Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
CYFAEFOB ADLONIADOL YR ANN…
CYFAEFOB ADLONIADOL YR ANN BYNWYR TALWEN, MON. FoNEDDIGION,-Yu gymmaint a bod T, A. (ysgrifenydd y cyfarfod uchod) wedi dyfod'allan yn yr agwedd y daeth yn ei attebiadify llythyr a ymddangosodd yn y Llais wythnos i'r diweddaf, credaf mai nid tag yw gadaei iddo fyned yn ddisylw. Yn gyntaf, hawdd yw deall y fod T. A. wedi ffromi yn ddirfawr yn erbyn fy syl wadau yn y llythyr crybwyiledig. On A dymnDafei hysbysu nad oeddwn yn bwi- iadu ei sarhau pan yn ei ysgrifenu, on4 ar annogaethau amryw o'r ardalwyr, Dywed T. A. yn ei lythyr esgusodol "fod yr arian wedi eu defnyddio at yr amcan bwriadedig, ar ol clirio holl dreuliau y cyfarfod, yn nyhyda rhan o dreuliau y te yn y prydnawn." Nis gwn pa dreuliau oeddyn nglyn a'r cyfarfod, oblegid rhoes pawb eu gwasanaeth ynrhad ac am ddim, oddigerth un. Nid aeth ond ychydig sylltau at y gwobrwyo, a theg a'r bonedd igoi3au a gyfranasant mor hael at y te yw dyweud na fu angen am ychwaneg naG yr oeddynt wedi ei ddarparu. Cafodd pawb eu digoni, ac yr oedd yno weddill. r Dywed T. A. mai un rheswm dros yr oed- iad ydoedd gwaeledd Marian Mon fel UP o'r pwyllgor. Diamheu genyl pe buasai poor Marian yn ei gynnefin iechyd, y bu- asai pobpeth wedi ei setlo ers talm cyn hyn. Dywed hefyd, Pe buasai Minafou yn ychydig o brophwyd, y buasai yn gwy- bod fod y pwyllgor wedi rhanu cyfran o honynt ychydig ddyddiau ar ol y cyfarfod." I pwy, tybed ? Yr esgus arall ydyw na 1 oeddynt "fel pwyllgor ddim wedi ym- rwymo i'w rhanu ar unrhyw amser pelil- nodol. Yr oeddynt at eu rhyddid i dd. wis eu hamser eu hunain." Ac felly y bu hyd nes yr argyhoeddwyd hwy. Dymunaf hysbysu T. A. fod ei brophwydoliaeth wedi digwydd bod yn gau y tro hwn, ac nad oesyr un cysylltiad rhwng Minafon a'r March Gwyn, ac nad oes arno eisieu gwy- bod dim o gyfrinaeh y pwyllgor. Angcn y plant yn unig oedd yn ei olwg pan yn ysgrifenu. Soniai hefyd am athrylith Minafon a'i gyfaill. Nis gwn pwy yw y cyfaill y soniai am dano. Faint bynag yw athrylith Minafon, mentref ddyweud yn ddibetrus y saif ochr-yn-ochr ag athrylith Mr T. A.—Yr eiddoch, mewu heddwcb, MINAFON.
