Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

PEIFYSGOL CYMRU.

News
Cite
Share

PEIFYSGOL CYMRU. Yn y Daily Telegraph am yr lfeed, o JRagfyr ymddangosodd. llythyr tra Ifafriol i'r coleg uchod oddiwrth y Proileswi- Leone Levi. Gan fod pob Cymro gwladgar yn teimlo dyddordeb yn y Brifysgol, a bod Mr Leone Levi yn un 0 ddysgedigion enwocaf Lloegr, yr ydÿm yn cyhoeddi cyfieithiad 0 brif ranau ei iythyr pwysig1 At olygydd y "Dcâly Telegraph Syr,—Tra y gwneir ymdrechion, tan wenau brenhinol, i ddarparu a llaw hael gogyfer ag angenion cynnyddol Prifysgol Edinburgh, a thra y mae y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Hyfforddiant Gwyddorol wedi sefydlu i fesur hawl Prifysgol Llundaia, Coleg y Brenin (Llundain) ac Owen's College, Manchester, i gefnogaeth genedl- aethol, ymddengys ymdeimlad o gyfiawn- der yn hawlio na byddo i'r ieuengaf o'n sefydliadau addysgol, Prifysgol Cymru," a agorwyd yn ddiweddar yn Aberystwyth, aros yn hollol annghohedig. Mae i'w ofidio yn iawr mai prin yr oedd y coleg yn agored pan oedd y Dirprwywyr Bren- hinol yn dwyn yn mlaen eu hymchwiliad- au; eithr nid yw yn rhy ddiweddar i osod allan ei swyddogaethau arbenig, a thrwy fy mod. wedi ymweled ag efyn ystod iy ngwibdaith ddiweddaf yn Nghvmra ramant- us, yr wyf yn anturio galw eich sylw at ei sefyllia bresennol a'i ragolygon. o γ Yr oedd yr angenrheiclrwydd anhebgorol am osod 0 fewn cyrhaedd ieuenctid Cyniiu y moddion i dderbyn hyfforddiant gwydd- onol uchel, ac ar delerau a'i gwnelent yn gyrhaeddadwy i'r miloedd, ers ysbaid maith yn pwyso yn drwm ar feddwl y Cymry mwyaf gwladgar, eithr ni chym- merodd y symmudiad iIurf ymarferol tan 1867, pan y-cafwyd cyfleusdra ifafriol i brynu adeilad oedd. yn mhob modd yn gymmwys i'r perwyl—yn hynod ganolog o ran safie ac yn hynod gydeus tuag at bob angenrhaid dichonadwy. Cyfeiilion y coleg, yn egniol a pharod i achub y cyfleusdra, a ddaethant yn mlaen yn ewyllysgar gyda chyfraniadau ardderchog. Ffurhwyd cronfa ddiogeiiadol, pennodwyd a,thra;t,von, penderfynwyd. agor y coleg, a dechreuwyd ar y gwaith mewn gwirionedd ar y Died 0 Eagiyr, 1872. Pob anrhydedd i'r rhai, wedi iddynt unwaith osod eu dwy- law ar yr aradr, ni adawsant i nac oediad na digaiondid lesteirio ea iiwyddiant. Mai hwynthwy o weithredu felly a fuont ac a ydynt yn wir gyfeiilion Cymru nis gall foct yr un matn 0 amheuaeth, canys y mae ar Gymru angen cryn gynnydd yn ei haddysg. Y mae yn eithaf adnabyddus fod cyfartaledd y meibion a merched yn yr amser a aeth heibio a lawnodent y cof- restr priodasol a, marciau yn fwy yn Nghymru nag yn y rhan fwyaf 0 siroedd Lloegr. Yn ychwanegol at hyny, yr oedd yn beth rhyfedd had oedd yn yr holl wlad yn mesur yn agos bum miiiwn 0 erwau ac yn cynnwys dros filíwn o boblogaeth, gymmaint ag un athrofa gyhoeddus i ddysgu yr uchel wybodaethau, oddieithr yn wir y sefydliadau duwinyddol a berth- ynent i'r cyfundebau crefyddol. Mae y Prifysgolion Seisuig yn mbell 0 gyrhaedd y mwyafrif o bobl Cymru, ac ychydig sydd yn nieddu y moddion i fyned yno. Etto nid oes unlle a mwy o angen gwybodaeth wyddorol o amaethyddiaeth nid oes un- man y gellid yn fwy priodol gyfranu hy- fforddiant mewn mwnyddiaeth nid oes unman ag y byddai lledaeniad gwyddon- liaeth naturiol yn fwy buddiol nag