Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
:. SYLWADAU 0 FANGOR.
SYLWADAU 0 FANGOR. 1. Coesau teiliwr sydd golofnau cedyrn; ond duwies y Nadolig yw gydd. 2. Llais mul sydd bereiddiach na thelynau arnrywseiniol, ond crechwen yr ynfyd sydd megis gweryriad myharen. 3. Yr ynfyd a draflyngca gyflaith berwedig, ond ceg dyn sydd bydew dinystr. 4. Yr oedd dydd Sadwrn diweddaf yn ddiwrnod mawr a phwysig yn mhlith bro- dorion pendefigaidd Kyffin Square. Yn blygeiniol iawn y diwrnod a nodwyd, gwelem faneri amryliw yn ckwyfio yn yr awelon uwch rhagfuriau goreursdig y ddinas a mynych y clywem dwrf magnel- au yn diaspedain crombil y clogwyni a'r bryniau cylchynol. Mae heolydd y ddinas gwedi eu gorchuddio ag ysgarlad costfawr, a'i phalasau oil mewn amdo ysblenydd o aid an a chrwyn ysgyfarnogod. 0 amgylch y ddinas, gwelir Iluoedd o filwyr dysgybl- edig, pa rai sydd yn gwisgo holl offerynau dinystr; ac y mae eu hysbrydoedd uchel- geisiol yn dychlamu gan awch am enwog- rwydd rhyfel. Y mae yr holl Squariaid yn rhodio mewn dillad gwynion; ac ar eu penau mae coranau o esgyrn cathod. Ond i foddloni chwilfrydedd fy narllenwyr, dichon y dylwn ddyweud mai gwr hybarch ydoedd wedi arfaethu traddodi darlith yn y Square y diwrnod dywededig. Y mae y syniadaeth fod arglwyddi y Square yn orthrymedibion diamddiffyn gwedi arfogi ysbryd y gwr dywededig a phybyredd ac airldgarwch dihefelydd. Barnai ef fod y Wladwriaeth Brydeinig yn sarnu 'n ormodol ar iawnderau dyn fel person urdgol. Addefai fod yn perthyn i'r gymdeithas wladyddol hawliau eang a chyrhaeddfawr; ond haerai fod gan ddyn, ar wahan i effeithiolrwydd ei gyssylltiadau gwladol, ragorfreintiau lluosog a chyssegredig. Galwai ef y rhai hyn yn iawnderau personol; a dywedai eu bod yn angenrheidrwydd mewn bodolaeth ddeallawl, yn annibynol ar wladwriaeth yn ei gwahanol ffurfiau. Gyda hynyna o sylwadau rhagarweiniol, nyni a gofnodwn yr araeth air yn air fel y traddodwyd hi gan ei uchelder Gorfodir pob meddwl a wna ymchwil ddiduedd i natur elfenol y cyfansoddiad Prydeinig, i amheu a ydyw yn seiliedig ar egwyddorion cyfiawnder a tbegwch. Y mae pob ffurflywodraeth i fod yn sylfaenedig ar egwyddorion an- hyblyg a chyffredinol; ac nid ar deimlad- au cyfeillgar a phleidiol. Hanfod gwlad- wriaeth yw cyfiawnder; ac y mae yr egwyddor hon yn meddu bodolaeth dra- gwyddol ac annghyfnewidiol. Gwreiddia yr angenrheidrwydd am gyfundeb gwlad- wriaethol yn adfeiliad adnoddau moesol dynolryw; a'i dyben yw cyflawni anghed- ion amrywiog y bobl. Pan ydoedd dyn yn uchder perffeithrwydd ei gyflwr gwreiddiol, yr oedd hanfodion gwladwr- iaeth yn egwyddorion cymhlethedig yn ei anianawd, yn hyn sydd yn dileu yr angen- rheidrwydd am gyfansoddiad gwrthddrych- ol er iawn ymarweddiad. Ond pan agor- odd Adda Jones argae trueni ac annhrefn, aeth dyn yn ddarostyngedig i lywodraeth teimladau hunanol, cyfyng, a dinystriol, yr hyn