommend Clarke's World-Famed Blood Mixture, Sold by Ctnmfcts everywhere.