,-EISTEDDFOD PWLLHELI A BEIRNIADAETH…
EISTEDDFOD PWLLHELI A BEIRNIADAETH Y SETTS. FONEDDIGION,-Hyderaf eich bod mor hoff o ledaeniad egwyddorion cyfiawnder fel na oddefai eich anrhydedd i gau allan yr ychydig eiriau a g«.nlyn. Prif amcan pa rai ydyw profi na ^[cle -byniodd y sett- markers eu hiawnderau fel rhyw gelfydd- ydwyr ereill yn yr Eisteddfod uchod. Yr oeddy gystadleuaeth yn un ddistadb. rhaid addef, ond nid ydyw ei distadled& Jnun prawf na ddylasi gael cystal chwareu teg ag un gystadleuaeth o fewn yr Eis- teddfod. Ond er mwyn tori yn fyr, i-ii wnaf ond yn unig hysbysu pa fodd yr ym- ddygwyd tuag at y dosbarth hwn o gelf- yddydwyr. Na feddylied y darllenydcl fod yr un cyssylltiad rhyngwyt fi. yn berson i'r gystadleuaeth o gwbi, ond yn unig J mod ynteimlo"dros y settsmakers oherwydd cael eu barnu yn anheg. Nid wyf yn gwybod yn mha Ie yr oedd y drwg wedi tarddu; ond ar yr un pryd yr wyf yn sicr o fod yn gwybod un o ddau beth, sef nad oedd y beirniaid yn gwybod mwy am setts nag a wyddai yr hen ferch fwyaf anwy- bodus yn Nghymru, neu jute eu bod yn fwy ffafriol i un chwarel naz Ilall, oblegid sicrheir iddynt gamgyhuddo setts un chwarel gyda chamgyhuddiad oedd yn amlwg i bawb yn y gystadleuaeth. Myn- ent eu bod yn gwybod am danynt yn well na neb arall yn y lie, yr hyn, mi dybiaf, oedd yn ddigon o brawi nad oeddynt yn gwybod dim am danynt; ac er rjwyn chwareu teg i'r settsmakers gallaf sicrhau yn gydwybodol y daliai y setts hyny a gam- gyhuddwyd i'w cystadlu ag unrhyw setts nid yn unig yn Eisteddfod Pwllheli, ond hefydyn Ngogledd Cymru. Gan y credaffod y Llais yn brin o ofod ar hyn o bryd, nid ymhelaethaf, ond yn unig ofyn i bwyilgor yr Eisteddfod paham y meiddiasent in- sultio y settsmakers mwy na rhyw gelfydd- ydwyr ereill, trwy osod rhyw fodau i'w barnu mewn tywyllwch; a chymmsred pwyllgorau eisteddfodol wers oddiwrth weithredoedd fel hyn, fel na byddo iddynt adael yr un gystadleuaeth yn hollol i dru- garedd anwybodaeth y beirniaid. LLAIS CYDWYBOD.
! COPA Y RHIW.
COPA Y RHIW. Ar bob cyfrif, goddefwch i mi eicn llon- C) gyfarch ar eich buddugoliaeth ogoneddus yn cipio oddiar brif gewri yr oes gadair eisteddfodol y Awyddyn fythgofiadwy 1875. Clywais amryw linellau o'r- awdlau eolledig, ac y mae yn rhaid eich bod c IWI wedi eich ysbrydoli bron i allu eu ca mor hynod anrhydeddus. Hyderaf y bydd i'r llu beirdd a'ch annerchodd odJiar y llwyfan fod mor garedig ag anfon eu 0 z-, cynnyrchion i mi, cyfeinedig fel y can! A o Fon, Post Office, Bangor, fel y p 0 caffwyf yr anrhydedd o'u cyflwyno mewn gwisg argraffedig yn y Llais yr wy.. nesaf. Da chwi, feirdd anwyi, gwnewch hyn o caredigrwydd unwaith mewn oes a mL Y mae genyf rai mewn llaw ond cadwaf hwynt nes y ceir y cyfan yn ^Dyma fi. mewn cystad-leuaetn flodeuog 1) t:¡ lawn heddyw-flower show yn Ellesmtire, ac yn wir, y mae yma gasgliaa auiaeiciiog o bob math o fedelau wedi eu plethu an lliwio yn hardd gan law ofalus natur. 0 ochr Caer, Birkenhead, a Llyidleihad, lie .digon del a difyr ydyw, yn cynnwys oddeutu mil o drigolion. y mae yma fa suae h helaeth yn cael ei enaiio yn mlaen mewn pob math o lawa a haiam. Taraw heddyw ar ben frawd doniol tu- hwnt i bawb bron a gyfarfyddais yn fy oes am adrodd engiynion talcen slip, a dyma engraifft o honynt:— 0 Lcegar daeth teiga,r tew—ac elephant Biwydd heb ddim blew Un Ilwyd oedd y Ilew, A lot o greaduriaid ereill go dew. Y mae y pedair llinell anfarwol yna yn sicr ddigon yn taflu yr Archfardd Cocos- aidd i'r cysgod dros byth. Dyma etto bennill o waith y brawd ei hunan :— Y ganwyll bwt sy'n hynod dwt I ferched drwsio sana Ac mi gewch yn bynod braf, Ond i chwi roddi dima. Ond dyna ddigon o'r talcen slipyddol. Er mor dlws a dymunol yr olwg ydyw y myrdd golyfeydd o ochr sir Gaer,. Pa wlad, wedi'r siarad, sydd Mor lln a Chymru lonydd." Ap o FON.
I ! ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. CYLCHWYL Ylt ODYDDION. Dydd LInn diweddaf oedd diwrnod cylchwyl yr Od- yddion. Ni chedwir y gylchwyl hon ond bob tair blynedd am na chaniateir dim o arian y gyfiinfa at y draul. Ffurfiasant yn orymdaith yn ngwaelod Heol y Wig ac aethant oddiyno i Eglwys Sant Mic- hael, lie y traddodwyd pregeth ar yr achlysur. Ar y blaen" chwareuai y Pier Band, yna canlynai swyddogion ac aelodau cyfrinfa Sant David's" ac aelodau cyf- rinfa Temple of Love," wedi hyny deuai semclorl bres Pontrhydybeddau, dan ar- weiniad John Edwards (Tenorydd Dyfi), a chanlynai swyddogion ac aelodau cyf- I rjnla Eheidol," yr oil yn orymdaith wych a iluosog. Dechreuwyd am ddau yn v prydnawn ar y ciniaw arddercnog a ddarparesid gan Mr Henry Lloyd, White Hart. Wedi iddynt oil gael eu digcni traddodwyd nifer o annerchiadau gan y Parchn. W. H. Lloyd, D. Williams, J. J. Griffith, Mr Gibson, a Mr Williams, ein anrhydeddus faer. CYNYHERDDAU.—Nid oes unrhyw glefyd wedi meddiannu ein tref y liwyddyn hon hyd yn awr, pryd y tybiwyf y meddiennir hi a chlefyd y cyngherddau. Pa. ddaioni yn y byd an ddeilliaw o gymmaint o gyng- herddau ? Gwir fod rhaid wrth rywbeth dreulio oriau y nos, ond ai tybed a y11 rh aid wrth yr un peth o hyd ? Cynneh l' cyngherdd nos Lun gan aristocrats y gym- mydogaeth, yr elw i fyned at dalu traul y Cricket Club; nos Fercher, cyngherdd wythnosol y town band; wedi hyny cyng- herdd gan Madame Williams, yr elw iddi ei hun a chyngherdd Miss Edith Wynne nos lau nesaf. Mae yn wir ddyledus ar, nom groesawu Miss Wynne. Nidyn atnl y ceir y fraint o glywed y brif gantores 5 chantorion a chantoresau mor dalentog ag sydd yn ei chanlyn. Ond beth am Y crach gyngherddau a gynnelir yma mor fynych ? Pwy eisieu gwneud cyngherdd i ddiddyledu Cricket Club sydd? Onid oes gwir anghen am.rhywbeth i ddiwallu ang- henion y Iluoedd tlodion sydd yn ein tref? Darllenir yn newyddiaduron yrwytbpoS ddiweddaf fod y clafdy (Infirmary) bron rhoddi fyny yr ysbryd am nad oes ariall at ei gynnal. Gresyn fod peth mor a." genrheidiol a hwn yn darfod, pan y gwnelt cyngberddau er elw Cricket Club, sothacb mewn cydmariaeth i'r peth a enwyd. CAMPAIJ EHEDEGOL.— Cynnaliwyd y rhe,, tlegfeydd hyn ddydd LIun diweddaf yn Y Cricket-field. Casglodd lluaws i'r man lIe y cedwid hwynt yn gynnar yn y prydnaw-ns ond ni ddechreuwyd hyd dri o'r gloch oherwydd nad oedd pethau wedi eu dar" paru yn drefnus. Yr oedd lluaws o redeg wyr wedi ymgynnull, a phob un MOWIU gwisg bwrpasol. Ennillodd y rhai can- lynol wobrwyon F.Jones, J. Stephens, B. Rowland, A. Rowland, Aberystwyth; E. Benbow, Llanidloes; a gwr dyeitht o Lundain. Nid oedd ond ychydig ar Y maes yn ystod y dydd, ond edrychai can- noedd lawer oddiar y Buarfch gyfel'byØ' Cynhyrfodd hyn y llywydd yn fawr, a cheisiodd eu danfon i waered, ond canf11 yn fuan nad oedd ei fygythion na'i olyg011 ynfoddioni ddychrynu neb ohonynt. Par,' fyddodd y dydd yn waeth na'i trwy i rai o'r rhedegwyr godi cynhwrf ymladd. Cafodd un o'r enw Foster el anafu yn dost. Cynnnelir bron yr u11 campau etto yfory.
