Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
---"'--------Y>:YA- MON'.…
Y>:YA- MON'. AY. | VIII. GY/YDRYN. GivyC-,f a conspicuous eminence Gwydd-drain, yn ol geir- Cl (I "I (I Rowlands. Ar Fryn Gwydryn, cawn olion CAER IDRlS din as y dysgcdigion,' canys yma, medd üin li awdwr, y c'yrehai y Derwyddon i drydu se*yddiaeth; yma, meddir, yr oedd eu liarsyllfa, ac yma felly y trigai (-11 kastronomyddion iiwynt. Yr oedd yma dref Geltaidd, fel y prawf y nifer luosogo olion eytiau crynion, yn y lie, ,nnecldaii a ddinystrwyd gan y Rkufein- i:tid pan yr adeiladasant "Gaer" ar y fan. Y mae y "Gaer" hon ar ffurf han- nergrwn, ac yn sefyll ar ael dibyn serth "c felly yn dra manteisiol i'w gwarchodlu gynt wylio ysgogiadau y brodorion an- y sty wallt. Amdcliffynid y wylfa lion gan 3ur a ffos driphlyg, a ciiadarnlieid hi o'r tu ol gan y dibyn rhag-grybwylledig. Felly yr oedd y Gaer yn anoresgyn- .Y adwy bron. Y mae y brif-ffordd yn myned drwy ei chanol yn awr. Darfu ei dydd. Crybwylla Rowlands am weddillion cromlech yn NGHAREG WYDRYN. Nid yw Ceryg Brudyn—astronomer's stones or circle, meini y seryddwyr, neppell. Diammeu fod cyssylltiad agos rhwng y "cylch" astronomyddol hwn ag "arsyllfa ZD Caer Idris ar fryn Gwydryn.-ll:lon. Ant. TRE'R BEIRDD. Yr oedd tair neu bedair cromlech ar dir Tre'r-beirdd, ond erbyn hyn nid erys olion ohonynt. Hanai Wynniaid Tre'r-beirdd o Llywarch ab Bran. 0 dro i dro, wrth ddwyn yn mlaen ddiwylliantau amaeth- yddol ar y tyddyn, darganfyddwyd amryw feddjiu cromlechol yn cynnwys gweddill- ion dynol yma a thraw ar hyd y maesydd. Darfu i'r tywysog Owain Gwynedd waddoli Priordy Mair yn Meddgelerfc a'r holl faenor a elwir Trefyneyrd yn Kimid Menei." Parodd yr enw Trefyneyrd beth dyryswch i'r henafiaethydd clodfawr o'r Plas Gwyn, ond ar ol ei ddyddiau ef, daeth yr hen siartr ganlynol i'r golwg, yr hon a deifl oleani ar y dyryswch yn nghylch yr enw cam silli c, dig —Tre'r-beirdd, ac a noda all an safle a therfynau y faenor ddyroddedig. A llyma'r freinlen rag-grybwylledig:— "Bydded hysbys i bawb trwy y tystiol- aethau hyn fy mod i, Iorwerth ap Dafydd ap Garw, rhydd-ddeiliad i Brior Beth- kelert, yn nhrefred Tre'r-beirdd, yn Nghwmmwd Menai, Sir Fon, wedi rlioddi, caniattau, gwerthu, a gollwng yn hedd- ychol ac am byth i Cynric ap Meredydd Ddu, a'i fab Ithel, rhydd-ddeiliaid, neu eu dirprwywyr, yr holl diroedd yn Nhrered Berw, ac yn Nhreflan Tref-y-beirdd, yn nghyd a'u lioll bei-tliynasau, trwy ganiattad Meistr Cynhelin, Prior Bethkelert ac yr ydwyf wedi rlioddi a chaniattau a gollwng yn heddychol ac am byth i'r rhag- ddywededig Cynric ap Meredydd Ddu a'i fao Ithel, a'u lietifeddion, neu eu dir- prwywyr, fy holl diroedd yn Glasynys, yn y drefred rhag-ddywededig Trefeyrd; yn nghyd a'u perthynasau, a'u rhyddid, y rhai a derfynir o un tu gan Ynys yMeirch gyferbyn a Trefarthen, ac o'r tu arall gan Gwawr Walchmai cyfwyneb a Tiiref y beyrd. I feddiannu ac i ddal y tiroedd enwedig genyf fi a'm hetifeddion rhag- ddywededig; ac foel i Cynric ac Ithel eu hetifeddion neu ddirprwywyr feddiant rhydd a heddychol