beth yw sylfaen yr angenrheid- rwydd am gymdeithas wladwriaethol. Nis gallaf lai na galaru fod y Llywodraeth yn talu cyn Heied o sylw i feithriniad elfenau gwronol; dylent ystyried fod di- oglewch a chadernid yr ymherodraeth yn dibynu arnynt. Mae ein seneddwyr fel pe byddent yn ymffrostio yn y gorchwyl o attal dadblygiad gwir fawredd, trwy ystumio dynoliaeth o'i naturiolrwydd cyn- hwynol. Bu fy nyrnau i yn fflamio fel dreigiau tan o gylch pen yr bwn a bechodd i'm herbyn-am yr hon weithred y gosod- wyd fy nhraed mewn cyffion a'm corphil- yn mewn carchar." (Husiadau, 0, cy- wilydd, 0, cywilydd.) Eisteddodd y dar- lithydd hyfedr i lawr yn nghanol taranau gorfyddarol o gymmeradwyaeth. 5. Anfonodd trioedd cocosaiddddirprwy- aeth demlyddol at ei uchelder yr Arch- fardd, i erfyn ei ganiattad i ebychu ar ragoroldeb glasdwr yn y pegwn gogleddol y Nadolig nesaf. Gwedi i'r Archfardd dderbyn y ddirprwyaeth ymlanwodd ei enaid a math o drydanedd gwefrol; ac efe a gyfododd ei olygon i wybrenydd y nef- oedd. Ni raid i mi hysbysu mai cyflawni swyddogaeth eiriolyddol, a deisyf boddlon- rwydd y duwiau, yr oedd yr Archfardd yn yr ystum ddywededig. Trwy daer er- fyniad yr Arch, caniattaodd y duwiau i'r trioedd dirwestol eu ceisiadau. Mae'n debygfod digonodan temiyddol yn ar- eithiau y eyfeillion hyn i ddiorseddu yr oesawl la o gymmydogaeth y pegw ac i sefydlu tragwyddol ddydd yn mrhif fren- himaeth yr Archfardd. Y mae gwaith cocosyn Tysilio yn ymgynghori a r awdur- dodau goruchel yn cael ei edmygu gan bob dyn synwyrol a goleuedig. Nid yw yr Archfardd a'i feib urddog, er mamt eu riiwysgfawredd, ond math o gyfryngau I drosglwyddo arfaethau y duwiau i afian- 7ddion anysbrydoledig daear. Mae y ineddylddrych o berffeithrwydd a gallu gwrthrychol yn gynhenid yn y meddwl dynol. Gwelir y syniad hwn yn tewynu yn nhawch du y byd Paganaidd efe gen- edloedd y duwiau, ac a'u cynysgaeddodd a phriodoleddau mawreddog a gwronaidd. Nid yw'r byd, er mor fawr ei rysedd moes- ol, yn teimlo yn hunan ddigonol. Na, y mae newyn tost a syched angerddol arno y ZD am rywbeth mwy goruchel, pur, pylweddo], In a pharhaol nag a geir o fewn cylch cyfyng ei fodolaeth. 6. Nid wyf heb seiliau i gredu fod fy nhippyn Sylwadau yn cynnyrchu di- wygiad pwysig a chwyldroadau mawrion yn y byd anifeilaidd. Mae un o'r dinas- yddion barddol gwedi derbyn hysbysiadau gwefrol o bob cwr o'r cread adnabyddus yn mynegi fod fy marddoniaeth i Gys- tadleuaeth y ddwy gath" wedi cyflawni gwrhydri dihefelydd yn llengau barbar- aidd yr anghenfilod hyny. Mae'n wybydd- us i'r sylwedydd dwfn-dreiddiawl mai un o ansoddau amlycaf y cymmeriad cathawl ydoedd ymgecraeth genfigenllyd a hoffder greddfol at ymladdfeydd erchyll ac an- waraidd. Dichon nad oes fodfedd o dir yn Nghymru heb fod rhywbryd yn faes y gwaed i gathod aflywodraethus a nwyd- wyllt. 