Family Notices
GENEDIGAETaAU. Awst 29, priod Mr Thomas Batten, Chapelpisce, Dinbycb, ar ferch. b, Awst 28, priod Mr John Evans, Green, ger Dillbyc ar ferch. at Awst 24, priod Mr David Jone3, 13, Lovat-stree'j fab. PRIODASAU. Awst 30, yu swyddfa'r cofrestrydd, Llanrwst, drwydded, Mr David Davies, Ty'uhadog ucha, 0 ddelen, & Miss Jane Pierce, Cyfyng, Dolyddelen. gr Awst 31, yn eglwys Llanfihangel, ger Rhuthyn; HarrisoD, bargyfreithiwr, o Lundain, Miss I merch hynaf Watkin Williams, Yew., QrO., Draw. Awst 26, yn flay, sir Frycheiniog, Mr-William 90 Glasbury, a Miss Anne Davies, o'r un lie. u Awst 28, yn Nghapel Mawr, Dinbych, Mr Jones, Llwyn Erwyn, Llanfairtalhaiarn, d Miss beth Davies, Nant-y-bleuddyn, Llansannan. ((( Awst 28, yn Nghapel Mawr, Dinbych, Mr 0a Roberts, Bhuddlan, ft Miss Alice Roberts, Bryn Carr Llanelwy. t r.ft Awst 28, yn swyddfa'r cofrestrydd ILianrvvs William Roberts, Beudybacb, Dolyddelen, â. Catherine Williams, Pen y Gelli, Dolyddelen. MARWOLAETHAU. 8 Awst 24, yn 76 mlwydd oed, Mr John flug Blaeneaeau, Penllwyn, Ceredigion. ■ e y Awst 29, Esther, anwyl briod Mr ThomaS *r clochydd, Henllan, ger Dinbych, yu 71 mlwydd g Awst 27, yn 31 mlwydd oed, ar ol dau gystudd caled, Mrs Anne Rees, Machpelah Rhyddlan, Llanwenog, a phriod Mr Benjamin AgVf>) gyriedydd yn ngwasanaeth Herbert D. EranS,_ Highmead. Ddydd Llun, claddwyd ei gweddilli01? gtff mynwent Brynteg, pryd y pregethwyd ar yr aC hooli. galarus gan y Parch. D. Williams, RhydJ £ Gadawodd briod serchog a merch fechau i alar11 Awst 20, ya Bryntyrcb, Capel Curig, Ellen, 9 0& briod Mr VA". E. Parry, agent yn Capel Curig Slato 53 Slab Co., Llech-chwarel y Rhop, Capel Curig, J11 mlwydd oed. PELENAU HOLLOWAY.- Cyfaill y MercAed.-Y ti
Advertising
medaygiDiaethau rhyfeddol a effeitbiwyd gau y P .dits hyn, wedi eu galluogi i wrthsefyll y gwrthwyns^'c^r mwyaf gerwin am flynyddau meithion. Qwet^ j ai ogir hwynt ar yr aelwydydd mwyaf distadl yn yn y tai mwyaf gorwych a chyfoethog, Y mae Pe ^v]l Hollo way yn gweithio puredigaeth trwyadl yn gyfansoddiad, heb annrhefnu, gwanhau, nac i y rhyw fodd arall ymyraeth a gweithrediad naWfl0 tJi peiriannau. Cydnabyddir hwynt fel y moddion %°ruyd gynnyrchu chwant arn fwyd, i gryfhau, ac i roddi *el' yi» perffaith i'r cyfansoddiad mwyaf egwan. Y a*e° jil rhoddi liiw ac adnewydd-deb i'r gwyneb, a rhinwe-dd meddygiaiaethol, yn <k#?sfreiddio o'r CQ{o& soddiad yr anhwylderau hyny a fu yn foddion i miloedd o ferched i'r bedd yn gynt aa'u hamser, 1; øedÍ pe buasent wedi defnyddio y pelenau hyn, a iuasa1 cael eu hachub o grafangau angeu. ffi FACHAD O ANIUVI'LDEKAU Y FREST, AC ASTH^JJP ANWID EsQEULUSBDia DBWY WAFFRENAU PULILO^AD DR. LOCOCK.—Oddiwrth Mr Robinson, E? Trinity-street, Hull.