Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
AT MR JOHN BANGOR JONES, LLANDEGAI.
AT MR JOHN BANGOR JONES, LLANDEGAI. SYR,- Yu gymmaint ag i chwi fod yn ofalus gydag ysgrifau hen feirdd, credwn fod genych lawer o eiddo y diweddar sailairfardd J. Prichard, Tai Duon, yr hwn na fu erioed yn awyddus am ymwthio i'r golwg. Os oes y cyfryw yn eich meddiant, byddai yn ddywenydd genyf fi ac ereill eu jfweled yn Amgueddfa Lenyddol y Llais. BJLNGORWR.
. LLITH ALARCH GWYRFAI.
LLITH ALARCH GWYRFAI. FONBDDIGION,—Mae y pwnge yr ymgym- meraig ag ysgrifenu arno yr wytbnos hon, yr wyf yn cyfaddef, yn un hynod o ddeli- cate, ac yr wyf mewn angen llawer o ddoethineb i'w drafod yn deilwng. Y mae J testyn hwn yn un hynod, a theilwng lawn o sylw. Hwyrach nad ofer y cyf- rifweh, ac nid gwrthodedig genych, fydd yehydig sylwadau ar y Cyfarfodydd Llenyddol." Rhaid i mi addef y carwn weled y testyn hwn yn cael sylw rhywun mwy medrus a galluog, er gwneud cyf- iawnderagef; ond hyd y gwneler hyny, dichon na fydd fy sylwadau yn anfuddiol. Nodwedd neillduol o archwaeth ein cenedl yr oes hon yw cyfarfodydd Penyddol. Y mae miloedd yn awr yn ein mysg a fedrant ysgrifenu Cymraeg a chyfansoddi yn mat, uriol, na fuasai ganddynt amcan yn y byd at hyny heb y cyfarfodydd hyn. Yn ughanol llawer o ddaioni a gynnyrchir gan y cystadleaaethau yn nglyn a chyfar- fodydd llenyddol, y mae yn rhaid addef eu bod yn achlysuro cryn anonestrwydd. Meddyliwch dipyn am yr amser a gollir i gyfansoddi erbyn pob un, yr arian a werir i'w cynnal, y twyll a arferir wrth eu cario yn mlaen; ie, a meddwl hefyd am y taeru a'r dyweud celwydd wedi iddynt fyned htibio. Y mae man gyfarfodydd llen- yddol wedi myned mor ami braidd a llyff- antod yr Aipht, ac wedi myned, fel y rhai hyny, yn bla. Cewch weled rhyw labyst- iaid penwan, glaslafnau meinion, llwydion, yn galw eu gilydd yn eryrod, Ilawod, alarch- od, ac am wn i, yn seirff a scorpionau. Pe eynnelid cyfarfod llenyddol mewn deng rhwd i'm lletty, nid awn byth i'r drafferth i iro fy esgidiau i fyned yno. Pwy all ddyweud am faint y twyll, y triciau an- onest, a'r annghariadoldeb sydd wedi cael •n ehwareu a'u hachlysuro gan gyfarfod- ydd llenyddol! Mae yn anhysbys i un dyn byw bedyddiol am y degwm Y tes- tynau a'r gwobrwyon yn cael eu cyhoeddi -yn y fan, dyna yr would-be 8 buddugol yn gyru at rhyw ffrynd neu gilydd i gyf- ansoddi ar y naill neu y Hall, ie, hwyracb, hanner dwsin o'r testynau. Dyna'r oyfaill yn cydsynio i wneud, neu geisio gan arall wneud. Wrth gwrs, dyna ef yn fuddugol ddydd y cyfarfod, llenyddol yn atteb i'w ffugenw, yn derbyn y gwobr- au, ac yn cael ei arwisgo, heb gymmaint a tbyfansoddi Uinell ei hun Dyna y bach- gen tlawd a gollodd gymmaint ar ei gysgu i gyfansoddi ar y testyn a'r testyn, ton, pryddest, neu englyn, wedi cael ei daflu i lawr am byth, drwy iddo glywed, wedi i'r eyfarfod fyned drosodd, mai hwn aliwn— hen lenor, bardd, a cherddor, o'r fan a'r fan, oedd wedi cyfansoddi y darnau y der- byniodd yr hog-langc meinlwyd y gwobr- wyon a'r ganmoliaeth am danynt yn y cyfarfod llenyddol a gynnaliwyd yn yr ardal ddydd Nadolig, neu ddydd Gwener y Groglith, neu ddydd Llan y Pasg. Ni chwanegaf y tro hwn rhag meithder. Llanberil. ALARCH GWYRFAI.
■ LLITH MR PUNCH.
