Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

NEWYDDION CYMREIG.

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMREIG. ABERDARON, LLEYN.— Y Bwrdcl Ysgol. Beth ydyw yr achos nad ydyw y bwrdd yn dechreu adeiladu ysgoHon ? ydyw v cwestiwn sydd yn cael' ei ofyn yn gyff- rediriol yn yr ardal yma yn bresennol; a hawdd y gallasant ofyn hyny, oblegid y mae y bwrdd wedi cael ei ffurfio ers rhagor iia dwy flynedd, a buaswn i yn meddwl ei bod yn ben amser iddynt ddechreu. Hefyd y maent yn cynnal vestries yn barliaus yn ddiles ac yn ofer. Pe buasai Robin Sponc yn talu ymweliad a rhai o honynt buasai yn cael gwaith ysgrifenu am beth amser. Barn gyffredinol y wlad ydyw mai rhy annysgedig ac anwybodus ydyw aelodau y bwrdd i fyned yn mlaen a'u gwaith,—(oddigerth Mr Williams, yr hwii sydd ddim yn arferol a mynychu y vestries). Pe buasai dynion dysgedig a gwybodus yn aelodau o'r bwrdd buasent yn awr yn gweled ysgolion bardd ac eang yn addurno plwyfydd Aberdaron, Bryn- croes, a Rhi W. Pa reswm sydd mewn talu eyflog mawr o 30p. yn y fhvyddyn i glerc heb orchwylion o ddim pwys. Fe ddaw y dydd pryd y bydd y cyfaill calon rwydd yna yn gweled 5p. yn ddigon, ac mi fuaswn i yn meddwl y buasai lOp. yn hen ddigon. Yr oedd un hen gyfaill, yn y cynnwrf cyntaf yn ymladd fel ffwlbart neu ddyfrgi yn erbyn gwrthwynebwyr bwrdd ysgol; ac un arall yn dywedyd y buasai yn rhoddi benthyg ei drol a'i geffyl at gario cerig a phethau ereill at adeiladu ysgolion. Pa le y mae y ddau gyfaill hael- ionus yna yn awr ? Terfynaf trwy gyng- hori y bwrdd i fyned yn mlaen a'u gwaith, neu roddi eu lie i fyny i ereill.—Brodor. Æ BODFFORDD, MON.—Nos Wener,Rhagfyr 11, cawsom y pleser o fod mewn cyngherdd a gynnaliwydd yn Ysgoldy y lie uchod, gan Undeb Corawl Cana," a'r "Llangefni String Band." Canwyd dariiau gan Mr Crewedson, Richard Jones, Robert Jones, Jóhn Hughes, William Hughes, David Evans, Robert Pritchard, Miss Williams, Miss Hughes, a Miss Ann Morris. Yr oedd yr adeilad yn orlawn, a chredwn ddarfod i bawb gael eu boddhau i'r graddau eithaf. Yn sicr y mae Mr John Hughes yn haeddu canmoliaeth am ei ymdrechion gyda'r cor; er nad oes ond ychydig fisoedd er pan y ffurfiwyd ef, credwn ei fod yn un o'r corau mwyaf gobeithiol yn ein gwlad. Aed rhagddo yw dymuniad ein calon.—G. CAERNARFON.—0 flaen yr ynadon sirol, ddydd Sadwrn, dirwywyd Thomas Wil- liams i 2s 6c a'r costau am feddwi yn Mhenygroes.—Am geisio dal eog, ger Pontrhythallt, dirwywyd Edward W. Ed- wards, Ebenezer, i 40s a'r costau.—Edwin Hughes a Charles Hughes a gyhuddwyd o drespasu ar dir, yr hawl i saethu dros ba un sydd yn meddiant Oadben Wynn Gnffith, Llanfair. Ymddangosodd Mr J. A. Hughes dros y diffynwyr, a dywedodd nad oedd gan yr ynadon sirol hawl i brofi yr achos, gan mai o fewn y fwrdeisdre'f y cyflawnwyd y trosedd. Taflwyd yr achos allan.-O flaen yr ynadon bwrdeisiol ddydd Llun, dirwywyd George White, ieu., Britannia Inn, i 2s 6c a'r costau, ar y cyhuddiad o fod yn feddw ac afreolus.— Am gysgu allan, dedfrydwyd Joseph Rad- fod i garchar am fis.