—Y mae eich Waffrenau Pa n aidd yn wir ragorol mewn anhwylderau y freS 0 mejvn achosion o asthma ac anwyd hir es mo eat yn gweithredu fel cyfaredd, gan ebrwyd^ hau y frest, a rhoddi i'r dioddefydd gwsg per#1.. y# adfywiol, heb berygl mygu. Yr wyf yn ddy^.1. \($ clywed tystiolaethau i'w heffeithiolrwydd, e moddion arall fethu yn hollol, &c., &c. Mewn A ma, Darfodedigaeth, Bronchitis, Peswch, An ie'voll cymalau, a phob Anhwylder Hysteraidd a Jt fiø6 rhoddant esmwythad uniongyrchol. Y mae iddy° pc.i peraidd. Ar werth gan bob cyfferydd am Is l £ c> 4s 6c, ac lis y blychiad. to" CAUTION.-In calling the attention of the Trad (If recent decision in the House of Lords, in tha c rigbb Wotherspoon v. Currie," whereby our to the use of the word "Glenfield" n connect10, Starch is indisputably established, would also i11 that this decision renders the sale of the starch the defendant illegal, and will subject the seller01 Penalty of 210,000. We beg to intimate to thOS fcoø1 may have been induced to buy it, that to save the11 ^jei» total loss we will allow 20 M per cwt. or it, at field ibtarch Works, Paisley, in exchange for the » up £ >0 Article, at the current price. This will entail a 1 jj f0' ourselves, as the packets will be broken up and Waste Starch but it will at the same time be the ^0o< of rendering the Article useless for further d po re Any information that will lead to conviction warded -B. Wotherspoon and do. -r'R Argraffwyd a Cyboeddwyd gan y Perchenog, WHITWORTH DOUGLAS, Argrafifydd, &c., 1160 Bangor, dyddGweusr, Medi 3, 1875.
:.-YSGOL Y FAENOL, BANGOR.
(Nid ydym yn gyfrifol am syniadat6 em gohebwyr.) YSGOL Y FAENOL, BANGOR. v., FONEDDIGION,— Ymddangosodd ysgrif pn "Un am addygg i'w blant" yn eich rhifyn diweddaf, yn cofnodi arholiad y-r ysgol uchod. Ynddi rhoddir y clod am ei llwyddiant i'r athraw presennol, yr hwn a fn ond ychydig dros bedwar mis yn ei '¡ gofala cyn yr arholiad, tra y bu ei rag- 7flaenydd saith. Yr wyf yn bell o iselbrisio llafur a diwydrwydd yr athraw presennol, ond goddefwch i mi, er cyfiawnder d'i rag- flaenydd, ddodi y ffeithiau canlynol o fiaen eicblluosog ddarllenwyr. Cafodd r diweddaf yr ysgol ers tair blynedd yn ol mewn cyflwr isel, fel y dengys y reports, ond cyn ymadael, yr oedd yr arolygwyr wedi dyweud am dano :—" Gwaith cydwy- bodol, athraw rhagorol Mae yr ysgol wedi gwneud cynnydd boddhaol iawn er yi arholiad diweddaf." Am saith mis 0' Uwyddyn sydd newydd ddybenu, llaluriodd yn galed, ac appwyntiwyd ef allan o nifer mawr yn athraw ar ysgol bwysicach. Daeth yr athraw presennol i mewn i'w lafur a'i lwyddiant. Ai teg cymmeryd clod llafur blwyddyn am waith eithaf pum joaas 2 Yr oedd yr average attendance a'r grant yn uwoh lawer yr arholiad cyn y r diwedd. Gwyr pawb fod ysgolion y plwyf yn llawer llawnach dan j bwrdd presennol na'r diweddaf, am y rheawm, efallai, "new brooms sweep elean. "Rhodder clod i'r hwn y mae clod yn ddyledus, ac na cheisier clod ar draul difrio rhai ereill. Nid yw ychydig fisoedd yn rhoddi prawf teg ar neb fel-ysgolfeistr. fcywedwvd yn fy nghlyw gan un o arolyg. wyr ei Mawrhydi, y cymmerir llawn clwy iynedd i athraw wneud ei argraph ei hun ysgol. XJN AM GYFIAWNDEB.
