Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

LLITH DAFYDD EPPYNT. 1

News
Cite
Share

LLITH DAFYDD EPPYNT. 1 YSTRAD IRFON.—Yr unig ddigwyddiad gwerth ei gofnodi yr wythnos hon o'r lie pwysig bwn, sef ydyw yr anfri, sarhad, a'r aninharch a fwriwycl ar wr o fardd, nid amgen Dafydd Brydydd Byr, sef gan wr o flaenor ac mewn cyssylltiad a'r Ysgol Sul ei bwriwyd. Er mwyn i'r byd vii, gystal a'r orsedd ddeall natur y sarhad,j yn baesneg, yr insult, priodol crybwyil y dosberthir man foneddigesi neu grotesi y lie, ai Eglwysig ai capeiog, i dri gradd, neu rengc, neu glas. I'r first class y perthyn nid amgen pob merch sydd yn dwyn oriawr aur, neu arian, neu blwm, mantell o groen morlo, polonaise, &c.; second class, pob merch yn dwyn manteii ysgarlad, tunic sidan, chignon, Grecian bend; third class, eiddo y cotton, yr alapacca, gwlaneni Cymreig, esgidiau o waith gwlad, &c. Yn awr, fel rheol bydd pob un o'r classes hyn a'u capital i gyd ar eu cefnau, ac edrych pob class gyda diystyr- wch ysgornllyd ar y dosbarth israddol. Mae yn briodol sylwi yn mhellach y teimla pob gwr o athraw ei bwysigrwydd yn cael ei fwyhau neu ei leihau yn ol y class y bydd yn athraw arno, a liawer chwyaden dew a anfonir i'r gwr o flaenor er hyrwyddo yr appwyntiadau, &c. A dydd a ddaeth, sef y seiat chwarterol, i bennodi athrawon. A'r gwr o flaenor a gododd ei let ac a ddywedodd,—" Issachar Mephiboshetb," ebe fe,- boed i ti ofal y dosbarth gridd yr oriawr aur, &c. Naph- thali Obbadeiah, boed i ti ofal dosbarth yn dwyn gradd y fantell goch." Yna trodd y blaenor at y bardd, ac a ddywed- odd,— "Dafydd Brydydd Byr," ebe fe, "boed i tithau ofal dosbarth y try dydd gradd yn dwyn arwydd pais a chadis coch." A phan glywodd Dafydd y geiriau hyn efe a lariwyd o lidiawgrwydd, ffrom- odd yn aruthr, a'i wynebpryd a syrthiodd. Yna bu terfysg cadarn, canys Dafydd a saethodd ar ei bedion, ac mewn lief uchel, gan orchymyn a orchymynodd y trydydd dosbarth a'r gwr o flaenor rhagddywededig i waelodion diadlam Abred, gan nad lie mae hyny, "canys," ebefe yn filain, n nid oes eneidiau gan ddosbarth o forwynion." Ar hyny gwnaeth" Ned y Wadd araeth bwrpasol yn erbyn gwastraff y cefn, sef fod treth y cefn yn iau drom ar y lie, gan ddwyn dynion i'r Union; ei fod yn cofio pan oedd merched am bedair punt y llwyddyn yn arfer troi heibio rhyw ugain C> punt gogyfer a dechreu byd, ond yn awr dim ond crug o yfaodenau a bralau, dim ond rag-and-bone—dim ystol drithroed wrth briodi. Yn lie hen ddillad Cymreig, cynnes, parhaus, gweddus, respectable, dim ond rhyw frils, coegni, mursendod, pine- i yddiaeth, balchder; y gwr bachyntorsyfchu ar ol y gwr mawr, gan addoli y cefn, uwch ben crug o dlodi. Ar hyny gwaeddai Ned, Beth a ddaeth o'r hen ddysgyblaeth, yr ten ddifrifoldeb, yr hen symlrwydd sanct- eiddiol (Snwffian uchel trwv y capel.) "Gair i ganu," ebe y blaenor," 0 gasgl- iad Twm or Nant." 0 Pan fo y llaugcesi yn cychwyn i siwrneu, Gwedi taflu y cw i a gadael eu miwmau, Rhaid cael gftn britb. ac ystaes ar fry¡;¡, A gvvychu tu all.