-Am feddwi ac ym- ddwyn yn afreolus, Mary Roberts, gwraig Owain Lliw Glas," a ddirwywyd i 5s a'r !Costau.—Cyhuddwyd Sarah Humphreys o arfer iaith fygythiol tuag at Lewis Tho- mas, yr hon ryddhawyd gyda rhybudd.— Cyhuddwyd Edwin Hughes, labrwr, a Charles Hughes, saer Ilechi, o drespasu ar dir yn naliad Cadben Wynn Griffith, Llanfair. Ymddangosodd Mr Hughes dros yr amddiffynwyr, a Mr J. H. Roberts dros yr erlynydd. Mewn amddiffyniad, dywedodd y dynion mai myned i Pengelli, fferm Evan Thomas, yr oeddynt ar y diwrnod crybwylledig. Nid oeddynt wedi bod ar y tir, fel y tystiai y tystion dros yr erlyniad. Gan mai dyma drosedd cyntaf y diffynwyr, dirwywyd Edwin Hughes i 5s a'r costau, a Charles Hughes i 2s 6c a'r cofetau.—Cyhuddwyd William Williams, Croesywaen, Waenfawr, o feidwdod, a dirwywyd ef i 5s a'r costau.—Dartuvain ■Angeuol.—Prydnawn Llun diweddaf cym- ttierodd damwain angeuol le yn Red Lion Street. Yr oedd dyn ieuangc o'r en w Edward Jones, plastrwr, wrth ei orchwyl ar glwyd berthynol i adeilad newydd Mr Griffith Jones, Bontbridd, yn yr uchder o tua phedair troedfedd ar hugain, pryd y daeth i wrthdarawiad a rhywbeth oedd ar y glwyd fel y collodd ei gydbwys ac y cwympodd ar ei ben ar yr heol islaw. Derbyniodd y fath niweidiau drwy y cod- WIll arswydus fel y trengodd y boreu can- lynol. Yr oedd y trangcedig yn frodor o Landudno, ac yn un a fawr berchid gan yr oil o'i gydnabod. CWM-Y-GLO.—Nos Sadwrn, y 12fed cyfisol, cefais y fraint o fod mewn pwyll- gor perthynol i Undeb Ysgolion Sabbothol a Eglwysig canolbarth Arfon yn y He hwn. Da oedd genyf weled yr hen fam Eglwysig Dior effro yn nghanol gwlad mor Ym- neillduol. Yr oedd yn bresennol y Parch- edigion canlynol:—D. 0. Davies, Llan- dinorwig; G. W. Griffiths, Llanfair-is- gaer; J. Lewis, Waenfawr; E. Jones, 'ILL;12!J¡,,U" 1" Llanrug; ac un neu ddau o leygwyr yn canlyn pob un o honynt. Pasiwyd amryw benderfyniadau hynod o bwysig, pa rai a hysbysir etto trwy golofnau LlaiB y Wlad yn swyddogol. Mae mewn cyssylltiad a'r undeb yma chwech o ysgolion ac y mae y frwydr fawr i gyrnmeryd lie yn Hall Llanberis, y Pasg, ac y mae yn ddiamheu genyf mai brwydr galed a fydd, oblegid ni welais well rhaglen mewn un eisteddfod erioed yn fy oes. Da chwi, weinidogion ieuaingc, ewch rhagoch na faliwch mewn ambell hen belican sydd yn eich mysg, oherwydd ni fynant hwy fod yn mysg adar gweithgar ond ar eu penau eu hunain.. Ac os cynnygir ychydig wobrau byddant yn dychryn trwy waed eu calonau. Nid ydyw yr oil o'r gwobrwyon ond tua phymtheg punt. Diolch i ficer Llan- p dinorwig am ei gvnnygiad haelionus yn y cyfarfod. Na wan-galonwch, medd- R. ap Prys. HENDU, PONTARDULAlS.- YmweUad Mr vV. 1i. Powell, Maesgwyn.