trwy hawl dreftadol yn dragywydd yn ngbyd a gallu i roddi neu werthu, neu eu trosglwyddo y pryd y mynont, ai'r neb y mynont. A myfi, y rhag-ddywededig Iorwerth, neu'm hetifedd- ion, a gadarnliawn y cyfryw drosglwyddiad, rhodd, a hawl heddychol, yn erbyn pob rhyw bobl; ae a amddiffynwn yr unrbyw ar ein traul ein hunain. Er tystiolaeth o hyn rhoddais fy sel ar y weithred bresen- nol, a'r personau canlynol ydynt dystion ac ymddiriedolwyr. Evan ap Gwilym ap Bathro, Einion ap Cynwrig ap Madyn, Madoc ap Iorwerth ap Bleddyn, Iorwerth ap Howel ap Tegeryn Ddu, yn nghyd a llawer ereill. Rhoddwyd yn Monachlog Llanidan, ar ddydd Gwener, trwy awdur- dod Sedd y Tad Sanctaidd, yn y 34 o deyrnasiad Edward y trydydd, Brenin Lloegr, ac yn mlwydclyn ein Har- glwydd 1360." Pan ranwyd tiroedd Priordy Bedd- gelert rhwng creaduriaid gwangcus y Brenin Iiarri YIII., arhosodd Trefbeirdd rywfodd na'u gilydd yn meddiant y tir- ddeiliaid ar y pryd. "PiL fodd," medd n1:1 hanesydd, 11 y diangodd y tiroedd hyn icilag y dirprwywyr, sydd yn beth rhyfecld. Tybia Rowlands mai y rheswm goreu a ellid roddi am ddigwyddiad mor hynod ydoedd ata fod enw y lie yn cael ei sillebu mor annghywir yn y coflyfrau, fel yr oedd yn anhawdd dyfod o hyd i'r lleoedd. Er ciigraifft, yn mrehjlen Edward i Briordy Beddgelert, dyddiedig ar y lOfed o Fai, 1286,Vr bedwavedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad,—hiliebir eR\v y He hwn yn I Trefyneyrd. Oud nid oes y fath le yn t nghwmmwd Meiiai.Y Brython, cyf. iv. t.d. 176. Yn liythyr yr Esgob Anian at yr bo;l fiyddloniaid yn Ngiirist ar ran Priordy y Fendigedig Fair, a ddin- ystriwyd yn llwyr gan dan damweiniol ar bryd Hettygarwch (1983-4), sillebir yr enw drachefn 'Ure-y-Bcyrcl. o.c. 1286. Yn rhestr tiroedd a meddiannau Priordy St. Mair, Beddgelerfc, enwa y Parch. P. B. Williams, yn mysg manau ereill, "the Grange of Tre'r Beirdd, in Anglesey, one Plough of Land, and a certain share of bc,.es. Carnarvonshire. Yr oedd gwenyn mewn bri mawr yn mysg yr hynafiaid, a gorchymyna un o gyfreithiau Hywel Dda na ddywedid Offer- en (Mass) ond wrth oleuni canwyllau o gwyr yn unig. TREF WRY, neu Tre' Farwy, efallai—hen dref Gelt- aidd ar lan afon Braint. Ymestynai ei therfynau o'r bryncyn gwyrddlas ychydig tu uchaf i Dre' lfan, gyda glanau deheuol y Breint neu'r Braint, i waered hyd y brif-ffordd a'r bont yn Sarn-las..Y mae ei chwr deheuol yn taro ar y wersyllfa Rufeinig yn Nghaerleb. Nodir terfyn dwyreiniol yr hen drof ddiflanedig hon gan ddau faen hir ar ganol y maer, a'i therfyn gorllewinol gan glwstwr o olion adeiladau crynion—cytiau Gwyddelod. Erys maen bychan yma ac acw ar finion y ffrwd sy'n rhedeg gyda tkerfyn deheuol y dref," olion hen adeiladau o bossibl. Defnyddiwyd meini Trefarwy i adeiladu cloddiau ar fferm Tre-ifan. Darganfydd- wyd amryw arian bathol-coins Rhufeinig yn benaf, yn mysg adfeilion Trefarwy, ilynyddau yn ol. Crybwylla Rowlands am gaffaeliad amryw gywreiii-bethau henaiol yn sylfeini y "eytiau crynion ger Sarn-las, megys "a curious enamelled copper pieee, knotted with various colours, of