Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y DEHEUDIR.

News
Cite
Share

Y DEHEUDIR. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD.) Annerchodd Mr Dillwyn, yr aelod Radi- calaidd dros Abertawe, ei frodyr Radical- aidd yr wythnos ddiweddaf. Yr y'm yn tos- turio wrth y gwr boneddig hwn yn ei ad- fyd, canys y mae yn amI wg nad yw ef wrth ei fodd, pan y mae ef yn gorfod eistedd yn nghwmni y lleiafrifar ol treulio ugain mlynedd gyda'r ochr gryfaf. Nid yw ef yn credu fod y wlad gwedi troi i bleidio Ceidwadaeth o galon. Nid oes neb mor dywyll a'r hwn na fyno weled. Gall pob dyn sydd a. llygad yn ei ben weled yn amgen; blinodd y wlad ar fesurau Mr Gladstone a'i ganlynwyr; a darfu i'r bobl dderbyn Ceidwadwyr efo breichiau agored; acyr oedd Ilawer mewn pryder am eisteddle Mr Dillwyn ei hun. Daeth y Ceidwadwyr allan yn Abertawe dan anfanteision. Nid oedd neb erioed o'r blaen yn meddu ar ddigon o wroldeb i wrthsefyll Mr Dillwyn yn Abertawe. Yr oedd y Radicaliaid yn credu fod Abertawe wedi cael ei gwneud er mwyn y Dillwyn- iaid a'r Vivians. Ymladdodd Mr Charles Bath fel Trojan dros y Ceidwadwyr; ac os nad wyf yn camddeall yr oraclau, fe orfydd Mr Bath etto, serch iddo golli y tro diweddaf. Yr oedd ef am i'w wran- dawyr gredu nad yw Ceidwadaeth ddim ond llusg ar yr olwyn, yr hwn sydd yn ei tbynu yn ol yn lie myned yn mlaen. Lol botes droednoeth; a ydyw Mr Dillwyn yn meddwl mai pabwyr ydyw pobol, a'u bod riaor anwybodus a chredu y fath ffiloreg ? 4 Cymmerodd etholiad Bwrdd Ysgol le yn Risca, Mynwy. Enwyd naw i lanw pum' sedd; enciliodd tri o'r maes, a safodd chwech eu tir. Yr oedd yr ym- geiswyr bron i gyd yn ffafr addysg grefyddol. Yr wythnos ddiweddaf agorwyd dwv Eglwys newydd yn sir Aberteifi, Gwnw's Ot Llanilar. Traddodwyd pregethau gan Esgob xyddewi, ac amryw offeiriaid ereill. Y mae yn bur debyg os na, chyfnewidir pethau yn y Deheudir y cymmer strike aruthrolle yn fuan. Y mae y gweithwyr yn dyweud fod y meistri wedi tori eu haddewidion. Ychydig amser yn ol addawsant beidio gostwng yr huriau, heb gael cyflafareddiad; ond gwrthodasant yn y cyfarfod' ddydd Gwener yn Nghaer- dydd. Os sefyll allan fydd hi, strike ofnadwy fydd hon. I, CRAIG Y FOELALLT.

. CAROL PLYGAIN. '..

NODION 0 GAERGYBI. j

-----:----------------COLOFN…

AT Y BEIRDD.

YSGOL RAMMADEGOL BEAUMARIS.

Advertising