—Talodd y bon- eddwr uchod ymweliad yn ddiweddar a'r lie hwn, i'r dyben o geisio sefydlu cangen o Gymdeithas Gyfeillgar siroedd unedig Caerfyrddin, Penfro, ac Aberteifi, yn y lie hwn. Yr oedd llawer o siarad a son wedi bod yn y gymmydogaeth am y gymdeith- as, yr hon a ddywedidoedd yn tra rhagori ar y cymdeithasau oedd yn bodoli yn y lie yn barod—fod y taliadau misol yn Jlai at gyfartaledd i'r claf-dil oeddi'w gael allan, fod y treuliau yn llai, &c.; mewn gair, yr oedd yn well yn mhob peth. Oher- wydd clywed am gymmaint o ganmol- iaeth iddi, yr oedd llawer yn awyddus am gael cangen o honi yn y lie. Anfonwyd at swyddogion y gymdeithas i'w hysbysu o hyny, pa rai a osodasant hysbysleni allan i fynegu fod cyfarfod i gael ei gyn- nal yn yr Ysgoldy, ac y buasai Mr Powell, Maesgwyn, a boneddigion dylanwadol ereill yn annerch y cyfarfod, ac y cym- merid y gadair gan Mr Letcher, Bryn- gwili. Fel un sydd yn teimlo dyddordeb mewn cymdeithasau dyngarol, ac mewn gwrando ar foneddigion liyawdl yn an- nerch cyfarfodydd, cyfeiriais innau fy ngbamrau yno, er clywed y boneddigion dylanwadol ag y sonid am danynt. Agorwyd y cyfarfod gydag araeth gampus gan y cadeirydd, yn ol ei arfer. Ar ol hyny cawsom glywed prif ddyn y cyfar- fod, sef Mr Powell, a rhyfedd mor gwtta oedd ei araeth. Ni ddygodd ond rhesym- au gweinion yn mlaen er profi rhagoriaeth y gymdeithas hon ar gymdeithasau ereill. Un o'i brif resymau oedd ei bod yn cym- meryd cylch eangach i mewn nac ereill. Dengys hyn ar unwaith nad yw Mr Powell yn gwybod fawr o hanes cym- deithasau cyfeillgar ereill, onide ni fuasai byth yn dywedyd fod y cylch yn eangach gan hon, pa un sydd yn gyfyngedig i'r tair sir, tra mae Odyddiaeth, Iforiaeth, ac ereill, yn cymmeryd i fewn yr holl wlad. Cawsom areithiau hefyd gan y boneddigion dylanwadol ereill ag y sonid am danynt yn yr hysbysleni, pa rai a wnaethant eu hymddangosiad yn mher- sonau ysgrifenydd cyffredinol y gym- deithas a Mr Joseph, Llangenech, yr hwn a ddywedodd fod yn dda ganddo weled offeiriad y plwyf a gweinidog yr efengyl yn yr un cyfarfod. Yr oeddwn i bob am- ser yn ystyried offeiriad y plwyf yn wein- idog yr efengyl, ac yn ei gymmeryd fel y cyfryw; ond nis gwn pa beth sydd i'w feddwl am dani yn awr ar ol clywed athrawiaeth y gwr hwn. Erbyn hyn, yr wyf yn deall nad oes fawr o argoel cael cangen o'r gymdeithas yn y lie hwn, er fod meddyg, ysgrifenydd, a phwyllgor y 0 wedi eu hethol; oherwydd, ar ol i'r gweithwyr ddarllen ac ystyried y rheolau, y maent yn gweled nad yw hi ddim yn rhagori ar y cymdeithasau sydd yn bodoli yn y lie yn barod.-Gohebydd. LLANDDYFNAN, MON.-Deallir fod Esgob Bangor, mewn attebiad i ddeiseb, wedi iiwdurdodi ymchwiliad i gwynion a ddygir yn erbyn y Parch. Anwyl Roberts, ficer y plwyf hwn. Ymddengys fod disgwyliad iddo draddodi pregeth angladdol ar ol y ddiweddar Mrs Lewis, a daeth Arglwydd ac Arglwyddes Vivian yn nghyda thorf liosog i'r eglwys y Sul dilynol, ond ni wnaeth y ficer ei ymddangosiad, ac ni chynnaliwyd gwasanaeth. I'r cyhuddiad hwn o esgeuluso ei ddyledswydd y cyfeirir yr ymchwiliad yn benaf, ond dywedir fod cyhuddiadau ereill yn ei erbyn. LLA.NDF,BIE.-Damivain ,i ngeuol.-Boreu ddydd Mawrth, wythnos i'r diweddaf, fel yr oedd dyn o'r enw Edwin Rees wrth y gorehwyl o redeg gwageni glo dros y 9 b 0 goriwaered sydd yn arwain o waith y Blaenau, ger y lie uchod, i'r rheilffordd, cwympodd dan yr olwynion, a thorwyd ei ddwy goes ymaith. Er cael pob cyn- northwy meddygol, bu yr anffodus farw mewn ychydig oriau. LLANDEILO-TALYBON T .