yn Nghymru. Pa un bynag a edrychir arno 0 safle gwladgarwch pur neu ynte oddiar ystyriaethau cenedlaethol eangach, yr oedd sefydliad athrofa wyddorol yn Nghymru yn beth tra dymunoJ, ac a dry allan, yr wyf yn byderu, yn fendith neill- duol. Nid gorchwyl ysgafn, pa fodd bynag, yw sefydlu coleg. Dywenydd yn wir yw deall fod arian y pryniad yn ddiogel, ac am ddyled o 7,360p. oedd etto yn di- gwydd ar y 30ain o Fehefin, 1873, fod swm llawer mwy wedi ei addaw. Ond prin y gallwn ddisgwyl i'r brwdfrydedd a ddangoswyd ar sefydliad cyntaf y coleg barhau am unrhyw ysbaid maith 0 amser, neu y bydd taliadau yr efrydwyr byth yn ddigon i wneud y coleg yn hunan-gyn- naliol. Hyd yn nod yn bresennol, y mae y coleg wedi ei gynnysgaeddu yn anmher- ffaith. Nis gellir gwneud Hawer i ddenu y talentau angenrheidiol gyda thraul flyn- yddol o ddim ond 1,600p. mewn eyflogau i'r athrawon, llyfrgell y coleg, ysgolor- iaethau, ac exhibitions. A phan y cofiwn y gelwir, dan y trefniadau presennol, ar yr un athraw i ddysgu Sanscrit, I Ffrangcaeg, Almaenaeg, ac Italaeg, ac ar I yr un athraw i ddysgu physiology, zoology, daearyddiaeth naturiol, daeareg, llysieueg, a fferylliaeth; addefir fod yn ihaid I gwneud galwad am adnoddau cynnyddol os yw y goleg i ddyfod i fyny 0 gwbl a dis- gwyliadau ei gyfeiilion. Hyd ymLt y mae pohl Cymru wedi gwneud rhyfeddodau. Oddiwrfch eu cydwladwyr yn Llundain, Manceinion, Lerpwl, a'r holl brif leoedd lie yr ymgynnulla y Cymry, mae pwyllgor y coleg wedi derbyn proiion sylweddol 0 gydymdeimlad, a gellir disgwyl mwy oddiwrthynt mor fuan ag y daw gwir ddefnyddioldeb y coleg yn hysbys. Ond yr wyfyn ofni y gall ymddlbyniad hollol ar y cyfryw gefnogaeth fod yn beryglus i gadsrnid y sefydliad, a'r cwestiwn y rhaid i'r pwyllgor ei ystyried ydyw, yn mha fodd ac ar pa dir y gallant wneud cais teg am gymmmtii y Wladwriaeth i'r perwyl. Yr wyf yn tybied fod y dydd wedi myned heibio pan y gall y Llywodraeth, gyda chyssondeb, ymgadw draw oddiwrth addysgiaeth cenedlaethol. Mae ei gweith- rediad yn ystod y dsngmlynedd ar hugain diweddaf wedi gosod i fyny safon nas gall gilio oddiwrtho, a chyda y nesaf peth i gydsyniad unfryclol y genedl, addefir erbyn hyn nas gall unrhyw arian gael ei wario yii well na'r livi-i ii i"D'detii- er hyrwyddiad addysg, celfyddvd, a gwyddoniaeth. An- ffawd yn hytrach na bendith yw fod Cymru wedi bod cyhyd cyn gwneud cais yn y cyfeiriad hwn. Pa beth y mae y Llywodraeth wedi ei wneud i ranau ereill o'r Deyrnas Gyfunol ? Prifysgol Llundain a ddechreuodd dynii oddiar y Llywodraeth yn 1839, ac o'r pryd hwnw y mae wedi derbyn oddiwrth v Wladwriaeth uwchlaw 200,000p mewn rhoddion blynyddol, a 120,000p tuag at yr adeilad newydd. Prif- ysgolion Ysgotland a gynnorfchwywyd gyntaf yn 1836, ac er y pryd hwnw, trwy bleidleisiau blynyddol y maent wedi cael 480,000p, heblaw 140,000p at dreu'ion ad- eiladu yn Q\n sgow ac Aberdeen. Iwerddon a dderbyniodd roddion mawriontuagat Go- leg Maynootli, a rhoddion mwy fyth tuag 1) In at Golegau y Frenbines. Yr wyf yn sicr na bu yn un lie or-haeifrydedd ar ran y Wladwriaeth yn y rhoddion hyn, ac yr wyf fi fel un yn cydymdeimlo yn drwyadl a'r prifysgolion a'r colegau hyny sydd mewn gwirionedd yn ymdrechu am eu bodolaeth, yn enwedig lie y maent yn ym- drechu