the bigness of a milled half-crown, with a pedunculus, or little square foot to it on one side.Mon. Ant. p. 92. BODOWYR. Bod, trigle ovyr neu o wyr, ofyddion; cartretie'r urdd hono. Ar dir Bodowyr erys hyd y dydd hwn gromlech led ber- ffaith, er cof am yr hen ofyddion fu yn cartrefu yn y fan. Mesura y bwrdd- faen tua saith troedfedd o hyd, chwech o led, a ckweck o drwck. Gorwedcl ar dri maen attegol. Mae ei wyneb yn lied wastad. Yr oedd unwaith olion cyleh lied iychan, nid neppell oddiwrtk y grom- leck Safai y cirque ar godiad tir, ac ar- weiniai y ffordd drwyddo, fel y dengys y Mona Antiqua, plate v. fig. 8. Mewn cwr arall o'r tir yr oedd olion carnedd. Clud- wyd ei meini i adeiladu cloddiau ar y fferm. TRE'DRYW. Tybir mai yma yr oedd trigfa yr Arch- Duerwydd, pan ydoedd Derwyddiaeth yn entrych ffurfafen ei gogoniant yn Ynys Mon. Gwel y Aloita Antiqua ar y matter. Rhoddwyd treflan Tre'rdryw i Dduw a Beuno," gan un o'r tywysogion Cymreig, ac yr oedd ychydig amser yn ol adfeilion capel bychan ger Tre'rdryw, a elwid Capel Beuno ac yr ydoedd hefyd yn nghadw yn y ffermdy hwn gloch henafol, a elwid Cloch fechan Beuno.Hist. Carnarvonshire. s BOD-DRUDAU, cartrefle yr offeiriadaetk Dderwyddol— y druids. Nid yw Mosooglan ryw neppell oddiyma. BRYN GWYN, neu yn ol Rowlands, Brein, supreme;, Gwyn, suit or action-Brein Gvv" royal tribunal; canys yma, meddir, yr oedd prif frawdle y Derwyddon. Y mae sefyllfa y gweddillion rhyfeddol hyn, sef ar wastad- edd, yn nghyd a natur y bridclell, yn mil- wrio yn erbyn priodoldeb yr enw presen- nol, Bryn Gwyn. Dywed Pennant yn ei Deithlyfr am y Bryn Gwyn neu Brein Gwyn :—" Yma y cyfarfyddais a'r gweddillion anafedig a ddesgrifir gan Rowlands. Ei Fryn Gwyn, neu Frein Gwyn—y frawdle freiniol, sydd geudwil crwn tua naw ugain troedfedd o 0 fesur ar draws, ac yn amgylchynedig a chlawdd anfertk o bridd a cheryg, wedi eu cludo, fel yr ymddengys yn amlwg, o fanau ereill, gan nad oes un arwydd eu bod yn perthyn i'r fan. Nid oes ond un fynedfa i'r lie. Tybir i'r fan fod yn brif lys barn y weinyddiaetk Dderwyddd." Desgriiia y Parch. Nicholas Owen, A.C., weddiliion kenafiaetkol y Bryn Gwyn fel kyn :—" Anglesey is, as Mr Rowlands ob- serves, that celebrated Mona, anciently the principal seat of the Di-mds, a sect of priests renowned for their k: ,'uiiig, and close adherence to the uiiices of their several functions. They were well versed in geometry, astronomy, natural philo- sophy, and geograpky; they were also supreme judges in all causes ecclesiastic and civil, from whose determination there lay no appeal; and whoever refused to comply with their edicts, was reckoned impious,-and forthwith excommunicated. Once a year, they, with their chief, an i Arckdruid, used to assemble at a place called Bryn-gwyn, or Supreme Court, near Drytv, in the south-west part of the country, to receive applications from all parts, and to hear causes. The stones found at this time (1775) at Bryn-gwin are twelve in number, each of them twelve feet high, and about eight broad they are set erect, and taken