—Cynnaliwyd cyf- arfod yn Ysgoldy y He hwn yn ddiweddar, i'r dyben o gyflwyno annerchiad i'r Parch. D. Davies, curad, ar yr achlysur o'i ym- adawiad a'r lie. Cymmerwyd y gadair gan Mr D. Jones, Dantwyn, yr hwn a siaradodd yn uchel am Mr Davies—fel yr oedd wedi ennill serchindau y plwyfolion yn ystod ei arosiad byr yn eu plith, ac .'I hefyd am y dull ffyddlawn y darfu iddo gyflaWni ei ddyledswyddau gweinidog- aethol; ac o ganiyniad, yr oedd yn llawen ganddo ef, ar ran y plwyfolion, gyflwyno yr annerchiad hwn idclo, fel arwydd fecli- an o'u parch diffuant tuag atto. Cydna- byddwyd yr 8ntheg yn darawiadol gan Mr Davies, LLANDINAM. — Hunanladdiad* -«•* Boreu dydd Gv/ener, y 4ydd cyfisol, rai oriau cyn y dydd, rhoddodd Mrs Elenor Mantle, gwraig Mr Evan Mantle, Penypam, ger y Capel-newydd, yn y plwyf hwn, derfyn ar ei heinioes yn y byd a'r bywyd hwn, trwy foddi ei him mewn ffynnon fechan o dclwfr has, a elwir Ffynnon y Pant," a thua rhyw dn chan Hath oddiwrth yty yr oedd hi yn byw. Parodd y newydd alaethus hwn gryn gyffro a syndod trwy yr holl gymmydogaeth. Pa beth a achosodd iddi gyjflawni hunanladdiad ni wyddis hyd yiita. Yr oedd hi a'i gwr yn byw bob am- ser yn Un a chyttun &'U gilydd, ac yr oeddynt o ran eil hamgylehiadati bydol yn bar gysurus, fel nad oedd pethau felly yh achos iddi gyfiawni y fath anfadwaith. Ymddengys iddi godi o'r gwely oddiwrth ei gwr, y boreu a nodwyd, pan oedd ef yn cysgu, a l'hyw hanneI' ymwisga, a myned yn y cyflwr hwnw i'r fan y darfu iddi roddi terfyn ar ei bywyd yn myd y gorth- rymderaUi Pan ddeffrodd ei gwr a gweled ei lie yn Avag yn y gwely, cyfododd ynfcau, a gwnaeth ymchwiliad ffiaiiwl am dani oddi fewn ac oddi faes i'r ty, ac ar ol lllr, ymchwil, cafodd hi wedi boddi, yn gorwedd ar ei hochr wrth y ffynnon yn oer a marw. Dydd LInn olynol i'r digwyddiad sobr a galarus, cynnaliwyd cychwil (inquest) ar ei chorph marwol o flaen Mr E. Hall, Ysw., Drefnewydd, coronwr y dalaeth, a deuddeg o reithwyr anrhydeddus, a dych- welwyd y reithfarn Cafwyd wedi boddi." Trefaldwyn. LLANIDLOES. Darlith. Nos lau, y lOfed cyfisol, yn Llysdy y Dref, o dan lywyddiaeth J. Kitto, Ysw., Ty Coch, maer y lie hwn, traddododd Francis Palin,Ysw., LiL ndain, ddarlith ddyddorol ac addysg- iadol iawn, oddiwrth y testyn "Llundain yn newydd a hen, o St. Paul hyd at West- minster." Y peth oedd yn gwneud y ddarlith orgampus hon mor annghyffredin o ddyddorol ydoedd, fod y manau hyny o'r ddinas yr oedd y darlithydd galluog a medrus yn traethu arnynt yn cael eu dangos mor amlwg a hylaw mewn tros banner cant o'r dissolving views. Yr oedd y cynnulliad yn un bur lliosog a pharchus, a'r mynediad i mewn trwy docynau a'r cyllid deilliedig oddiwrth y ddarlith yn myned at Genadaeth Ddinasol Llun- dain." Ymddengys i'r gynnulleidfa gael boddhad neillduol iawn wrth wrandaw a gweled.—Idloesyn. LLANRHIAN.