LLITH MR PUNCH. FONEDDIGION,-Y mae "llawer math o I honom yn y byd yma, ys dywedai hen wraig unwaith pan yn gweled epa am y tro cyntaf yn ei hoes. Ond, a gadael allan y mwngci o'r cwestiwn, gellir cym- hwyso dywediad yr hen wraig at yr hil ddynol yn unig, a hyny gyda phriodol- deb, oblegid y mae llawer math o honom o ran dull ac agwedd ein cyrph, ac yn fwy felly o ran dull ac agwedd ein meddyliau a'n hymddygiadau yn y byd, &c. Y mae me4dyliau, barn, a ehredo dynion, ar wahanol wrthddrychau, a gwahanol byngciau, &c., yn groes-ymgroes i'w gilydd. Ac nid yw hyny yn rhyfedd, ychwaith, pan ystyriom gymmaint y mae y natur ddynol wedi ddirywio! Ac yn ngwyneb hyn y mae yr hen ddiareb Gymreig,-—" rhydd i bawb eu barn, ac i bob-barn ei llafar,"—-yn un hollol briodol, a theilwng o gael ei chyflawni. Ond y mae rhai dynion mor grintachlyd, hunan- ol, a chul eu barn am ereill, fel nas gallant oddef i'r hen ddiareb gael ei chyf- lawni. Ymddengys mai un o'r dosbarth yna yw eich gohebydd doniol, Twr y Dderi," oblegid y mae ei leferydd am danaf, yn y rhifyn diweddaf o'r Liais, yn proR hyny. Bychaa feddyliwn, pan yn dfwwo iddo ef ac ereill, "fadolig Uawen, a blwyddyn newydd dda," ei fod sf y-rpyd hwnw yn pvywar bayoHoi m vw osodiad arnaf fel gohebydd i'r Llais. a hyny oblegid beiddio o honof amlygu fy marn ar afresymoldeb ac eitbafedd cyfraith I ,y pysgod. Yr wyf bob amser yn teimlo yn hollol rydel a pharod i dderbynbeirniad- aeth deg a rhesymol ar unrhyw nodiadau a ymddangosant yn fy llith, ie, byd yn nod pe byddai i'r gyfryw feirniadaeth fod yn hollol anffafriol i'r eiddof. Ond nid yw truth y gohebydd hwn yn ddimamgen na difrlaeth bersonol. Canys dechreua ei nodiadau arnaf mewn dull awdurdodol a gwawdlyd. Sylwer ar ei eiriau, chwedl yntau:—" Synais weled a darllen Llith Gw-is Mr Punch.' Paham y gadawsoch i'r Radical yna ysgrifenu y fath gfryn Gommunistaidd ?" &c. A chan mai swm a sylwedd ei druth ydyw, synu, haeru, difenwi, grwgnach, bygwth, camddarlunio, camddyfynu, camgyfartalu, camdystiol- aethu, sarhau, &c., caiff silent contempt oddiwrthyf o hyn allan hyny yw, oddi- eithr iddo weled yn dda ddyfod yn mlaen i ymdrin a'r pwngc, ac nid y person, ar faes Llais y Wlad. NEWYDDION. Cynnaliodd Bedyddwyr Caernarfon eu te parti ar brydnawn ddydd Nadolig, pryd y daeth tyrfa fawr yn nghyd i fwytta bara brith," ac i yfed te pur John y Packman," medda nhw. A chlywsom eu bod oil yn ei fwynhau yn fawr-ddarfod i lawer yfed mor belaeth o hono hyd nes colli golwg ar gymmedrol- deb a gweddeidd-dra. Wel, y mae an- nghymedroldeb mewn yfed te yn well nag annghymedroldeb mewn yfed y pethau meddwol yma," pa rai sy'n gwneud dypion call yn ffyliaid dibarch, a diddaioni mewn cymdeithas. Yn yr hwvr c a all wyd cyfarfod llenyddol a obyr gan yr un enwad, pryd y gwob v < yr yin- geiswyr buddugol ar y gwe i >axnl daaty aan oedd wedi ea rhoddi i g arr ynt. Cwynai y beirniad, sef, y PRIcn, Cdhin Dayies, A.C., Llangollen, hllJ rhy ydtjtdig o 61 llafur a gofal ar y m ;&frif o'r cyt.. ansoddiadau. Ond rf,N-ny pcbpeth, cafwyd cyfarfod hwyliog a difyrr s. Gauodd y plant a'r c6r yn dda ¡;r y cjfai:, a gwnaeth ereill eu rhan yn ganmokdwy. j Darfu i Miss Bezie Rober s u Mi John Bently ddifyru y cyfarfod TI}{,dd tl a effeithiol gydag adroddiad o Gycnidieud y Cybydd," sef, dernyn hardÙJDol i w