Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

NEWYDDION CYMREIG.

News
Cite
Share

NEWYDDION CYMREIG. BEAUM.&RIs.-Hirhoedledd.-Fol prawf o iachusrwydd neullduol yr ymdrochle pobl- ogaidd hwn, gellir nodi fod yma ar hyn o bryd yn byw dros haner cant o hen bobl dros bedwar ugain oed, ac amryw o honynt yn prysur dynu tna'r cani. Ceir yn ol cyfrif- iad y Llywodraeth fod y lie yn y dosbarth cyntaf o ran iachusrwydd, gan na chyr- haeddai y marwolaethau ond 17 yn y fil. —Ysgrifenydd Trefol.—Yn nghyfarfod di- weddaf y cynghor trefol, etholwyd Mr Rice Roberts, cyfreithiwr, Llangefni, yn ysgrifenydd y gorphoraeth. AMRYWION 0 BENMACHNO.—Ar ol cael mwynhau dwy oes neu dair heb gymmaint ag un cwmwl yn duo yr .awyrgylch,—Och, ar darawiad wele ystorm yn codi; yr awyr- gylch yn duo, taranau yn rhuo, y mellt fforchog yn gwau, gwiaw yn ymdywallt, pawb wedi eu parlysu gan ofn. Beth sydd yn bod ? Hiliogaeth St. Crispin, tri neu bedwar mewn nifer, yn sefyll allan Ym- laddasant yn ddewr, do, hyd at wagio cryn lawer ar y barilau cwrw, a ninau, druain ,0 honom, werinos anwybodus, yn cwbl gredu y byddai yn rhaid arnom o angen- rheidrwydd un ac oil wisgo clocs Lerpwl. Ond trwy drugaredd distawodd twrf y taranau, diffoddwyd y mellt, a'r gwlaw yntau a beidiodd ac ail sticiodd pob un o honynt at eu stondin; a chan eistedd ar eu stolion, hwy a ddechreuasai ymaflyd yn y mynawyd, y gwrychyn, a'r cwyr, wedi derbyn yr hyn oeddynt, yn ei geisio. Well done, boys; esgidiau da o hyn allan, —esgid a ddeil dd wr a hair gysur i'r gwisg- wr.-Llyfrgell.-Dyma beth ag y mae mawr angen arnom fel pentrefwyr am dano. Pabam, tybed, y m;ae yn rhaid i ni fod ar ol i fanau ereill llawer lJai pwysig, yn hyn o beth ? Yr anhawsder mawr un- waith ydoedd diffyg lie priodol, ond erbyn hyn y mae y rhwystr hwn wedi ei sym- mud ymaith, ac y mae hen addoldy Ty'n y Porth yn cael ei gynnyg led y pen. Fe- allai pe caem sefydliad o'r natur yma, y glanheid conglau yr heolydd, ac na cheid neb o'n pobl ieuaingc yn dal i fyny y tal- cenau, ac y byddai JLiai o wawdio ac en- llibio cymmydogion, fel pe na ddeilliai dim ond hyn o ddaioni oddiwrtho yr atebai y dyben. Yr ydym yn credu yn ddiysgog pan yn ysgrifenu hy-n o linellau fod yn ein hardal ddefnyddiau dynion ardderchog, ie, fechgyn o dalemtau dysglaer, ac yn meddu ar ymadferthoedd cryfion, pe bydd- entyn darllen, ac yn myfyrio, mewn trefn i buro ag i goethi eu hunain. Rhwbiwn ein llygaid, a deffrown o'n cysgadrwydd, ac felly gwnawn ddaioni.—Bwrdd Ysqol.