Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

GOFIDIAU Y PACKMAN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

GOFIDIAU Y PACKMAN. Ni ddaw henaint wrtho ei hunan, heb retinue o drallodion, poenau.siomedigaeth- au, 9 gofidiau. Dylai wythnoR y Nadolig fod yn wythnos lawen i bawb ond trodd allan yn wythnos o ofidiau i'r hen Back- man parchus. Dyma hwy. Gofid 1.—Rhaid i Mary fy ngwraig a minau eistedd o flaen yr arluniwr i gael ein darluniau unwaith bob blwyddyn, sef, wythnos y Nadolig. Un o blant cul John Wesley yw Mary, a ni wna neb ond un o'r Wesleyaid y tro i dynu ein darluniau. I ffwrdd a ni tua Chaernarfon at Mr Humphreys. Yr oedd yn dda gan y maer ein gweled, canys un o'r dynion mwyaf serchus ydyw os bydd gan ddyn arian i clatu am lyfr neu arlun. Wedi iddo ganmol te pur Llanrwst, eisteddodd Mary a minau. Dacw Mr Humphreys a darn o frethyn du dros ei ben, ac yn edrych yn sly arnom trwy y twll byehan oedd ya y bocs. Neidiais i fyny, a dywedais,—" no peeping Mr H., ond edrychwch yn blaen a gonest heb roddi eich pen yn y bocs." Ond wedi deall fod eisieu gwneud hyny, dywedaia wrtho am fyned yn mlaen. Yr oedd amaf ofn i Mary fod yn anesmwyth tra yn cael ei llun, a threais fy llygad atti heb syflyd fy mhen. Tynwyd y llun, ac yr oedd genyf lygad tro Dyma ddarlun- iau ardderchog, ebe'r arluniwr. Stop, if you please," ebe fi; pwy yw yr hen wr hwn sydd yn equintio ? Ai dyna beth yw darlun da o John y Packman o Lanrwst ? Yr ydych yn fy sarhau ebe fi, ac oni bae fod Mary fy ngwraig yn Wesley,tynwn y ty mawr i lawr yn chwilfriw deilchion man am feiddio tynu darlun o honof fi yn squintio." Gwrthodais dalu. Gofid 2.—Pan ddaeth John fy mab gartref o'r Brifysgol, Aberystwyth, yr oedd arno eisieu oriawr. "Wel John," ebe ft., dyna fy oriawr I i ti. Cefais hon ar ol fy nhad tua hanner can' mlynedd yn ol; cafodd yntau hi ar ol ei dad ef, a hwnw ar ol ei dad yntau, ac yn y blaen felly. Yr oedd hon gan un o fy mherthynasau San yn ymladd brwydr fyth-gofiadwy [aes Bosworth. Cymmer hon fy mab," ebe fi yn mhellach, "a chadw hi yn ofalus; a thra bydd yr oria wr 110n yn dy boced, bydd mwy o werth yn llogell dy wasgod nag a fydd yn mhenau holl athrawon Cymru." Wedi rhoddi y watch, yr oedd aroaf eisieu un arall. Gwelais advertisement mewn newyddiadur, ac anfonais ddwy bunt i Monsieur Tempus Fugit, &e. Can- molid y watches hyn fel y rhai goreu yn yr holl fyd. Daeth y watch, ac ni fu erioed ei phrydferthach. Cyrhaeddais Mostyn, a chysgais gyda Dr. Pan. Hen lango d)niol yw Pan. Treuliasom lawer o'r nos siarad yn y Germanaeg. Wedi cysgu, breuddwydiais yn y Germanaeg, a gwelwn y Celtydd o'r Almaen a minnau yn ddau gadeirdraw yn mhrif athrofeydd Almaen. Yr oeddwn i gychwyn gyda'r tren saith y boreu. Deffroais, goleuais ddyhvyfyn, ac edrychais ar y watch newydd ysblenydd. Wbwb! yr oedd o fewn deng munud i saith, a dim ond deng munud i wisgo a myned at yr orsaf. Yr oedd Pan yn eysgu. Ond dyma fi i ffwrdd ar hanner gwisgo i'r ystryd, a rhedais nerth fy nhraed at yr orsaf. Dyna boliceman ar fy ol yn bloeddio, a holl gwn yr ardal yn oyfarth, ac un o honyntyn gafaelyd yn fy llodrau gan ei rwygo o'r pen uchaf i'r pen isaf. Gyda fy mod yn yr orsaf, dyna'r police yn gafaelyd ynwyf, yn fy nghyhuddo o fod yn dy-dorwr, a bod yn rhaid i mi fyned'gydag ef i'r lock-tip. Dywedais mai masnachwr cyfrifol o Laurwst oeddwn, ond Di chredai. Dywedais mai rhedeg at y trên. saith yr oeddwn, a dangosais fy watch i brofi. fod y tr6n yn ddyledus. Saith o'r gloch," ebe fe, H nid yw ond dengr munud wedi tri!" Wedi i mi gry- bwyll am Dr. Pan, aeth y g6t las a mi yno, ac eglurwyd pob peth. Yr oedd y wateh newydd wedi ennill pedair awr mewn ychydig oriau. Dyna beth ydyw advertisements. Wedi cyrhaedd Caer, aethum at Iuddew i'w gwerthu, a dywedais wrtho i mi roddi dwy bunt am dani, ond y buaswn yn ei gworthu am goron yn llai. Ebe fe, Get out, dis is no worth do pens. You and your vatch is geat." Gofid 3.—Aethum i un o'r eisteddfodau. Tua mis yn ol, addawodd y beirniad roddi y gwobrwyon i mi bob un, oDd i mi roddi punt iddo. Rboddais yr arian iddo, ac aethum i'r eisteddfod i gael y gwobrwyon, enw mawr, a chanmoliaetb. Ond trodd y y beirniad yn dwyllwr. Condemniodd fy marddoniaeth, a rhoddodd y gwobrwyon i ereill. Gofynais id^o roddi y bunt yn ol, ond gwrthododd, gan ddyweud mai twyllwr oeddwn. Ond efe oedd y twyllwr. Gofid 4.-Gwaboddwyd fi i giniaw, wedi cyfa-rfod y boreu, gan frawd o sir Fon. Yr oedd yno botes agwydd a plum pudding. Wedi rhoddi y potes o'r golwg, cefais allan mai berwi yr wydd a wnaethant, a bu i'r brasder beri anhwylusdod mawr i mi. Y mae meddwl am ferwi g*ydd yn ddigon i godi cyfog ar ddyn; ond beth yw hyny at lyngcu basinaid mawr o aim gwydd dan yr enw potes Dyna ddigon o ofidiau am flwyddyn. Rhaid fod prinder newyddion yn ngwlad y Cardies cyn y buasai Twr y Dderi yn benthyca idea Robin Sponc am de pur Llanrwst. Nid oedd tft genyf pan ym- welais a'r Twr. Nis gwn beth yw Derry Arms na thrwyn coch; ac ni fu y fath siarad rhyugom ag y myn ef i'r bobl greda. Profais y pryd hwnw fod yr eng- lyn yn wallus mewn grammadeg, ac na chynnwysai syniad y llinellau Seisnig. Os ydyw wedi annghofio, tfwnaf hyny etto. Yr eiddoch yn dra gofidus, Llanrwat. JOHN Y PACKMAN.

- .-FFESTINIOG.

BANGOR.

--LLANFAIRFECHAN.

1ABERDYFI.

LLANGWNADL.

TANYBWLCH.11

Family Notices

CYFLAFAREDDIAD YN LLE RHYFEL.…