actio mewn ffordd o ymddiddari rhwng gwr cybyddlyd a gwi wg Uur"<mus. Ac yn wir, darfu iddynt ei t • rl()f d« hyd nes cynhyrfu yr hoil Ie ;:1n .ff3it}:lilD cymmeradwyol y dorf. (JJeaUwniod v cyfeillion yn y Bontnew} *>: yma yu bwriadu rhoddi gwahoddi^ i'r dda11 i i ddyfod i'w actio yn eu cyfar i yr hwn sydd i'w gynnal ar dt 1 u ?u y Groglith.) Creodd traddodiad yr areithiau (?) byrfyfyr ar Gath y Barfwr" ddyddordeb cyffredinol yn y cyfarfod. Aeth un brawd barddonol i hwyl fawr wrth eu gwrando, a gwaeddai allan fel hyn Cath y Barfwr, cath a berfain--yw hi, A'i Md sydd mor gywrain Am ddal Ilygod, hynod hain, Sy'n bradu Ynya Brydain PKRERIN GWYN A'l CANT. BEDYDD.—Bedyddiwyddau ddyn ieuango drwy drochiad yn afon Gwyrfai, ddydd Nadolig, ar broffes o'u ffydd yn ngweini- dogaeth yr hybarch Syr John Heidden." Wedi bod o honynt o dan weinidogaeth yr hen foneddwr hwn, am rai oriau, aeth y ddau frawd yn ei gwmni ef, a llaoedd o qdrychwyr, i gymmydogaeth yr afon, a hwy a fedyddiwyd yn yr afon yn gyrph ac eneidiau Ac fel yr oeddynt yn dyfod i fyny o'r dwfr, genau un o honynt a agorwyd, a daeth allan lefau o lawenydd am fywyd a dedwrddwch. Mae'n wir ddrwg genym orfod siomi y darllenydd am gan newydd yr Arch- fardd. Ymdrechwn ei chael i mewn yr wythnos nesaf. 0- GWAS MR PUNCH.
BETHANIA, GER AMLWCH.
BETHANIA, GER AMLWCH. Capel bach gan y Bedyddwyr ydyw Beth- ania. Cynnaliodd Ysgol Sul y lie hwn ei ohyfarfod ysgol nos Sul diweddaf, o dan 1 vwyddiaeth Mr Richard Williams, Ty'r capel. Yr oedd y llafar, y rhan fwyaf, ynfgyunwys- edig mewn adroddiadau gan blant 8 phobl ieuaingc yr ysgol. Ychwanegiad da at ddyddordeb y cyfarfod oedd araeth ga i yr hen frawd Mr Owen Roberts, Salem. Ei destyn oedd "Temlyddiaeth Dda a'r Ysgol Sul." Bum yn talu am wrandaw areithiau heb gael yn agos gymmaint o fwynhad ag wrth wrandaw ar yr hen frawd, a gobeithio y cawn yr an- rhydedd o'i glywed yn fuan etto.Aelod oV Fagol.
4--LLANWDDYN.
4-- LLANWDDYN. Treuliwyd dydd Nadolig yn y lie hwn gan y mwyafrif o'r trigolion trwy ymbresenoli mewn gwasanaethau crefyddol. Ynnghapel y Methodistiaid, am ddau o'rgloch, pregethodd y Parch. Mr Humphreys yn rbagorol. Wedi y bregeth rhoddwyd te i aelodau yr Ysgolion Sabbothol yn y capelydd, a rhanodd y Meth. odistiaid swm o wlaneni i dylodion yr arda! Ya yr hwyr drachefn, pregethodd Mr Hum- I phjeys a Mr Griffiths yn rymus ac effeithiol i gynnulleidfa fawr. Oynnaliwyd hefyd ddau wasinaoth yr eglwys, a phregethodd ein parch- us ficer yn effeithiol a thra phriodol i'r am. gylchiad y coffhsir am dano ar y dydd.—
I TYNYGROES, GER CONWY. 1
I TYNYGROES, GER CONWY. 1 Dydd Nadolig, cynnaliwyd un o'r cyfar- fodydd cystadleuol a llenyddol mwyaf hwyliog, doniol, a phoblogaidd ag y bum ynddo ers talm, yn nghapel y Trefayddion Calfinaidd, Tynygroes, ger Conwy. Cyn- naliwyd y cyfarfodydd am ddau o'r glooh, ac am chwech yn yr hwyr. Llywydd y ddau gyfarfod ydoedd Thomas Hughes, Ysw., Tanybryn, ac arweinydd y ddau gyfarfod ydoedd Mr W. Parry (Lleohidon), Manchester House, Roewen. Y beirniaid oeddynt y Parchedigion 0. Owens a Hugh Roberts, Liverpool; Moses Jones, Cric- cieth; Mr Griffith Jones, Fenwick Court, Liverpool; William Roberts, Yaw., Llwyd- fan; Mr W. Parry, (Llechidon). Ar y farddoniaetb, Gwilym Cowlyd, Llanrwst; ar y gerddoriaeth, Mr E. D. Williams (o'r