- Nos Sadwrn ymgyfarfu ychydig yn nghyd yn yr Ysgoldy Oenedlaethol, i ystyried sefyllfa addysg, a'r rhai hyny, y mae yn dra thebygoi, yn gwybod trwy brofiad beth ydyw gwerth addysg. Ond methasant a phenderfynu dim yn ei gylch a hyny am y rheswm feallai fod rhsj eisieu bwrdd o'r un defnydd a phren gwely Ned Morgan, ers talwm, a'r lleill eisieu bwrdd costus a drudfawr o mahogany, wedi ei weithio yn ofalus, a destlus. Ond i arbed y cwbl y mae Arglwydd Penrhyn, fel bob amser, wedi bod yn dra haelionus, ap wedi cyfranu 150p. at dalu costau yr adgyweiriad y bu ein ysgoldy dano yn ddiweddar. Bravo, yn wir, Arglwydd Penrhyn, onide ? Bel C> dyn pwyllog gonest, yr wyf yn cynnyg dau fwcwl clocsen a botwm corn o wobr, i'r bardd a gyfansoddo yr "Alargan" oreu i'r bwrdd uchod.-Ysbryd Goodman. BLAENAU FFESTINIOG. Cystadleuaeth mewn bwyta uwd.—NoB lau, Tachwedd 26ain, cynnygiodd dyn o Sais sydd yn d'od ar draws y wlad gyda ei garavan decell copr i'r hwn fuasai yn bwyta yn gyntai swm neullduol o uwd. Amcan rhoddwr y wobr oedd denu pobl yno er gwerthu ei nwyddau. Daeth tri yn mlaen i'r gys- tadleuaeth, ond y buddugwr oedd William Jones (coachman mawr) Ffestiniog.-Dam- wa,itz.-Dydd Gwener, Tachwedd 27ain, syrthiodd dyn o'r enw Robert Jones, Pren- teg, ger Tremadog, tros y bongc yn chwarel Rhiwbryfdir, a derbyniodd niwed trwm.-Gohebydd. CAERNARFON.—Y Bwrdd Ysgol.-Cyn- naliwyd cyfarfod o'r bwrdd uchod ddydd Llun, pryd yr oedd yn bresennolMri. Pugh, Newton, 0. Thomas, a Davies, a'r Peirch H. Evans ac E. Evans.—Yr unig fater a drafodwyd oedd gwysio hanner dwsin o rieni oherwydd absennoldeb eu plant o'r ysgol. Tylodi ydoedd y prif esgusawd, a chaniattawyd iddynt fynediad i mewn i ysgol y dreth.—Llysoedd yr Yn- adon.-O flaen yr ynadon sirol ddydd Sadwrn cyhuddwyd Robert Roberts, Bont- newydd, o fod yn feddw ac afreolus tua blwyddyn yn ol, ac hefyd ddarfod iddo wrthsefyll ymgais yr heddgeidwad Stephens i'w gymmeryd i'r carchar pan ddaliwyd ef. Am y trosedd cyntaf dirwy- wyd ef i bum' swllt a'r costau, ac am yr ail gorfu iddo dalu deg swllt a'r costau.— Mr W. R. Whiteside, ar ran gwarcheid- waid Undeb Caernarfon, a wysiodd R. T. Williams, Ebenezer, am esgeuluso tanys- grifio Is. yr wythnos tuag at gynnaliaeth ei fam, yr hon sy'n ddibynol ar y plwyf. Dywedodd yr erlynydd fod papur a dder- byniodd oddiwrth oruchwyliwr y chwarel lie y gweithiai y diffynydd yn dangos fod ei ennillion o bedair i bum punt yn y mis, ac nid oedd gan y diffynydd blant.- -Dy- wedodd y diffynydd fod y papur yn an- nghywir, ac naa gallai roddi y swm a tbalu ei ffordd. Gorchymynwyd iddo dalu y swm gofynol gan y gwarcheidwaid.—Dy- wedodd y diffynydd na byddai iddo dalu beth bynag fyddai y canlyniad.—Hugh Hughes, Waenfawr, a wysiwyd gan Mr Whiteside, dros warcheidwaid yr undeb, am y cyffelyb esgeulusdra.—Dywedodd y diffynydd y buasai yn un o'r cyntaf i gadw ei fam pe buasai mewn gallu; yr oedd wedi colli ei iechyd, ac wedi bod o dan drmiaeth feddygol. Dangosodd Mr Whiteside bapur o dan law goruchwyliwr y chwarel lie gweithiai y diffynydd, yn dangos ei fod yn ennill o 4p i 5p yn fisol. Dywedodd y diffynydd nad allai weithio yn ddyddiol, a gohiriwyd yr achos am fis er cael manylion pellach,—Bhyddhawyd Evan Owen, cariwr, Llanllyfni, oddiwrth y cyhuddiad o daflu mur perthynol i Mr Huddart, Brynkir, i lawr.