-m beth bywag fo'r c:ys. Llarp o gadach sidan ar led eu hysgwyddau, A mautell ysgarlad a chwd ar eu ccinnu Fe allai dyn feddwl wrth edrych arnyut A'u gwisgiad o gwtnpas y talent, bwy gin-punt, Fob uu am y cynta, yn j'mbel am briodi, Pan, gvvtrth ydyw'r banes, rhaid gwerthu y rheini." MYFENYDD.—Ni wyddom ni ar glawr daear pwy ydyw y llangc hwn, ond mae yr ymosodiadau dibaid a wneir arno gan lwfrgwn er ceisio ei ladd yn peri i ni feddwl fod rhywbeth yn ei ben, gan ddwyn i gof y wireb Seisnigv, When true genius appears in a place you may know it by this sign, that the dunces are in confeder- acy to put him down." Nid ydym yn cymmeryd arnom ddywedyd fod y llangc dan sylw yn un o athrylith, ond boed iddo chwareu teg i weithio ei ffordd. Mae ei amddiffyniad a rhai darnau o'i farddon- iaeth yn bethau da. Ymddengys ei fod gwedi gwneud camsyniadau yn dangos cli- ffyg pwyll ac amynedd, yr hyn bethau a geir yn gyffredin mewn dynion ieuaingc.. Cymmered galon, ail ddechreued, myfyr- ied, darllened, gweddied, ac yn bendi- faddeu ymgadwed rhag gwneud dim a'r y 11 crach-eisteddfodau capelog a thafarnol, y rhai ydynt erbyn hyn ond Jackyddiaeth a llwcryddiaeth diorcliudd. Gweler llythyr- on campus Goronwy ar hyn yn y Western Mail. Boed i Goronwy hefyd ysrifenu i'r Llais, canys Cymro ydyw o, ac ar ol i'r Llais gael ei helaethu bydd digon o le i ni oil i swagro. A boed felly y bo. Caniattewch i mi fel cenedlddyn ddiolch am farddoniaeth yr wy^hnosau diweddaf; ond nid oes engiynwr amgen Trebor Mai—mae ef yn brydydd a'i gy- wydd fel gwin. Carwn fod rhyw Arthur yn perthyn i farddoniaeth y Llais fel i eiddo y Dywysogcieth. Nid da cymmeryd gormod o le iganu clod cymmeriadauang- hyhoedd fel y gwneir yn fynych. LYFRGELL EPPYNT.-FIASSAN AT EI DAID, LLYTHYR II.—Anwyl Daid,—Byddaf ar droion yn myned i roi tro o'r parlwr i'r gegin i edrych o'm cwmpas, ac i gael tes- tyn llythyr attoch. Yr oedd yn oficlus genyf weled fod yr un fath annghyssondeb. n y gegin ag yn mhob man arall. Yr oedd y forwyn wedi bod yn casglu'r dillad oddiar y gwrych, Ile'r oeddynt wedi sychu yn grimp yn yr haul: Ond beth a wnaellh y forwyn anhywaith ond cymmeryd cawg o ddwfr, a'i osod ar y bwrdd, a chymmeryd pob dilledyn allan o'r fasged a thaenellu peth o'r dwfr o'r cawg ar bob un o honynt. Beth wyt ti'n gwlychu'r dillad a hwythau i wedi sychu ? meddwn wrthi. Dos a hwynt i'r haul etfco mewn munud, onide mi a achwynaf arnat wrth dy feistres pan ddelo hi i'r ty, weli di-hyny mi wnaf. Daeth y gwr a'r wraig i'r gegin ar hyny ond deliais i fy nhafod, gan wybocl y gwelai'r wraig y drwg a wnaethai'r eneth, ac yr oeddwn mewn peth pryder rhag i'r gosp fod yn fwy camwedd. Ond, er fy syndod annhraethol, wele'r wraig yn cymmeryd rhai o'r dillad meinaf yn ei Haw; ac yn lie dondio'r hogen am eu gwlychu, dyna hi yn dywedyd nad oedd hi ddim wedi gwlychu digon arnynt, a'u bod yn rhy stiff i'w smwddio. Ni synais erioed ddim mwy. Crys croes, meddwn wrthyf fy hun. Gwelais fy mod braidd ar y fforcld yn y gegin, ac felly aethum allan i'r heol. Fel yr oeddwn yn rhodio yno, clywn y piarit yn chwerthin yn ofn- adwy a dyma un