Academy Gerddorol, Caernarfon). Chwar- euwyd ar y berdoneg gan Miss Charlotte Ellis, Brynypin, a Miss Maggie Jones, Ty'nyeoed, ac ar yr harmonium gan Mr Walton, Conwy. Gan ei fod yn gyfarfod mor nodedig o ddyddorol, ni a roddwn yma adroddiad lied gyflawn o'r gweithred- iadau. Yn y cyfarfod yn y prydnawn, wedi i Llechidon, fel arweinydd,alw y cyf- arfod i ddistawrwydd, cawsom y Bluen Gymreig," i agor y gweithrediadau, gan gor Tynygroes, o dan arweiniad Mr D. Prichard, Tuhwnt-i'r-ffrwd. Yna cafwyd annerchiad byr a thra synwyrol gan y parchus lywydd, T. Hughes, Ysw., Tany- bryn. Yna cawsom yr nnawd Goger- ddau," yn dra swynol gan Mr E. D. Wil- liams, Caernarfon, yn cael ei ddilyn ar y j berdoneg gan Miss C. Ellis, Brynypin. Y cesaf oedd beirniadaeth y Parch. Moses Jones ar y llawysgrifau (bechgyn a gonethod); goreu o'r beehgyn oedd Mr J. vr Williams, Manchester House, Roewen. Barnwyd yn nosbarth y geneihod Ellen" H FasUu yn gydfuddugol, ond nid atteb- 9.gr;nt i'w henwau. Y goreu ar y dictation Baiinig oedd Mr John Evans, Coedmor, ac yn y Gymraeg Mr Robert Jones, Peny- iaa, Roewen, a'r ail yn y Gymraeg a'r t; asneg oedd Mr J. W. Williams, Man- ;s tester House. Wedi hyn cafwyd cyd- ga-n, Through the Valley," gan gor Roe- n, o dan arweiniad Mr Robert Hughei, Shop, a dilynwyd gyda beirniadaeth ar gyJieithiad o ddernyn o'r Quarterlg Review: ^oreu, Mr Robert Hughes, shop, Roewen, ail oreu Mr John Ellis Parry, Man- cv ^ster House. Yna cafwyd cystadleu- h mewn darllen nifer o adnodau a )a:did ar y pryd goreu, Mr Henry R. Parry, Manchester House, a Mr John W. il I Wlliams, ei frawd, yn ail oreu. Dilyn- gyda Let the hillls resound," gan gor Tynygroes. Yr oreu am adrodd o'r Rhodd Mam oedd Miss S. A. Thomas, Tynyrhwylfa. Wedi can, "Mentra. Gwen," gan Mr Williams, Caernarfon, cafwyd beirniadaeth ar y traethodau ar Gybydd-dod." Barnwyd Mr John Jones Brynhyfryd, Roe Wen, a Mr John E. Parry, Manchester House, yn gyfartal. Ar y tonau, nid oedd yrun o'r deg a ddaeth i law yn deilwng o'r wobr. Wedi c&n, 0 dywed gawn mi," yn wir swynol, gan Mrs Williams (Eos Aled), Ysgotdy, Roe Wen, .a chanig, "The footsteps on the stairs," gan g6r Tynygroes, cafwyd beirniadaeth Gwilym Cowlyd ar yr euglyn i Gapel Tynygroes goreu o lawer oedd eiddo Mr Thomas Williams (Eos Geraint),Henrhyd, ger Conwy. Am adrodd 114 Salm, y goreu oedd T. R. Williams, Manchester House, a'r ail oedd eifrawd H. R. Parry. Yna cafwyd cystadleuaeth gan dri o gorau plant, set eiddo Tynygroes, Roe Wen, a Bryndionyn, ar 0, a gawn ni oil gyfar- fod;" y goreu oedd cdr Bryndionyn, o dan arweiniad Mr Richard Lloyd. Am adrodd "Y cadnaw a'r ceiliog;" y goreu oedd Thomas R. Williams (bachgen wyth oed), Manchester House, a'r ail oreu oedd Henry R. Parry, ei frawd. Y goreu am adrodd yr emyn "Ar lan Iorddonen ddofn," oedd Master T. R. Williams, Manchester House. Wedi canu Bugeiles y Wyddfa," gan Mr E. D. Williams, Caernarfon, cafwyd cystadleuaeth ar ddatganu y don Rotterdam." Ni ddaeth yn mlaen ond dau gor, sef cor Tynygroes, a chor Roe Wen y goreu oedd y diweddaf. Arwisg- wyd yr holl ymgeiswyr buddugol gan fon- eddigesau y gymmydogaeth. Wedi canu "God save the Queen," ymwahanoddy dorf, wedi cael eu Ilwyr foddhau mae'n ddiamheu. Yn nghyfarfod'yr hwyr, cym- merwyd y gadair gan T. Hughes, Ysw, a'r arweiniad gan