0 yr ymdrechfeydd gwaedlyd a welwyd rhwng bryniau a mynyddoedd Gwalia. Gwelwyd cymmydogaethau mewn cyffro a dychryn arswydus; a chlywyd rhegfeydd taranllyd yn diasped- ain y wybrenydd, a'r cwbl oil yn cael eu hachosi gan dybiau mympwyol ac uchel- gais anfad cathod ein gwlad am ogoniant ac anfarwoldeb milwraidd. Olid mae yn hyfrydwch genyf hysbysu fod holl gathod y greadigaeth wedi cyhoeddi heddwch a/u gilydd, ac yn edifarhau mewn llwch a lladw oherwydd iddynt mor fynych ollwng ffrwynau eu tueddiadau ffrwydrol, a pheri cymmaint o ofid i'r galon ddynol. Llwyddodd fy mhrydyddiaeth i warthnodi yr ymladdfeydd hyn yn y fath fodd fel nad all cathod byth mwy gyflawni yr erchylldra gwaradwyddas. Bellach, hawddamor i chwi, weithwyr ein gwlad; gorfoleddwch ar y nabl a'r delyn. Y mae tangnefedd oesol yn lledu ei hesgyll gwyn uwch eich bythynod mynyddig. Ni chewch mwy eich deffro o'ch cwsg gan ysgrechfeydd annaearol cathod mewn rhyfel, ac ni welir celaneddau galanas o amgylch eich preswylfeydd destlus. Ai tybed nad yw y March, gyfeillion anwyl, yn haeddiannol wrthddrych tysteb ? Gwelir chwi yn rhy fynych yn ymryson am anrhegu rhyw gorachod ag y byddai yn haws i lo oresgyn Pleiades nag iddynt hwy gyflawni gorchest o natur arwrol. 7. Mewn mynwenb oer, wrth gwymp tryloewon flFrydiau, Ar fedd ei mham yn wylo, geneth dremiaf Y disglaer ddeigr, fel angylaidd wlith, Ymdreiglant dros ei gruddiau llwyd i'r pridd. Mae'r bochau fu 'n filamgoch fel y rhos, Yn llwyd a gwelw gan bangfeydd Calon y ferch sy'n ddafoau ar y pridd, Ei sanctaidd serch yn archolledig sydd. Biodeuyn cain yn Dgardd mwynianau oedd, Ond trwy ei hysbryd d'ryslyd mellt sy'n gwau, Fflam ffyrnig biraetb lysg ei llednais fron, Ei meddwl wibia mal y wenol wyllt 0 flaen gelyDion blin, twyllodrus, brwnt, Er iddi ollwng dagrau nos a dydd, Calon ei marwol fam sydd adamant Anobaith wawdia 'i hocbeneidiau trist, Ac angau chwardd wrth dremio ar ei gwedd. Pan daeo cysgodau'r hwyr, ysbrydion nos Ehed yn Ilwyd uwch bryniau ban y byd, Hi waedda'n brudd, fy mam, fy anwyl fam," Ond osgordd erch ddallhuanod brwnt Oernadant uwch ei phen trwy gydol nOIJ, Nid oes ond yr awelon tyner meddf Fradychaut gydymdeimlaot gvda hi. Bu farw gan hiraethu am ei mharo, A'i ehwyn ddistawodd dan y cwrlid gwyrdd A daenodd natur dros ei gwely pridd. MANION.-Dywedir fod rhyw fachgenyn blewog yn nghymmydogaeth James Street yn hollol argyhoeddedig mai ef yw Handel yr oes hon. Mae gwadnau traed y bod rhyfygus yn sarnu meini Jaspis y Cei Mawr bob dydd. Mae rhyw bendefig o grydd yn yfed afonydd o fwyniant wrth fynych rodio ein heolydd gydag anwylyd ei galon. Ai gwir yw fod ty yn Dean Street yn faelfa i wallgofrwydd a phob rhyw ormodedd carwriaethol. Mae geneth- ig brydferth yn ngwaelod y dref yn wrth- ddrych serch i rhyw siopwr ffroenuchel. Dywenydd genyf hysbysu fod bechgyn a genethod y capel mawr wedi gweled aruthredd yr atgasrwydd o erlyn camrau gorphwylledd a phenchwibandod yr oes.