Y GYSTADLEUAETH GORAWL YN…
Y GYSTADLEUAETH GORAWL YN MHWLLHELI. FONEDDIGION,-Byddaf yn dradiolchgar os caniatewch i mi ddyweud gair trwy goi- ofnau eich newyddiadur poblogaidd gyda golwg ar y gystadleuaeth fawr uchod, hyny yw, gofyn paham na fuasai y beir- niaid galluog (sef Owain Alaw a Pencerdd America) yn dyweud yn mha le yr oedd gwallau i'w cael ar y Philharmonic So- ciety. Canys ni ddywedodd y beirniaid ddim yn eu beirniadaeth ond fod Oor Eryri wedi cymmeryd un peth i fyny yn well na hwy. Fy marn i ydyw fod Cor y Philharmonic wedi canu yn wir dda, ac felly yn ngolwg pawb arall hefyd, ond y beirniaid; ac mae arnaf eisieu gwybod, os yw yn bosibl, yn mha fodd y darfu Cor y Waen eu curo. CHWABEU TEG.
AT ME 0. JOSEPHUS HUGHES,…
AT ME 0. JOSEPHUS HUGHES, CAERGYBI. SYR,—Yn y rhifyn diweddaf o'r Llais, gwelais bybysiad am eich ymuniad priod- asol, a llwyddiant i chwi yw dymuniad fy nghalon. Ond hyn sydd genyf eisieu ofyn i chwi, gan obeithio y maddeuwch fy hyf- dra. Faint sydd o amser ers pan ydych wedi sicrhau y ffugenw Owain Arfou fol sylfaen pinacl eich enwogrwydd ? Gan fy mod i yn defnyddio yr un enw, ac yn meddu hawl iddo wrth fy nghynnyrchion iselwerth, naturiol ydyw i beri camddeall- twriaeth rhwng fy iselder i a'ch uchelder chwi. Os oes genych hawl o'm blaen i i'r enw, ymostyngaf i'r llwch i edifarhau. Yr eiddoch mewn tymer dda, OWEN JONES (OWAIN ARFON), Bangor.
-.--------------YSCEIFIOG.
YSCEIFIOG. Mae ysgol Sul gref a lliosog yn perthyn i eglwys y plwyf hwn, ac ysbryd selog a llafurus yn dylanwadu ei haelodau. Ar yr amser hwn o'r fiwyddyn yn gyffredin y cynnelir ei gwyl flynyddol, a dydd Mawrth diweddaf daeth y plant a'r athrawon sydd ynddi, tua'r nifer o 130, yn nghyd i gael eu treat arferol ode a bara. brith. Pe buasai'r hin yn fwy ffafriol, buasai y CWID- peini yn cael eu gwledd ar y maes, ond oherwydd fod y boreu a chanol dydd mor wlyb, hwy a'u cawsant yn yr ystafell hardd a helaeth sydd newydd gael eihychwanegu at y National School. Yr oedd yr ystaiell yn llawn, a chafodd pawb oedd yno eu boddhau. Ar ol te, aethant gyda'u gilydd i bare y Rectory, i dreulio yr hyn oedd J n ol o'r dydd, ac oherwydd fod yr hin wedi gwellhau, treuliwyd prydnawn difyrus wrth chwareu cricket, ac mewn chwareu- yddiaethau ereill arferol ar y fath achlys- uraD. Ar y diwedd danfonwyd baloon i fynu, yr hyn oedd yn olwg tra newydd a rhyfedd i'r rhan fwyaf o'r to ieuaingc oedd yn bresennoi, a r hyn a wnaed yn ledrus ac yn llwyddiannus iawn. Cyn ymadael, cynnygiodd y Parch. D. Williams, curad Ysceiliog, ddiolch y cwmpeini, yn nghyd a three cheers i'r Parch. D. Morgan, y rector, a Mrs Morgan, am eu caredigrwydd ac yna ar ol canu God save the Queen," aeth pawb i'w cartrelleoedd wedi eu llwyr foddhau.
CAPEL CURIG.