Llechidon. I agor y cyf- arfod, cawsom March men of Harlech," gan g6r Tynygroes. Wedi cael annerch- iap byr a phriodol gan y parchus lywydd, cawsom feirniadaeth ar y chwe llythyr a ddaeth i law., Y goreu oedd eidde Mr John E. Parry, Manchester House. Ar ol can, Wyt ti yn cofio'r lloer,' gan Mr E. D. Williams, yn gampus, cafwyd beirniad- aeth Gwi'ym Cowlyd ar y pennillion i "Pdyffryn Conwy." Rhanwyd y wobr gyntaf a'r ail yn gyfartal rhwng Mr Wm. Thomas, Henefail, ac Eos Geraint, Hen- rhyd. Yn y gystadleuaeth mewn datganu "Fe ddaw Llewelyn etto yn ol," yr oreu o'r pedwar a ddaeth yn mlaen oedd Miss Mary Evan*, Tyn^roee, yr hoe a I ganodd yn feistrolgar iawn. Ar y traeth- odau ar Ddylanwad yr aelwyd," oyfyng- edig i ferched,daeth tri traethawd i law, a'r goieu oedd eiddo Miss Roberts, y Graig, Eglwyg Bach. Yr ail oedd Mrs Parry, Manchester House. Wedi canig," The fisher-boy," gan ran o g6r Tynygroes, cafwyd Sion Dafydd gan Mrs Williams (Eos Aled), yn swynol dros ben, nes y bu gorfod iddi ail ganu, achanodd Chwyfio'r cadach gwyn," yn cael ei dilyn ar y ber- doneg gan Miss Maggie Jones, Tynycoed. Ar y traethodau ar y lies a ddeilliai o gael pont dros afon Gonwy yn Talycafa," daeth pedwar ymgeisydd i'r maes, a'r goreu oedd Mr Thomas Williams (Eos Geraint), a'r ail oedd Mr Griffith Robe-ets Talycafn uchaf, ger Tynygroes. Yna cafwyd ein, Caled yw ei chalon," gan M? E. D. Williams, yn bur dda, a chydgan, Nant y mynydd," gan gor Tynygroes, a deuawd ar y berdoneg, yn dra meistrol- gar, gan Miss C. Ellis, Brynypin, a Miss Roberts, Bronygader, Criccieth. Ar yr englyn i'r Teiliwr," daeth 18 i'r gystadl- euaeth, ond ni ddaeth y goreu yn mlaen, a rhoddwyd y wobr i Eos Geraint, fel yr ail oreu. Cafwyd cAn Cymru lan gwlad y g&n," gan Mrs J. Thomas, Henefail, a'r gydgan, Dattod mae rhwymau," yn ardderchog gan g6r Roe Wea. Wedi canu Friend of the brave," gan Mr Wal- ton, Conwy, yn gampus, cafwyd beirniad- aeth y Parch. 0. Owens, Lerpwl, ar y prif destyn, sef traethawd ar Gymhwysderau athrawon yr Ysgol Sabbothol. Daeth saith o gyfansoddiadau i law. Y goreu Mr J. E. Parry, Manchester House, a'r ail Eos Geraint, Henrhyd. Rhoddodd y beirniad dysgedig y ganmoliaeth uchaf i'r prif draethawd. Yn y gystadleuaeth ar ddat- ganu y pedwarawd Ti Wyddost beth ddywed fy nghalon," daeth dan barfci yn mlaen, un o Roe Wen ac un o Tynygroes, ond y goreu oedd yr olaf. Canwyd y I- Y blodeuyn olaf" gan gor Tynygroes yn wir dda, ar ol yr hyn y cafwyd cystadleu- aeth mewn adrodd Dafydd, a Sion, a'r Ustus (o waith Dr. Rees); y goreu oedd Mr J. W. Williams, Manchester House, yr ail ei frawd, Mr Henry R. Parry, a'r trydydd oodd Mr Robert Jones, Penylan. Yn awr dyma ni gyda'r brif gystadleuaeth gorawl, set datganu yrben anthem ragor- ol, "Daw sydd noddfa," gan y diweddar Mr R. Mills. Dau g6r ddaeth yn mlaen, sef Roe Wen a Phenygroes. Cawsom feirniadaeth glasurol ar elfenau datgan- iaeth gystal ag elfenau beirniadaeth gan Mr E. D. Williams. Wedi iddo bwyso y ddan g6r hyd at fanylrwyd4, nid oedd yn teimlo un petrusder i roddi y wobr i gor Roe Wen. Wedi i'r cor ganu yr anthem genedlaethol a thalu diolchgarwch i wa- hanol bersonau, ymwahanodd y dorf fawr i'w cartrefi, wedi cael gwledd ragorol i'w meddyliau. Yr oedd y capel eang yn orlawn bob tro, yn neillduol felly yn yr hwyr.-Ioan Maelgwyn.