Y CTFLATH. !,
Y CTFLATH. Dihalog gwyr, dy liw coch-a fynir y, ■ Yn afonydd rhuddgocb, 1. Mae ggu pob bachgen bochgoch, Drwy gyflatb, 'run fath a'i foch. Y MARCH.
LLOFFION O'R DEHEUDIR.
LLOFFION O'R DEHEUDIR. TROEDYRHIW.—Boreu ddydd Llun cyn y diweddaf, cymmerodd damwain ddych- rynllyd le yn yr hen lofa yn y lie hwn, trwy yr hpn y cafodd un dyn ei ladd a phump ereill eu niweidio yn ddifrifol. Aeth chwech o ddynion a bechgyn ar y cage i'r dyben o fyned i lawr i'r pwll; ac wedi iddynt ddisgyn am bellder o oddeufcu pedair llath, glynodd mewn rhywbeth, mewn canlyniad i'r hyn y torodd y rhaff- au oedd yn ei ddal, a disgynodd gyda'r dynion arno i'r gwaelod. TREDEGAR.—Y mae y llythyrau rhwng y lie hwn a Merthyr, fel ag y gwyr y rhan fwyaf o'ch darllenwyr, yn cael en cludo gan gert bob bureu. Ychydig ddyddiau yn ol, fel ag yr oedd ar ganol y mynydd sydd rhwng y ddwy dref, attal- iwyd y cerbyd gan ddyn nerthol, yr hwn a orchymynodd i'r gyriedydd roddi iddo swllt. Ar hyn tarawodd y gyriedydd gyd- a'r chwip, a tharawyd y dyn i'r llawr. Hyd yn hyn nid ydys wedi cael dim gwy- bodaeth pwy ydoedd, ond yr ydym yn go- beithio na bydd i'r awdurdodau basio heibio i amgylchiad fel hyn yn ddisylw, ond y bydd iddynt wnend pob ymdrech tuag at gael allan pwy ydoedd yr adyn beiddgar a geisiai attal y cerbyd. ABERSYCHAN.-Yehydifr ddyddiau yn ol, taflwyd dau gant o ddynion allan o waith yn y lie hwn, mewn canlyniad i gyndyn- rwydd pedwar o fechgyn a weithient mewn pwll perthynol i Gwmpeini Glyn Ebbwy. Ymddengys eu bod yn cael eu cyflogi fel coachers a chan eu bod yn anfoddlon i ostyngiad yn eu cyflogau, aethant ar sti ike, a cheisiasant ddychrynu eu holynwyr drwy ddefnyddio bygythion. Dygwyd y troseddwyr hyn o flaen ynadon Pontypool ddydd Sadwrn diweddaf, a dirwywyd pob un o honynt i ddwy bunt a'r costau; ond gan na thalasant y ddirwy, cawsant eu hanfon i garchar am bythefnos gyda llafur caled. BURRY PORT, GER PEMBREY.—Gosodwyd ty ar dan yn ymyl y lie hwn nos lau cyn y diweddaf, oddeutu saith o'r gloch. Enw preswylydd a pherchenog y ty ydyw John Jenkins, saer wrth ei gelfyddyd. Nid oedd neb ond efe a'i dri phlentyn gartref y noson grybwylledig, canys yr oedd ei wraig wedi myned i ychydig neges; a druan o honi, pan yn dyfod allan o'r tren yn ngorsef Pembrey, am naw o'r gloch, yr olygfa gyntaf a gafodd ydoedd gweled ei thy yn goelcerth o dan, ac ni adawyd dim yn ngweddill gan yr elfen ddinystriol ond ychydig o'r muriau moelion. Daeth yno gannoedd o bobl yn nghyd, a thrwy ymdrech fawr achubwyd llawer o'r dod- refn, ac