collectively, do very much resemble the shoe of a horse. Various have been the conjectures con- cerning this monument of antiquity. Bor- lase supposed it to have been a theatre, erected by the Druids, for the exhibition of plays, or the like, as it appears to have had seats and benches in the circular parts of it to accommodate the spectators. Others have imagined that it was intended for the Druids' temple. Antiquaries of the present age do not coincide in tkees conjectures concerning Bryn-gwyn; but from its name, form, and situation, are led to suppose that here the Druids kept their general synod; or perhaps with more probability, their supreme court of judicature to consult and resolve on measures conducive to the welfare and tranquility of the Island for they were absolate arbiters in almost all affairs, as well civil as ecclesiastic. To support any one of these hypotheses is no easy mat- ter and to whom to adjudge the palm of superiority, it becomes not me to deter- mine though from its Welsh name I am inclined to favour the latter supposition for it is affirmed by many eminent authors, that this religious sect of priests did with their Archdruid, when in the zenith of their power assemble at a fixed time and place, to hear causes and to determine all disputes, and controversies, from whose tribunal there was no appeal. Where their decisive court of equity was lie-ld, has never with certainty been determined; but from many concurring circumstances, Mr Rowlands supposed it to have been kept at this place. "-Tlisto?-y of Anglesey, pp. 11—14. Ceir (lesgrifiad manwl o'r Brein Gwyn" yn y IIonaAittiq ita, a brasluniad o'r gwedd- illion henafol oedd ar y fan yn nyddiau yr awdwr dysgedig. Sonia Rowlands hefyd am olion Carnedd neu Orsedd, gerllaw y Geudwil rhag-grybwylledig, a sylwa ddar- fod i'w meini gael eu cludo o'r lie i adeil- adu cloddiau, &c. Crybwylla yr un awdwr hefyd am weddillion cylch "-y Sacraria tuag ystad neu well i'r gorllewin o'r cirque. Ar yr "Orsedd," ond odid y cyhoectdid barn, ac ar yr Allor," tu fewn i'r cylch cyssegredig yr offrymmid off- rymau ac yr aberthid aberthau i'r duwiau sanctaidd. Yr oedd tri maen o'r cylch ar gael, a'r pedwerydd wedi tori yehyclig is- law y canol. Mesurai yr hwyaf o'r meini hirion hyn tua phedair troedfedd a'r ddeg 0 o uckder, ac yr oedd yn saith troedfedd o led. Tybir fod y cylch hwn unwaith yn cynnwys wyth neu naw colofn o'r unrhyw fesur, neu rywbeth oddeutu a'i dryfesur tua deuddeg neu bedair llath a'r ddeg. Amgylchynid y cyfan, ond odid a choed derw cauadfrig, ond erbyn heddyw mae y gwastadedd hwn yn un o'r llanerchau llymaf o goed o fewn yr Ynys. Yn y flwyddyn 1702, pan yn arolygu symmudiad rhai o'r ceryg yn y cirque ryfedd hyn, gyda'r amcan o wneud ym- ckwiliadau kenafiaetkol ar y lie, dargan- fyddodd y Parch. Henry Rowlands, awdwr y Mona Antiqua, fatkodyn (medal) ar- dderchog o bres on Hiachawdwr Bendi- gaid, mewn cadwraeth dda. Ar un ochr i'r batkodyn yr oedd llun pen, yn gyfartal i'r desgrifiad o'r Gwaredwr, a gawn yn liythyr Publius Lentitius at yr Ymerawdwr