—Cyhuddwyd Thomas Williams a Richard Williams, Llanddeiniolen, o fod ar dir perthynol i Mr Assheton Smith, gyda'r amcan o herw-hela. Ymddangosodd Mr J. B. Allanson dros yr erlyniad. Tystiodd John Roberts ddarfod iddo ganfod y di- ffynyddion ar dir Trosywaen yn euro yr eithin, ac yn codi ysgyfamog. Canfydd- odd hefyd rywbeth yn meddiant un o hon- ynt. Canfyddodd hefyd flew ysgyfarnog yn y fan lie gwelodd y diffynyddion gyntaf. Dywedodd y dynion mai myned yr oedd- ynt i Ffynon Cegin Arthur i geisio dwfr, ac iddynt groesi un o feusydd Trosywaen, pan y cododd ysgyfarnog, yr hon a erlid- oy iwyd gan gi. Nid oedd y ci yn perthyn iddynt hwy, ac nid oeddynt yn gwybod eiddo pwy ydoedd. Dirwywyd hwy i 26s yr un, cydrhwng y costau.— Dirwywyd William Bowlands, Tanymaes, ger Porthdinorwig, i 2s 6c a'r costau am feddwi.—J. D. Jones, am feddwi ac ym- ddwyn yn afreolus yn Mhenygroes, a ddirwywyd i 80s 6c, cydrhwng y costau a William Evans, am feddwi yn yr un lie, a ddirwywyd i 13s 6c cydrhwng y costau.—Dydd Llun, o flaen yr ynadon bwrdeisiol, am feddwi ar ddydd Sul, dirwywyd Hugh Hughes i 5s a'r costau.—Am adael ei drol allan ar yr heol yn Baptist-street, dirwywyd Thomas Edwards, ieu., i Is a'r costau- Am feddwi yn Hole-ia-the-wall-street, dir- wywyd William Davies i 2s 6c a'r costau, —Samuel Owen Jones, un o geidwaid yr afon Gwyrfai, a gyhuddodd William Owen o'i fygwth ar y ffordd fawr nos Sadwrn, wythnos i'r ddiweddaf. Ymddangosodd Mr J. H. Roberts dros yr achwynydd, a Mr J. B. Allanson dros y diffynydd. Yr oedd croeswysion yn yr achos hwn. Tyst- iodd yr erlynydd ddarfod i Owen ei gyfar- fod, a'i fygwth. Ar yr ammod na byddai i'r diffynydd ddwyn yn mlaen y groeswys yn erbyn yr erlynydd, taflwyd yr achos allan. CONWY.-Dadl ar Ddadgyssylltiad.- Mae cladi fawr y Rhyl yn y gorphenol, ond y mae dadl fach Conwy yn y presennol. Cymmerodd hon le nos Fawrth diweddaf, y 24ain cynfisol. Cymmerodd y Parch. J. R. y gadair am wyth, a chymmerodd dadl frwd dros ben le yn yr ysgoldy perth- ynol i'r Trefnyddion Caltinaidd, pryd yr oedd y boneddigion canlynol dros ddad- gyssylltiad :—John Thomas, saer Owen Jones, argraffydd; Rowland Jones, etto William Roberts (Bangorian), ac Owen Jones. Cafwyd yn erbyn dadgys- sylltiad y boneddigion a ganlyn :-J ohn Maelgwyn Jones, John Williams (green- grocer), J. M. Jervis, Llanidloes (Pererin), a Superintendent Evans. Cafwyd cyfar- fod brwd, ond lied heddychol. Hir oes i'r Eglwys Genedla-ethol.-Perei,in Tre- faldwyn. LLANDINORWIG.—Y Clybiau Dillad.