-Plwyf bychan yw hwn, rhwng Mathri a Thyddewi, ond rliifa ei boblogaeth fwy na llawer plwyf ag sydd gymmaint arall o faintioli, pum' rhan o wyth o ba rai sydd yn dal cyssylltiad a'r Bedyddwyr. Un peth neillduol sydd yn hynodi y plwyf hwn yn rhagor na phlwyfi gwledig ereill ydyw ei fanteision addysg. Y mae yma dair o ysgolion elfenol da, un gan y Bedyddwyr, un gan y Methodist- iaid, ac un gan yr Eglwys Sefydledig, a phob un o honynt yn cael eu cynnal ar yr egwyddor wirfoddol. Y mae yn y plwyf hwn hefyd rai ffermydd da a inawrion, gyda'r mwyaf yn sir Benfro, ac y mae eu gwartheg duon a'u moch tewion yn ddi- gon i daraw y Whelps a'r Cardies a syn- dod.-Yi- Erlivysi-Ddydd Gwener, y 3ydd cyfisol, cynnaliwyd gwasanaeth a dwy bregeth yma i ymbil ar yr Hollalluog Dduw i Iwyddo yr efengyl yn y gwledydd tramon, ac i dywallt ei Ysbryd ar y cen- hadon.-Gogo. LLANWDDYN.—Festri.—Nos Wener, y 4ydd or mis hwn, bu festri bwysig gan drethdalwyr y plwyf uchodyn yr Ysgoldy Cenedlaethol. Y matterion a ddygwyd dan sylw oeddynt, yn gyntaf, Pa ffyrdd a gedwid yn brif-ffyrdd ? yn ail, a oeddynt yn boddloni i wneud pont dros afon y Felin Wnfa, yn mhlwyf Llanfihangel-y- Gwynt, yr hon sydd ar adegau o wlawog- ydd yn dra pheryglus i'w chroesi ? yn drydydd, a oedd eisieu dyn i edrych ar ol y plwyf (heddgeidwad) ? Cyttunwyd am y prif-ffyrdd mewn ychydig eiriau. Yn yr ail fatter, penderfynwyd, gan fod y bon- eddwr haelionus, Mr Gibb, Pont-adeilan, yn cynnyg rhoddi coed, fod Llanwddyn yn ymgymmeryd a'r draul o wneud ei hanner, os gwnai Llanfihangel yr hanner arall. Ond y trydydd matter a achosodd fwyaf o siarad a chroes-ddadleu. Darfu i'r ficer, mewn araeth alluog, egluro yr achos o'i fod yn galw am gymmorth gwr y got las. Dywedai mai dyna, yr unig lwybr effeithiol i rwystro plant drwg y plwyii i ynagasglu at eu gilydd y y nos i'r I zD pentref i aiionyddu ar rycldicl pobl i gerdded y ffordd fawr, a llawei- o driciau drwg ereilPag y maent yn enog o'u cyf- k;1 t7) lawni, ac hefyd i rwystro i grwyddaid ddyfod trwodd mor fyuych. Mewn rhyw ystyr, yr oedd ei resymau yn anatfceb- adwy; ond er hyny, ni chafwyd cym- maint ag un o'r trethdalwyr o'i blaid, ond safasant fel un gwr yn erbyn heddgeid- wad. Pan welodd y ficer hyn, efe a, ffrom- > !"J I! J p; .r. | odd yn fawr, a dywedodd y mynai gael: un. Cawn weled cyn hir pwy aiff a hi. Caniatteweh i mi ddyweud gair neu ddau ar y matter. Nid wyf yn meddvr1 fod yma un achos gwirionecldol yn galw am hedd- geidwad nid oes yma ddim nad all yr awdurdodau lleol ei attal. GvVyr yr holl blwyfolion pwy yw y rhai sydd yn aiion- yddu ar eu heddweh gwyr y ficer hyny hefyd, ond nid oes neb yn en galw i gyfrif am eu gweithredoedd. Mae gwaith y plwyfolion ag sydd wedi dal rhai yn 0 gwneud pethau na ddylasent, ac wedi gadael iddynt ddiangc yn ddigosp, yn haeddu cerydd llym, oblegid y maent wrth roi pardwii iddynt y naill droarolyllallyu cefnogi eu gwaith yn anuniongyrchol. Di- wygied y rhai hyn, a chospant y rhai a ddelir yn euog o unrhyw weithredoedd ag y cwynant gymmaint yn eu herbyn mewn geiriau, a gallant wneud iddynt ddarfod o'n cymmydogaeth heb wasanaetk hedd- geidwad. Rhoddwch un prawf yn ych- waneg ar hyn, cyn beichio eich hunain ag ychwaneg o drethi.—Wddyn.

---.-_.--YMGAIS AT LOFRUDDIO…

LLIT1.1 LLYGADOG.

[No title]