Tiberus. Ar yr ochr arall, mewn llythyr- enau Hebraeg, mae yr argraff hon-"II wn yw Iesu Grist y Cymmodwr." Anfonodd Rowlands y bathodyn rhyfeddol hwn i Rhydycliain, i'w gyfaill Edward Lloyd, awdwr yr Archceologia Britannica ond collodd rywfodd ar ei ffordd. Tybia Mr E. Parry nad yw yn anhebygol nad oedd yn perthyn i ryw Gristion oedd gyda Bran Fendigaid, yr hwn a berthynai i fyddin Caradog yn Rhufain, circiter 52-59 O.C., ar yr hwn amser yr oedd yr apostol Paul yn pregethu efengyl Crist yn Rhufain. 0 fewn dwy fiynedd ar ol hyny ,61 O.C., din- ystriodd y pencadlywydd Rhufeinig Sue- tonius yr holl dderwyddon oedd yn Ynys Mon." Cynnwysiad llytkyr Publius Len- titius sydd mal y canlyn" Ymae yn ein dyddiau ni yma ddyn wedi ymddangos, o rinweddau mawrion, a enwir Iesu Grist, yr hwn sydd yn byw etto yn ein mysg, a chan v cenkedloedd a dderbynir fel pro- phwyd, ond y mae ei ddysgyblion yn ei alw yn £ Fab Duw.' Y mae yn cyfodi y rneirw, yn iachau pob math o afiechyd yn ddyn o faintioli braidd yn dal a hardd, gyda gwynebpryd kynod kybarchwedd, y fath ag y mae yr edryckwyr yn ei garu ac yn ei oim; ei wallt o liw cneuen gastan_ ydd (chestnut), yn llawn addfed, yn blaen hyd ei glustiau, ac oddiyno i lawr yn fwy disglaer a modrwyog, ac yn donog ogylck ei ysgwyddau. Yn nghanol ei ben y mae ZD hollfc, neu wahaniad ei wallt, yn ol dull y Nazareaid ei daleen yn blaen ac yn hynod o ddillyn ei wyneb heb yr un ys- niiityn na chryclini, wedi ei liar(-Iclu gyda'r cochni mwyaf cariadus; ei drwyn a'i enau wedi eu iiuvfio fel nad oes dim i'w feio ei farf yn dew, mewn lliw yn debyg i'w wallt, nid yn hir, ond yn fforchog ei edrychiad yn ddiniwed ac yn gyflawn, a'i lygaidyn llwydion, clir, a chyflym. Wrth 0 geryddu y mae yn ofnadwy wrth gyng- D hori yn dirion, yn siaradwr cyfiawn, pleserus yn ei ymddiddanion, prif nod- wedd pa rai ydyw sobrwydd. Nis gellir dywedyd fod neb wedi ei weled yn ohwerthin, ond llawer a'i gwelsant ef yn wylo. 0 ran cyfartalwch ei gorph y mae yn ardderchog; ei freichiau a'i ddwylaw y rhai harddaf i edrych arnynt. Wrth lefaru, yn gymmedrol, yn ddi wa ir, a doeth. Dyn ar gyfrif ei harddwch rhy- feddol, tuhwnt i blant dynion Darganfyddwyd o bryd i bryd amryw ddarnau bathol Rhufeinig yn y gymmyd- ogaeth hon, ac yn eu mysg cafwyd coins Prydeinig perthynol i Carron (Carausius) ac Alectus, y rhai a deyrnasent yn y dryd- edd ganrif. Y mae y bryn celfyddydol a'r ceudwll y crybwyllwyd am danynt i'w gweled hyd y dydd hwn, a'r gwarchgloddiau pridd uchel, tua phum llath uwch gwyneb y gwastad- edd ama lebyiiol, yn lied berffaith. Adna- .Y byddir y fan wrth yr enw OASTELL," a saif ffermdy o'r un enw ar yr unig fyn- edfa i'r gadarnle hon. Trowyd y cas- tell yn ydian perthynol i'r fferm. Yeh- ydig i'r gorllewin mae dau faen hir, an- ferth, yn ffurfio cilbyst adwy, pa rai sydd wedi goroesi hyd yma y gweddill o'u cym- meiriaid y soniwyd am danynt eisoes. Ni cliyffyrddodd lla w Vandaliaeth a'r meini gweddilledig hyn etto. Bu un yn gwas- anaetbu am flynyddau fel talcen tý, a gwelir y tyllau a naddwyd i dderbyn y nenbren ar ddau dylath uchaf y maen hyd y dydd hwn. Dyd y ffaith hon ryw awgrym o'i led a'i uchder. Nid oes yma faen ar faen o'r ty wedi ei adael, oddigerth y talcen hwn. Erys hwn yma yn ei gyf- answm, a'r hirfaen cymmeiriol yr un modd. Rhyfedd fel yr ysguba llanw di- wylliaeth dirawl bob olion o'r hen oesau gynt, yn llwyr o'i flaen. Ni arbedodd nis erbyd.