fe aeth llawer hefyd yn aberth i'r tan, yn nghyda llawer iawn o ddillad a'r peth sydd yn gwneud y weithred yn rhy- fedd ydyw, mai preswylydd y ty ei hun a gymmerwyd i fyny fel achosydd o'r weith- red anfad. Cymmerwyd gafael ynddo gan yr heddgeidwaid, ac aethant ag ef i Llanelli i'r gell i aros ei brawf. Bernir yn gyffredin fod y dyn allan o'i bwyll cyn y cyilawnasai y fath weithred. ABERTAWE.—Ddydd Mawrth diweddaf, cyhoeddwyd dedfryd lied bwyeig gan ynadon cyflogedig ylle hwn, sef fod yn rhaid cau yr holl dai refreshments nad ydynt wedi eu trwyddedu i werthu diod- ydd meddwol am unarddeg o'r gloch o hyn allan. TREDEGAR. Yr wythnos ddiweddaf cymmerodd ffrwydriad dychrynllyd le yn nglofa Tiley, Tredegar, mewn canlyniad i'r hyn y cafodd tri dyn eu niweidio yn dost, ac y mae yr hysbysrwydd wedi cyr- haeddyd yn nghylch marwolaeth un o honynt. Agorwyd ymchwiliad gan y crwner i'r achos o'i farwolaeth yn ffurfiol, ond er cael rhagbarottoi ychydig, gohir- iwyd y trengholiad hyd y 23ain cyfisol. FLEUR-DE-LIS.—Cafodd un o weision cwmni ffordd haiarn Aberhonddu a Mer- thyr, waredigaeth o'r fath gyfyngaf rhag marwolaeth ddydd Sadwrn diweddaf, yn agos i'r lie hwn. Tra gyd'a'i orchwyl ai.- y llinell, daeth tren i'w ymyl cyn iddo ei ganfod. Nid oedd amser iddo neidio oddiar y llinell, ond meddai y dyn ddigon o bresennoldeb meddwi i orwedd ar lawr ar ganol y llinell, a gadael i'r gerbydres redeg drosto, yr hyn hefyd a wnaeth heb roddi iddo ddim niwed. CAERPHILI.- Y mae math o glefyd neu dwymyn ddinystriol wedi tori allan gyda ffyrnigrwydd anwrthwynebol yn ygym- mydogaeth hon, a dywadir fod rhyw rat yn marw yn ebyrth iddo bob dydd. Ni, chymmerodd dim llai na deg o farwol- aethau le yr wythnos ddiwedda-f yn unig. NERTH UNDEB Y GLOWYR.—Dengys yr adroddiad a dderbyniwyd ddechreu yr wythnos hon, fod parottoadau egniol yn cael ei gwneuthur gan y glowyr ar gyfer y strike sydd yn eu bygwth y dyddiau pre- sennol. Y mae oldaliadau gan hen aelod- au o'r Undeb, oeddynt wedi myned yn ddifatter, yn cael eu gwneuthur i fyny ganddynt, ac y mae y dosbarthiadau hynv oeddynt wedi ymneillduo yn ail ymuno'; ac y mae yn ymddangos fod y gymdeithas yn adfeddiannu ei nerth. Nifer yr aelodau ydynt a'u henwau ar y llyfrau ydyw yn Neheudir Cymru, 26311. Priodolir yr adgyfnerthiad sydd yn cymmeryd lie yn bresennol yn rhengoedd yr Undeb, i'r ffaith fod y rhybuddion wedi eu rhoddi allan am ostyngiad yn y cyflogau. Dy- wedir fod trefoiadau arweinyddion yr Un- deb wedi cael eu tynu allan gyda medr- y usrwydd, ac y maent yn credu