—Yn ol yr arfer flynyddol rhanwyd yr wythnos ddiweddaf arian clwb dillad y tlodion a'r ysgol ddyddiol rhwng oddeutu cant a hanner o aelodau. Rhoddwyd llog neu rodd o ddau swllt yr un, trwy garedig- rwydd a haelfrydedd Mr Assheton Smith. Hefyd sefydlwyd y flwyddyn ddiweddaf gan y Parch. D. 0. Davies, ficer, gym- deithas gynnilo, a chlwb dillad yn nglyn a'r Ysgol Sul. Rhanwyd arian hwn hefyd ychydig o ddyddiau yn ol, a rhoddwyd llog yn ol cyssondeb yr aelodau yn dilyn eu llafur yn yr Ysgol Sul. LLANEDI.— Tan.—Llosgodd ysgubor, ystabl, ac hofel perthynol i amaethdy o'r enw Llwynceibren, yn y plwyf hwn, nos Fawrth, y 24ain o Daehwedd. Torodd y tan allan yn yr ysgubor, He yr oedd rhai o'r teulu wedi bod yn malu tippyn o eithin, a chanwyll ganddynt, ac ymddengys i'r CIY gwellt gymmeryd tan y pryd hwnw, er na chanfyddwyd dim o hono am amser wedi hyny. Yr oedd y tai hyn yn cynnwys yd, gwair, peiriannau amaethyddol, &c., pa rai a losgwyd yn llwyr. Cafwyd y ceffylau allan yn ddiogel.-Gohebydd. LLANLLECHID. Marwolaeth sydijn chwarehvr.—Boreu dydd Mawrth diweddaf bu farw Mr Robert Roberts, Caellwyngrydd. Yr oedd gyda'i waith y diwrnod cyn ei farwolaeth. Yr wythnos o'r blaen bu farw ei fab. Cydymdeimlir yn ddwys a'i I briod yn yr amgylchiadau cyfyng hyn.— Cymro. YSGOLDY.—-Saif yr addoldy uchod rhwng pentref Clwt-y-Bont a. Bhen-isasr-Waerij yn mhlwyf Llanddeiniolen. Nos Fercher, Tachweddy 26ain, cynnaliwyd cyngherdd mawreddog yuddo er cynnorthwyoy tlawd sef William Hughes, Brynteg, yr hwn sydd wedi cyfarfod a phrofecliaeth lem trwy farwolaeth ei anwyl briod. Llywyddwyd yn fedrus gan Mr Samuel Jones, Glandin- orwig. Prif arwr y cyngherdd ydoedd y I tenorydd enwog Eos Morlais, yr hwn yn ol barn pawb oedd yn bresennol a, ganodd yn ardderchog. Barnodd pwyllgor y cyngherdd yn ddoeth roddi 16s o wobr i'r Cor a ganai oreu y don Carmel," o drefniad Ieuan Gwyllt, y gystadleuaeth yn gyfynedig i chwarelwyr Llanberis. Daeth wyth o gorau yn mlaen, a'r goreu ydoedd cor Pongc Rowlar, o dan arweiniad Mr 0. Hughes, Foel Gron. Hefyd rhoddwyd 6s o wobr am y ddeuawd go-reu. Daeth saith o barties yn mlaen, a'r goreu ydoedd Mr K. T. Phillip, Fachwen, Dinorwig, a'i gyfaill. Yn ystod y cyngherdd cafwyd annerchiad gan Taliesin Eryri; ei destyn ydoedd Y dynion hyny sydd yn troi clust fyddar i'r cyngherddau cynnorthwyol yma." Bu agos i ysgrifenydd y liineliau hyn a gofyn cwestiwn ar goedd y cynnull- iad, ond peidio a wnaeth. Fe allai mai nid peth aunoeth fyddai ei ofyn yn Lla,is y vVlad, a dyma fo-Pa faint o elw a ga'i y tlawd pe bai pawb yn dyfod i'r cyngherdd- au am ddim ? Ni welwyd mewn cyngherdd erioed y fath annhrefn ag oedd yn hwn, a hyny trwy i nifer o fechgyn direidus ym- gynnull at eu gilydd i wneud gwawd o'u hynach. Boed iddynt ddiwygio yn hyn o beth.-Ehedydd Orwig.

JACKANOD BANGOR.

CHWAREU TEG I GYMRU.

[No title]