CLYNNOG FAWR YN ARFON.
CLYNNOG FAWR YN ARFON. CYFLWYNIAD TYSTEB.—Prydnawn ddydd Mercher, yr 22ain cyfisol, cynnaliwyd cyfarfod yn Ysgoldy Cenedlaethol Pant Glas, Upper Clynnog, i'r dyben o gyflwyno tysteb i Mr T. Ll. Jones, darllenydd lleygol, ar ei ymadawiad o'r plwyf. Yn absoneldeb y ficer, cymmerwyd y gadair gaR D. Rowlands, Ty'r Dewin, yr hwn a hysbysodd ddyben a bwriad y cyfarfod; ao ar ol i'r plant ganu ychydig o donau, o dan arweiniad Mr W. Rees Evans,athraw cynnorthwyol, galwodd Mr Rowlands ar Miss M. J. Powell, Derwyn Ucha', i gyf- lwyno y brif rodd i Mr Jones, sef, time- piece hardd a gwerthfawr. Ar yr un amser, cyflwynwyd annerchiad hefyd, yn enw y plwyfolion, gan Miss Owens, Llwyngwnadl, a darlun o'r ysgoldy lie yr arferai Mr Jones bregethu ar y Sabboth, ac hefyd o'r ty y Hettyai, sef, cywrein- waith Mr J. Powell, Ynys yr Arch. Gosod- wn gopi o'r annerchiad i fewn yma os caniatta Mri Golygwyr Anwyl Syr,-Yr ydym ni, trigolion Clynnog Ucha', yn nghyda chyfeillion ac ewyllyswyr da ereill, yn cyflwyno y time-piece hwn i chwi ar eich dychweliad i'r Deheudir, fel arwydd o barch am eich gwasanaeth tra fuoch yn llafurio yn ein plith. Yr ydym hefyd yn gobeithio y bydd i'r time-piece hwn ffyddlon fesur i chwi hir oes,dedwydd- wch, llwyddiant, a defnyddioldeb. Ydym, yr eiddoch yn ffyddlon,arwyddwyd-James Pryse, ficer, David Rowlands, John Jones, churchwardens, John Powell, C.M., dros y tanysgrifwyr. Mr T. Ll. Jones, wrth gyfodi i dalu diolchgarwch, a ddywedai fod dyn pan o dan ddylanwad eithafol un o ddau ysbryd, yn gyffredin, yn methu mewn iaith ac ymadrodd i raddau pell. Dywedai nad oedd angen iddo eu hysbysu pa ysbryd oedd yn llywodraethu yn y cyfarfod dan sylw, oblegid credai ei fod megys yn argraffedig ar wyneb yr awrlais a'r rhoddion ereill, a theimlai ei fod mewn capital letters ar ei galon ef ei hun. Dywedai yn mhellach ei fod yn teimlorhyw lawenydd annrhaethadwy ei fod wedi llwyddo i ennill @u seroh mewn llai na naw mis o amser, ac yn enwedig y time- (ehwerthin). Wodi gorphen talu ei ddiolchgarwch i bawb, cvflwynodd Miss M. Rowlands, Ty'r Dewin, iddo ddarlua mawr, yn cynnwys 36 o ddaduniau by chain, sof pedwar Esgob Oymru, yn nghydag wyth offeiriad o bob esgobaeth. Rhodd bersonol ei thad oedd hon, ac felly cafodd ddiolch personol. Annerchwyd y cyfarfod gan amryw o'r gwyddfodolion, a therfynwyd drwy ganu Hen Wlad fy Nbadau.Robin Dafydd.
TRAWSFYNYDD.