CAPEL CURIG. BAZAAR.—Dydd Mercher a dydd lau, wst 25am a'r 26ain, cynnaliwyd bazaar yn Nghapel Curig, dan arolygiad Mrs Thomas, y Ficerdy, ar ran cronfa adeiladu eglwys fechan a lie^afol St. Curig, yr hon weithian sydd Jil dechrcu adfeiiio gan henaint, canys seiliwyd ei muriau trwch oesau maith yn ol. Hwn ydyw y bazaar cyntaf a gynnaliwyd, ond odid, yn y fro hon erioed. Mae decht-euad i bob- peth, a throdd dechreuad y newydd-befh.. hwn yn Nghapel Curig allan yn dra, llwyddiannus, ae yatyried yr anfanteiskm y llafuriai hyrwyddwyr yr ysgogiad clod- wiw danynt. Bwriadwyd cadw y fancy fair yn ngerddi prydferth y Royal Hotel-, Capel Curig; ond oherwydd rhyw anffawr yn nglyn a throsglwyddiad y marquee, yd hon a aeth ar gyfrgoll ar y ffordd, bu raid encilio i'r Ysgoldy, a gwneud y goreu o'r gwaethaf. Trefwyd yr Ysgoldy yn dde- heuig ar fyr amser, ac addurnodd Mr Morris y muriau yn hynod ddestlus gydag arwyddeiriau priodol a dail bytholwyrdd a bloda i. Ehoddwyd anrhegion gan wa- hanol bersonau o wahanol fanau tuag at gyfoethogi'r gronfa, ond cymmarai ormod gofod i ni enwi y caredigion hyn, a des- grifio eu rboddion amrywiol, amserol, a gwerthfawr. Trefnwyd y cyfan yn bedair stall, ac yr oedd yr olwg arnynt ar agor- iad y bazaar, prydnawn ddydd Mercher, yn w¡r hardd. Ni welwyd golygfa fwy blodeuog o fewn cof yn y fro. Rhoddodd Mrs Price, gynt o'r Royal Hotel, Capel Curig, stall gyfan, yr hon a gynnyrchodd gros bymtheg punt a deugain; ac yn ychwanegol at y rhodd hon, tanysgrifiodd y foneddiges haelionus uchod ugain punt tuag at y building fund. Er symmud^ or fro, nid yw serch Mrs Price wedi diifodd tuag Eglwys Curig Sant; y mae gwres ei chariad at dy beddrod ei thadau mar fyw ag erioed. Cynnorthwyid Mrs Price gan Miss Price, 14, Hough Green, Caer Miss Roberts, Caer; a Miss Da- vies, Llanelwy (merch Gyndeyrn), Gweithiodd Miss Price, Bersham Hall, Gwrecsam, yn gampus, a chynnyrchodd ei stall chwaethus swm da o'r llwch melyn." Cynnorthwyid hi gan ei chwaer. Yr oedd myn'd da gyda'r toy-shop, ac arddangoswyd casgliad gwych o blanigion a rhedyn. Cynnwysai stall Mrs Thomas, Ficerdy, a stall Misses Dew, Wellfield House, Bangor, amrywiaeth mawr iawn, yn cynnwys gwaith edau a nodwydd o bob lliw a llun, a cheinion celfyddyd. Casgl- odd a rhoddodd Mrs Thomas yn holaeth, a chynnerchodd y ddwy faelfa hon hefyd symiau anrhydeddus. Cynnorthwyid Mrs Thomas yn ystod y bazaar gan Mrs Ed- wards, Ficerdy, Caernarfon Miss Owen, Eailway Station, Bettwsycoed; a Miss Wilson, Llundain. Dydd Gwener, caf- wyd trannoeth gwedi ffair i werthu y gweddillion, pryd y rhoddwyd cynnorthwy nid bychan gan Mr W. Price, Rhyl, yr hwn a gymmerth ran fywiog yn ngweith- rediadau y bazaar o'r dechreu i'r diwedd. Dylem yma gydnabod caredigrwydd a chynnorthwy parod amryw o'r ardalwyr, ac yn eu plith Mr Thomas Williams. Llugwy Terrace. Cafodd y bazaar gefnog- aeth helacth gwreng a bonheddig, a chlir- iwyd tua chant a hanner o bunnau tuag at ail-adeiladu'r eglwys. Huriwyd gwas- anaeth seindorf bres Llanrwst ac Ehed- ydd Elen, y telyuor dall, ddydd lau, ac ychwanegasant yn fawr at fywiogrwydd gweithrediadau y dydd.—Nos Fercher, cynnaliwyd cyngherdd yn yr Ysgoldy, yn benaf gan gor yr Eglwys, dan arweiniad ddeheuig Mr Robert Owen. Cafwyd can gan yr hen arweinydd, Mr David Evans, yn awr o Saltney, a llawen oedd gan yr aelodau ei weled yn eu mysg. Chwareu- odd y seindorf bras yn y cyngherdd nos lau, a chafwyd yn ychwanegol wasanaeth cerddorol amryw foneddigesau a bonedd- igion. Yr oedd yr Ysgoldy yn dan sang o foreu hyd hwyr dydd lau. Yn mysg cyw- reinion y ffair, a'r cywreiniaf hefyd, oedd arlun o Eli a Samuel, rhodd a gwaith Haw Mrs Matkins, penteuluyddes Gwydir. Pwrcaswyd water-colonr sketch ysblenydd o Pont-y-pant—rhodd a gwaith Jackson Curnoch, Ysw., Bristol-am bris uchel gan Mrs Price, 14, Hough Green, Caer. Anfonodd John Beech, Ysw., Llanrwst, amryw fan landskape sketches i'r bazaa?-- golvgfeydd ar afon Gonwy. Edmygid rhoddion sylwedclol Mrs Dasent, Llun- dain. Nid oedd rif ar yr anrhegion o bob parth ac oddiwrth bob gradd.- Un oedcl yn bresennol.