YSBEILIAD BEIDDGAR AR Y RHEILFFORDD.
YSBEILIAD BEIDDGAR AR Y RHEIL- FFORDD. Boreu ddydd Gwener, yn fuan ar ol hanner nos, pan yr oedd y mail train o Lundain newydd basio gorsaf Tuxford, daeth dyn, yr hwn oedd yn orchuddiedig gan waed, at un o'r swyddogion, a dywed- odd wrtho ei fod wedi syrthio o un o'r cer- bydau. Yr oedd toriadau dyfnion ar ei ben, ei wyneb, a'i ddwylaw. Ond cyffro- wyd amheuaeth y swyddog, a thelegrapht- 05 iodd i'r orsaf nesaf (Retford), ar idd yn archwilio y tren ar ei chyrhaeddiad -y no Mewn ychydig funudau, derbyniodd gyfar- wyddyd i gadw y dyn yn ddiogel, gan fod ysbeiliad wedi cael ei gyflawni. Anfonwyd am feddyg i drwsio. clwyfau y dyn wedi hyny, daeth yr heddgeidwaid yn mlaen, a chymmerasant ef i'r ddalfa. Wrth ei ar- chwilio, cafwyd yn ei feddiant farf a mous- tache ffugiol, yn nghyda dager naw mod- fedd o hyd, yr hon oedd mor finiog ag ellyn. Ymddengys fod y carcharor wedi bod yn cyd-drafaelio gydag un Mr Robin- son, masnachwr ceifyiau, o Fanckester, ac mi dyn arall. Ar ol gadael Peter- borough, ymddengys fod pawb ond y carcharor wedi syrthio i gysgu, ac ni dde- ffroasant hyd nes y dihunwyd hwynt yn Retford, pryd y gwelsant nad oedd y carcharor yno, a bod un o'u horiaduron hefyd ar goll. Tybir fod y carcharor, ar ol lladratta yr oriawr oddiar ei gyd-dra- faeliwr oedd yn cysgu, wedi myned allan o'r rhan hwnw o'r gerbydres, gan geisio myned i ryw ran arall o honi, tra yr oedd y tren yn teithio yn ol 50 milldir yr awr; a chan ei fod yn methu a gweled lie y gallai fyned iddo heb dynu sylw atto, iddo un ai neidio neu syrthio o'r tren. Y mae yn ddyn o ymddangosiad cryf a chadarn, ac wedi rlioddi yr enw o Henry James Price. Dydd Sadwrn, dygwyd y carcharor o fiaen ynadon Retford. Yr ydoedd wedi ei dori yn ddyckrynllyd oddeutu ei ben a'i wyneb. Yn ol cyfaddefiad y carcharor ei hun, nid hwn oedd y tro cyntaf iddo fod yn chwareu triciau o'r fath. Yr ydoedd newydd ddyfod allan o garchar Wakefield. Gofynodd Superintendent Sanford am oediad, gan ei fod newydd dderbyn tele- gram oddiwrth Mrs Price, Rodney-road, Walworfck, Llundain, i'r perwyl canlyn- ol :—" Y mae Henry James Price, yr hwn sydd mewn dalfa am ddwyn oriawr, ne- wydd ddyfod o garckar Wakefield am dro- sedd eyffelyb, ac yn wallgofddyn. Ym- ofynwch ag awdurdodau Doncaster. Can- iattawyd pardwn breninol iddo oherwydd ei fod yn wallgof. Gofynwch am oediad, os yw yn bossibl, nes y clywch ocldiwrth ei gyfeillion." ■ Caniattaodd yr ynadon wytknos o oediad. Er pan mae y carch- aror wedi ei gymmeryd i fyny, y mae wedi anfon liythyr hynod o synwyrol at ei wraig, gan ddyweud wrthi ei fod wedi bod wrthi etto," ac y mae yn dymuno arni hysbysu ei fam, gan ychwanegu ei fod ef wedi anfon at Mr Clow."