y bydd iddynt Iwyddo i ddwyn en hamcanion i fuddugoliaeth. Y mae Cwmpeini Rheil- ifordd y Taf Vale, wedi casglu symiau mawrion o lo yn barod, o dan y gredin- iaeth y cymmer strike le. ABER,SYCHAN. A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturia wrth fab ei chroth ?" sydd ofyniad perffa-ith natur- iol; a phan yr ydym yn gweled cyflawn- iad o'r ymadrodd hwy a allent," yr yd- ym yn teimlo ar unwaith fod y dyferyn olaf o dynerwch wedi sychu i fyny yn mynwesau y sawl sydd yn euog o gyflawni y trosedd o ymddwyn yn greulon tuag at eu plant; ond, ysywaeth, Lleng ydyw enw y rhai sydd yn euog o dori y llinyn euraidd o gariad mam, ac y mae genym y gorchwyl poenus o chwyddo y rhestr yr wythnos hon. Ymddengys fod barmaid yn y White Hart Inn, Abersychan, wedi rhoddi genedigaeth i blentyn, yr bwn a guddiodd mewn drawer. Pan ddaethpwyd o hyd i'r bychan yr oedd wedi marw. Bu I farw y fam anffortunus ddydd Mawrth. Ni wyddis yn sicr pa un a oedd y baban yn farwanedig neu beidio. PONTYPRIDD.- Y mae yr ymrafael rhwng y meistri a'r gweithwyr yn ngweithfeydd baiarn y lie uchod yn parhau o hyd, can- lyniad yr hyn ydyw fod tri chant o ddyn- ion allan o waith. Y mae y gweithwyr wedi cynnyg ailddechreu ar eu gwaith am yr hen gyflog, ond y mae y meistr wedi gwrthod y cynnygiad.—lenan Awst.
__-__------_-COLOFN GOFFADWRIAETHOL…
COLOFN GOFFADWRIAETHOL DR. PIERCE. Dydd Mawrth diweddaf, cymmerodd y seremoni o osod i lawr gareg sylfaen colofn goffadwriaethol ardderchog i'r gwladgarwr trwyadl a'r meddyg dyngarol, Dr. Evan Pierce, le yn Ninbych. ,Cyf- lawnwyd y seremoni ddyddorol gan Arg- lwydd Raglaw y sir, Mr Cornwallis West, Ruthin Castle. Y mae enwogrwydd y meddyg dyngarol a gwladgarol mor eang fel nad oes angen am unrhyw gan- moliaeth ar ran y wasg; obiegid, yn ychwanegol at ei wasanaeth ynadol pwysig a'r urddasolrwydd a roddodd ar faeroliaeth y dref drwy ei haelioni diar- hebol, gwnaeth lawer er mwyn dadblyg- iad yr Ysgolion Sabbothol, a chyflawnodd lawer o ddaioni i'r fwrdeisdref yn union- gyrchol ac anuniongyrchol. Nid rhyfedd, gan hyny, i'r dref yn neillduol a'r wlad yn gyffredinol benderfynu talu teyrnged o barch iddo. Ar y cyntaf, ffurfiwyd pwyll- gor gyda'r amcan o ffurfio cronfa er ei gydnabod gyda thysteb; a chan fod y fath barodrwydd yn cael ei avddangos i gyfranu tuag at yr achos teilwng, cym- merwyd i ystyriaeth y ffurf fwyaf priodol y dylai y deyrnged o barch gymmeryd mewn trefn i drosglwyddo enw a choffad- wriaeth y fath gymmwynaswr dyngarol i'r oesau a ddel. Y canlyniad fu pender- fynu