TRAWSFYNYDD. YR YSOOL GENZDLAETHOL.—I'r cyfeillion hyny ag sydd yr awr hon ar- wasgar yn gwario eu talentau at yr amcanion goreu, wedi derbyn eu haddysg gychwynol yn yr ysgol uchod, credwyf nad annyddorol fyddai yehydig o'i banes presennol, oher- wydd yr wyf yn sicr eu bod yn ddieitbriad yn teimlo yn gynhes tuag atti, ac yn dy- muno ei llwyddiant. Felrheol, rheolir hi gan athrawon ieuaingc ar eu dyfodiad cyntaf o'r coleg, ac nid yw yn ymddangoa i hyn fod yn golled iddi, oherwydd saif ,bob amser yn dra uchel yn nghymmerad- wyaeth yr arholwyr, a bu yn foddion oy- ehwynol da i luaws ag sydd erbyn hyn yn enwog mewn dysg a defnyddioldeb, ac ni bu yr athrawon hyny ag sydd obryd i bryd wedi bod yma yn gwasanaethu heb naturiol wobr eu llafur. Eleni etto, mae genym y gorchwyl hyfryd o gofnodi un llwyddiant ychwanegol o'i heiddo, yr hyn a ddygwyd oddiamgylch trwy lafur med- rus a diflino ei hathraw presennol-gwr ieuangc etto ar ei ddyfodiad cyntaf. Wele adroddiad y Llywodraeth yn ngeiriau yr arholwr ei hunan :—" Trawsfynydd Na- tional School.—The general results of the examination are good, and very promise ing." Da iawn, onid6 ? Dyna iddo yntau symbyliad hapus yn moreuddydd ei waith, a hawdd i'w deall oddiwrth wynebau sir- iol y plant a sibrwd y rhieni mai eu hunol ddymuniad yw fod i Mr Edwards barhAd y cyffelyb Iwyddiant.—Philip.
Y PRIF FARCHNADOEDD SEISNIG.
Y PRIF FARCHNADOEDD SEISNIG. LLUNDAIN, dydd Gwener. -Tawel oedd y faanaeb mewn gwenitli cartrefol a thramor, a'r priaiau yn troi at fod yn ib. Arat y gwerthai blawd, a braidd y cedwid at briaiau blaenoroL Haidd a cheirch ) n dal yr un fath. Araf y gwerthai grawn 11 lia. *a'r pruiau yehydig ya is. Dydd Llun yr oedd y farchnad yn gauedig. LIRFWL, dydd Gwener.—Tawel oedd y fasnach mewn gwenith, a phrin y cedwid at brisiau dydd Gwener, ond yr oedd y Canadaidd braidi yn uwch. Ni jwnaed oad yehydig fasnach mewo blawd, a'r prisiau heb newid. Gostyngodd pys a ff3 6ci£ chwarter. Yr oedd galw cymmedrel am rawn India, a'r priaiau yr ua fath a'r dydd Mawrth blaenorol.-Dydd Mawrtb. -Yehydig iawn o fasnach a wnaed mewn gwenith, a phrin y cadwai y priaiau yn sefydlog. Daliai blawd, ceirch, pys, a ffa at brisiau diweddar; gwerthsi y grawn Indiaidd yn araf, yn ol 30 y chwarter o oetyngiad.
PRIF FARCHKADOEDD CYILREIG.
PRIF FARCHKADOEDD CYILREIG. ABERTSTWTTH, Rhag. 20.-Gwonith, e CIs Cc i 711 de y bwsel; haidd, 41 80 i 511 Oc; ceirch, 3s Oc i 8s Oc jreeoyn lleatri, lio i 00c; ymenyu ffres, 170 i 000; edood, Ss Oc i 4:1 00 pytatws, 14 pwy. am 1.. ABjtRGHLB, Rhag. 24.—Gwenith, 8 1-ls gc i 16s do yr bob; haidd, o 10* Go i 12a 6c yr hob, ceirch, o 7. 9. 8s 6c yr hob; ffa, 16s 6e i 17s ù. yr hob; blawi ceirch, 37s Oc i 38s 00 y 240 pwys. BANSOK, Rbagfyr 24.—Gwenith, ii, e. i 45s to y chwarter; haidd, 29s 60 i 31s ec; ceirch, 22A 00 i 2Is 00 blawd ceirch, 36s 00 i 371 00 y 240 pwys; ymenyn ffres, o 000 i 00c y pwys cig eidion, o Oc i 00. y pwys cig defairl, o 00c i 06c y pwye; cig Iloi, ft 00 i 00 y pwja. C A ERNARYON, Rhag. 24.