AGORIAD NEUADD NEWYDD CAER,GYBI.
AGORIAD NEUADD NEWYDD CAER- GYBI. Agorwyd y Town Hall newydd yn Nghaergybi gyda rhwysgfawredd arbenig ddydd Mawrth diweddaf drwy gynnal grand musical festival;" yn mha un y cymmerid rhan gan y cantorion adna- byddus canlynol :-Miss Edith Wynne, Miss Kate Wynne-Matthison, Xiss Waugh, Mr John Thomas (Pencerdd Gwalia), Mr Lewis Thomas (Llundain), Mr James Sauvage, a Thanymarian. Yr oedd y cyngherdd prydnawnol yn cael ei gynnal am hanner awr wedi dau, a llyw- yddid gan Mr Morgan Lloyd, ac arwainid yn ddeheuig gan Tanymarian. Yn ystod y cyfarfod, darllenodd y llywydd amryw lythyrau esgusodol oddiwrth foneddigion a fwriadasent fod yn bresennoi—yn mysg ereill, Cadben Hampton Lewis, Cadben Verney, Mr Richard Davies, &c., pa rai a ddymunent lwyddiant yr anturiaeth, ac a anfonent roddion pwysig i'r gronfa. Yn y cyfarfod hwn yr oedd y canu yn rhag- orol. y cynnulliad, er nad yn dra lluosog, etto yn cynnrychioli boll brif deuluoedd yr ardaloedd, yn ogystal a phob plaid grefyddol a pholiticaidd, yr hyn a brofai yn eglur fod calonau pawb yn cyduno er dymuno llwyddiant yr anturiaeth. Dech- reuwyd y cyfarfodhwyrol am hanner awr wedi saith, pryd yr oedd y neuadd eang yn orlawn. Ofer fyddai sylwi fad yr all wedi cann yn deiINvilg o honynt eu hun- afn. Dichon y gellid nodi mai dyma y tro cyntaf i Mr Sauvage wneud ei ym- ddangosiad yn y cyrau hyn, a chanodd gyda'r fath lwyddiant fel ag i wneud ar- graff arhosol ar feddyliau y trigolion, a sonir am gynnal yno un o'i fudd-gyiig- herddau, o ba gefnogaeth y mae yn wir deilwng. Bernid fod yn bresen- nol yn y cyngherdd o ddeuddeg i bymtheg cant, ac ystyrir fod yr ystafell wedi ei chynllunio yn rkagorol gan Mr Thomas, Caernarfon at amcanion cerdd- orol.
.WAENFAWE.
WAENFAWE. Awst y 30ain, gwahoddodd y Parch. John Parry, M.A., iicer St. Luke, Wolver- hampton, athrawon ac aelodau Ysgol Sul yr Eglwys yn y lie uchod i'w breswylfod hafaidd, sef Gwastadfaes, pryd yr anrheg- wyd hwy a the a bara brith. Yn ystod eu hymweliad a'r He, mwynhaodd y plant eu hunain mown chwareuon diniwed, a chanwyd ychydig o ganiadau difyrus. Hefyd, cafwyd annerchiadau gan y Parch. E. j. Edwards, B.A., a chan#Mr Eobert Price, Coleg y Drindod, Dublin. Yr oedd yn bresennoi y Parch. J. Parry, Mrs J. Parry, Mrs Parry (Gwastadfaes), a'r Parch. R. J. Edwards, curad y lie. Ar ol rhoddi llongyfarchiadau bloeddiadol i roddwr y wledd, aeth pawb i'w cartrefle- oedd wedi treniio prydnawn difyr a hynod o adeiladol.—Uymro.