bachgen yn ymafiyd yn fy mraich, ac yn dywedyd, Ewa, y mae y cadach llestri wedi cael ei binio y tu ol i chwi. Gan fod gwr y ty lle'r ydwyf yn llettya yn ddarn o brydydd, meddyliais yn y munud ei fod wedi pinio'r cadach wrth gvnffon fy siaced fel math o urdd farddonol i mi; canys yr oedd ers dydd- iau byd wedi bod yn son y dylwn gael fy urddo, a minnau yn rlly swil i gymmeryd yr anrhydedd; a deallais ei fod yn ei garedigrwydd wedi cymmeryd y cyfle hwn i'm hurddo'n ofydd neu'n fardd yn ddiar- wybod i mi, er mwyn arbed teimladau fy swildod. Ond ni wyddai'r bachgen mo hyny; ac meddwn wrtho, Na hidia mo'r cadach llestri, fy machgen; y mae pob- peth yn iawn; ac heblaw hyny, oni weli di'r llangciau acw sydd o'n blaenau, meddwn wrtho, a'u cadachau sidan yn hongian gryn hanner llath o'u pocedau ? Ac felly, fy anwyl deida bach, dyma fi wedi cael fy urddo yn fardd ag urdd y Cadach Llestri, a'm gwneud yn gyfranog o Gyfrinion maen Arch y gegin olchi. Os bydd rhai o'r ymadroddion hyn braidd yn dywyll i chwi, nid oes genyf ond eich cyf- eirio am ychwaneg o hysbysrwydd at Myfyr Morganwg. Ond fel na bydd beirdd arian-dlysog yr eisteddfodau ddim yn gwisgo eu medals bob amser rhag ofn dant cenfigen, felly bob yn ronyn mi dyn- ais innau y cadach Ilestri oddiwrth odreu fy siaced, ac a'i rhoddais yn ofalus yn fy I mhoced. Yr wyf yn bwriadu ei frodio dg edafedd aur, a'i gadw yn mhlith fy nhe- ganau tlysaf, fel un o'm haddurnau pryd- fei thaf a phan ddeuaf yn ol i Constanti- nople, mi ofynaf genad ein Suitan i'w wisgo hyd y parhao edef o hono wrth ei gilydd. Aethom yn ddiweddar i sir Fon i roi tro. Yr oedd priodas yn eglwys y plwyf lle'r oeddwn yn aros; a pha beth a wneuthum ond myned iddi, ,yn wysg fy nhrwyn, gan ei fod yn achlysur cyhoedd- us. Pan oedd y gwr eglwysig wedi uno y par ieuangc, ond heb ddarfod y gwasan- aeth, dyna'r gwyr ieuaingc oil yn rhuthro a'u holi egni allan o'r eglwys fel pethau gwallgof. Meddyliais fod yr eglwys yn syrthio y munud hwnw nis gallaswn ddy- chymygu un achos arall i'r fatb syclyn ruthr. Neidiais fel milgi am fy mywyd dros ochr y set lle'r oeddwn yn eis- tedd yn ddigon defosiynol, ac allan y gyda'r bobl, rhag cael fy nghladdu yn y chwalfa. Ond yr oedd y llangciau yn parhau i redeg; deallais mai gyrfa yd- oedd, beth bynag allai fod y dyben a'r wobr. Ehedais innau, beth bynag, a'm holl egni; beth a wnawn well ? ond ni wyddwn ar y ddaear las i ba le yr oeddwn yn rhedeg, na pha bryd i stopio, Gwelais eu bod yn cyfeirio eu camrau carlamog at dy lle'r eedd llawer byd o bobl wrth y rlrws megys yn eu disgwyl. Bernais mai y ty hwn oedd pen yr yrfa ychwanegais gyiiymder fy ngarrau, pasiais y blaen- af, yr hwn a wnaeth gais go giaidd i faglu fy nhraed; rhoddais dro bach chwyrn, ac a'i disodlais nes oedd ar was- tad ei gefn yn y llaid, ac yna rhedais nes oeddwn yn nghanol y ty. Hwre hwre meddai pawb, chwi pia'r deisen, chwi piaW (ieisenl-Yr eiddoch yn ffyddlon—HASSAN EFFENDI. DAFYDD EPPYNT.

LLANWDDY" A'I YSGRIFAU.

ADDYSG I FECHGYN MON AC YSGOL…

OFFEIRIAID A PHLWYFOLION.

ENGLYNION GALAENABOL.

[No title]