—Gwenith, o 44s to i 45s Oc y chwarter haidd, 28a 6c i 80s Oc y chwarter; ceirch, o 22s 00 i 24s 00 y chwarter; blawd eeirch, 36b Oc i 178 Oc y 240 PWYI. DIHBYOH, Rhag. 22.—Gwenith, e lis to i 1f. yr hob haidd, 12s 00 i 13a 813 yr hob; ceirch o $a Oc i g. Oc yr hot) ymenyn Area, Is 7e i It So y PWYI; tybiau, 16c i 17c y pwys. LLANGEFNI, Rha 23 .—Gwenith, 42a Oc i 446 08 y chwarter; haidd, -28. 00 i 3&. 00 y chwarter; ceirch 21a 00 i 22a Oe y chwarter blawd ceirch, 3811 Oc i 37* Ocy 240pwys; pytatws,780c i8. Oo ylOOpwya; ymenyn ffres, Is 60 i Os 00 y pwys; cig eidion, o 80 i to y pwys; cig dafad, o 80 I 9c y pwys; hams cartret goreu, O. 00 y pwys. LLANEBCHTMEDD, Rhag.22.—Gwenith, 46s 0c i tYs OQ, y chwarter haidd, 28a Oc i 29a 0o y chwarter; ceirch, o 22s 0e i 218 00 y chwarter blawd ceirch, 37a i ass k y 240 pwya; pytatws, o 7s 80 i 8a Oc y 100 pwys; ymenyn fires, Is 4c i Os 0c y pwya; cig eidion, 0 83 » go y pwys cig defaid, 80 i 90 y pwya ham., eartref goreu, In lo y pwya. LLAKRWST, Rhag. 21.—Gwenith, lis Oc i Ise Oc; yr hob; haidd, 12s 00 i 13s 60 yr hob; ceirch, o I oo 00 1 Ob 6c yr bob blawd ceirch, 11* Oo i 22a 00 yr bob pytatwm, 7s 60 Be Oc yr hob; ymenyn ffres, la 8c i Is 10c y pwys; cig eidiod, 8e i 10c y pwya cig dafad o SoilOoypwys.
[No title]
DASLLBNWOH T OWELLHAB OANLTNOL O ASTHMA DBWT WASTRENAC PALMONAIDD DB. LOOOOE. -Oddi wrtb y Parch. Wm. Jenkins, Mary's Cottage, Llandilo Yr wyf wedi bod am bymtheng mis yn dyoddef o dan Asthma sefydlog, yn cael ei ddilyn gan beswoh enbyd. Yr wyf wedi rhoddi prawf ar braidd bob meddyginiaeth (lybiedig heb unrhyw eamwythart; ond, yn rhaglun- iaethol, y mae yn byfryd genyf eich hyBbysu ddarfod i i mi ddetbyn esmwythad mawr drwy ddefuyddio dau flychaid o Waffrenau Dr. Locock.—WiUiam Jeukiua." Mown asthma, darfodedigaeth, bronchitis, ppawch, cryd- cymalau, a pkob poen kysteraidd a gieuol rhoddir es- mwythad uniongyrchol. Y mae iddynt fins peraidd Ar werth gan bob cyfferydd am la lie y blychaid. PKLBNAU HOLLOWAT.-Cyfaill y hierelied.-Y mae y meddyginiaethau rhyfeddel a effeithiwyd gan y pelenat, hyn, wedi eu galluogi i wrtheefyll y gwrthwynebiadau mwyaf gerwin am flynyddau meithion. Gwertbfawf ogir hwynt ar yr aelwydydd mwyaf distadl yn gystalal yn y tai mwyaf gorwych a chyfoethog. Y mae peleast) Holloway yn gweithio puredigaeth trwyadl yn yr boll gyfansoddiad, heb annrhefnu, gwanhau, nac mewn ua* rhyw fodd arall ymyraeth a gweithrediad naturiol f peiriannau. Cydnabyddir hwynt fel y moddion gorea 1 gynnyrchu chwant am fwyd, i gryfhau, ac i roddi iech)'d perffaith i'r cyfaneoddiad mwyaf egwan. Y rnaent 1" rhoddi lliw ao adnewydd-deb i'r gwyneb, a thrwy ell rhinwedd meddyginiaetbol, yn di-Wreiddio o'r cy£lin' soddiad yr anhwylderau hyny a fu yn foddion i anto3 miloedd o ferched i'r bedd yn gynt aa'u hamser, y rh.. pe buasent wedi defnyddio y pelenau hyn, a fuasai wedi cael eu hachub o giafangau angeu. T '1i r Argraffwyd a Cyboeddwyd gan y Percheuog, KENM[JIB WHITWOBTH DOUQIAS, Argraffydd, &c., fcfeol ifawrt Bid:rrd GwooEllfB 18T5,