adeiladu ar gyfer ei breswylfod golofn goffadwriaethol seml,ond mawredd- og, ac ar yr uchaf iddi osod cerflun o'r meddyg clodfawr. Ai y cyntaf, gwrth- wynebid hyn gan Dr. Pierce ei hun, yr hwn a dueddai at ddefnyddio y swm an- rhydeddus at sefydlu ysgoloriaeth neu 0 tuag at ryw amcan tebygol o gefnogi addysg ond yn byn cafodd ei orthrechu gan y pwyllgor, a phenderfynwyd i'r dysteb gymmeryd y ffurf bresennol. Y mae y golofn ei hun i fod yn 90 troedfedd o uchder, a'r cerflun o'r meddyg i fod 7 troedfedd uwchlaw hyny. Dydd Mawrth ymffurfiwyd gosgordd fawreddog am ddau o'r gloch, o'r pwyll gor, tanysgrifwyr, plant yr ysgolion, a'r cyhoedd yn gyffredinol. Ymffurfiodd y- osgordd ger y Neuadd Drefol, a gorym- deithiwyd i lawr ar hyd Vale Street, yn y drefn ganlynol:—Seindorf y Gwirfoddol- wvr: P. Ellis, Eyton, Ysw., A.S., a'r Parch. Mr Lewis, parson y plwyf; yr ys- golion Sabbothol o bob enwad, yn rhifo tua saith gant; y pwyllgor, a'r tanysgrif- wyr masnachwyr y dref, a'r cyhoedd yn gyffredinol; a'r fire brigade a'u peiriant, yn eu gwisg briodol. Cyfarfuwyd a Major West gerllaw yr Ysbytty, ac arweiniwyd yr arglwydd raglaw at safle y golofn, lie y cyflawnwyd y seremoni o osod y gareg sylfaen yn nghanol amlygiadau o frwd- frydedd anarferol. 0 amgylch 'y gareg yr oedd yr olygfa yn ardderchog-torf fawr yn bresennol, cannoedd o wyr, gwragedd, a phlant o bob enwad, yn ett gwisgoedd goreu. Cyflwynwyd y trywol arian addurnol i'r argiwydd raglaw gan Mr Edwards, cyfferydd, High Street, at yr hwn yr oedd yn argraffedig gyfl wyniad i'r perwyl canlynol:—" Cyflwynedig i W* Cornwallis West, Ysw., Castell Rhuthyn, arglwydd raglaw sir Ddinbych, ar yt achlysur o osod careg sylfaen y golofll adeiladedig drwy danysgrifiad cyhoeddU er anrhydeddu Evan Pierce, M.P-' F.R.C.S., Salusbury Place, Dinbyclh Rhag. 22ain, 1874. Martin Smith, Ysg' Myg-" i Wedi i Mr Edwards gyflwyno y tryW6 gyda sylwadau pwrpasol, ac i Major W^s gyflawni ei orchwyl yn ddeheuig, chwareu- odd y seindorf See the conquering her b comes." Yna traddododd Major araeth gampus, yn mha un y syiwai deilyngdod y boneddwr y mynid ei rhydeddu, ac yr annogai ieuengctid gwlad i ystyried ei lwybrau ac i ddily11 r droedolion i anrbydedd. Ar derfyn s t araeth wresog hon, chwareuodd y seio^0^ For he's a jolly good fellowac hyny cafwyd araeth benigamp Clwydfardd, yr hon a dderbyniwyd SS banllefau cymmeradwyol. Ar derfy0 & seremoni ddyddorol, canwyd clycbBUwa." thaniwyd magnelau; ac ar ol hyn g og hoddwyd nifer mawr i wledd ardderc yn mhreswylfod arwr y dydd.