darparu-yr hyfforddiant goreu sydd 1 -7 yn ddichonadwy ar delerau ddigon isel fel na byddont yn ymarferol yn cau neb allan. Ond yn ddilys, ar ol yr hyn a wnaed i Loegr, Ysgotland, ac Iwerddon, nis gellir dwyn yn mlaen un rheswm paham na ddylid gosod Cymru ar dir cyffelyb. Ac ni byddai yn deg ychwaith osod unrhyw ammof-lau yn nglyn a rliodd i'r Brifysgol yn Aberystwyth, y rhai nis gellir cydymffarfto a hwynt ond ynvmifg! gan yr |hen brifysgoliok ac athrofeydd. Nid yw hyfforddiant gwyddonol yn cael ei gyfranu yn awf ond mewn ptinder, ond caiff ei gymmeryd i fyny o ddifrif cygyntecl ag y cryfheir y coleg. Dygwyd yn mlaen fel gwrthddadl yn erbyn. sefydlu Prifysgol yn Nghymru ei fod yn tueddu i feithrin ysbryd cenedlaeth- ol cul, y byddai yn well i ieuenctid Cymru fyned i llydychain a Chaergrawnt yn hytrach nag aros yn Nghymru i orphen eu haddysg, a bod perygl i'r coleg fyned yn sefydliad enwadol. Ond mewn gwirionedd prin y mae gwrthddadleuon fel y rhai hyn yn gofyn unrhyw attebiad. A yw yn ddrwg meithrin teimlad cenliediaetbol ? Yr oeddwn i yn bresennol gyda hyfrydwch mawr yn eu Heisteddfod Genedlaethol yn Mangor y flwyddyn hon, ac yr wyf ft yn argyhoeddedig fod unrhyw sefydliad a ddadebra ein meddyliau i ogoniant ein mam-wlad, ac a feithrino awydd i gynnal ei huwehafiaeth, yn cyllawni amcan uchel yn ein trefniadaeth gymdeithasol a pholiticaidd. A yw yr Ysgotiaid yn Ilal teyrngarol oherwydd eu bod yn faicli o'u gwlad, a hyd yn nod yn hoff 0 alw i gof ddewrder eu gwroniaid Bruce a Wallace ? A allwn ni ddisgwyl i blant y dosbartbiadau canol yn Nghymru, oddiwrth y rhai y mae y coleg yn awr yn tynu yn benaf, fod yn alluog i fyned i Hydychain a Chaergrawnt, lie nas gall yr un efrydydd fyw am lai na 200p neu 250p y flwyddyn. Yn ddiamheu i dderbyn yr addysg uwchaf, ac yn y rhag- olwg' o fwynhau breintiau uWchaf sefyllfa, cymdeithas, a dysgeidiaeth, bydd i'r hen brifysgolion fynu y flaenoriaeth bob amser gyda y rhai a allant fforddio myned iddynt. Ond y mae llawer i'w wneud yn Nghymru a wneir yn fwyaf effeithiol gan y Brifysgol, a'r cydymdeimlad cyffredinol a dderbynia oddiwrth bob dosbartll yn Nghymru yw yr attebiad goreu i'r holl wrthddadleuon arwynebol a ddygir yn er- byn y coleg. NisgaIlai dim. fod yn fwy. boddhaol na'r ffaith fod y gweithwyr mewn un gwaith llechi wedi tanysgrifio eu hun- ain tuag at ysgoloriaeth i un o'u pobl yn y Brifysgol. Taith lawn 0 fwyniiad a gefais i yn Nghymru ddiwedd yr haf diweddaf 0 Dre- ffynnon i Caernarfon, 0 Gaernarfon i Ddolgellau, 0 Ddolgellau i Gaerfyrddin, ac oddiyno i swydd Henffordd. Y fath ar- fordiroedd swynol sydd yn Rhyl, Bangor, a Llandudno, y fatb oiygfeydd mynyddig ardderchog, yn enwedig Y11 Llanberis a'r Wyddfa, y fath encilion coediog prydferth yn Bettwsycoed, y fath ddyffrynoedd breision, y fath fwngloddiaii rliyfedd a welais Yr wyf yn argy- hoeddedig fod llawer i'w wneud i ddyrch- afu y boblog¡éh Gymreig; ae yr wyf yn gJbeithio y bydd i Sefydliad y Brifysg.d yn Aberystwyth roddi hyrwyddi id neit :ol yn u ebrwydd i gynnydd gwyddonineth yn Ngogledd a Deheudir Cynivu. Meduaf yr anrhydedd o fod, syr, eich ufudd wasan- aethwr, LEONE Levi. Temple, Rhagfyr 14eg.

BEIHTAID Y DYDDIAU PRESENNOL.

TRYCHINEB OFNADWY AR Y EHEILFFORDD…

-...-DYDDIADUR SHON EPPYNT.